Pum peth rydyn ni wedi'u dysgu am Gyllideb Ddrafft 2023-24

Cyhoeddwyd 03/02/2023   |   Amser darllen munudau

Mae gan y Senedd amserlen brysur ar ddechrau 2023 ar gyfer craffu ar gynlluniau gwariant diweddaraf Llywodraeth Cymru. Roedd ein herthygl ym mis Rhagfyr, a gyhoeddwyd ychydig cyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, yn nodi meysydd y gallai’r llywodraeth fod am eu blaenoriaethu. Yn yr erthygl hon, nodir pum peth rydyn ni wedi'u dysgu ers hynny.

Daw’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 yn ystod “storm berffaith o bwysau economaidd a chyllidebol” a disgrifiodd Llywodraeth Cymru hi fel “un o'r rhai anoddaf ers datganoli”. Ar 13 Rhagfyr 2022, dywedodd Prif Economegydd Llywodraeth Cymru yr ymddengys bod Cymru a'r DU yn wynebu dirwasgiad, pan dynnodd sylw at yr amgylchiadau heriol ar adeg cyhoeddi’r Gyllideb hon.

Trosolwg o’r Gyllideb Ddrafft

Mae cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn fwy na £25.1 biliwn (gweler Ffigur 1 isod). O hyn, dyrennir £20.1 biliwn i adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd.

Ffigur 1 Dyraniadau Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL): £20,083 miliwn (cynnydd o £1,093 miliwn neu 5.8 y cant). DEL cyfalaf: £2,800 miliwn (cynnydd o £146 miliwn neu 5.5 y cant). Cyfanswm y DEL: £22,883 miliwn (cynnydd o £1,239 miliwn neu 5.7 y cant). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £2,248 miliwn (gostyngiad o £50 miliwn neu -2.2 y cant). Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £25,131 miliwn (cynnydd o £1,188 miliwn neu 5.0 y cant).

Mae cyfanswm y cynnydd mwyaf ar gyfer 2023-24 o ran gwerth, o’i gymharu â’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23, ar gyfer yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (£626 miliwn), a fydd yn cael 47 y cant o’r cyfanswm a ddyrennir ar gyfer gwariant o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru yn 2023-24. Disgwylir i’r cyllid ar gyfer yr adran Cyfiawnder Cymdeithasol ostwng £87 miliwn o’i gymharu â’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23 .

Ffigur 2. Gwariant y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 fesul Adran

Refeniw a chyfalaf y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 fesul portffolio, a newidiadau o gymharu â’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23 (llinell sylfaen ddiwygiedig). Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £10,758 miliwn, sef cynnydd o £626 miliwn (6.2 y cant). Cyllid a Llywodraeth Leol £5,114 miliwn, sef cynnydd o £462 miliwn (9.9 y cant). Newid Hinsawdd £2,845 miliwn, sef cynnydd o £34 miliwn (1.2 y cant). Y Gymraeg ac Addysg £2,647 miliwn, sef cynnydd o £76 miliwn (3.0 y cant). Yr Economi £554 miliwn, sef cynnydd o £68 miliwn (14.1 y cant). Materion Gwledig £447 miliwn, sef cynnydd o £54 miliwn (13.8 y cant). Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu £358 miliwn, sef cynnydd o £5 miliwn (1.3 y cant). Cyfiawnder Cymdeithasol £160 miliwn, sef gostyngiad o £87 miliwn (-35.2 y cant).

* Heb gynnwys tua £0.9 biliwn o incwm ardrethi annomestig.

** Yn cynnwys dyraniad o £488 miliwn o refeniw anghyllidol oherwydd benthyciadau myfyrwyr.

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu. Cyfeirier at Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 i gael y ffigurau union gywir.

Dywed Llywodraeth Cymru fod y Gyllideb Ddrafft hon “yn wahanol i unrhyw un arall ers datganoli”

Dywed Llywodraeth Cymru bod “storm berffaith” o ran pwysau economaidd a chyllidebol yn golygu bod cyllideb 2023-24 yn wahanol i unrhyw gyllideb ers datganoli. Mae'n dweud ei bod wedi blaenoriaethu cyllid ar gyfer tair colofn buddsoddi allweddol sef:

  • Diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
  • Parhau i roi cymorth i’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr “argyfyngau a wynebwn”.
  • Cefnogi’r economi drwy gyfnod dirwasgiad.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi ceisio ailflaenoriaethu cyllid fel rhan o broses y gyllideb, gyda £87.4 miliwn wedi’i ailgyfeirio o gynlluniau blaenorol “feysydd sydd â'r angen mwyaf”.

Wrth siarad yn benodol am gyfalaf, fodd bynnag, dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, er bod rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghymru nag yn Lloegr, roedd diffyg manylion o hyd ynghylch yr hyn a oedd wedi ei ohirio, ei gwtogi neu ei roi o’r neilltu gan Lywodraeth Cymru. 

Pwysau chwyddiant digynsail yn golygu na fydd y gyllideb yn mynd mor bell ag y tybiwyd yn flaenorol

Adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ar 18 Ionawr 2023) bod y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi codi 10.5 y cant yn y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2022.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod £666 miliwn o refeniw ychwanegol ar gyfer 2023-24 a £509 miliwn yn 2024-25, yn ymwneud â phenderfyniadau yn Natganiad yr Hydref Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, hyd yn oed o ystyried hynny mae Llywodraeth Cymru yn dweud:

…gallai’r setliad fod yn werth hyd at £3bn yn llai mewn termau real  dros y tair blynedd sy’n cael eu cwmpasu gan yr Adolygiad o Wariant a £1bn yn llai yn 2023-24 yn unig.

Er nad yw'r cyllid cyfalaf sydd ar gael ar gyfer 2023-24 wedi newid o'r hyn a nodwyd y llynedd, dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cyllidebau hynny 8 y cant yn is mewn termau real yn 2024-25 nag yn 2022-23.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i’r dreth incwm

Mae gan Lywodraeth Cymru y grym i amrywio’r dreth incwm 10c ym mhob £1 o incwm ar gyfer pob band, gyda gweddill y gyfradd yn cael ei gosod gan Lywodraeth y DU.

Er bod y gyllideb ar gyfer 2023-24 yn “un o’r anoddaf” y mae wedi’u gwneud erioed, mae Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn aros fel y maent, ac felly maent yn aros yn unol â’r cyfraddau yn Lloegr.

Mae hyn yn unol â'i hymrwymiad i “i beidio â chymryd mwy mewn Cyfraddau Treth Incwm Cymru oddi wrth bobl am o leiaf cyhyd ag y mae effaith economaidd Covid-19 yn para”. Pan ofynnodd y Pwyllgor Cyllid ynghylch codi’r cyfraddau uwch a’r cyfraddau ychwanegol, nododd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod eto beth fyddai effaith newid o’r fath o ran ymddygiad. Dywedodd:

It just felt in the cost-of-living crisis that, with all of the challenges that we have, this wasn't the time to experiment

Awgrymodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru fod codi’r gyfradd uwch o dreth incwm yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ei ystyried yn y dyfodol, hyd yn oed pe bai ond er mwyn amddiffyn rhai o’r meysydd blaenoriaeth heriol iawn.

Mae cyllid ar gyfer codiadau o ran costau byw, ond mae rhanddeiliaid yn awgrymu y gellid gwneud rhagor.

Yn y Gyllideb Ddrafft eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth  mewn ymateb i'r cynnydd mewn costau byw sy’n adeiladu ar y pecyn a nodwyd yn y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23. Mae hyn yn cynnwys £18.8 miliwn ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF), £9 miliwn ychwanegol ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion a £10 miliwn i atal digartrefedd.

Wrth groesawu’r ymrwymiadau hyn, mae Chwarae Teg, Cyngor ar Bopeth Cymru a Sefydliad Bevan yn codi pryderon nad yw’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 yn mynd i’r afael yn ddigonol â chostau gofal plant, yn darparu cynllun addas i ddisodli Cynllun Tanwydd y Gaeaf Cymru, nac i roi cymorth digonol i ddysgwyr drwy'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, yn y drefn honno.

Fel rhan o'r Gyllideb Ddrafft eleni, darparodd y Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb (BIIAG) dystiolaeth am “flaenoriaethau strategol y Gyllideb” a gweithiodd gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Asesiad Effaith Integredig Strategol (SIIA), i sicrhau bod “pob punt sy’n cael ei buddsoddi yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf”.

Clywodd Pwyllgor Cyllid y Senedd gan Chwarae Teg, sef corff sy’n aelod o’r Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb (BIIAG) (ar 12 Ionawr 2023), fod y sefydliad yn teimlo bod yr Asesiad Effaith Integredig Strategol (SIIA) yn well eleni ac y gallai weld rhai gwelliannau, ond bod tipyn i’w wneud eto.

Mae'r gyllideb yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer y GIG a llywodraeth leol, ond erys pwysau

Cyllid craidd ar gyfer llywodraeth leol, ynghyd â dyraniadau ar gyfer cyllid, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yw’r rhan fwyaf o’r refeniw a’r cyfalaf a ddyrennir yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Mae disgwyl i’r 22 awdurdod lleol dderbyn £5.5 biliwn yn 2023-24, sydd oddeutu £400 miliwn neu 7.9 y cant yn fwy na’r swm yn 2022-23. Yn y cyfamser, mae cyllid refeniw ar gyfer darparu gwasanaethau craidd y GIG yn cynyddu tua £390 miliwn neu 4.3 y cant, i £9.6 biliwn.

Croesawodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fod cyllid ar gael i awdurdodau lleol, gan ddweud ei fod yn rhoi “gwir gyfle” iddynt, ond hefyd ei bod yn anochel y bydd gostyngiadau o ran lefel gwasanaethau a nifer y staff. Mae Cydffederasiwn GIG Cymru wedi croesawu’r codiad i gyflog gweithwyr cymdeithasol, ond pwysleisiodd fod y “GIG yn wynebu ei her ariannol fwyaf erioed ar hyn o bryd”.

Cyn i’r gyllideb gael ei chyhoeddi, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cyfrifo bod awdurdodau lleol yn wynebu pwysau cronnol o £784 miliwn yn 2023-24. Dywedodd cynrychiolwyr y GIG eu bod yn wynebu pwysau “llawer mwy nag a welsom erioed o’r blaen”.

Roedd cynrychiolwyr o'r GIG a llywodraeth leol hefyd yn tynnu sylw at y pwysau ar y gweithlu, yn enwedig o ran recriwtio, cadw a datblygu staff.

Beth nesaf?

Mae’r erthygl hon yn ymdrin â dim ond rhai o’r pethau sy’n deillio o waith craffu’r Senedd ar y Gyllideb Ddrafft. Dydd Llun (sef 6 Chwefror 2022) yw’r dyddiad cau i bwyllgorau’r Senedd gyhoeddi eu hadroddiadau ar eu gwaith craffu ar y Gyllideb, a chyhoeddir hwy ar wefan Ymchwil y Senedd. Yna cynhelir dadl ar y Gyllideb Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Chwefror, a bydd y sesiwn ar gael i’w gwylio’n fyw ar Senedd TV.

Yn dilyn y broses graffu, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Derfynol ar gyfer 2023-24 ar 28 Chwefror 2023. I gael rhagor o wybodaeth, mae offeryn rhyngweithiol ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 ar gael ar wefan Ymchwil y Senedd.

Erthygl gan Božo Lugonja,  Owen Holzinger, Joe Wilkes a Joanne McCarthy Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru