Mae tir halogedig yn broblem mewn llawer o rannau o Gymru, sy'n aml yn gysylltiedig â gweithgaredd diwydiannol y gorffennol. Gall halogion gynnwys ystod eang o sylweddau peryglus, o 'gemegion am byth' i fetelau trwm. Mae effeithiau posibl halogiad tir ar gymunedau yng Nghymru wedi cael cryn sylw yn ddiweddar.
Mae’r erthygl hon yn trafod tir a allai fod wedi’i halogi yng Nghymru, sut caiff ei gyweirio, y prif heriau, a datrysiadau posibl.
Tir halogedig yng Nghymru
Ar hyn o bryd nid oes darlun clir o nifer y safleoedd ledled Cymru a allai fod wedi'u halogi. Awdurdodau lleol sy'n bennaf gyfrifol am gofnodi a rheoli safleoedd ac nid oes cofnod canolog.
Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) arolwg o awdurdodau lleol yn 2016, sef y trosolwg cenedlaethol diweddaraf o dir halogedig. Nododd yr adroddiad hwn 10,130 o safleoedd a allai fod wedi’u halogi yn yr 17 awdurdod lleol a ymatebodd. Roedd 800 o'r safleoedd hyn wedi bod yn destun archwiliad manwl, gan adael dros 9,000 o safleoedd yn aros am archwiliad ar adeg cyhoeddi'r adroddiad.
Mewn dadansoddiad yn 2025 amcangyfrifodd Cyfeillion y Ddaear Cymru y gallai nifer y safleoedd a allai fod wedi'u halogi fod dros bedair gwaith yn uwch nag amcangyfrif CNC. Canfu hefyd nad oedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi diweddaru eu strategaethau arolygu yn y 10 mlynedd cyn y dadansoddiad.
Ffigur 1. Cyfanswm nifer y safleoedd tir halogedig cofrestredig fesul awdurdod lleol

Ffynhonnell: Cyfeillion y Ddaear Cymru ceisiadau rhyddid gwybodaeth
Canfu ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yn 2013 ar dir halogedig fod ymatebwyr o'r farn bod prinder data ar gyfer Cymru, anghysondeb rhwng awdurdodau lleol, a chanllawiau annigonol, ymhlith yr heriau mwyaf wrth fynd i’r afael â halogiad tir yng Nghymru.
Gall llygryddion amrywiol halogi’r tir. Nododd arolwg CNC 2016 y llygryddion mwyaf cyffredin a geir mewn safleoedd tir halogedig a gadarnhawyd, sydd i’w gweld yn y gwymplen isod:
Tabl 1: Y llygryddion a nodwyd amlaf ar safleoedd tir halogedig
|
Halogydd |
Effeithiau iechyd posibl yn sgil amlygiad cronig |
|
|
Benzo(a)pyrene a hydrocarbonau polygylchol aromatig eraill (PAH) |
Cemegau organig (sy'n seiliedig ar garbon); Sgil-gynhyrchion gweithfeydd nwy a metel. |
Yn amrywio yn dibynnu ar yr union naws cemegol, ond yn cynnwys: cyflyrau anadlol a chroen gan gynnwys canserau, clefyd isgemia’r galon, a system imiwnedd wedi'i gwanhau |
|
Plwm |
Metelau trwm; Diwydiannau mwyngloddio a phetroliwm. |
|
|
Arsenig |
Meteloid; Sgil-gynnyrch y diwydiant metel. |
|
|
Hydrocarbonau petroliwm llwyr |
Cemegau organig (sy'n seiliedig ar garbon); Y diwydiant petroliwm. |
|
|
Hydrocarbonau aromatig mono |
Cemegau organig (sy'n seiliedig ar garbon); Gweithfeydd nwy a’r diwydiant petroliwm. |
Yn amrywio yn dibynnu ar yr union naws cemegol, ond maent yn cynnwys: anemia, lewcemia, canserau posibl, niwed i'r afu a'r arennau, niwrotocsinedd ysgafn. |
|
Cyanid |
Cemegau anorganig; Gweithfeydd nwy a'r diwydiant prosesu glo. |
Symptomau niwrolegol, effeithiau ar y thyroid, niwed i'r nerf optig. |
|
Biffenylau polyclorinedig (PCBau)/Diocsinau/Ffuranau |
Cemegau aromatig; Gweithgynhyrchu cemegol a thrydanol. |
Yn amrywio yn dibynnu ar union naws cemegol, ond yn cynnwys: effeithiau nerfol, imiwnedd a system endocrin, amharu ar weithrediad atgenhedlu, canserau posibl. |
|
Copr |
Metelau trwm; Y diwydiant mwyngloddio. |
|
|
Sinc |
Metelau trwm; Y diwydiant mwyngloddio. |
Ffynhonnell: Cyfoeth Naturiol Cymru
Biffenylau polyclorinedig (PCBau)
Mae biffenylau polyclorinedig (PCBau) yn perthyn i grŵp o gemegion carbon a ddefnyddiwyd yn helaeth mewn diwydiant, er enghraifft mewn offer trydanol. Darganfuwyd yn ddiweddarach bod PCBau yn niweidiol i iechyd pobl a'r amgylchedd, ac maent wedi'u gwahardd yn y DU, ac yn rhyngwladol o dan Gonfensiwn Stockholm.
Fe wnaeth y gyfres ddogfen ddiweddar, ‘Buried’, dynnu sylw arbennig at y risgiau sy’n gysylltiedig â deuffenylau polyclorinedig (PCBau) yng Nghymru. Yn dilyn hynny, mae rhai grwpiau wedi gofyn am brofion gwaed. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cynghori yn erbyn hyn, gan ddweud:
…nad yw’n darparu ffordd ddibynadwy o asesu amlygiad unigolyn i halogiad na’r effaith bosibl ar iechyd.
Mae’r Asiantaeth Ryngwladol dros Ymchwil ar Ganser yn cyfrif PCBau fel grŵp o gemegion sy’n bendant yn achosi canser. Fodd bynnag, ymddengys fod PCBau yn un o'r rhesymau lleiaf cyffredin dros halogi tir yng Nghymru. Canfu arolwg CNC yn 2016 fod PCBau neu grwpiau tebyg eraill o gemegion wedi’u nodi fel llygryddion mewn dim ond 4 o blith 175 o safleoedd. I gymharu, roedd plwm, arsenig a benso(a)pyren i'w cael mewn dros 100 o safleoedd.
Pwy sy'n gyfrifol am gyweirio tir yr effeithir arno gan halogiad?
Maes datganoledig i Gymru yn bennaf yw cynllunio a diogelu’r amgylchedd. Mae Rhan 2A o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn diffinio ‘tir halogedig’, ac yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i oruchwylio gwaith cyweirio ar y tir.
Mewn amgylchiadau penodol, a nodir yn y Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006, ystyrir bod tir yn ‘safle arbennig’, sy’n trosglwyddo’r cyfrifoldeb o’r awdurdod lleol i CNC. Gall hyn gynnwys rhai safleoedd sy'n effeithio ar ddyfroedd neu dir rheoledig sy'n gysylltiedig â gweithgareddau diwydiannol penodol. Dim ond dau safle arbennig a drosglwyddwyd i CNC rhwng 2001 a 2013.
Yn 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol i gefnogi awdurdodau lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol wrth ddelio â thir halogedig.
Sut mae cyweirio tir?
Mae tair prif ffordd o gyweirio tir halogedig:
- Y system gynllunio – lle mae'r tir yn cael ei gyweirio a'r safle'n cael ei ddatblygu at bwrpas newydd. Roedd hyn yn cyfrif am 93% o'r safleoedd a ddadansoddwyd a gafodd eu cyweirio rhwng 2001 a 2013.
- Gweithredu gwirfoddol – lle mae'r rhai sy'n gyfrifol am y tir yn ymgymryd â'r gwaith cyweirio. Roedd hyn yn cyfrif am 3% yn unig o'r safleoedd a gafodd eu cyweirio rhwng 2001 a 2013.
- Awdurdodau lleol – lle y bernir yn gyfreithiol bod y tir yn ‘dir halogedig’ ac y mae’r awdurdod lleol yn sicrhau bod y tir hwnnw’n cael ei gyweirio. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi mai dim ond lle nad oes dewis amgen priodol y dylid gwneud hyn. Roedd hyn yn cyfrif am 3% yn unig o'r safleoedd a gafodd eu cyweirio rhwng 2001 a 2013.
Pwy sy'n talu am archwilio a chyweirio tir halogedig?
O dan Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, dylid adennill costau cyweirio oddi wrth y parti cyfrifol (fel y llygrwr neu'r tirfeddiannwr).
Canfu arolwg CNC yn 2016 fod 10% o gostau archwilio wedi dod o gyllid awdurdodau lleol, tra bod 90% o’r costau archwilio wedi’u darparu trwy gyllid canolog, gan gyfeirio’n fras at Grant Cyfalaf Tir Halogedig Llywodraeth Cymru.
Roedd y Grant hwn ar gael rhwng 2006 a 2011. Rhoddodd gyllid i awdurdodau lleol ar gyfer archwiliadau a chyweirio tir a allai fod wedi'i halogi. Nid oes cynllun pwrpasol gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar gyfer cyweirio tir halogedig, ond mae rhywfaint o gyllid wedi'i ddyrannu i ddelio â safleoedd penodol ers 2011.
Canfu'r arolwg hefyd fod ymdrechion wedi’u gwneud i hawlio arian yn ôl oddi wrth y llygrwr yn y rhan fwyaf o achosion; er hynny, dim ond 21% o’r prosiectau cyweirio y talodd y llygrwr amdanynt. Yn yr un modd, dim ond 1% a ariannwyd gan y tirfeddiannwr neu’r meddiannydd ar y pryd. Talwyd am y rhan fwyaf (71%) o brosiectau cyweirio o gyllid canolog y Grant Cyfalaf Tir Halogedig.
Materion polisi/dull o weithio
Fe wnaeth ymatebion i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yn 2013 dynnu sylw at ddiffyg cyllid fel her fawr wrth gyweirio tir halogedig, yn enwedig wedi i Grant Cyfalaf Tir Halogedig Llywodraeth Cymru gael ei dynnu’n ôl yn 2011.
Er bod diogelu'r amgylchedd yn fater datganoledig, mae'r rhan fwyaf o safleoedd gwastraff diwydiannol yn dyddio o'r cyfnod cyn datganoli. Dywed Llyr Gruffydd AS, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i:
...gryfhau’r egwyddor mai’r “halogwr sy’n talu” a sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cyfrannu’n deg tuag at gyweirio effeithiau troseddau llygredd diwydiannol a ddigwyddodd cyn datganoli.
Gwnaeth gymariaethau hefyd rhwng cyweirio tir halogedig ac adfer tomenni glo mewn dadl ddiweddar, gan ddweud:
...dyna pam ein bod yn parhau i bwyso ar Drysorlys y DU ynghylch pwysigrwydd darparu cyllid i gefnogi ein hymdrechion ar y cyd i fynd i'r afael â'r gwaddol hwn, trwy adfer tomenni glo, ie, ond adfer tir halogedig hefyd…
Gwnaeth Llywodraeth y DU gyfraniad o £25m o gyllid ar gyfer cyweirio tomenni glo yng Nghymru yn 2025-26 ac mae wedi ymrwymo i ddarparu cyllid pellach.
Beth yw’r camau nesaf ar gyfer cyweirio tir halogedig yng Nghymru?
Mewn dadl ddiweddar, cytunodd y Senedd yn unfrydol ar gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i :
- gynnal yr egwyddor mai’r ‘llygrwr sy’n talu”, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU;
- galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno cronfa i gyweirio pan na all y llygrwr dalu;
- sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer profi ac asesu tir; a
- chefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau.
Mae Rhaglen Lywodraeth 2026-2030 Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i:
Sefydlu strategaeth Cymru gyfan ar gyweirio tir halogedig i fapio, blaenoriaethu ac adfer yn gynyddol dir ôl-ddiwydiannol…
Fe wnaeth y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd ailadrodd hyn mewn dadl ddiweddar yn y Senedd, gan ddweud:
…rwy'n cefnogi archwilio dull posibl o flaenoriaethu safleoedd ar gyfer Cymru gyfan. Er enghraifft, rwy'n deall y gall awdurdodau lleol unigol ddefnyddio paramedrau gwahanol ac offer gwahanol i asesu safle.
Bydd y cwestiwn o lunio a gweithredu strategaeth i Gymru gyfan yn llywio agwedd barhaus Cymru tuag at dir halogedig sy’n deillio o’i hetifeddiaeth ddiwydiannol.
Erthygl gan Chris Oliwa a Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a ddarparwyd i Chris Oliwa gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol a oedd yn ei alluogi i gwblhau’r erthygl hon.