Y Gymraeg, twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau: yn ffynnu ynteu’n goroesi?

Cyhoeddwyd 25/09/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen 11 munudau

Dyma’r wythfed erthygl ein cyfres ddeg rhan sy’n edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru wrth gyflawni ei Rhaglen Lywodraethu. Yma rydym yn trafod yr amcan llesiant i “Fwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a'r celfyddydau i ffynnu”.

Mae 14 o ymrwymiadau penodol o dan yr amcan eang hwn ar gyfer y Cabinet cyfan, y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch yn ei Hadroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Mae yna hefyd ymrwymiadau gweinidogol perthnasol.

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.

Mae Cymraeg 2050, sef strategaeth iaith Gymraeg 2017 Llywodraeth Cymru, yn gosod targed uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, a dyblu ei defnydd dyddiol. Mae’n ceisio gwrthdroi’r duedd ddiweddar yn nata’r Cyfrifiad, a welodd ganran y siaradwyr Cymraeg yn disgyn o 19% yn 2011 i 17.8% yn 2021.

Disgrifiodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y canlyniadau, a oedd yn cynnwys gostyngiad o 6 pwynt canran yn nifer y siaradwyr Cymraeg ifanc (3-15 oed), yn “siomedig”. Dros dri degawd, cofnododd y Cyfrifiad gynnydd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg ifanc, gan adlewyrchu twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg dros y cyfnod hwnnw. Ond gyda phob awdurdod lleol bellach yn nodi gostyngiad, a yw’r uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn gyraeddadwy?

“Holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus”

Mae’r ganran o ddisgyblion Blwyddyn 2 (7 oed) sy’n dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf wedi aros yn sefydlog dros y degawd diwethaf (22.2% yn 2011/12 - 23.1% yn 2021/22), gyda Llywodraeth Cymru yn methu ei tharged i gynyddu hyn i 24% erbyn 2021. Cyhoeddodd y Prif Weinidog fil addysg y Gymraeg yn ddiweddar a fydd yn cael ei gyflwyno yn ystod 2023-24. Bydd y Bil yn anelu at gynorthwyo “holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus”. Bydd yn ceisio diwygio sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ac yn hyrwyddo darpariaeth Gymraeg, ac yn darparu catalydd ar gyfer symud ysgolion ar hyd continwwm y Gymraeg.

Mae buddsoddiad yn allweddol i ddatblygu darpariaeth addysg Gymraeg. Ym mis Tachwedd 2022, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru gyllid o £7.1m ar gyfer 2022-23, ar ben £30m mewn grantiau cyfalaf cyfrwng Cymraeg a gyhoeddwyd yn flaenorol i gynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae hefyd yn dyrannu £2.2m y flwyddyn ar gyfer gweddill y Senedd hon i ddatblygu darpariaeth trochi hwyr yn y Gymraeg. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi disgyblion sy’n dechrau addysg cyfrwng Cymraeg yn hwyr. Er bod rhai awdurdodau wedi defnyddio’r cyllid hwn i hybu’r ddarpariaeth bresennol, mae wyth awdurdod, gan gynnwys Torfaen, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, wedi creu eu canolfannau trochi hwyr cyntaf erioed.

Gweithredu safonau’r Gymraeg

Mae datblygu capasiti’r Gymraeg mewn sefydliadau yn allweddol i gynyddu ei defnydd dyddiol ymhlith y gweithlu a chyda defnyddwyr gwasanaeth. Mynegodd Comisiynydd blaenorol y Gymraeg rwystredigaeth gyda’r cynnydd cyfyngedig o ran cyflwyno rhagor o ddyletswyddau Cymraeg, gyda dim ond un set o reoliadau safonau’r Gymraeg wedi’u pasio gan y Senedd yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Adolygodd Llywodraeth Cymru y broses yn dilyn argymhelliad gan un o Bwyllgorau’r Senedd, gan gyflawni ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i symleiddio’r safonau. Gweithredodd y newidiadau hyn o fewn y safonau rheoliadau newydd ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd, gan sicrhau eu bod yn “cyfrannu at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg”.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau drafft yn ddiweddar ar gyfer cyrff dŵr a charthffosiaeth, gyda’r bwriad o hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg gyda’r cyhoedd. Mae rheoliadau pellach yn yr arfaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chymdeithasau tai.

Dywedodd strategaeth Cymraeg 2050 y byddai blynyddoedd cychwynnol y strategaeth yn “canolbwyntio ar osod y sylfeini”, gan gefnogi cynnydd yn niferoedd siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol. Er nad yw'r data presennol yn galonogol, bydd llunwyr polisi yn gobeithio y bydd y camau gweithredu yn troi’n ganlyniadau yn fuan.

A yw’r celfyddydau, chwaraeon a thwristiaeth yn ffynnu ar ôl argyfwng dirfodol?

Ers i’r pandemig ddechrau yn gynnar yn 2020, mae sefydliadau celfyddydol, chwaraeon a thwristiaeth wedi wynebu bygythiadau dirfodol ar raddfa na phrofwyd yn ein hoes. Yn y cyd-destun hwn, efallai y bydd nod Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn “ffynnu” ymddangos yn uchelgeisiol.

Daeth etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021 yn union fel y daeth perfformiadau byw dan do yn bosibl, yn amodol ar fesurau rheoli COVID, am y tro cyntaf yng Nghymru ers y cyfnod clo cyntaf. Cafwyd normalrwydd am gyfnod byr o fis Awst 2021, cyn i fesurau gael eu hailgyflwyno mewn ymateb i'r amrywiad Omicron oedd ar gynnydd yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Dim ond ym mis Ebrill 2022 yr ailddechreuodd busnes arferol, yn union fel y chwyddodd chwyddiant, a hynny wedi’i ysgogi yn sgil y cynnydd mewn costau ynni.

Allan o’r badell ffrio…

Yn ystod cyfnod masnachu arferol, mae lleoliadau celfyddydol llai yn gweithredu heb lawer o elw – os o gwbl. Mae’r rhain yn cael eu gwasgu gan chwyddiant ar hyd eu cadwyni cyflenwi yn ogystal â llai o incwm, gan fod presenoldeb yn parhau i fod yn is na’r lefelau cyn COVID. Mae rhai chwaraeon hefyd yn wynebu materion penodol, er enghraifft mae defnydd uchel o ynni, yn ogystal â chynnydd mewn costau ar gyfer cemegau hanfodol, yn rhoi pyllau nofio mewn sefyllfa fregus iawn. Dywedodd Cyngor y Celfyddydau wrth Bwyllgor Diwylliant y Senedd ym mis Medi 2022: “Mae’r argyfwng sy’n wynebu’r sector erbyn hyn, yr un mor fawr ag unrhyw beth a welsom yn y ddwy flynedd diwethaf”.

Presenoldeb yn y celfyddydau (2019-20 a 2022-23)

Graff bar yn dangos bod pob math o bresenoldeb yn y celfyddydau yn is yn 2022-23 nag yn 2019-20, gyda nifer y bobl sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn digwyddiad diwylliannol deirgwaith neu fwy y flwyddyn i lawr o 70% i 65%.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth wedi rhybuddio mai 2023 fydd y flwyddyn waethaf ar gyfer cau lleoliadau ar lawr gwlad ers sefydlu’r elusen yn 2014. Ledled y DU, mae nifer y digwyddiadau a gynhelir mewn lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad i lawr 17% o gymharu â 2019.

Mae’r sefyllfa ar gyfer chwaraeon yn fwy cynnil. Mae cyfranogiad oedolion mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos hyd at 39%, sef cynnydd o chwe phwynt canran, y lefelau cyn y pandemig. Ond mae 38% o oedolion yn dweud bod costau byw uwch wedi lleihau eu gallu i fod yn actif. Yn y cyfamser, mae pobl ifanc yn gwneud llai o chwaraeon y tu allan i'r ysgol nag yr oeddent yn 2018, gyda bwlch cynyddol mewn cyfranogiad rhwng y rhai o’r cefndiroedd mwyaf a lleiaf difreintiedig.

Cynnydd cymedrol mewn cyllid yn cael ei drechu gan chwyddiant

Gwariodd Llywodraeth Cymru dros £140m yn cadw sefydliadau diwylliant a chwaraeon i fynd yn ystod y pandemig, gan atal nifer ohonynt i gau’n barhaol. Ond mae wedi bod yn amharod i ddarparu cyllid pwrpasol i helpu'r un sectorau oroesi'r storm costau byw, er gwaethaf galwadau gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (y Pwyllgor Diwylliant) a Phwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd.

Yn lle hynny, mae wedi darparu codiad refeniw cymedrol i’r prif gyrff a ariennir yn gyhoeddus yn y meysydd hyn – 3% i Gyngor y Celfyddydau, 7% i’r Amgueddfa Genedlaethol a’r Llyfrgell Genedlaethol a 5% i Chwaraeon Cymru yng nghyllideb 2023-24 (mae chwyddiant ar hyn o bryd yn 7%).

Gwrthododd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth alwad y Pwyllgor i drafod pecyn ariannu brys diwylliant a chwaraeon ar gyfer y DU gyfan gyda Llywodraeth y DU, gan ddweud mai “mater i Lywodraeth y DU yw hwn”.

Ers 2016 mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar gynigion ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol. Gwnaeth astudiaeth ddichonoldeb yn 2018 gynnig “model ar wasgar” – gydag 8-10 safle rhanbarthol a sefydliad angori – y byddai ei gostau rhedeg yn fwy na chyfanswm dyraniad blynyddol Cyngor y Celfyddydau ar gyfer y celfyddydau gweledol a chymhwysol. Er nad yw’r gwaith adeiladu wedi dechrau eto, mae Llywodraeth Cymru yn parhau a’r trywydd cyn y pandemig a chyn i chwyddiant godi. A yw hyn yn dal i edrych yn ddefnydd yr un mor ddoeth o adnoddau cyfyngedig ag yr oedd yn 2018?

Storm yn magu

Ym mis Medi 2022 roedd Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni Llywodraeth y DU yn achubiaeth i’r rhai sy’n delio â chostau ynni cynyddol. O fis Ebrill 2023 ymlaen, mae Llywodraeth y DU wedi darparu cymorth wedi’i gwtogi, er bod rhai sectorau – gan gynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd a safleoedd hanesyddol – yn derbyn cymorth ychwanegol. Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth fod y cynllun newydd yn annigonol, felly mae’n siŵr o arwain at gau lleoliadau’n barhaol.” Dywedodd y sefydliad chwaraeon UK Active y bydd yn achosi cyfyngiadau gwasanaeth pellach, cau lleoliadau, a cholli swyddi.

Rhagwelir y bydd costau ynni yn aros uwchlaw lefelau 2022 tan ddiwedd y 2030au, a gyda llai o incwm a chymorth gan y llywodraeth, sut y bydd y celfyddydau a chwaraeon yn ymdopi â biliau ynni y gaeaf hwn?

“Heriol i aros yn broffidiol”

Mae twristiaeth yn cyfrif am 11.3% o gyflogaeth a 5% o GYC, ac yn un o sectorau pwysicaf economi Cymru. Mae’r heriau y mae’r sector wedi’u hwynebu dros y tair blynedd diwethaf hefyd yn gyfarwydd, yn gyntaf yn sgil y pandemig ac yn fwy diweddar yn sgil cynnydd yng nghostau byw.

Mae casgliadau diweddaraf arolwg Llywodraeth Cymru o fusnesau twristiaeth, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, yn egluro:

Mae costau gweithredu uchel a chwmpas cyfyngedig i godi prisiau yn ystod cyfnod o gostau byw uchel i ddefnyddwyr yn ei gwneud hi'n heriol i aros yn broffidiol.

Ardoll ymwelwyr

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu sy’n nodi y bydd yn “cyflwyno deddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth” (y mae Llywodraeth Cymru bellach yn cyfeirio ati fel ‘ardoll ymwelwyr’). Ymgynghorodd ar gynigion i gyflwyno ardoll ddewisol ar ymwelwyr dros nos i:

…gynhyrchu refeniw i awdurdodau lleol ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith lleol sy'n rhan annatod o'r profiad i ymwelwyr.

Roedd 78% o ymatebwyr yn anghytuno y dylai awdurdodau lleol gael y pŵer i gyflwyno ardoll ymwelwyr. Fodd bynnag, roedd dadansoddiad gan Lywodraeth Cymru o’r ymatebion yn dangos bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a ymhelaethodd ar y rhesymau y tu ôl i’w barn ar y cwestiwn hwn yn canolbwyntio ar yr agwedd leol neu ganolog ar weithredu, yn hytrach na gweithredu’r ardoll ei hun.

Mae’n siŵr y bydd y mater hwn yn rhan fawr o’r gwaith craffu ar y cynigion deddfwriaethol pan gânt eu cyflwyno i’r Senedd, a ddisgwylir cyn diwedd 2024.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau

1. Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel

Darllenwch fwy am yr amcan llesiant hwn yn ein herthygl "A yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i wireddu ei gweledigaeth o Gymru iachach?".

  • Cyflwyno cod ymarfer statudol ar gyfer darparu gwasanaethau awtistiaeth.
  • Datblygu cynllun gweithredu HIV i Gymru.
  • Cyflwyno fframwaith Cymru gyfan i gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol i helpu pobl sy’n teimlo’n ynysig.
  • Cyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed ‘o fewn cyrraedd’ mewn ysgolion ledled Cymru.
  • Blaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau i wella dulliau ataliol, mynd i’r afael â stigma a hyrwyddo dull dim drws anghywir o ddarparu cymorth iechyd meddwl.
  • Adolygu cynllunio llwybr cleifion a chyllid hosbisau. Datblygu cynllun gweithredu HIV i Gymru.
  • Diwygio gofal sylfaenol, gan ddod â gwasanaethau meddygon teulu, fferylliaeth, therapi, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, y gymuned a’r trydydd sector at ei gilydd.
  • Darparu gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
  • Darparu triniaethau a ohiriwyd yn sgil y pandemig.
  • Sefydlu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd.
  • Blaenoriaethu buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
  • 2. Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed

    Darllenwch fwy am yr amcan llesiant hwn yn ein herthygl "Cefnogi pobl sy’n 'agored i niwed': beth mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni? ".

  • Atal teuluoedd rhag chwalu drwy ariannu gwasanaethau eirioli i rieni y mae eu plant mewn perygl o ddod yn rhan o’r system ofal.
  • Cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel ‘rhiant corfforaethol’.
  • Ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mor agos at eu cartrefi â phosibl ac yng Nghymru lle bynnag y bo hynny’n ymarferol.
  • Dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.
  • Ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal.
  • Darparu cymorth arbenigol ychwanegol i blant ag anghenion cymhleth a allai fod ar gyrion y system ofal.
  • Parhau i gefnogi ein rhaglenni Dechrau’n Deg blaenllaw.
  • Sefydlu grŵp arbenigol i gynghori erbyn mis Ebrill 2022 ar y camau gweithredu ymarferol ar gyfer cyflenwi gwasanaeth gofal cenedlaethol sy’n rhad ac am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen.
  • Ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion gwaith.
  • Cefnogi datblygiadau tai arloesol i ddiwallu anghenion gofal.
  • Deddfu i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ymhellach.
  • Cynyddu prentisiaethau ym maes gofal a recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg.
  • Talu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal a, chan weithio gyda phartneriaid cymdeithasol drwy’r Fforwm Gwaith Teg, ystyried camau pellach tuag at sicrhau cydnabyddiaeth a gwobrwyo cydradd i weithwyr gofal.
  • Mynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg.
  • 3. Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol

    Darllenwch fwy am yr amcan llesiant hwn yn ein herthygl "Adeiladu’r economi: A yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo i sicrhau gwaith teg, cynaliadwyedd ac economi’r dyfodol?".

  • Cefnogi’r gwaith o greu Banc Cymunedol i Gymru.
  • Ceisio targed o 30% ar gyfer gweithio o bell.
  • Galluogi canol ein trefi i ddod yn fwy ystwyth yn economaidd drwy helpu busnesau i weithio’n gydweithredol, cynyddu eu cynnig digidol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol, gan gynnwys gwasanaethau cyflenwi lleol.
  • Datblygu Her Morlyn Llanw a chefnogi syniadau a all wneud Cymru yn ganolfan fyd-eang i dechnolegau llanw sy’n dod i’r amlwg.
  • Cefnogi cynigion TUC Cymru i aelodau undeb ddod yn Gynrychiolwyr Gwyrdd yn y gweithle.
  • Cyflwyno’r Warant i Bobl Ifanc, gan roi i bawb o dan 25 oed y cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth.
  • Defnyddio’r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i helpu i gau’r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy’n gweithio.
  • Rhoi sail ddeddfwriaethol i’r bartneriaeth gymdeithasol drwy’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
  • Creu 125,000 o brentisiaethau pob oed.
  • Cryfhau ein Contract Economaidd.
  • 4. Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl

    Darllenwch fwy am yr amcan llesiant hwn yn ein herthygl "Datgarboneiddio economi Cymru: Sbotolau ar drafnidiaeth ac amaethyddiaeth".

  • Cyflwyno cyfnod pontio i’r cynllun cymorth ffermio newydd, gan gynnwys parhau â thaliadau sefydlogrwydd, y tu hwnt i dymor y Senedd bresennol.
  • Creu system newydd o gymorth ffermio a fydd yn cynyddu pŵer amddiffynnol natur drwy ffermio, gan werthfawrogi anghenion penodol ffermydd teuluol yng Nghymru a chydnabod y broses o gynhyrchu bwyd lleol sy’n ecolegol gynaliadwy.
  • Datblygu cronfa prif ffyrdd newydd i wella atyniad a bioamrywiaeth ardaloedd wrth ymyl prif lwybrau trafnidiaeth Cymru.
  • Bwrw ymlaen ag adroddiad Comisiwn Burns ar gyfer Casnewydd.
  • Gweithio tuag at ein targed newydd o 45% o deithiau drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040, gan bennu nodau mwy ymestynnol lle bo hynny’n bosibl.
  • Rhoi ein Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru ar waith.
  • Adeiladu ar lwyddiant ein cynllun teithio am ddim i bobl hŷn ac edrych ar sut y gall prisiau teg annog teithio integredig.
  • Codi’r gwaharddiad ar awdurdodau lleol rhag sefydlu cwmnïau bysiau trefol newydd.
  • Creu sylfaen ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru.
  • Darparu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru ac uwchraddio ein seilwaith digidol a chyfathrebu.
  • Lansio Cynllun Buddsoddi 10 mlynedd newydd yn Seilwaith Cymru gyfer economi ddi-garbon.
  • Deddfu i foderneiddio’r sector tacsis a cherbydau preifat a mynd i’r afael â phroblemau croesffiniol.
  • 5. Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn

    Darllenwch fwy am yr amcan llesiant hwn yn ein herthygl "Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur: A oes angen mwy o gynnydd i gyflawni ymrwymiadau'r llywodraeth?".

  • Datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru.
  • Ehangu trefniadau i greu neu wella mannau gwyrdd yn sylweddol.
  • Cynnal ein polisi o wrthwynebu cloddio am danwydd ffosil yng Nghymru, ar dir ac yn nyfroedd Cymru, gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael inni.
  • Cefnogi 80 o ganolfannau ailddefnyddio ac atgyweirio yng nghanol trefi.
  • Cyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru, yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ac ehangu’r ddarpariaeth o fonitro ansawdd aer.
  • Sicrhau diogelwch tomenni glo drwy gyflwyno deddfwriaeth i ddelio â gwaddol canrifoedd o fwyngloddio, gan gryfhau pwerau’r awdurdodau lleol i sicrhau bod y cyhoedd a’r amgylchedd yn cael eu diogelu.
  • Manteisio ar botensial economaidd, diwylliannol a hamdden y Goedwig Genedlaethol gan adeiladu ar ein cynnydd tuag at greu diwydiant coed cynaliadwy.
  • Dynodi Parc Cenedlaethol newydd i gwmpasu Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
  • Cyflwyno cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr i gymell busnesau i leihau gwastraff.
  • Deddfu i ddiddymu’r defnydd o blastigau untro sydd yn aml yn cael eu taflu fel sbwriel.
  • Gweithio tuag at sefydlu Corff Llywodraethu Amgylcheddol, dyletswydd statudol a thargedau ar gyfer diogelu ac adfer bioamrywiaeth.
  • Creu Coedwig Genedlaethol i ymestyn o’r Gogledd i’r De.
  • Mynd ar drywydd datganoli’r pwerau sydd eu hangen i’n helpu i gyrraedd sero net, gan gynnwys rheoli Ystad y Goron yng Nghymru.
  • Comisiynu cyngor annibynnol a fydd yn ymchwilio i lwybrau posibl tuag at sero net erbyn 2035.
  • 6. Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi

    Darllenwch fwy am yr amcan llesiant hwn yn ein herthygl "Diwygio addysg: Cenhadaeth Llywodraeth Cymru i wella safonau a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau".

  • Datblygu strategaeth arloesi genedlaethol newydd, sy’n seiliedig ar genhadaeth, i’w gweithredu ar draws y llywodraeth a chan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
  • Mynd â’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) drwy’r Senedd.
  • Gwella’r trefniadau ar gyfer addysgu hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod, fel rhan fandadol o’r cwricwlwm newydd.
  • Datblygu model cynaliadwy ar gyfer darpariaeth athrawon cyflenwi sydd â gwaith teg yn ganolog iddo.
  • Ymchwilio i ddiwygio’r diwrnod ysgol a’r flwyddyn ysgol.
  • Cynyddu’r cyfleoedd i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig gymryd rhan yn Rhwydwaith Seren.
  • Parhau i fodloni’r cynnydd yn y galw am Brydau Ysgol Am Ddim sy’n deillio o’r pandemig ac adolygu’r meini prawf cymhwysedd, gan ymestyn yr hawl cyn belled ag y mae adnoddau yn caniatáu ac i bob plentyn ysgol gynradd o leiaf.
  • Adeiladu ar Raglen Gwella Gwyliau’r Haf.
  • Ariannu hyd at 1,800 o staff tiwtora ychwanegol yn ein hysgolion.
  • Buddsoddi yn amgylchedd dysgu ysgolion cymunedol, cydleoli gwasanaethau allweddol, a sicrhau ymgysylltiad cryfach â rhieni a gofalwyr y tu allan i oriau traddodiadol.
  • 7. Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math

    Darllenwch fwy am yr amcan llesiant hwn yn ein herthygl "Dathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb: rhethreg neu realedd?".

  • Cryfhau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref.
  • Rhoi targedau ar waith ynghylch Cyllidebu ar sail Rhyw.
  • Parhau â’n partneriaeth gref â mudiadau gwirfoddol ar draws ein holl gyfrifoldebau.
  • Sicrhau bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru’n fwy hygyrch i bobl anabl.
  • Sicrhau bod hanes a diwylliant ein cymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cynrychioli’n briodol drwy fuddsoddi ymhellach yn ein sector diwylliannol a’n rhwydwaith amgueddfeydd.
  • Sicrhau bod cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n cael arian cyhoeddus yn mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog.
  • Edrych ar ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â bylchau cyflog ar sail rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd, a ffurfiau eraill ar wahaniaethu.
  • Gweithredu ac ariannu’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.
  • Treialu dull o ymdrin â’r Incwm Sylfaenol.
  • 8. Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu

    Darllenwch fwy am yr amcan llesiant hwn yn ein herthygl "Y Gymraeg, twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau: yn ffynnu ynteu’n goroesi?".

  • Mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu.
  • Datblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa’r Gogledd.
  • Cefnogi’r cais i nodi tirwedd lechi’r Gogledd-orllewin fel Safle Treftadaeth y Byd.
  • Buddsoddi yn ein theatrau a’n hamgueddfeydd, gan gynnwys ymrwymo i Theatr Clwyd, sefydlu’r Amgueddfa Bêl-droed a’r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol.
  • Ymgysylltu â sector y celfyddydau, y sector diwylliant a’r sector treftadaeth i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd.
  • Hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau llawr gwlad.
  • Ymchwilio i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru a darparu buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau i wella’r cyfryngau a newyddiaduraeth yng Nghymru.
  • Symleiddio’r broses ar gyfer gweithredu Safonau’r Gymraeg.
  • Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei siarad mewn rhagor o leoedd, gan gynnwys gweithleoedd.
  • Gweithredu safonau’r Gymraeg ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus; rheoleiddwyr yn y sector iechyd; cyrff cyhoeddus sydd newydd eu sefydlu a chwmnïau dŵr; a dechrau’r gwaith o weithredu safonau ar gymdeithasau tai.
  • Deddfu i gryfhau a chynyddu ein darpariaeth mewn addysg Gymraeg.
  • Cyflwyno deddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth.
  • Sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol.
  • Creu Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.
  • 9. Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt

    Darllenwch fwy am yr amcan llesiant hwn yn ein herthygl "Dinasoedd, trefi a phentrefi: gallant ond fod yn lleoedd “gwell fyth”".

  • Gwahardd parcio ar y palmant, ble bynnag y bo modd.
  • Gwneud 20mya yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl.
  • Parhau i adolygu trefniadau gweithio mewn partneriaethau rhanbarthol gyda phartneriaid lleol.
  • Sicrhau bod gan bob rhanbarth yng Nghymru ddull effeithiol ac atebol yn ddemocrataidd o ddatblygu economïau’r dyfodol.
  • Ystyried ble y gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i mewn i sector cyhoeddus cryfach.
  • Datgarboneiddio rhagor o gartrefi drwy ôl-osod, gan ddarparu swyddi o safon, hyfforddiant ac arloesedd a defnyddio cadwyni cyflenwi lleol.
  • Creu strategaeth ddiwydiannol sy’n seiliedig ar bren a all ddatblygu a chynnal cynhyrchu a phrosesu gwerth uchel i bren Cymru.
  • Bwrw ymlaen â chamau i osod terfyn ar nifer yr ail gartrefi, dod â rhagor o gartrefi o dan berchnogaeth gyffredin a thrwyddedu llety gwyliau.
  • Cyhoeddi Papur Gwyn i gyflwyno cynigion ar gyfer yr hawl i gartrefi digonol, gan gynnwys rhenti teg a ffyrdd newydd o sicrhau bod cartrefi’n rhai y gall pobl ar incwm lleol eu fforddio.
  • Diwygio cyfraith tai a gweithredu argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu’n gyflym.
  • Sefydlu Unnos, cwmni adeiladu cenedlaethol, i gefnogi cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.
  • Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel newydd i’w rhentu.
  • Cefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned, ac ymddiriedolaethau tir cymunedol.
  • 10. Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang

    Darllenwch fwy am yr amcan llesiant hwn yn ein herthygl "Cymru gartref a thramor".

  • Rhoi rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol gwerth £65 miliwn ar waith.
  • Sefydlu comisiwn sefydlog annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
  • Cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd, yn seiliedig ar 80 i 100 o Aelodau; system bleidleisio sydd yr un mor gyfrannol – neu’n fwy cyfrannol – â’r un bresennol a chyflwyno cwotâu rhywedd wedi’u pennu mewn cyfraith.
  • Hyrwyddo a chefnogi gwaith y Comisiwn Cyfansoddiadol ar gyfer y DU gyfan sy’n cael ei sefydlu gan Blaid Lafur y DU.
  • Sefydlu Academi Heddwch yng Nghymru.
  • Ceisio diwygio’r dreth gyngor i sicrhau system decach a mwy graddoledig.
  • Diwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau’r diffyg democrataidd.
  • Ailfywiogi ein perthynas efeillio ledled yr UE drwy Gronfa Gefeillio Pobl Ifanc.

  • Erthygl gan Osian Bowyer, Robin Wilkinson a Ben Stokes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

    *Cafodd yr erthygl hon ei golygu ar 23/1/24 ar ôl i Lywodraeth Cymru nodi gwall yng nghanlyniadau Arolwg Cenedlaethol 2023. Dilëwyd y cymal a ganlyn: “gyda nifer y bobl sy'n mynychu neu'n cymryd rhan mewn digwyddiad diwylliannol deirgwaith neu fwy y flwyddyn i lawr o 70% i 65%.”