cy

cy

A all newidiadau arfaethedig i'r gyfraith gynyddu canran y bobl sy'n pleidleisio yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 02/02/2024   |   Amser darllen munudau

Y ganran a bleidleisiodd yn etholiadau diwethaf y Senedd yn 2021 oedd 46.6%. Dyma’r ganran uchaf erioed i bleidleisio yn un o etholiadau’r Senedd, ond mae'n golygu na wnaeth 53% o bobl bleidleisio. Dim ond 38.7% bleidleisiodd mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn 2022, 4% yn is nag yn 2017.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu cynigion i gynyddu nifer y bobl sy'n pleidleisio ac yn cymryd rhan yn etholiadau Cymru. Cyflwynodd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i’r Senedd ym mis Hydref 2023. Mae'r Bil yn nodi amryw o gynigion er mwyn ceisio newid pryd a sut mae pobl yn pleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru, a phwy sy’n gwneud hynny. Mae ein crynodeb o'r Bil yn manylu ar gynigion y Bil.

Bydd y Senedd yn pleidleisio i benderfynu a ddylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ar 6 Chwefror. Mae'r erthygl hon yn trafod rhai o brif gynigion y Bil a'r dystiolaeth a glywyd o’u plaid ac yn eu herbyn.

Cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig

Un o brif gynigion y Bil yw peilota ac yna cyflwyno trefn i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Ar hyn o bryd, mae angen i bleidleiswyr yn y DU gofrestru i bleidleisio drostynt eu hunain. O dan gynigion y Bil, bydd rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gofrestru etholwyr cymwys yn awtomatig. Bydd pleidleiswyr yn cael 'Hysbysiad Cofrestru' a bydd ganddynt 45 diwrnod i wrthwynebu cael eu cynnwys ar y gofrestr. Gallant hefyd wneud cais i ofyn am gael cofrestru’n ddienw. Os caiff ei gyflwyno, bydd y newid hwn yn berthnasol i etholiadau'r Senedd, etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a refferenda datganoledig. Bydd angen i etholwyr gofrestru o hyd i bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y DU ac etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Y ddadl dros wneud y newid

Dywed Llywodraeth Cymru nad yw’r system bresennol lle mae rhaid i bleidleiswyr gofrestru “yn llwyddo i gyrraedd pob etholwr”. Mae’n dweud bod data gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos nad oedd 260,000 o etholwyr cymwys wedi cofrestru i bleidleisio yn 2022, sef 9.9% o'r rhai a oedd yn gymwys.

Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd wedi bod yn trafod y Bil. Dywedodd y Comisiwn Etholiadol, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru ac academyddion wrth y Pwyllgor eu bod yn cefnogi'r cynnig. Dywedodd Dr Christine Huebner mai cofrestru oedd un o'r rhwystrau mwyaf i bobl ifanc 16 a 17 oed rhag cymryd rhan yn etholiadau'r Senedd yn 2021.

Risgiau y mae angen mynd i’r afael â hwy

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd am nifer o risgiau y bydd angen eu hystyried yn ofalus wrth beilota’r dull hwn.

Un mater a godwyd oedd dryswch ymhlith pleidleiswyr ynghylch systemau gwahanol ar gyfer cofrestru ar gyfer etholiadau’r DU ac etholiadau yng Nghymru. Tynnwyd sylw at sicrhau bod gan swyddogion etholiadol adnoddau priodol a'r angen i gyfathrebu’n glir mewn fformatau hygyrch fel materion hanfodol i’w hystyried.

Mater arall sy’n cael ei godi gan randdeiliaid yw’r risgiau posibl i bleidleiswyr sy’n agored i niwed. Mae sefydliadau fel RNIB Cymru, Anabledd Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn pryderu efallai na fydd y cyfnod rhybudd o 45 diwrnod i bobl wrthwynebu cael eu cofrestru, neu wneud cais i gofrestru’n ddienw, yn ddigon. Dywedodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru y gallai ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr wneud cais bob blwyddyn i aros yn ddienw achosi trawma anfwriadol a risg i oroeswyr cam-drin domestig, stelcio neu aflonyddu.

Mater arall a godwyd gan academyddion, swyddogion etholiadol a'r Comisiwn Etholiadol yw’r angen i sicrhau mynediad digonol at setiau data i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, er mwyn asesu pwy sy'n gymwys i bleidleisio.

Yn ei ganfyddiadau ar y Bil, mae’r Pwyllgor yn cydnabod y gefnogaeth aruthrol i'r egwyddor o gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, ond mae'n “teimlo'n gryf mai dim ond os gellir gwarantu diogelwch etholwyr sy’n agored i niwed y dylid gweithredu cofrestru awtomatig”. Mae'r Pwyllgor yn gwneud saith argymhelliad i fynd i'r afael â materion a nodwyd ganddo.

Pa gynigion eraill sydd yn y Bil a pha ymateb sydd wedi bod iddynt?

Mae'r Bil yn cynnwys nifer o gynigion eraill er mwyn ceisio sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru.

Platfform gwybodaeth newydd ar gyfer etholiadau

Byddai’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sefydlu platfform gwybodaeth ar-lein newydd ar gyfer etholiadau yng Nghymru. Dywed Llywodraeth Cymru y gallai gynnwys gwybodaeth megis rôl llywodraethau, gwybodaeth ymarferol ar ddeall etholiadau, a manylion ynghylch sut a phryd i bleidleisio. Mae hefyd yn dweud y gallai'r wefan gynnwys “datganiadau a gwybodaeth ymgeiswyr” ac y gallai fynd i'r afael â phryderon cynyddol am dwyllwybodaeth ar-lein.

Dywed Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Anabledd Cymru, RNIB Cymru ac academyddion y gallai platfform ar-lein fod yn offeryn defnyddiol i bleidleiswyr sy'n chwilio am wybodaeth y gallant ddibynnu arni. Roedd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru amheuon ynghylch yr angen am blatfform ac a fyddai digon o bobl yn ei ddefnyddio. Mynegodd eraill bryder ynghylch cynnwys datganiadau gan ymgeiswyr a allai fod yn ffug neu'n gamarweiniol, gan holi pwy fyddai’n gyfrifol am blismona cywirdeb y datganiadau.

Roedd y Pwyllgor yn cytuno y gallai darparu un platfform ar-lein fod yn ddefnyddiol i bleidleiswyr, yn enwedig rhai newydd. Mae hefyd yn argymell bod angen i'r platfform fod yn hygyrch i bob pleidleisiwr a bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch pwy fyddai'n atebol am gywirdeb y wybodaeth sy'n cael ei rhoi arno.

Cynyddu amrywiaeth

Mae’r Bil yn gwneud nifer o gynigion i gynyddu amrywiaeth yr ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiadau yng Nghymru. Mae'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi gwasanaethau ar waith i hyrwyddo amrywiaeth ymgeiswyr, sefydlu cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig ar gyfer ymgeiswyr anabl, ac ystyried sefydlu cynlluniau cymorth ariannol i bobl eraill a chanddynt nodweddion penodedig.

Mae cefnogaeth eang i'r mesurau hyn. Mae’r Pwyllgor yn eu croesawu ond yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y gall cynlluniau o dan y Bil ddarparu hyfforddiant i gynorthwyo ymgeiswyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ymdrin â cham-drin neu aflonyddu. Mae hefyd yn galw am gymorth ariannol i gynorthwyo gofalwyr di-dâl i sefyll mewn etholiadau.

Beth nesaf?

Bydd y Senedd yn pleidleisio i benderfynu a ddylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ar 6 Chwefror. Os bydd y Senedd yn penderfynu cefnogi'r Bil, bydd Aelodau o'r Senedd yn cael cyfle i ddiwygio'r Bil cyn i bleidlais derfynol gael ei chynnal. Gallwch ddysgu mwy am gyfnodau nesaf y Bil yn y canllaw hwn i'r broses ddeddfu yn y Senedd.

Gwnaeth Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd 27 o argymhellion ar y Bill. Cafodd y Bil ei ystyried hefyd gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd a'r Pwyllgor Cyllid, sydd hefyd wedi gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau.

Mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw penderfynu a ddylid derbyn neu wrthod yr argymhellion hyn.

Gallai pobl Cymru fod yn pleidleisio dros Senedd wahanol iawn ymhen dwy flynedd os bydd cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Senedd yn cael eu mabwysiadu. Y cwestiwn yw a fydd y mesurau a gynigir yn y Bil hwn yn llwyddo i annog mwy o bobl yng Nghymru i fwrw eu pleidlais.

Dilynwch y ddadl yn fyw ar 6 Chwefror ar Senedd.tv.


Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru