A yw nyrsio yn weithlu mewn argyfwng?

Cyhoeddwyd 08/02/2023   |   Amser darllen munudau

Gyda phwysau cynyddol ar wasanaethau’r GIG a llesiant staff ar ei lefel isaf erioed, mae nyrsys wedi cymryd camau digynsail i streicio yn ystod yr wythnosau diwethaf fel rhan o anghydfod parhaus ynghylch cyflog teg a diogelwch cleifion. 

Ar 26 Ionawr 2023, bu Prif Swyddog Nyrsio Cymru gerbron Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i drafod yr heriau sy’n wynebu’r proffesiwn. Dywedodd wrth y Pwyllgor:

we have incredible staff who are doing an exceptional job under very challenging, very difficult circumstances. … I would certainly say it is perhaps the most challenged position I have seen in my 31 years as a nurse.

Y gweithlu nyrsio yng Nghymru: data allweddol

Nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yw grŵp gweithlu mwyaf y GIG, sef 40 y cant o weithlu GIG Cymru. Ar ddiwedd Mehefin 2022, roedd 36,020 o nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cyflogi gan GIG Cymru, ac roedd 22,790 o’r rhain yn nyrsys cofrestredig.

Yn ei adroddiad Niferoedd Nyrsio 2022, mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn nodi, er y cynnydd o 16 y cant yn y gweithlu nyrsio ehangach ers 2012, dim ond 11 y cant o gynnydd a welwyd yn nifer y nyrsys cofrestredig - “Nid yw’r twf hwn

yn adlewyrchu’r cynnydd yn anghenion cleifion”.

Mae nyrsio yn parhau i fod yn broffesiwn i fenywod yn bennaf. Yn ôl cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth), mae 90 y cant o’r bobl sydd ar y gofrestr barhaol yng Nghymru yn fenywod (mae hyn yn cynnwys nyrsys a bydwragedd).

Mae nifer sylweddol o nyrsys yn nesáu at oedran ymddeol. Mae cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn nodi bod 24 y cant o’r rhai sydd wedi cofrestru dros 55 mlwydd oed (mae 38 y cant dros 50 mlwydd oed).

Staff sy’n ymuno a staff sy’n ymadael

Mae’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynnal cofrestr o’r holl nyrsys a bydwragedd sydd â’r hawl i weithio yn y DU. Mae data ar gyfer Cymru yn dangos bod 1,600 o nyrsys wedi ymuno â’r gofrestr am y tro cyntaf yn 2021/22, a bod 1,401 wedi gadael yn ystod yr un cyfnod. Mae hyn ymddangos fel cynnydd cyffredinol i’r proffesiwn, ond nid yw’n glir sut mae hyn yn trosi’n niferoedd o fewn gweithlu GIG Cymru.

Mae data cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynrychioli nyrsys cofrestredig sydd â chyfeiriad yng Nghymru; nid yw’n dangos faint sydd wir yn gweithio yng Nghymru, nac o fewn y GIG. Nid yw ychwaith yn cyfateb o reidrwydd i nifer y nyrsys cyfwerth ag amser llawn yn y gweithlu.

Nid yw’r data yn rhoi rhagor o fanylion am nyrsys sy’n gadael y gofrestr, gan gynnwys pa rannau o’r GIG sydd wedi colli nyrsys.

Swyddi gwag a defnyddio nyrsys asiantaeth

Mae diffyg gwybodaeth dryloyw am swyddi nyrsio gwag yn broblem hirsefydlog. Ar 26 Ionawr, cadarnhaodd y Prif Swyddog Nyrsio mai Cymru yw’r unig wlad o hyd yn y DU sydd ddim yn cyhoeddi data ar swyddi nyrsio gwag (roedd hwn yn fater penodol o bryder i’r Pwyllgor).

Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru yn amcangyfrif bod o leiaf 2,900 o swyddi nyrsys cofrestredig gwag yn GIG Cymru. Mewn adroddiad diweddar, nododd fod GIG Cymru wedi gwario £140 miliwn ar nyrsys asiantaeth yn 2021/2022, ac y byddai hyn yn talu cyflogau 5,167 o nyrsys amser llawn.

Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod nyrsio asiantaeth yn gallu bod yn ddeniadol iawn o safbwynt yr unigolyn, gyda gwell cyflog a mwy o hyblygrwydd o ran oriau gwaith a lleoliad.

Dywedodd y Prif Swyddog Nyrsio fod angen i fyrddau iechyd ddeall yr hyn mae eu gweithlu yn gofyn amdano, a beth fyddai’n galluogi gweithwyr asiantaeth i ddychwelyd i’r GIG. Dywedodd nad mater o gyflog yn unig ydoedd, ond bod rhaid hefyd ystyried amodau gwaith:

It is important that nurses get their breaks, it is important that they have a place to take their break, and health boards are working on a number of things to ensure that nurses’ health and well-being are being focused on.

Recriwtio rhyngwladol

Mae nifer y bobl sydd ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth sydd wedi eu hyfforddi yn yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewropeaidd wedi gostwng 4.2 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Mae’r nifer a gafodd eu hyfforddi y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewropeaidd wedi codi 14.3 y cant (y rhan fwyaf o’r rhain wedi’u hyfforddi ar yr Ynysoedd Philippines ac India).

Dywedodd y Prif Swyddog Nyrsio wrth y Pwyllgor y gallai cynyddu lefelau recriwtio o dramor fod yn ddatrysiad effeithiol ar gyfer y tymor byr efallai, ond bod yn rhaid i Gymru ddod yn fwy hunangynhaliol a recriwtio mwy o hyfforddeion domestig. Tynnodd sylw hefyd at yr effaith foesegol sy’n ymwneud â recriwtio nyrsys o wledydd datblygol, a’r posibilrwydd o gyflwyno rhagor o ddulliau cilyddol i gefnogi hyfforddi myfyrwyr rhyngwladol.

Beth nesaf i Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016?

Roedd deddfwriaeth lefelau staff nyrsio Cymru i ddechrau yn gofyn i fyrddau iechyd gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio priodol mewn wardiau ysbyty acíwt I oedolion. Drwy gydol y broses o ddatblygu’r ddeddfwriaeth ac yn ystod ei hynt, roedd bwriad clir i’r gofyniad hwn (y cyfeirir ato’n gyffredin fel adran 24B) gael ei ymestyn i leoliadau gofal iechyd eraill yn y dyfodol.

O fis Hydrefn 2020, roedd hyn hefyd yn berthnasol i wardiau pediatrig.

Galwodd deiseb ddiweddar gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru am ymestyn adran 25B i bob lleoliad lle darperir gofal nyrsio, gan ddechrau gyda nyrsio yn y gymuned a wardiau iechyd meddwl cleifion mewnol.

Pan ofynnodd aelodau’r Pwyllgor iddi am ei huchelgais o ran ymestyn y Ddeddf ymhellach, tynnodd y Prif Swyddog Nyrsio sylw at y ffaith ein bod ni bellach yn gweithredu mewn tirlun cwbl wahanol:

the Act, when developed nine years ago or so, I think was developed for a time and place and point in time, perhaps. (…) I think we need to think bigger and broader around how we actually use the Act to staff our wards in a way that is smart, that is different, that is multi-professional in nature, because the Act is quite uniprofessional, as you can appreciate, and that is not how patients use our services nor how their care is delivered.

Ffocws ar gadw staff

Nid yw pryderon am recriwtio a chadw nyrsys yn rhywbeth newydd. Mae prinder nyrsys yn broblem fyd-eang. Mae niferoedd uchel o swyddi gwag mewn gwledydd eraill hefyd a dibyniaeth gynyddol ar recriwtio’n rhyngwladol i lenwi swyddi gwag. Rhaid dod o hyd i atebion mwy cynaliadwy.

Tra bod angen inni sicrhau ein bod ni’n hyfforddi niferoedd digonol o nyrsys newydd, gellir dadlau mai un o’r heriau pwysicaf i fynd i’r afael â hi yw gwella ffyrdd o gadw nyrsys profiadol yn y gweithlu. Bydd gwrando ar nyrsys yn rhan allweddol o hyn. Dywedodd y Prif Swyddog Nyrsio wrth y Pwyllgor:

As the head of the profession, I absolutely acknowledge and understand where nurses and midwives are coming from currently, and it is really disappointing to see that they have been pushed to this point. I do think that they need to use their voices and as I put my head-of-profession hat on, it is important for me to encourage nurses to use their voices for what they require.

Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru