Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24

Cyhoeddwyd 16/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Cyllideb 2023-24 yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'n amlinellu faint o arian sydd wedi'i ddyrannu i'r Llywodraeth a'i hadrannau ac asiantaethau cysylltiedig megis byrddau iechyd neu awdurdodau lleol. Cafodd Cyllideb Ddrafft 2023-24 ei chyhoeddi ar 13 Rhagfyr 2022.

Ynglŷn â'r diagram hwn

Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i archwilio dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2023-24 ar lefelau gwahanol, o'r portffolio i'r Llinell Wariant yn y Gyllideb (y lefel fanylaf sydd ar gael).

Y gwerthoedd a ddangosir yn y diagram a'r tabl yw refeniw, ynghyd â dyraniadau cyfalaf. Mae maint pob nod yn cael ei raddio yn ôl ei gyfran o lefel y gyllideb. Mae lliwiau gwahanol yn cynrychioli portffolios gwahanol.

Mae’r tabl hefyd yn dangos dyraniadau cyfatebol yng Nghyllideb Derfynol 2022-23 (fel yr ailddatganwyd yn nogfennaeth y Gyllideb Ddrafft) ynghyd â newid canrannol ac arian parod.

O dan 'gweld yr opsiynau', gallwch ddewis dangos y newid canran ar Gyllideb Derfynol 2022-23. Yma, mae meintiau’r cylchoedd wedi’u graddio gyda'r gwahaniaeth o flwyddyn i flwyddyn yn y dyraniad cyllideb. Lliwiau'r nod yw coch ar gyfer gostyngiad a glas ar gyfer cynnydd gydag arlliwiau tywyllach yn dynodi newid canran mwy. Mae cyfrifiad termau go iawn yn defnyddio datchwyddwr Cynnyrch Domestig Gros mis Tachwedd, sef 3.23%.

Mae rheolyddion ar gyfer gosod y tabl a'i ddangos ar sgrin lawn ar gael yn y tab 'gweld opsiynau'.

Lawrlwytho’r data.