“Un pryd y dydd os bydd pethau’n cynyddu mwy” – costau byw ac aelwydydd incwm isel

Cyhoeddwyd 11/11/2022   |   Amser darllen munudau

Mae aelwydydd ledled Cymru yn teimlo effeithiau costau byw cynyddol wrth i chwyddiant frathu. Disgwylir i incwm gwario ostwng tua £800 y flwyddyn nesaf, ac mae’r rhagolygon economaidd ar gyfer y blynyddoedd nesaf yn arswydus.

Darllenwch ein herthygl i weld sut mae chwyddiant a thorri’n ôl ar hanfodion yn taro’r aelwydydd incwm isaf galetaf. Edrychir hefyd ar effeithiolrwydd cymorth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran helpu’r rhai sydd â’r incwm isaf.

Mae costau cynyddol yn effeithio fwyaf ar aelwydydd incwm isel

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi canfod bod costau cynyddol ynni, bwyd a diod, sy’n nwyddau y mae aelwydydd incwm isel yn gwario cyfran uwch o'u hincwm arnynt, wedi ysgogi chwyddiant uwch ar gyfer aelwydydd incwm isel. Gwnaeth Sefydliad Astudiaethau Cyllid ragweld y byddai chwyddiant ym mis Hydref 2022 yn 14 y cant i aelwydydd tlotaf y DU o’i gymharu â 10 y cant i’r aelwydydd cyfoethocaf.

Ffigur 1: Chwyddiant rhagfynegol ym mis Hydref 2022 yn ôl incwm aelwyd (wedi'i dalgrynnu i'r % agosaf)

Graff yn dangos bod y gyfradd chwyddiant yn uwch i’r 10 y cant tlotaf o aelwydydd nag y mae i aelwydydd eraill.

 

Ffynhonnell: Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, “Even with inflation uprating, benefits next year are on course to be 6% below their pre-pandemic levels”

Canfu Sefydliad Bevan fod dros hanner yr aelwydydd yng Nghymru ag incwm o dan £40,000 wedi torri yn ôl ar ddillad i oedolion, gwres, trydan a dŵr yn ystod hanner cyntaf eleni.

Gwnaeth Cyngres yr Undebau Llafur adrodd bod tua chwarter yr aelwydydd mewn rhai etholaethau yn hepgor prydau bwyd neu’n mynd heb fwyd, gyda’r cyfraddau uchaf yn digwydd yn y Rhondda, Blaenau Gwent a Dwyrain Abertawe.

Ffigur 2: Canran yr aelwydydd yng Nghymru sy’n torri’n ôl ar eitemau hanfodol yn ôl lefel incwm aelwyd, Ionawr 2022-Gorffennaf 2022

Graff sy’n dangos bod aelwydydd tlotach yn fwy tebygol na chartrefi cyfoethocach o gwtogi ar gyfleustodau, dillad i oedolion, trafnidiaeth a bwyd i oedolion.

 

Ffynhonnell: Sefydliad Bevan, “A snapshot of poverty in Summer 2022” (2022)

Mae dangosfwrdd costau byw Cyngor ar Bopeth yn nodi sut mae costau byw cynyddol yn effeithio ar y bobl y mae yno i’w helpu:

  • Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cymorth argyfwng i fwy o bobl eleni nag mewn unrhyw flwyddyn arall a gofnodwyd.
  • Mae gan bron hanner y bobl a welir gan Gyngor ar Bopeth gyllideb negyddol, sy’n golygu bod angen iddynt wario mwy na’u hincwm ar hanfodion.
  • Mewn 19 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, dyledion ynni yw'r dyledion mwyaf cyffredin y mae ar bobl angen help gyda nhw.

Mae erthyglau blaenorol gennym ni’n egluro sut mae pwysau costau byw yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau penodol mewn cymdeithas, gan gynnwys pobl ag anableddau a menywod, a bydd erthygl ar yr effaith ar gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn dod allan yn fuan.

Methu â fforddio gwres, 'sioc wrth y til' a gorbryder - profiadau o gostau byw cynyddol

Yn gynharach eleni, dywedodd pobl wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y Senedd am y ffordd y mae costau byw cynyddol yn effeithio arnynt o ran gwres, bwyta a’u hiechyd meddwl.

Rydw i wedi bod yn eistedd yma dros y gaeaf gyda 2 bâr o sanau, pâr o sliperi, weithiau trowsus thermol, pâr arall o drowsus, top thermol, siwmper a blanced oherwydd nid wyf wedi bod yn rhoi’r gwres ymlaen oherwydd alla i ddim ei fforddio.” Cyfranogwr, grŵp ffocws Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Os byddan nhw (prisiau bwyd) yn parhau i godi, dydw i ddim yn mynd i allu cael dau bryd y dydd. Byddaf ar un pryd y dydd os bydd pethau'n cynyddu mwy." Cyfranogwr, grŵp ffocws Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Rydych chi'n cael ‘sioc wrth y til’, fel rydw i’n ei alw, pan fyddwch chi'n cyrraedd y ddesg dalu. Rydych chi'n dioddef o sioc wrth y til oherwydd does gennych chi ddim cymaint â hynny yn eich basged, ond mae'n ymddangos yn ddrud iawn ac rydych chi'n gwirio'ch derbynneb cyn i chi adael y siop i wneud yn siŵr bod y pris yn gywir.” Cyfranogwr, grŵp ffocws Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Rydw i a fy mhartner yn gweithio'n llawn amser ac rydyn ni'n dal i gael trafferth. Rwy'n teimlo’n bryderus iawn. Rwy'n teimlo'n sâl ac ni allaf fwyta. Dydw i ddim hyd yn oed wedi gwneud fy mil trydan yn iawn oherwydd mae'n fy llenwi â braw.” Cyfranogwr, grŵp ffocws Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Gwaith cyflog isel a chostau byw cynyddol

Mae tlodi mewn gwaith yng Nghymru wedi bod ar gynnydd ers nifer o flynyddoedd, a chanfu‘r Living Wage Foundation fod bron i bedwar o bob pump o weithwyr ar gyflog isel yn dweud mai’r sefyllfa bresennol yw’r cyfnod ariannol gwaethaf y maent erioed wedi’i wynebu.

Canfu’r SYG fod gostyngiad mawr yng nghanran y gweithlu sy’n cael eu talu’n llai fesul awr na’r cyflog byw gwirioneddol dros y blynyddoedd diwethaf hyd at Ebrill 2022, ond amser a ddengys a fydd y duedd hon yn parhau drwy'r cyfnod presennol. Canfu hefyd fod gostyngiad llawer llai wedi bod yn ystod y cyfnod hwn yng nghanran y gweithlu sy'n cael tâl wythnosol isel.

Mae twf cyflog ar ei uchaf ers pandemig y coronafeirws, ond ar ôl ei addasu ar gyfer chwyddiant, mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod tâl rheolaidd 2.9 y cant yn is mewn termau real nag yr oedd flwyddyn yn ôl. Mae gweithwyr yng Nghymru wedi cael codiadau cyflog uwch na’r cyfartaledd yn y DU, ond fel sy’n wir am weithwyr ledled y DU, mae'r rhain wedi bod yn is na chwyddiant.

Ffigur 3: Canran y newid mewn enillion canolrifol gros wythnosol yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, Ebrill 2021 i Ebrill 2022

Graff sy’n dangos canran y newid mewn tâl canolrifol gros wythnosol rhwng mis Ebrill 2021 a mis Ebrill 2022 yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Er bod tâl canolrifol gros wythnosol wedi cynyddu mwy yng Nghymru nag mewn llawer o rannau eraill o’r DU, mae’r cynnydd wedi bod yn is na chwyddiant.

 

Ffynhonnell: Yr Swyddfa Ystadegau Gwladol, “Earnings and hours worked, place of work by local authority”

Effeithiolrwydd cymorth costau byw ar gyfer aelwydydd incwm isel

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi darparu cymorth costau byw dros y misoedd diwethaf, ac mae rhestr ar gael yn ein canllaw i gostau byw, cymorth a gwybodaeth.

Mae Llywodraeth y DU wedi darparu cymysgedd o gymorth costau byw cyffredinol a chymorth wedi’i dargedu. Mae’r Resolution Foundation wedi croesawu‘r mesurau cymorth penodol a roddwyd ar waith, ond canfu y bydd y 10 y cant o aelwydydd sydd gyda’r tlotaf, hyd at fis Mawrth 2023, yn cael llai o gymorth drwy fesurau costau byw Llywodraeth y DU na gweddill y boblogaeth.

Mae’r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru wedi'i dargedu at aelwydydd incwm isel yn bennaf. Mae Sefydliad Bevan wedi galw am i 'system budd-daliadau Cymreig' gydlynol gael ei datblygu, i'w gwneud yn haws cael mynediad at y gwahanol gynlluniau ar sail prawf modd, ac mae wedi nodi cynigion am gymorth ychwanegol y dylai Llywodraeth Cymru ei gynnig. Mae niferoedd cymharol uchel o aelwydydd wedi manteisio ar y taliad o £150 drwy’r Cynllun Cymorth Costau Byw, ond yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, roedd chwarter yr aelwydydd a oedd yn gymwys ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf 2021-22 heb hawlio’r taliad hwn.

Bu dyfalu y bydd cyllideb arfaethedig Llywodraeth y DU yn cynyddu budd-daliadau yn unol ag enillion cyfartalog, yn hytrach na chwyddiant, o fis Ebrill 2023. Mae’r Resolution Foundation wedi dweud y byddai hyn yn drychineb yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw ac y byddai’n effeithio ar aelwydydd yng Nghymru yn fwy na llawer o rannau eraill o’r DU. Mae dadansoddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dangos y byddai hyn yn effeithio’n arbennig ar etholaethau yn y Cymoedd ac ardaloedd trefol yng Nghymru.

Ffigur 4: Canran y teuluoedd o oedran gweithio sy'n cael budd-daliadau ar sail prawf modd fesul etholaeth

 

Ffynhonnell: Sefydliad Joseph Rowntree, “New analysis shows vast scale of impact across parliamentary constituencies if benefits don’t rise by inflation”

Beth sydd nesaf?

Mae'n amlwg bod llawer o aelwydydd eisoes yn wynebu pwysau costau byw sylweddol, gydag aelwydydd incwm isel yn cael eu heffeithio'n arbennig. Mae Banc Lloegr yn credu y bydd allbwn economaidd yn gostwng tan ganol 2024, sy’n golygu mai hwn fyddai dirwasgiad hiraf y DU mewn canrif. Mae dirwasgiadau blaenorol wedi effeithio'n anghymesur ar y tlotaf, felly mae’n debygol y bydd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU lawer mwy i’w wneud i gefnogi aelwydydd incwm isel dros y misoedd nesaf.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar bwysau costau byw ar 16 Tachwedd.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru