Baneri Cymru A'r Wcráin

Baneri Cymru A'r Wcráin

Cymru ac Wcráin: flwyddyn yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 16/02/2023   |   Amser darllen munudau

Russia's aggressive actions against Ukraine have fundamentally challenged our vision of a Europe whole, free, and at peace.

Y rhain oedd geiriau arweinwyr y byd pan gynhaliodd Cymru Uwchgynhadledd NATO 2014 bron ddegawd yn ôl.

Roedd arwyddocâd o’r newydd i’r rhybudd hwnnw, a oedd yn rhan o Ddatganiad Cymru, pan lansiodd Rwsia ymosodiad llawn ar Wcráin o’r tir, o’r môr ac o’r awyr ar 24 Chwefror 2022.

Mae'r erthygl hon yn nodi blwyddyn ers dechrau’r rhyfel ac yn crynhoi'r camau a gymerwyd i ddangos undod ag Wcráin yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae'n dilyn ein herthyglau ar Ymateb cychwynnol y Senedd, ar effeithiau cynnar y rhyfel ar Gymru a diweddariadau rheolaidd ar sut mae anghenion Ffoaduriaid Wcráin yn cael eu bodloni.

“Mae trefn strategol Ewrop wedi newid”

Hon oedd neges y Prif Weinidog o Frwsel ym mis Mawrth 2022. Mae Ewrop wedi newid yn rhyfeddol ers hynny ac mae’n wahanol iawn i’r hyn oedd pan fu’r arweinwyr yn trafod Rwsia ar dir Cymru yn 2014.

Mae'r Ffindir a Sweden yng nghamau olaf y broses o ymuno â NATO, mae Wcráin wedi cymryd cam mawr tuag at fod yn aelod o'r UE ac mae’r Almaen wedi cytuno i anfon tanciau i Wcráin.

Mae’r Deyrnas Unedig wedi bod â rhan allweddol yn ymateb Ewrop i'r rhyfel.

Ni chafodd y modd y mae’r DU a’r UE yn cydgysylltu o ran amddiffyn ei ddatblygu fel rhan o Brexit, ond mae ymateb y Gorllewin wedi hwyluso cydweithredu rhwng y DU a’r UE yn y maes hwn. Roedd cynrychiolwyr o’r DU yn bresennol yng Nghymuned Wleidyddol Ewropeaidd yr UE, yn ei phroses Berlin ac ymunodd â'i phrosiect gallu i amddiffyn, sef PESCO.

 

Medi 4, 2014: Cyn-arweinwyr byd yn ystod Uwchgynhadledd NATO, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd yn 2014. O'r chwith i'r dde: Arlywydd Hollande, Ffrainc, Poroshenko, Llywydd Wcráin, Barack Obama, Arlywydd yr Unol Daleithiau, David Cameron, Prif Weinidog Prydain, Angela Merkel, Canghellor yr Almaen a Matteo Renzi, Prif Weinidog yr Eidal.

Nid oes neb ag unrhyw amheuaeth ar ochr pwy ydym ni, lywodraethau’r DU.

Dyma farn Llywodraeth y DU wrth egluro sut mae llywodraethau’r DU wedi cydlynu eu hymateb i’r “ymosodiad digymell ar yr Wcráin”.

Yn ôl adroddiadau a luniwyd gan Lywodraeth y DU, gyda'i gilydd maent wedi ystyried effeithiau'r rhyfel ar gadwyni cyflenwi byd-eang, ar brisiau nwyddau, ar gostau cynyddol, ac ar ddiogelwch bwyd, a sut i'w lliniaru. Maen nhw wedi cydlynu'r gwaith o ddarparu cyflenwadau meddygol ac wedi gwneud cynlluniau i groesawu pobl sy'n ffoi o Wcráin.

“Mae undod ar draws Ewrop yn rhywbeth mae’n rhaid inni ei ailddatgan nawr yn fwy nag erioed.”

Dyma ymateb Prif Weinidog Cymru ym mis Mawrth 2022. Cododd Cymru £5.3 miliwn yn y 24 awr gyntaf ar ôl y goresgyniad, a oedd yn cynnwys £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Ers hynny, mae Aelodau o’r Senedd, ymhlith pethau eraill, wedi:

Mae’r Senedd wedi pasio deddfau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu’r rhai sy’n cyrraedd o Wcráin, gan gynnwys gofal iechyd am ddim, eithriadau o ran y dreth gyngor ac ar gyfer anifeiliaid anwes sy’n cyrraedd

Ar 15 Chwefror, cytunodd yr Aelodau ar y cynnig a ganlyn:

Mae’r Senedd:

  1. Yn nodi bod y mis hwn yn nodi blwyddyn ers ymosodiad anghyfreithlon Vladimir Putin ar Wcráin.
  2. Yn condemnio'r ymosodiad ar Wcráin, a'r ymddygiad ymosodol parhaus yn ei herbyn, yn erbyn ei sofraniaeth ac yn erbyn ei chyfanrwydd tiriogaethol gan Ffederasiwn Rwsia.
  3. Yn cymeradwyo gwytnwch pobl Wcráin yn wyneb creulondeb Rwsia.
  4. Yn croesawu'r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a ddarperir i Wcráin gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
  5. Yn diolch i bobl Cymru am eu hymateb i'r gwrthdaro, gan gynnwys eu haelioni a'r croeso a roddwyd i ffoaduriaid o Wcráin.
  6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun tymor hir i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru.

“Bydd croeso cynnes yma i’r holl rai sy’n dod i Gymru.”

Ers dechrau'r goresgyniad mae mwy nag wyth miliwn o ffoaduriaid o Wcráin wedi’u dadleoli ledled Ewrop. Mewn ymateb i’r argyfwng dyngarol hwn, agorodd Llywodraeth y DU sawl llwybr mewnfudo ar gyfer y rheini a oedd yn ceisio noddfa. Roedd hyn yn cynnwys Cynllun 'Cartrefi i Wcráin' sef cynllun sy'n dibynnu ar unigolion sy’n noddi ffoaduriaid ac yn darparu llety iddynt am o leiaf chwe mis.

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n dod yn 'uwch noddwr'. Gan ddarparu cymorth cychwynnol i ffoaduriaid o Wcráin drwy rwydwaith o ‘ganolfannau croeso’, dywedodd y Prif Weinidog y byddai “croeso cynnes i’r holl rai sy’n dod i Gymru”.

Mae ceisiadau newydd o ran 'uwch noddwyr' wedi’u hoedi ers mis Mehefin 2022, fodd bynnag. Mae nifer y ffoaduriaid sy'n dod i Gymru wedi parhau i godi ac erbyn 7 Chwefror, roedd 6,437 wedi cyrraedd drwy'r cynllun 'Cartrefi i Wcráin', yn ôl Diweddariadau wythnosol Llywodraeth y DU ar y rhai sy'n cyrraedd.

Nifer y ceisiadau am fisa a fisas a gyhoeddwyd drwy'r cynllun Cartrefi i'r Wcráin ar 7 Chwefror 2023

Mae’r ffeithlun yn dangos nifer y ceisiadau am fisa a’r fisas a gyhoeddwyd drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin ar 7 Chwefror 2023

Mae diweddariadau wythnosol Llywodraeth y DU yn dangos bod nifer y rhai sy'n cyrraedd wedi arafu yn ystod y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae 2000 o fisas wedi’u rhoi i ffoaduriaid nad ydynt wedi cyrraedd Cymru. Er nad yw'r data yn nodi’r rhesymau pam nad ydynt wedi ceisio dod i Gymru ar ôl gwneud cais, mae'n golygu y gallai nifer y rhai sy'n cyrraedd godi yn y dyfodol.

Nifer y fisas a roddwyd a nifer y rhai a gyrhaeddodd Gymru rhwng 6 Ebrill 2022 a 7 Chwefror 2023

Mae’r ffeithlun yn dangos nifer y fisas a roddwyd a nifer y bobl a gyrhaeddodd Gymru rhwng 6 Ebrill 2022 a 7 Chwefror 2023

 

Ni chofnodwyd unrhyw ddata ar 27 Rhagfyr 2022 oherwydd y Nadolig

Wrth i'r rhyfel barhau, mae diwallu anghenion llety tymor hwy y ffoaduriaid wedi dod yn bryder allweddol. Mae ffoaduriaid yn cael eu cefnogi ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig, fel y dangosir ar y map isod.

Dengys y ffeithlun bod ffoaduriaid yn cael eu cefnogi ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig. Dangosir nifer y ffoaduriaid ym mhob ardal ar fap o Gymru.

Canfu Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol y Senedd wrth edrych yn fanwl ar y mater hwn, yn ogystal â chefnogi ffoaduriaid o Wcráin bod awdurdodau lleol eisoes dan bwysau i ddod o hyd i dai ar gyfer bron 9,000 o bobl sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd.

Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cwtogi rhywfaint ar y cymorth a ddarperir i ffoaduriaid o Wcráin mewn llety dros dro. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU hefyd newidiadau i'r ffordd y mae'n ariannu'r cynllun Cartrefi i Wcráin. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn “siomedig” gyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i leihau cyllid i awdurdodau lleol.

Mewn datganiad diweddar, dywedodd y Gweinidog ei bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarganfod pa gyfran o’r gronfa o £150 miliwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer cefnogaeth tai i bobl Wcráin a ddaw i Gymru:

We've put forward a proposal and we've been clear that clarity is needed urgently to enable local authorities to plan sufficiently.

Yn ei chyllideb ddrafft dyrannodd Llywodraeth Cymru £40 miliwn i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yn 2023-24, gan ostwng hwn i £20 miliwn ar gyfer 2024-25. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol ill dau wedi mynegi pryder y gallai natur anrhagweladwy’r gwrthdaro roi “pwysau sylweddol ar y dyraniad cyllidebol”.

Mae’r rhyfel yn “pwyso’n drwm” ar yr economi byd-eang

Mae'r gwrthdaro wedi sbarduno prisiau ynni cynyddol, gan greu effeithiau negyddol ar dwf economaidd yn enwedig yn Ewrop.

Er bod y DU wedi osgoi dirwasgiad o drwch blewyn yn 2022 ac y disgwylir i lefel chwyddiant ostwng erbyn 2023, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) ill dau yn disgwyl twf economaidd negyddol yn y DU yn 2023 ac maent yn rhagweld mai’r DU fydd yn gwneud waethaf o blith gwledydd yr economïau mawr, a hynny o ganlyniad i nifer o ffactorau. Diwygiodd yr IMF ei ragfynegiadau twf ar gyfer economi’r DU yn ddiweddar, gan nodi bod prisiau ynni sy’n parhau yn uchel yn effeithio ar gyllidebau cartrefi, ynghyd â ffactorau sy’n benodol i’r DU, gan gynnwys “polisïau cyllidol ac ariannol ac amodau ariannol llymach”.

Roedd dros hanner (56 y cant) yr oedolion sydd wedi dod i'r DU o dan gynlluniau dyngarol Wcráin yn gweithio ym mis Hydref/Tachwedd 2022, ac roedd chwarter y rheini’n gweithio yn y sector lletygarwch. Mae hwn yn un o'r ffactorau sy’n egluro pam fod rhagor o oedolion sydd wedi dod i’r DU gyda chymorth y cynlluniau hyn yn gallu cynnal eu hunain a'u dibynyddion o gymharu ag yn gynharach eleni.

Ar ddechrau'r rhyfel, gwnaed rhagfynegiadau ar ei effeithiau posibl ar rannau o economi Cymru, gan gynnwys y sector cerbydau trydan a’r sector lled-ddargludyddion. Mae Llywodraeth Cymru yn adnewyddu ei Chynllun Gweithgynhyrchu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ymatebol o ran yr heriau pwysicaf y mae'r sector yn eu hwynebu yng ngoleuni'r rhyfel a chostau ynni cynyddol.

“Rhyddid a gaiff y fuddugoliaeth”

Wrth i'r gaeaf gilio ac wrth i’r ofnau am ymosodiad arall ar raddfa fawr gan Rwsia ddychwelyd, cadarnhaodd y Senedd unwaith eto ei hundod ag Wcráin. Nid oedd dim amheuaeth y byddai’r Aelodau yn sefyll ochr yn ochr ag Wcráin ac y byddant yn gwneud hynny am gyhyd ag y bydd ei angen.

Ar 8 Chwefror, diolchodd yr Arlywydd Zelenksy i bobl y DU, a phobl Cymru, am eu cydsafiad a’u cefnogaeth. Dywedodd::

We know freedom will win. We know Russia will lose.

And we really know the victory will change the world, and this will be a change the world has long needed.

The United Kingdom is marching with us towards the most important victory of our lifetime.


Erthygl gan Sara Moran, Claire Thomas a Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru