Cemegion ‘am byth’: beth ydyn nhw, a pham eu bod nhw'n bwnc trafod parhaus

Cyhoeddwyd 04/06/2026   |   Amser darllen munudau

A wyddoch chi beth yw PFAS? Doedd 83% o ymatebwyr i Arolwg YouGov 2025 yn gwybod dim am PFAS. Er mai ychydig o ymwybyddiaeth sydd gan y cyhoedd am PFAS, mae ei effeithiau yn bellgyrhaeddol.

Maen nhw’n cael eu hadnabod yn gyffredin fel 'cemegion am byth’. Mae PFAS yn goroesi yn yr amgylchedd am gyfnodau hir iawn heb iddynt ddiraddio. Fe'u ceir mewn anifeiliaid a bodau dynol, ac wrth i ni ddysgu mwy am eu heffeithiau negyddol posibl, mae PFAS yn bryder cynyddol fel llygrydd amgylcheddol a sylwedd gwenwynig.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar ymlediad ac effaith cemegion am byth, a pham eu bod yn dod yn destun trafod yng Nghymru.

Beth ydyn nhw?

Ystyr PFAS yw per-’ neu ‘poly-fluoroalkyl substances’. Maen nhw'n deulu o fwy na 10,000 o gemegion gwahanol gyda strwythurau tebyg. Gallant fod yn solidau, hylifau neu nwyon.

Oherwydd eu bondiau cemegol cryf iawn, sy'n nodweddiadol o'r grŵp hwn, nid yw PFAS yn diraddio'n naturiol a gallant barhau yn yr amgylchedd am ddegawdau neu hyd yn oed am ganrifoedd.

Mae PFAS yn ddefnyddiol iawn ar gyfer gweithgynhyrchu gan eu bod nhw’n gallu gwrthsefyll gwres, dŵr ac olew, gan eu gwneud yn sefydlog iawn. O ganlyniad, maen nhw i'w cael mewn amrywiol gynhyrchion diwydiannol a chynhyrchion bob dydd. Fodd bynnag, mae'r priodweddau sy'n eu gwneud yn ddefnyddiol hefyd yn eu gwneud yn llygryddion anodd iawn i fynd i'r afael â nhw.

Defnyddiau cyffredin o PFAS

Defnydd

Priodwedd

Sosbenni slic, pecynnau bwyd

Ymwrthedd olew, ymwrthedd gwres

Colur, paent

Ymwrthedd olew, ymwrthedd dŵr

Siacedi glaw, dillad

Ymwrthedd dŵr

Ewynnau diffodd tân

Ymwrthedd gwres

Pryfladdwyr, ffwngladdwyr, chwynladdwyr

Sefydlogrwydd

 

Ffynhonnell: Briff ymchwil Senedd y DU: Regulation and remediation of ‘forever’ chemicals.

Ble maen nhw i'w cael?

Mae PFAS ym mhobman: mewn cynhyrchion cartref, yr amgylchedd a hyd yn oed mewn pobl. Mae sawl ffordd y gall PFAS gyrraedd yr amgylchedd yn ystod y broses gynhyrchu, wrth eu defnyddio ac wrth gael gwared ar gynhyrchion sy'n cynnwys PFAS. Gellir rhyddhau PFAS i'r awyr, y pridd a'r dŵr, naill ai'n anuniongyrchol, er enghraifft, mewn dŵr-ffo neu gludiant atmosfferig o safleoedd halogedig, neu'n uniongyrchol.

Nid yw gwastraff dŵr o’r cartref na gwastraff dŵr diwydiannol yn cael ei hidlo’n effeithiol rhag PFAS, felly gall dŵr gwastraff wedi'i drin sy'n cael ei ddychwelyd i'r amgylchedd halogi pridd a dŵr.

Gall defnyddio ewynnau diffodd tân hefyd ollwng PFAS yn uniongyrchol i'r amgylchedd. Cafodd camau cyfreithiol eu dwyn yn erbyn ffatri ewyn diffodd tân yng Ngogledd Swydd Efrog. Disgrifiwyd y ffatri fel man problemus i lygredd a’i bod wedi halogi dŵr daear. Canfu ymchwiliad pellach fod gan drigolion a chyn-weithwyr lefelau brawychus o PFAS yn eu gwaed.

Unwaith y byddant yn yr amgylchedd, gall PFAS ledaenu'n gyflym, yn enwedig mewn dŵr. Mae lefelau PFAS uchel wedi'u canfod mewn dros draean o'r cyrsiau dŵr a brofwyd yng Nghymru a Lloegr, a hyd yn oed wedi’u canfod mewn mannau anghysbell ymhell i ffwrdd o weithgarwch dynol, megis yn iâ’r Arctig.

Beth yw'r effeithiau ar fywyd gwyllt ac iechyd pobl?

Gall PFAS gyrraedd cadwyni bwyd ac maent wedi'u canfod mewn dolffiniaid, dyfrgwn, llamhidyddion, pysgod ac adar ledled y DU, ac mewn amryw i anifail ar y tir hefyd. Mewn astudiaeth yn 2024, daeth ymchwilwyr o hyd i PFAS a ddefnyddir yn eang, ym mron pob sampl a brofwyd o waed dynol.

Mae lefelau uchel o PFAS yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar ffisioleg:

  • Mewn bywyd gwyllt ac anifeiliaid anwes, mae PFAS yn gysylltiedig ag anhwylderau sy'n ymwneud â swyddogaeth yr afu a'r chwarren thyroid, metaboledd, imiwnedd a datblygiad.
  • Mewn bodau dynol, Mae PFAS yn gysylltiedig ag effeithiau andwyol ar swyddogaeth yr afu a'r galon; atgenhedlu a ffrwythlondeb; hormonau ac imiwnedd; a gallant hefyd fod yn gysylltiedig â diabetes math 2 a sawl math o ganser.

Beth sy'n cael ei wneud amdanynt?

Mae rhai cyfyngiadau eisoes yn bodoli yn y DU, gyda sawl grŵp o PFAS wedi'u gwahardd ar hyn o bryd o dan Gonfensiwn Stockholm y Cenhedloedd Unedig ar Lygryddion Organig Parhaus (POP). Mae cwmnïau dŵr yn cynnal profion rheolaidd ar gyfer 48 math gwahanol o PFAS a rhaid iddynt drin y cyflenwad dŵr os yw’r lefelau'n mynd y tu hwnt i bwynt penodol. Mae'r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn argymell na ddylai lefelau PFAS fod yn fwy na 0.1μg y litr, fodd bynnag, nid oes safonau statudol ar gyfer PFAS mewn dŵr yfed yng Nghymru a Lloegr, er gwaethaf argymhelliad yn 2023 gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, y dylid datblygu safonau o’r fath.

Ar 3 Chwefror 2026, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun i ddeall PFAS yn well, lleihau amlygiad iddo, a chefnogi symud i ffwrdd o’i ddefnyddio. Mae’n cynnwys yr argymhellion a ganlyn:

  • Mwy o samplu dŵr blynyddol ar gyfer PFAS (ledled Prydain);
  • Ariannu mwy o ymchwil ar effeithiau halogiad amgylcheddol gan PFAS (ledled y DU);
  • Datblygu trothwyon amgylcheddol ar gyfer allyriadau PFAS i'r awyr, tir a dŵr (ledled y DU);
  • Cefnogi datblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol i ddod o hyd i ddewisiadau amgen mwy diogel i PFAS (ledled y DU).

Mae rhai rhannau o’r cynllun yn benodol i Loegr, ac nid ydynt yn berthnasol i Gymru, fel gwerthuso lefelau PFAS mewn samplau pridd ac amgylcheddau arfordirol.

Dywed Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU (DEFRA) ei fod yn anelu at wneud rheoliadau'r DU o ran PFAS yn debycach i reoliadau'r UE erbyn 2029. Fodd bynnag, mae rheoliadau'r UE yn cynnwys cyfyngiadau cyffredinol ar PFAS mewn amrywiol ddeunyddiau fel colur a phecynnau bwyd, ond nid yw cynllun y DU yn gwneud unrhyw ymrwymiad tebyg o ran cyfyngiadau cyffredinol.

Beth am Gymru?

Mae'r cynllun PFAS yn un rhynglywodraethol ac fe'i datblygwyd ar y cyd â Llywodraeth flaenorol Cymru. Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y pryd, fod gan y cynllun "fanteision clir i Gymru" a’i fod:

“yn nodi dull ledled y DU o leihau effeithiau niweidiol PFAS gan gefnogi trawsnewid i ddewisiadau amgen mwy diogel.”

Mae'r sector dŵr yng Nghymru ar fin cael ei ddiwygio yn sylweddol, ac mae halogiad PFAS yn rhan o’r ystyriaethau hyn. Mae Papur Gwyrdd gan Lywodraeth flaenorol Cymru yn dweud nad yw'r rheoleiddio presennol "yn gyfredol â risgiau sy'n dod i'r amlwg a risgiau cymhleth, gan gynnwys cemegion parhaus fel PFAS".

Roedd pwnc PFAS yn bryder cynyddol yn y Chweched Senedd, ac roedd yn rhan o drafodaeth ehangach ynghylch tir halogedig. Tynnodd Dŵr Cymru sylw un o bwyllgorau’r Chweched Senedd at effaith PFAS ar y sector dŵr, a phwy ddylai fod yn atebol:

“The PFAS are all coming from what we've got in our frying pans, in all sorts of clothes, et cetera, et cetera. This is causing problems to the water quality and to the environment. We've got two options. One option is to let it go and to treat the water and the waste water so that we get rid of the PFAS. This is extremely expensive—extremely, extremely expensive. The other opportunity or solution we've got is to say, 'Well, actually, we invite the PFAS producers or the PFAS users not to do it.”

Mae maniffesto Plaid Cymru ar gyfer 2026 wedi ymrwymo i weithredu ymhellach ynghylch PFAS fel rhan o fynd i'r afael ag etifeddiaeth ddiwydiannol Cymru a chefnogi cymunedau meysydd glo, gan addo y byddant yn:

Cryfhau’r gwaith o fonitro a rheoleiddio sylweddau niweidiol, gan gynnwys sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS), gyda phrofion gorfodol mewn ardaloedd uchel eu risg a chynlluniau gweithredu clir i ddiogelu iechyd cyhoeddus.

Ymchwil yn y dyfodol

Mae ymchwil gyfredol yn tynnu sylw at ffyrdd addawol o fynd i'r afael â PFAS yn yr amgylchedd. Mae gwyddonwyr o brifysgolion Caerfaddon, São Paolo, Caeredin ac Abertawe wedi datblygu dull sy'n cynnwys defnyddio golau'r haul i ddiraddio PFAS. Mae dulliau eraill hefyd yn cael eu datblygu: mae un yn defnyddio halwynau ffosffad ac mae un arall yn defnyddio system o'r enw 'Annihilator' i ddinistrio bondiau cemegol cryf PFAS.

Ar hyn o bryd, mae polisi'r DU yn canolbwyntio ar fonitro, rheoleiddio a symud i ffwrdd o ddefnyddio PFAS. Yn y dyfodol, efallai y bydd polisi yn canolbwyntio ar gyweirio.

Mae PFAS wedi bodoli ers dros 80 mlynedd ac efallai y byddant o gwmpas fel llygryddion am lawer hirach. Ond gyda gwell ymwybyddiaeth gyhoeddus, polisïau a gwaith ymchwil newydd, gallwn obeithio na fydd y cemegion hyn o gwmpas am byth.


Erthygl gan Dr Ryan Biscocho, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru