Gwraig busnes yn arwain cyflwyniad

Gwraig busnes yn arwain cyflwyniad

Gwaith teg a gwell gwasanaethau cyhoeddus? Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 28/11/2022   |   Amser darllen munud

Nod y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yw gwella gwasanaethau cyhoeddus drwy “weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol”. Fe’i cyflwynwyd yn y Senedd ym mis Mehefin 2022, ac mae’n cyflawni’r ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i ddatblygu trefniadau deddfwriaethol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol.

Mae ein herthygl yn rhoi gwybodaeth gefndir am y Bil, yn egluro’r hyn mae’n ei wneud, ac yn nodi’r materion allweddol a ystyriwyd gan Bwyllgorau’r Senedd.

Gweler ein Crynodeb o’r Bil am ragor o fanylion.

Beth mae partneriaeth gymdeithasol yn ei olygu?

Mae partneriaeth gymdeithasol yn elfen hirsefydlog o systemau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ar draws y byd, ac mae wedi hen ymsefydlu yng Nghymru. Mae’n rhywbeth sydd wedi cael ei ddefnyddio i ymateb i sefyllfaoedd megis argyfwng ariannol 2008 a’r pandemig COVID, yn ogystal â materion parhaus mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu.

Mae’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn nodi bod partneriaeth gymdeithasol:

Includes all types of negotiation, consultation or exchange of information between or among representatives of governments, employers and workers on issues of common interest relating to economic and social policy.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn ‘genedl gwaith teg’. Sefydlodd Gomisiwn Gwaith Teg, a wnaeth 48 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch sut i wneud cynnydd tuag at y nod hwn o fewn terfynau datganoli. Yn ôl y Comisiwn, ystyr gwaith teg yw bod:

…gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynrychioli’n deg, bod ganddynt sicrwydd a'u bod yn gallu dod yn eu blaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau’n cael eu parchu.

Mae sector cyhoeddus Cymru’n gwario tua £7 biliwn y flwyddyn ar gaffael nwyddau a gwasanaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol fel “Gweithredu, wrth brynu nwyddau, gwaith a gwasanaethau, i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.”

Beth fydd y Bil yn ei wneud?

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn dweud y bydd y Bil yn:

  • Sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
  • Gosod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i “geisio consensws neu gyfaddawd” gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig wrth bennu eu hamcanion llesiant a chyflawni'r amcanion hynny.
  • Creu dyletswydd statudol ar gyfer Gweinidogion Cymru i ymgynghori drwy'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wrth gyflawni eu hamcanion llesiant.
  • Diwygio nod “Cymru ffyniannus” yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 drwy roi “gwaith teg” yn lle “gwaith addas”.
  • Ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol i ystyried caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol wrth gynnal caffael cyhoeddus; pennu amcanion caffael mewn perthynas â nodau llesiant; a chyhoeddi strategaethau caffael.
  • Ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus gyflawni dyletswyddau rheoli contractau i sicrhau bod canlyniadau cymdeithasol gyfrifol yn cael eu ceisio drwy gadwyni cyflenwi.
  • Gosod dyletswyddau adrodd ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus penodol mewn perthynas â'r dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus cyfrifol.

Gallwch ddefnyddio ein cynhyrchydd cymalau rhyngweithiol i weld beth mae pob adran o'r Bil yn ei wneud.

Dewis categori:

Dewiswch adran:

Adran 1

Mae adran 1 yn sefydlu'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ac yn nodi ei ddiben.

Mae mwyafrif o Aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn y Senedd yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Fodd bynnag, galwodd y Sefydliad Materion Cymreig am fwy o ffocws ar y canlyniadau y gellir eu cyflawni drwy’r Bil, megis cyflogau, amodau gwaith a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Pwyllgor am i Lywodraeth Cymru weithio ar frys gyda phartneriaid cymdeithasol i gytuno ar ganlyniadau diriaethol i weithio tuag atynt, a sut i’w mesur.

Sut y bydd y Bil yn helpu i sicrhau partneriaeth gymdeithasol effeithiol a gwaith teg?

Mae gwahanol wledydd yn defnyddio gwahanol ddulliau o weithredu partneriaeth gymdeithasol. Mae rhai gwledydd megis Denmarc a’r Iseldiroedd wedi deddfu i roi sail i drefniadau partneriaeth gymdeithasol, gydag eraill megis Sweden ac Awstria yn defnyddio dulliau mwy anffurfiol.

Roedd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn bryderus ynghylch a fyddai dull deddfwriaethol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol yn caniatáu’r hyblygrwydd angenrheidiol i ymateb i sefyllfaoedd wrth iddynt ddatblygu. Fodd bynnag, roedd Nisreen Mansour o Gyngres Undebau Llafur Cymru o’r farn y byddai deddfwriaeth yn sicrhau dull mwy cyson, gan ddweud:

…we're just not sure how you would ever get to that point of having this whole kind of social partnership system, kind of led by a council, but also being supported by what's happening in our public bodies at a local level, without that legislation to bring about that very coherent and consistent approach.

Gwnaeth sefydliadau busnes ac undebau llafur amlygu effaith gadarnhaol y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol yn ystod cyfnod mwyaf difrifol y pandemig. Dywedodd Paul Slevin o Siambrau Cymru fod hyn oherwydd canolbwynt cryf, agenda gref a'r ffaith bod y bobl iawn wrth y bwrdd i sicrhau'r canlyniadau cywir. Fodd bynnag, nododd hefyd nad oedd cymaint o ffocws ar ôl hyn.

Er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cylch gorchwyl â ffocws ar gyfer y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, ac y dylai gyhoeddi unrhyw waith a wnaed i werthuso'r Cyngor Cysgodol.

Amlygodd yr Athro Alan Felstead y ffaith bod y darpariaethau yn y Bil ar gyfer gwaith teg yn wahanol i’r rhai sydd yn y Bil drafft. Mae’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn AS, wedi dweud bod y dull diwygiedig o ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn adlewyrchu’n well y gred y gall hyrwyddo gwaith teg gefnogi’r cysylltiad rhwng llesiant unigol a llesiant cyfunol.

Fodd bynnag, wrth bennu amcanion llesiant, mae cyrff cyhoeddus wedi canolbwyntio mwy ar dwf economaidd a chyflogaeth yn hytrach nag ansawdd gwaith. Gwnaeth Marie Brousseau-Navarro, Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, dynnu sylw at ddadansoddiad sy’n dangos nad oes ond dau gorff wedi cynnwys amcanion yn ymwneud â gwaith teg hyd yn hyn. Gwnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol galw ar Lywodraeth Cymru i lunio canllawiau a fyddai’n cefnogi mwy o gyrff cyhoeddus i bennu amcanion llesiant teg sy’n gysylltiedig â gwaith yn y dyfodol.

Pa heriau sydd angen eu goresgyn er mwyn cyflawni amcanion caffael?

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae adolygiadau gan Archwilio Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi amlinellu ffyrdd ar gyfer gwella polisi caffael cyhoeddus a’r ffordd mae’n cael ei weithredu. Roedd Liz Lucas, sy’n arbenigwr caffael, yn gweld rheoli contractau fel pryder allweddol, gan nad yw’n rhywbeth sydd wedi’i wneud yn dda ledled Cymru, meddai.

Mae cyrff y sector cyhoeddus yn disgwyl wynebu heriau wrth weithredu agweddau caffael ar y Bil. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud bod problem wirioneddol o ran capasiti mewn awdurdodau lleol, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dweud bod rheolwyr caffael yn brinnach na phrin, sy’n achosi anawsterau recriwtio. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad cryfach ar “faterion yn ymwneud â chapasiti, gallu a chydweithredu” i gwrdd â’r heriau hyn.

Galwodd sefydliadau busnes am i dargedau gael eu gosod i sicrhau bod elfennau caffael y Bil yn cael yr effaith fwyaf posibl. Yn ôl Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Cymru, mae caffael yn un o’r ysgogiadau mwyaf sydd gennym i wneud newid enfawr ym mywydau pobl, ac mae cynyddu canran y caffael sy’n cael ei wario gyda busnesau Cymru, o’r 52 y cant presennol, yn allweddol. Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am i’r Bil gael ei ddiwygio yng Nghyfnod 2 i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targedau caffael ar ôl i faterion casglu data gael eu hwyluso.

Beth nesaf?

Caiff egwyddorion cyffredinol y Bil eu trafod yn y Senedd ar 29 Tachwedd, a gallwch wylio’r trafodion ar Senedd.tv. Os bydd yr Aelodau'n derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd yn mynd i Gyfnod 2 yn broses ddeddfwriaethol, sef cyfnod diwygio gan bwyllgor.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru