Ansawdd Aer ac Iechyd y Cyhoedd

Cyhoeddwyd 22/07/2026   |   Amser darllen munudau

Mae ansawdd aer yn fater iechyd cyhoeddus pwysig yng Nghymru. Mae’r papur briffio hwn yn trafod prif ffynonellau llygredd aer, sut y mae ansawdd aer yn cael ei fonitro a'i reoleiddio, effeithiau llygredd ar iechyd, a sut mae lefelau llygredd wedi newid dros amser.

Gall llygredd aer gael ei achosi gan weithgarwch dynol a phrosesau naturiol. Mae prif lygryddion megis deunydd gronynnol, ocsidau nitrogen, ac osôn yn cael eu monitro'n barhaus ledled Cymru. Mae'r prif ffynonellau dynol o lygredd aer yn cynnwys trafnidiaeth, llosgi domestig, diwydiant, cynhyrchu trydan, ac amaethyddiaeth.

Effeithiau llygredd aer ar iechyd

Mae baich ansawdd aer gwael yn cyfateb i tua 1,000 i 1,400 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru. Mae corff mawr o dystiolaeth yn dangos y gall llygredd aer achosi canlyniadau iechyd negyddol, gan gynnwys clefydau anadlol a chardiofasgwlaidd, canser, canlyniadau beichiogrwydd niweidiol, ac effeithiau ar iechyd gwybyddol. Nid yw amlygiad a risg wedi'u dosbarthu'n gyfartal, gyda rhai grwpiau a chymunedau sy'n cael eu heffeithio'n fwy nag eraill. Mae canlyniadau cymdeithasol ac economaidd ehangach yn cynnwys pwysau ar y GIG a'r rhyngweithio rhwng llygredd ac anghydraddoldebau presennol.

Dulliau'r llywodraeth o wella ansawdd aer

Mae gweithredu ar lefel y DU ac ar lefel Cymru wedi ceisio cyfyngu ar allyriadau llygredd aer ac amlygiad pobl iddo. Mae cerrig milltir deddfwriaethol nodedig yn cynnwys Deddf yr Amgylchedd 1995 a Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (Deddf 2024). Mae deddfwriaeth yn grymuso ac yn gorfodi Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i weithredu i leihau llygredd aer, gan gynnwys drwy ddatgan Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer ac ardaloedd rheoli mwg, a chyflwyno polisïau i ddod â llygredd o dan y trothwyon cyfreithiol. Yn 2026, defnyddiodd Llywodraeth flaenorol Cymru bwerau yn Neddf 2024 i osod targedau ar gyfer lleihau llygredd deunydd gronynnol mân. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithredu i leihau llygredd o ffynonellau megis llosgi domestig, amaethyddiaeth, a thrafnidiaeth.

Tueddiadau llygredd aer yng Nghymru

Mae crynodiadau llawer o brif lygryddion, gan gynnwys sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, a deunydd gronynnol, wedi disgyn yn sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf. Mae heriau parhaus yn cynnwys llygredd osôn trefol ac amrywiadau lleol o ran amlygiad pobl. Gall fod yn heriol pennu effaith benodol mesurau polisi unigol. Mae astudiaethau achos sy'n canolbwyntio ar gau gwaith dur Port Talbot a therfynau cyflymder 50 mya ar gefnffyrdd yn darlunio sut y gall ansawdd aer lleol newid mewn ymateb i ddatblygiadau diwydiannol a thrafnidiaeth. Gall camau gweithredu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr hefyd gael cyd-fudd o leihau llygredd aer, ac o ganlyniad, gwella iechyd dynol ac amgylcheddol.


Papur briffio gan Charlotte Morgan a Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Charlotte Morgan gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a alluogodd i’r papur briffio hwn gael ei gwblhau.