Llunio Rhestr: beth yw’r blaenoriaethau ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru?

Cyhoeddwyd 12/12/2022   |   Amser darllen munudau

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 ar 13 Rhagfyr. Mae'n gwneud hynny yn dilyn Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU, ac yng nghyd-destun prisiau cynyddol i aelwydydd, pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus a dirwasgiad y disgwylir iddo fod yn un hir.

Sut y bydd yn blaenoriaethu'r cyllid sydd ganddi, a sut y bydd y Senedd yn craffu ar y dewisiadau hynny? Mae'r erthygl hon yn rhoi ychydig o gefndir i ddadl Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth.

Sut beth fydd y gyllideb?

Roedd Cyllideb Ddrafft a Chyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 yn cynnwys dyraniadau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Fodd bynnag, cyllidebau dangosol yn unig oedd y rhain, ac mae dyraniadau yn ystod y flwyddyn ers y Gyllideb Derfynol (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth) yn golygu bod y dyraniadau a gyhoeddwyd ar gyfer 2023-24 a 2024-25 wedi dyddio yn ôl pob tebyg. Nid yw’r Gyllideb Atodol ddiweddaraf yn diweddaru'r ffigurau hynny. Felly er bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu tua £24.3bn i'w hadrannau yn 2022-23, nid ydym yn gwybod eto faint yn union fydd ar gael yn 2023-24.

Dywed Llywodraeth y DU ei bod wedi clustnodi £1.2bn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf. Fodd bynnag yn ôl Llywodraeth Cymru, gan gyfrif am chwyddiant, bydd y setliad cyffredinol dros y cyfnod adolygu gwariant tair blynedd (2022-23 i 2024-25) yn werth llai mewn termau real nag yr oedd adeg yr Adolygiad Gwariant (Hydref 2021). Mae hefyd yn dweud yn 2024-25 na fydd dim uwch mewn termau real nag ydyw yn y flwyddyn bresennol a bydd cyllidebau cyfalaf 8.1% yn is. Yn ôl cyfrifiadau Dadansoddi Cyllid Cymru (WFA) gallai colledion oherwydd chwyddiant, hyd yn oed ar ôl cyllid ychwanegol, ddod i gyfanswm o dros £800m yn 2023-24 a £600m yn 2024-25. Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ym mis Tachwedd:

Nid yw'r arian ychwanegol yn dod yn agos at yr hyn sydd ei angen arnom ni i fodloni'r pwysau ar bob rhan o'n cyllideb...

Dywed WFA y gallai fod achos i Lywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau treth incwm sydd wedi eu datganoli. Mae'n amcangyfrif, pe bai pob un o'r tair Cyfradd Treth Incwm yng Nghymru yn cynyddu 1c, y gallai Cyllideb Cymru gynyddu 1.4% y flwyddyn nesaf ac yn 2024-25.

Yr heriau economaidd o'n blaenau

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu nifer o heriau yn 2023-24. Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR), mae disgwyl y cwymp mwyaf ers i gofnodion ddechrau mewn safonau byw eleni a'r flwyddyn nesaf. Mae Banc Lloegr yn disgwyl y DU i aros mewn dirwasgiad trwy gydol 2023 a hanner cyntaf 2024.

Ym mis Tachwedd fe wnaethom amlinellu sut mae costau cynyddol yn taro aelwydydd incwm isel galetaf. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi darparu cymorth gyda chostau byw dros y misoedd diwethaf, ac mae rhestr ar gael yn ein canllaw costau byw - cymorth a gwybodaeth.

Roedd Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU yn cynnwys ymrwymiad ganddi i gynnal gwariant cyfalaf mewn termau arian parod tan 2027-28. Fodd bynnag, fel y noda WFA, mae'r rhagolygon ar gyfer cyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru yn go ddu; ni chafodd cynlluniau gwariant cyfalaf i 2024-25 eu diwygio i fyny er gwaethaf chwyddiant uwch a bod “toriadau termau real mewn gwariant cyfalaf ar y gweill y tu hwnt i 2027-28".

O dan bwysau?

Mae cyllidebau diweddar wedi dyrannu dros £8.4bn i'r ymateb i COVID-19 ers dechrau'r pandemig. Rydym bellach yn gweld y cyllid hwn yn dod i ben, gyda chyfanswm nifer yr achosion yn isel o'i gymharu â'r cyfnodau brig blaenorol.

Ym mis Gorffennaf, amlinellodd y Gweinidog y pwysau ar gyllideb Llywodraeth Cymru "o'r bil cyflogau i gaffael nwyddau a gwasanaethau, ac i'r rhaglen gyfalaf". Nid yw'n disgwyl cynnydd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru i ariannu cynnydd yng nghyflogau’r sector cyhoeddus.

Yn ogystal â chyflogi tua 6,000 o staff, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus eraill yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau lleol a'r GIG. Dywedwyd bod pwysau cyflogau'r GIG ynghyd â chwyddiant yn cyfrannu at ddiffygion sylweddol mewn cyllid ac mae nyrsys wedi pleidleisio o blaid mynd ar streic yng Nghymru am y tro cyntaf. Cyn Datganiad yr Hydref, fe wnaeth Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ochr yn ochr â'i Gweinidog cyfatebol yn yr Alban, alw am fwy o arian ar gyfer cyflogau'r GIG.

Gan ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU, ynghyd â'r rhagolygon economaidd a chyllidol,, dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

"Yn wyneb y pwysau hyn, rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â’r hyn y gallwn ni ei fforddio."

Mae WFA yn amcangyfrif y bydd cytundebau cyflog o 5% yn 2022-23 a 3.5% yn 2023-24 yn cynyddu bil cyflog datganoledig y sector cyhoeddus £288m y flwyddyn.

Beth yw'r blaenoriaethau allweddol i randdeiliaid?

Galwodd Llywodraeth Cymru ar y Canghellor i "fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus", cyn iddo wneud ei Ddatganiad yr Hydref.

Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi bod yn gwneud ei waith ei hun yn y cyfnod cyn y Gyllideb. Ym mis Gorffennaf, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad rhanddeiliaid yn Llanhiledd. Nododd rhanddeiliaid feysydd blaenoriaeth ar gyfer cyllid:

  • Pwysau costau byw
  • Cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau cyhoeddus
  • Ymateb i argyfyngau newid hinsawdd a natur
  • Mynd i'r afael â thlodi a thai
  • Yr economi a seilwaith
  • Plant a phobl ifanc
  • Trethiant

Mae mwy o fanylion am y meysydd hyn yn Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu y Pwyllgor Cyllid.

Fel rhan o waith y Pwyllgor Cyllid, cynhaliodd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd grwpiau ffocws ym mis Mehefin 2022 ledled Cymru. Mae ei adroddiad yn dweud bod cyfranogwyr gan amlaf yn blaenoriaethu addysg a phlant a phobl ifanc, gydag iechyd a gofal cymdeithasol yn dynn ar eu sodlau. Dywedodd y rhan fwyaf o’r grwpiau fod newid hinsawdd ac amaethyddiaeth yn flaenoriaethau ar gyfer cyllid hefyd.

Ym mis Gorffennaf, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ddadl ar flaenoriaethau gwario ar gyfer 2023-24, gan dynnu sylw at ei waith ymgysylltu diweddar â Senedd Ieuenctid Cymru, rhanddeiliaid a dinasyddion. Hefyd, fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid gynnal ymgynghoriad rhwng 23 Medi a 18 Tachwedd, gyda'r ymatebion yn cael eu cyhoeddi ar-lein.

Beth ddigwyddodd y llynedd?

Ar ôl craffu ar Gyllideb Ddrafft 2022-23, sef y gyllideb amlflwyddyn gyntaf ers 2017, fe wnaethom nodi pethau allweddol rydym wedi'u dysgu, yn gynnwys:

  • Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i'r Senedd gael llai o amser i graffu ar y gyllideb nag y mae prosesau yn ei ganiatáu fel arfer (mae'r sefyllfa'n debyg eleni).
  • Roedd gan adrannau Llywodraeth Cymru (ar y pryd) 15% yn fwy o gyllid ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd nag yn 2021-22, ond roedd y cynnydd a nodwyd ar gyfer 2023-24 a 2024-25 yn llawer llai.
  • Bydd y ffaith bod cyllid cyfalaf yn gostwng ym mhob un o flynyddoedd y setliad yn her sylweddol, yn ôl Llywodraeth Cymru.
  • Mae’n bosibl na fydd y cyllid i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn ddigonol (ac mae’n bosibl nad arian newydd oedd hwn)..

Cyhoeddodd Pwyllgorau'r Senedd adroddiadau ar eu craffu ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23. Ar ôl craffu ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

Fodd bynnag, mae’n amlwg o’r dystiolaeth a gafwyd fod heriau sylweddol yn parhau os yw Llywodraeth Cymru am wireddu ei gweledigaeth, ac mae angen arweinyddiaeth go iawn os yw gweithredoedd y Gweinidog am gyd-fynd â’i geiriau.

Beth nesaf?

Bydd Cyllideb Ddrafft 2023-24 yn cael ei chyhoeddi ar 13 Rhagfyr, a bydd y cloc yn tician ar gyfer gwaith craffu'r Senedd. Mae gan Bwyllgorau’r Senedd hyd at 6 Chwefror 2023 i gymryd tystiolaeth gan dystion a chraffu ar y gyllideb gyda Gweinidogion.

Bydd y Senedd yn trafod y Gyllideb Ddrafft ar 7 Chwefror 2023, a diwedd y mis hwnnw mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chyllideb Derfynol.

Yfory fe gawn wybod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu delio â'r hyn y mae WFA yn cyfeirio ato fel storm berffaith ar gyfer sefydlogrwydd economaidd a chyllidol Cymru”. Mater i'r Senedd a'i Bwyllgorau wedyn yw deall beth yw ystyr y cynlluniau hynny.


Erthygl gan Božo Lugonja a Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru