Iechyd meddwl, pobl ifanc a'r pandemig

Cyhoeddwyd 11/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/12/2020   |   Amser darllen munudau

Yn 2018, dywedodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) fod angen 'newid mawr' o ran cefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru:

“Yn ein barn ni, mae’r her frys bellach “ym mhen blaen” y llwybr gofal - lles emosiynol, gwydnwch ac ymyrraeth gynnar. Dylai mynd i'r afael â hyn fod yn flaenoriaeth genedlaethol ddynodedig i Lywodraeth Cymru. Bydd methu â chyflawni yn hyn o beth yn golygu y bydd mwy o alw am wasanaethau arbenigol na'r hyn sydd ar gael, gan fygwth eu cynaliadwyedd a'u heffeithiolrwydd.”

Mae adroddiad dilynol y Pwyllgor - Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach (mis Hydref 2020) yn dweud, yn wyneb pandemig y Coronafeirws - a'i effaith ar lesiant plant a phobl ifanc - fod cyflawni argymhellion 2018 y Pwyllgor yn pwysicach nag erioed.

Beth yw effaith y pandemig ar iechyd meddwl pobl ifanc?

Yn ystod y pandemig, mae pobl ifanc wedi dweud am amrywiaeth o faterion, gan gynnwys cynnydd mewn gorbryder, unigrwydd ac unigedd, colli rhwydweithiau cymorth, a mynediad mwy cyfyngedig at y gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau eraill maen nhw fel arfer yn dibynnu arnynt. Canfu arolwg Mind Cymru fod tri o bob pedwar person ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn waeth yn ystod misoedd cynnar y pandemig. Roedd un o bob tri person ifanc a geisiodd gael cymorth iechyd meddwl yn methu gwneud hynny.

Mae modelu gan y Ganolfan Iechyd Meddwl (ar gyfer Lloegr) yn amcangyfrif y bydd ar 1.5 miliwn o blant a phobl ifanc angen cymorth iechyd meddwl newydd neu ychwanegol oherwydd y pandemig (mae hyn yn cynrychioli 15 y cant o blant rhwng 5 a 19 oed yn Lloegr). Mae adroddiad interim (Gorffennaf 2020) y Pwyllgor PPIA ar effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc yn rhybuddio bod angen taro’r cydbwysedd rhwng cydnabod a chefnogi problemau iechyd meddwl a pheidio â rhoi 'gwedd feddygol' ar ymatebion naturiol i sefyllfa frawychus.

Effeithiau tymor hwy

Fodd bynnag, fe’i cydnabyddir yn eang bellach fod canlyniadau cymdeithasol ac economaidd y pandemig yn cael effaith anghymesur ar blant a phobl ifanc. Mae pryder mawr am y posibilrwydd y bydd effaith hirdymor ar iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Mae'r tarfu ar eu cyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant yn ffactor allweddol sy'n cyfrannu at hyn.

Yn ôl ymchwil gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a Phrifysgol Abertawe, mae bron i 7 o bob 10 o bobl yn eu harddegau ym Mhrydain yn ofni y bydd y pandemig yn gwneud y dyfodol yn waeth i bobl eu hoedran nhw. Tynnodd Ymddiriedolaeth y Tywysog sylw at y cysylltiad rhwng iechyd meddwl gwael a pheidio â bod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET). Ei hofn yw, os na chymerir camau i liniaru’r sefyllfa, bydd 'cenhedlaeth goll' o bobl ifanc yn wynebu diweithdra hirdymor a difrod parhaus i'w lles meddyliol.

Mewn tystiolaeth ddiweddar, dywedodd yr Athro Ann John (Prifysgol Abertawe) wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (IGCCh):

“what we want to avoid is what we call a cohort effect, where there's a particular insult dealt to a generation and those vulnerabilities follow them through in the long term. So, it really is about leveraging protections and services and access to care.”

Rôl ysgolion

Yn 2018, nododd Cadernid Meddwl y rôl allweddol y mae ysgolion yn ei chwarae wrth adeiladu poblogaeth o bobl ifanc sy'n emosiynol wydn. Galwodd am ddull ysgol gyfan ar gyfer lleihau stigma a hybu iechyd meddwl da. Hefyd, fe ddisgrifiodd y diwygiad arfaethedig o’r cwricwlwm yng Nghymru fel cyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i ymgorffori lles ym mywydau ein plant.

Cyflwynwyd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ym mis Gorffennaf 2020. Bu cryn drafod ymhlith rhanddeiliaid ynghylch a yw'r ddeddfwriaeth yn gwneud darpariaeth ddigon eglur mewn perthynas ag iechyd meddwl. Mae adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor PPIA (4 Rhagfyr 2020) yn argymell y dylid diwygio'r Bil i gynnwys cyfeiriad penodol at iechyd meddwl a llesiant ar wyneb y ddeddfwriaeth.

“Mae gwerthfawrogi iechyd meddwl i’r un graddau ag iechyd corfforol yn hanfodol, yn enwedig i'n plant a'n pobl ifanc. Fel cymdeithas, mae gennym gryn ffordd i fynd cyn bod iechyd meddwl yn cael yr un parch. Er nad ydym yn amau bod y Bil hwn yn anelu at fynd i’r afael â’r materion hyn, credwn fod angen dull mwy pendant, yn debyg iawn i’r dull a fabwysiadwyd ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Rhaid inni sicrhau bod pwysigrwydd iechyd meddwl a lles yn ein cwricwlwm yn amlwg i bawb nawr ac yn y dyfodol.”

Dull system gyfan

Fodd bynnag, nid yw ysgolion ond yn un elfen o'r dull 'system gyfan' y mae'r Pwyllgor yn gofyn amdano. Mae ei adroddiad Ddwy flynedd yn ddiweddarach yn dweud y bydd ymrwymiad ac arweinyddiaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru ac arweinwyr y sector yn hanfodol i yrru’r gweithio ar y cyd sydd ei angen ar draws y system:

“er ein bod ni wedi ein sicrhau bod cynnydd mewn addysg yn weladwy ac y gellir tystio iddo, rydym yn llawer llai hyderus bod cyflymder y newid mewn iechyd a llywodraeth leol (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol) yn ddigonol.”

Yn ei hymateb i'r adroddiad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pryderon y Pwyllgor am y cynnydd a wnaed ym meysydd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae wedi cytuno i ehangu cwmpas y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol presennol ar y dull ysgol gyfan i gwmpasu'r 'system gyfan', a thrwy hynny ei alluogi i ddarparu arweinyddiaeth ar draws pob sector perthnasol.

Mynediad at wasanaethau iechyd meddwl

Mae Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach yn tynnu sylw at bryderon y Pwyllgor bod gormod o blant a phobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl yn dal i wynebu anawsterau o ran cael gofal priodol, amserol. Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion penodol mewn perthynas â’r canlynol:

  • cefnogaeth mewn argyfwng ac y tu allan i oriau;
  • gwasanaethau cleifion mewnol;
  • therapïau seicolegol;
  • pontio wrth symud o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed i wasanaethau oedolion; a
  • chefnogaeth i blant sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi’u mabwysiadu.

Er bod gwasanaethau iechyd meddwl wedi cael eu categoreiddio’n wasanaethau hanfodol ers dechrau'r pandemig, mae pwyllgorau PPIA ac IGCCh wedi clywed tystiolaeth gyson gan wasanaethau a gweithwyr proffesiynol y trydydd sector fod pobl yn ei chael hi'n anodd cael cymorth. Mae'n ymddangos bod hyn yn wir ar draws y sbectrwm o angen - o wasanaethau cymorth ymyrraeth gynnar/iechyd meddwl sylfaenol i wasanaethau mwy arbenigol a gofal argyfwng.

Y canol coll

Un o'r prif feysydd pryder i'r Pwyllgor Plant Pobl Ifanc ac Addysg yw bod bwlch mawr o hyd yn y ddarpariaeth ar gyfer y 'canol coll' fel y’i gelwir. Mae'r term hwn yn cyfeirio at niferoedd sylweddol y plant a phobl ifanc sydd angen cymorth iechyd meddwl, ond sydd ddim efallai'n ddigon sâl i fod angen - neu i fodloni meini prawf ar gyfer - cymorth gan wasanaethau arbenigol.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor yn tynnu sylw at waith y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc (T4CYP) sydd â phwyslais newydd. Mae T4CYP yn rhaglen dan arweiniad y GIG ar gyfer gwella'r cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Nod un o dair ffrwd waith y rhaglen - 'Cymorth cynnar a gwell cymorth' - yw mynd i'r afael ag anghenion y canol coll. Prif feysydd ffocws eraill y rhaglen yw gwasanaethau niwroddatblygiadol, a byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Dywed T4CYP yn ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor ei fod yn anelu at gwblhau'r Fframwaith Cymorth Cynnar a Gwell Cymorth, a gwneud gwaith paratoi ar gyfer ei weithredu, erbyn Mawrth 2021.

Y camau nesaf a gwybodaeth bellach

Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, yn enwedig o ran ysgolion. Ac er bod gwelliannau i'w gweld ‘ym mhen blaen' y llwybr gofal bellach, mae pryderon o hyd ynghylch diffyg darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth mwy arbenigol, y rhai ag anghenion cymhleth, a'r rhai sydd angen help mewn argyfwng. Dywed y Pwyllgor fod angen gwaith “sylweddol ac ar frys” yn hyn o beth i sicrhau bod sylfeini'r dull system gyfan yr ydym wedi galw amdani ar waith erbyn diwedd y Senedd hon.

Bydd adroddiad y Pwyllgor, Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Rhagfyr 2020. Gallwch wylio’r ddadl ar Senedd.tv yma.

Hefyd i'w nodi:


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru