Dau arwydd ar ffens fetel ddu. Mae'r ddau arwydd yn Gymraeg a Saesneg.

Dau arwydd ar ffens fetel ddu. Mae'r ddau arwydd yn Gymraeg a Saesneg.

Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) – Crynodeb o’r Bil

Cyhoeddwyd 01/11/2023   |   Amser darllen munud

Gallai Bil newydd sy’n mynd drwy’r Senedd olygu y bydd cofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru yn perthyn i’r gorffennol.

Cyflwynwyd Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i’r Senedd ar 2 Hydref 2023.

Byddai’r Bil yn caniatáu i’r Llywodraeth gyflwyno cynlluniau peilot newydd lle byddai pleidleiswyr yn cael eu cofrestru yn awtomatig ar gyfer etholiadau datganoledig Cymru. At hynny, byddai’n sefydlu corff newydd Cymru gyfan i fod yn gyfrifol am gydgysylltu etholiadau Cymru, yn creu llwyfan ar-lein newydd gyda gwybodaeth i bleidleiswyr, ac yn cyflwyno mesurau i gynyddu amrywiaeth yn y Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae’r crynodeb hwn o'r Bil yn darparu trosolwg o’r darpariaethau yn y Bil, ac yn cyfeirio at ragor o wybodaeth.


Erthygl gan Philip Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru