'Byw gyda COVID-19': ydyn ni wedi cyrraedd pen draw’r daith?

Cyhoeddwyd 18/02/2022   |   Amser darllen munudau

Ar 11 Mawrth 2020, datganodd Sefydliad Iechyd y Byd bod COVID-19 yn bandemig byd-eang. Wrth i ni agosáu at ddwy flynedd ers hynny, mae COVID-19 yn parhau i beri risg sylweddol ac yn amharu ar fywydau pobl ar draws y byd.

Mae’n ymddangos yn awr ei bod yn anochel y bydd yn rhaid i ni “fyw gyda” COVID-19, a derbyn y bydd yn parhau i ledaenu, yn debyg iawn i feirysau ffliw. Yn sicr, mae cael gwared ar y rhan fwyaf o gyfyngiadau’r pandemig yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, yn arwydd bod angen i ni dderbyn COVID-19 fel rhan arall o fywyd.

Ond a ydyn ni wedi pasio'r cyfnod o argyfwng yn y pandemig? A yw diwedd y cyfyngiadau, o bosibl mor gynnar â'r wythnos nesaf yn Lloegr, yn golygu bod llywodraethau wedi rhoi'r gorau i geisio dileu COVID-19? Mae'r erthygl hon yn ystyried sut beth fyddai “byw gyda COVID-19” yng Nghymru.

‘Pwyll piau hi’: diwedd y cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru

Mae’r cyfraddau brechu yng Nghymru yn uchel, ac mae’r gostyngiad o ran cyfraddau achosion yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn dechrau llacio’r rheolau sy'n weddill. Mae rheolau’r pás COVID domestig bellach wedi’u dileu. Yn y cyfamser, bydd y rheolau ar wisgo gorchudd wyneb yn cael eu llacio ar 28 Chwefror. Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, ar 11 Chwefror y gallai’r rheolau hunanynysu newid i fod yn ganllawiau yn hytrach na chyfraith fis nesaf.

Mae dileu’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb (sydd wedi’i gynllunio ar gyfer diwedd mis Mawrth yng Nghymru ar hyn o bryd) yn rhywbeth i’w wylio, oherwydd gellid dadlau bod dirywiad yn y nifer sy’n gwisgo masgiau yn gwneud yr ymdeimlad o ‘normalrwydd’ yn fwy amlwg. Gwisgo masgiau yw un o'r arwyddion mwyaf gweladwy o'r pandemig ym mywyd bob dydd.

Rhywbeth arall a allai newid yw gostyngiad yn nifer y profion COVID-19 sy’n cael eu cymryd ac sydd ar gael. Rydym yn gwybod yn barod fod llawer o bobl bellach yn dibynnu ar brofion llif unffordd. Os byddwn yn dechrau byw gyda COVID-19, a fydd disgwyl i bobl gael eu profi o gwbl?

Mae llinell amser COVID-19 Ymchwil y Senedd yn dangos pa mor anrhagweladwy yw COVID-19; mae'n ein hatgoffa bod dychwelyd i normalrwydd yn parhau i fod yn ansicr.

Mae yna lawer o bobl eisoes yn ymgynnull ar gyfer partïon, yn mynd i ddigwyddiadau chwaraeon mawr, yn teithio dramor – roedd hi’n anodd dychmygu gwneud unrhyw un o’r rhain yn ystod anterth y pandemig.

Ond mae'n werth cofio hefyd bod cyfraddau’r haint yn parhau i fod yn uchel; mae COVID-19 yn dal i ledaenu yn ein cymunedau. Er gwaethaf y duedd ar i lawr o ran nifer y bobl sy’n mynd i'r ysbyty ac o ran marwolaethau, mae pobl yng Nghymru yn dal i farw o'r feirws (gweler dangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru).

Datgan bod COVID-19 yn glefyd ‘endemig’

Y sefyllfa fwyaf tebygol yw na fydd COVID-19 yn diflannu ond y bydd yn sefydlu ei hun fel ‘pathogen endemig’ (dywedir bod haint yn endemig mewn poblogaeth pan fo’r haint hwnnw’n cael ei gynnal yn gyson ar lefel sylfaenol). Mae bod yn endemig yn golygu ei bod hi'n bosibl rhagweld beth sy'n mynd i ddigwydd. Ond mae'r feirws hwn wedi ein synnu ni fwy nag unwaith.

Mae llawer o wyddonwyr yn dadlau ei bod hi’n rhy gynnar i ddatgan bod COVID-19 yn endemig oherwydd gallai amrywiadau newydd ddod i'r amlwg o hyd. Mae'r niferoedd enfawr o bobl sy’n cael eu heintio yn ehangu'r gronfa o’r feirws lle gall amrywiadau newydd godi. Mae is-amrywiolyn Omicron (BA.2) newydd wedi'i adrodd yn barod, gyda channoedd o achosion yng Nghymru.

Nid oes unrhyw un yn gwybod faint o le sydd ar ôl i amrywiolion newydd ddod yn fwy heintus neu’n fwy difrifol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhybuddio bod y byd ymhell o sicrhau buddugoliaeth yn erbyn y pandemig.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud wrthym na fyddwn yn gweld diwedd COVID-19 yn 2022. Mae’n dweud y bydd y feirws yma am byth, siŵr o fod. Ond gall yr argyfwng iechyd cyhoeddus ddod i ben. Mae Mike Ryan, Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglen Argyfyngau Sefydliad Iechyd y Byd, wedi dweud ei bod yn bosibl y byddwn yn nodi trobwynt yn y pandemig eleni.

Beth yw barn arbenigwyr yng Nghymru?

Mae gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd alwad dreigl am dystiolaeth ysgrifenedig i randdeiliaid godi pryderon am y pandemig, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin ag ef.

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan arbenigwyr academaidd a chynhaliodd drafodaeth anffurfiol gyda nhw i ddysgu mwy. Ymhlith y materion allweddol y gwnaeth yr arbenigwyr dynnu sylw atynt mae:

  • Iechyd meddwl a llesiant. Pryderon am effaith barhaus y pandemig ar gyfer iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth; un grŵp allweddol sy’n peri pryder yw pobl ifanc ac oedolion ifanc.
  • Gofalwyr di-dâl. Yr heriau parhaus i ofalwyr di-dâl sy'n parhau i orfod brwydro i gael cymorth gofal cymdeithasol i berthnasau; ac sy'n cael trafferth gydag effaith gorfforol a meddyliol gofalu.
  • Brechu a brechiadau atgyfnerthu. Yr ymateb yn y dyfodol i imiwnedd yn gwanhau ac amrywiolion newydd; y penderfyniad i frechu plant a’n cyfrifoldebau byd-eang.
  • Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Ofnau bod prinder staff ym maes gofal cymdeithasol wedi cyrraedd pwynt argyfyngus i lawer o sefydliadau, a phryderon penodol am lesiant staff ac effaith cam-drin staff gofal iechyd ar-lein.
  • COVID hir. Pryderon ynghylch nifer y bobl sydd â COVID hir ac sy’n dioddef ei ganlyniadau, nad ydym yn eu deall yn iawn eto.

Beth gallwn ei ddisgwyl yng ngwanwyn 2022?

Mae rhai yn cwestiynu a yw'r ymdrech i normaleiddio heintiau COVID-19 yn cael ei sbarduno gan wyddoniaeth neu iechyd y cyhoedd, neu economeg.

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi rhybuddio bod posibilrwydd y bydd ton arall ar y ffordd, efallai ym mis Mai. Ac mae bygythiad bob amser y bydd amrywiolyn newydd o COVID-19, sy'n gallu gwrthsefyll brechlynnau, yn dod i'r amlwg. Ond oni bai ei fod yn dod yn fygythiad sylweddol i'r rhai a gafodd eu brechu, mae cyfyngiadau llawn, fel y math a brofwyd gennym bron i ddwy flynedd yn ôl, yn ymddangos yn annhebygol.

Felly, beth yw’r sefyllfa nawr? Beth sydd ar y ffordd? A phryd fydd yn dod i ben? Beth yw’r nifer derbyniol o farwolaethau o glefyd y gellir ei atal a'i drin? A ddylwn i barhau i wisgo fy mwgwd? A ddylwn i fynd i barti neu aros adref er mwyn bod yn ddiogel?

Wrth i ni gyrraedd y pwynt dwy flynedd, mae mwy o gwestiynau nag atebion o hyd…

Os ydych chi'n teimlo'n ofidus neu'n bryderus ar yr adeg ansicr hon, gall ein herthygl ymchwil 'Cymorth iechyd meddwl' eich cyfeirio at gymorth a chefnogaeth.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru