Cyn i gyllideb Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf gael ei chyhoeddi, bydd y Senedd yn trafod blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ddydd Mercher 12 Gorffennaf.
Daw dadl y Pwyllgor Cyllid ar adeg pan fo costau byw cynyddol a chwyddiant uchel yn cael effaith amlwg, a bydd gweithgareddau ymgysylltu diweddar y Pwyllgor â'r cyhoedd yn llywio’r drafodaeth. Mae'r erthygl hon yn tynnu sylw at y blaenoriaethau ar gyfer rhanddeiliaid a gymerodd ran yn y digwyddiadau ymgysylltu hyn.
Sut mae'r cyhoedd wedi cymryd rhan?
Cafodd y gweithgareddau ymgysylltu a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyllid eu cynllunio i roi mwy o ddylanwad i'r cyhoedd a rhanddeiliaid ar benderfyniadau cyllidebol, cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu’n derfynol ar ei chynlluniau gwariant.
Eleni, mae strategaeth y Pwyllgor ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd wedi cynnwys:
- digwyddiad allanol i randdeiliaid ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
- gweithdy ar-lein gydag Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru
- grwpiau ffocws gyda sefydliadau ac unigolion a hwyluswyd gan dîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd
Mae crynodeb o waith ymgysylltu’r Pwyllgor ar gael ar dudalen y Pwyllgor Cyllid ar y we.
Beth ddylai’r prif flaenoriaethau fod ar gyfer y Gyllideb Ddrafft nesaf?
Yn y digwyddiad i randdeiliaid ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, tynnwyd sylw at nifer o bryderon cyllidol allweddol, gan gynnwys:
- effaith diffyg buddsoddiad cyfalaf, sy’n waeth oherwydd chwyddiant uchel, ar brosiectau seilwaith arfaethedig yn y sector cyhoeddus;
- sut y caiff dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus eu hariannu ac effaith hyn ar gynllunio strategol;
- yr angen i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull mwy strategol wrth weinyddu grantiau, gan fod gormod o grantiau llai o faint yn cael eu derbyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn, sy’n creu problemau o ran cynllunio.
Roedd rhai o'r prif faterion a godwyd gan gyfranogwyr yn y digwyddiad i randdeiliaid yn cynnwys:
- cynnig cymorth i fyfyrwyr ac athrawon yn y sector addysg. Mynegwyd pryderon ynghylch ddiffyg cyllid ar gyfer addysg oedolion, datblygu rhaglenni prentisiaeth a darparu cymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr;
- yr angen i gynyddu capasiti yn y cwricwlwm addysg er mwyn sicrhau bod cynifer â phosibl o'r gweithlu yn cael hyfforddiant;
- targedu cyllid i ymateb i’r heriau sy'n wynebu'r GIG a'r sector cymdeithasol, gan roi pwyslais ar gydweithio ymhlith y gwasanaethau rheng flaen i wella dulliau o gynllunio'r gweithlu a chymorth ariannol i hyfforddeion meddygol;
- sut y gallai gorwariant gan fyrddau iechyd effeithio ar wasanaethau llywodraeth leol, y dyfodol o ran cyllid ar gyfer cynlluniau fel y rhwydwaith diffibrilwyr, gwell cyllid ar gyfer ymchwil feddygol;
- tynnodd cynrychiolwyr llywodraeth leol sylw at y ffaith nad oes digon o adnoddau yn wyneb pwysau cynyddol o ran polisi a chyllid;
- y gofynion cynyddol a roddir ar wasanaethau llywodraeth leol, gan gynnwys o ran digartrefedd, gofal cymdeithasol i oedolion ac addysg;
- effaith ehangach y sefyllfa bresennol o ran costau byw ar draws cymdeithas, gan gynnwys yr effaith ar fenywod a merched;
- blaenoriaethu cyllid ar gyfer atebion a arweinir gan y gymuned, fel canolfannau clyd a mentrau chwarae, gan dynnu sylw at y ffaith bod angen i fesurau ataliol fod yn rhan o’r gwaith i fynd i'r afael â’r materion sydd wrth wraidd tlodi ac anghydraddoldeb;
- symud i ffwrdd o gyllid ad hoc i gyllid ystyriol ar gyfer y sector gwirfoddol, sy'n darparu gwasanaethau hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw;
- gwireddu potensial Cymru o ran ynni adnewyddadwy a pharatoi i newid i economi werdd.
Aeth pump Aelod o'r Senedd Ieuenctid i weithdy gyda’r Pwyllgor Cyllid ar 29 Mehefin 2023 i drafod eu barn a'u pryderon.
Roedd Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn cytuno y dylid blaenoriaethu gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, llywodraeth leol, tai/digartrefedd, trafnidiaeth a'r cynnydd o ran costau byw.
Roedd gan Aelodau’r Senedd Ieuenctid farn gymysg ynghylch blaenoriaethu gwariant ar gyfer newid hinsawdd, yr economi a materion gwledig. Roedd consensws cyffredinol na ddylid blaenoriaethu gwariant penodol ar y Gymraeg, diwylliant a chysylltiadau rhyngwladol.
Cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion naw grŵp ffocws a dau gyfweliad yn ystod mis Mehefin 2023, gyda 43 o gyfranogwyr ledled Cymru. Roedd y canfyddiadau yn sgil y sesiynau hyn yn cynnwys y canlynol:
- cafodd iechyd a gofal cymdeithasol eu blaenoriaethu amlaf gan gyfranogwyr, yna addysg ac yna’r economi;
- nododd y rhan fwyaf o'r grwpiau fod plant a phobl ifanc, trafnidiaeth a thai/digartrefedd hefyd yn flaenoriaethau ar gyfer cyllid;
- roedd y cyfranogwyr o blaid cynyddu gwariant ar y cyfan, ond dadleuodd rhai o’r grwpiau dros gynnal y lefel bresennol o wariant. Ni ddywedodd unrhyw gyfranogwyr y dylid lleihau’r gwariant;
- teimlwyd mai gwella cartrefi a chysylltu pobl oedd y cynlluniau pwysicaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a amlinellwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
Beth fydd yn digwydd nesaf o ran y Gyllideb Ddrafft?
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gael oedi cyhoeddiad ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25 tan 12 Rhagfyr 2023, gyda’r bwriad o’i chyhoeddi ar ôl cyllideb hydref y DU. Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi beirniadu’r dull hwn.
Bydd y penderfyniad terfynol ynghylch amserlen y gyllideb yn cael ei wneud gan Bwyllgor Busnes y Senedd. Yn debyg i’r drefn y llynedd, bydd Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi diweddariadau ar y blaenoriaethau gwariant cyn i’r Gyllideb Ddrafft gael ei chyhoeddi. Ar ôl i’r Gyllideb Ddrafft gael ei chyhoeddi, byddwn yn nodi’r pwyntiau allweddol ac yn creu diagram rhyngweithiol er mwyn edrych ar y Gyllideb Ddrafft yn fanylach.
Chwilio am ragor o wybodaeth?
Mae manylion cynlluniau cyllido presennol Llywodraeth Cymru ar gael ar ei gwefan. Mae Ymchwil y Senedd hefyd wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin am y broses gyllidebol.
Cynhelir dadl yn y Senedd ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ddydd Mercher 12 Gorffennaf a gallwch ei gwylio'n fyw ar Senedd TV.
Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru