Gofal Cartref

Gofal Cartref

Swyddi gwag a fisâu: Y pwysau ar y gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion

Cyhoeddwyd 12/08/2026   |   Amser darllen munudau

Mae heriau’r gweithlu yn parhau i fod yn un o’r materion mwyaf dybryd sy’n wynebu gofal cymdeithasol. Mae swyddi gwag cyson ac anawsterau recriwtio a chadw yn parhau i effeithio ar gyflenwi gwasanaethau, er gwaethaf cyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal.

Mae'r erthygl hon yn datblygu ymhellach ar ein dadansoddiad diweddar o'r angen i ddiwygio gofal cymdeithasol i oedolion, ynghyd â gwaith craffu’r Chweched Senedd ar y pwysau ym maes gofal cymdeithasol plant. Mae'n edrych ar y datblygiadau diweddaraf sy'n effeithio ar y gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys newidiadau diweddar i bolisïau mewnfudo.

Pwysau cyson ar y gweithlu

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru (y corff rheoleiddio a datblygu gweithlu cenedlaethol) yn nodi bod cadw staff yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r sector. Mae ei arolwg gweithlu diweddaraf yn dangos bod un o bob pump o weithwyr gofal yn bwriadu gadael gofal cymdeithasol o fewn 14 mis.

Yn ôl Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS) , “mae trosiant uchel yn golygu bod gwasanaethau mewn cylch recriwtio bron yn barhaol”, ac nid yw cyflogau wedi codi ar yr un raddfa â rolau cymharol yn y sector cyhoeddus. Nododd Fforwm Gofal Cymru, sy’n llais i ddarparwyr gofal annibynnol. fod prinder gweithwyr gofal ar ei waethaf mewn ardaloedd gwledig.

Er gwaethaf galwadau mynych yn ystod y Chweched Senedd am well data ar y gweithlu gofal cymdeithasol, nid yw gwybodaeth fyw am gyfraddau swyddi gwag yn cael ei chyhoeddi o hyd. Yn ôl Adroddiad Gweithlu 2024 Gofal Cymdeithasol Cymru, sef y data cyhoeddus diweddaraf sydd ar gael, roedd nifer y swyddi gwag wedi aros yn sefydlog, gydag amcangyfrif o 5,346 ohonynt ar 31 Mawrth 2024.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu fframwaith tâl a dilyniant gwirfoddol ar gyfer y sector sydd â’r nod o ysgogi gwelliannau. Dywed ADSS Cymru mai’r cam hanfodol nesaf yw gwneud y fframwaith yn orfodol i bob darparwr. Mae’n rhybuddio, heb fecanwaith i orfodi'r safonau hyn ar draws gwasanaethau a gomisiynir, bydd y pwysau a'r anghydraddoldebau presennol yn parhau.

Cydnabu Llywodraeth flaenorol Cymru, er bod swyddogaethau gofal cymdeithasol yn hanfodol i gymunedau, “mae ein gweithlu yn dal i wynebu cyflog isel ac amodau cyflogaeth anghyson ar draws y sector”. Fe ymgynghorodd yn gynharach eleni ar greu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol newydd i Gymru. Byddai'r corff arfaethedig yn cefnogi cyflwyno Cytundebau Cyflog Teg, gan osod safonau gofynnol y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol ar gyfer cyflogau, telerau ac amodau ar draws y sector.

Cau llwybr recriwtio pwysig

Yn ôl Fforwm Gofal Cymru, mae'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn dibynnu ar weithwyr rhyngwladol, oherwydd bod gan yr unigolion hyn y gwerthoedd a'r sgiliau cywir, ac oherwydd nad oes digon o weithwyr lleol i ddiwallu'r galw.

Yn ôl amcangyfrif gan Skills for Care, roedd gweithwyr nad ydynt yn ddinasyddion Prydeinig yn cyfrif am bron i 30% o weithlu gofal cymdeithasol oedolion Lloegr yn 2024/25. Nid oes data cymharol wedi’i gyhoeddi ar gael ar gyfer Cymru.

Yn 2022 cafodd fisâu gweithwyr medrus eu hestyn i weithwyr gofal o dramor i geisio delio â'r prinder staff mwyaf erioed yn y DU. Fodd bynnag, yn 2024 dechreuodd Llywodraeth y DU weithredu cyfyngiadau fisa llymach ar gyfer gweithwyr gofal mudol. Fe wnaeth ein cyfres dwy ran dynnu sylw at effaith hyn, gan gynnwys pryderon ynghylch caethwasiaeth fodern a chamfanteisio.

Ers hynny, mae newidiadau pellach gan Lywodraeth y DU i reolau fisa ym mis Gorffennaf 2025 wedi cau llwybrau i mewn i ofal cymdeithasol i weithwyr tramor newydd i bob pwrpas. Ni all cyflogwyr noddi gweithwyr newydd o'r tu allan i'r DU mwyach ar gyfer rolau gweithwyr gofal a gweithwyr gofal uwch. Ni effeithir ar ddeiliaid fisâu presennol a disgwylir i'r trefniadau trosiannol barhau tan tua 2028.

Mae cynrychiolwyr y sector wedi mynegi pryderon ynghylch effaith bosibl y newid. Rhybuddiodd ADSS Cymru fod y “cynigion hyn yn peryglu torri llinell achub hanfodol i wasanaethau gofal ledled Cymru" a chreu’r perygl bod pobl yn aros yn hwy am ofal a chymorth hanfodol.

Gan ddisgrifio'r newidiadau fisa fel risg newydd a difrifol i'r sector, pwysleisiodd ADSS Cymru fod llwybr recriwtio pwysig wedi'i dynnu ymaith heb gynnig dewis domestig credadwy arall. Tynnodd sylw hefyd at bryderon nad yw gofal cymdeithasol wedi'i gynnwys ar y Rhestr Prinder Dros Dro er gwaethaf nifer y swyddi gwag uchel cyson, a dywedodd y bydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i bwyso am gymorth dros dro.

Adleisiodd Fforwm Gofal Cymru y pryderon hyn, gan rybuddio y gallai cyfyngiadau fisa llymach danseilio sefydlogrwydd y gwasanaeth. Mae'n dadlau bod y newidiadau diweddaraf yn gwaethygu heriau recriwtio ac yn peryglu gyrru staff rhyngwladol presennol i ffwrdd.

Sefydlodd Llywodraeth flaenorol Cymru’r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol (NAS) mewn ymateb i bryderon gan gyflogwyr gofal cymdeithasol sy'n ceisio recriwtio'n rhyngwladol. Nod y NAS yw helpu gweithwyr gofal tramor sydd eisoes yn y DU ac sydd wedi colli eu swyddi, neu sydd mewn perygl o wneud hynny, i ddod o hyd i gyflogaeth amgen foesegol o fewn y sector trwy baru swyddi a chyfeirio at wasanaethau cymorth. Dywed Llywodraeth Cymru fod yr NAS hefyd yn llunio cofrestr swyddi gwag i ddod â gweithwyr a chyflogwyr ynghyd.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi mynd ymhellach, a galw ar y Swyddfa Gartref i wrthdroi ei phenderfyniad i gau'r llwybr a buddsoddi £500,000 i ariannu cynnig wedi'i deilwra i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol rhyngwladol sydd wedi'u dadleoli. Dywedodd fod angen y cyllid i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol rhyngwladol i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â symud i’r Alban a gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yno.

Rhagor o gyfyngiadau o'n blaenau?

Byddai’r model ‘setliad ar sail teilyngdod’ sy’n yr arfaeth gan Lywodraeth y DU yn treblu’r cyfnod cymhwyso ar gyfer preswyliad parhaol (a elwir hefyd yn ganiatâd amhenodol i aros) i weithwyr gofal mudol yn y DU o bum mlynedd i 15 mlynedd. Mae'r cynnig wedi denu beirniadaeth sylweddol gan undebau llafur a rhanddeiliaid.

Dywed UNSAIN fod newid y rheolau drwy gymhwyso'r newidiadau hyn yn ôl-weithredol i weithwyr sydd eisoes yma, yn foesol anghywir. Mae'n dadlau bod llawer o weithwyr wedi derbyn swyddi gan gredu y gallent wneud cais i aros am byth ar ôl pum mlynedd. Mae'r undeb yn rhybuddio y byddai'r newid hwn yn gwaethygu’r argyfwng staffio ac yn gadael gweithwyr yn fwy agored i gamdriniaeth trwy eu gorfodi i gyfnod hir o ansicrwydd.

Mae Elusen y Gweithwyr Gofal wedi disgrifio’r cynigion fel rhai gwan, gan bwysleisio na all gofal cymdeithasol i oedolion weithredu heb weithwyr mudol. Mynegwyd pryderon tebyg gan gynrychiolwyr darparwyr gofal yn Lloegr Care England a’r Gymdeithas Gofal Genedlaethol. Bu anghytuno hefyd o fewn Llywodraeth y DU ar y mater, gyda rhai yn dadlau yn ôl y sôn y dylai gweithwyr gofal gael eu heithrio o'r newidiadau setlo arfaethedig.

Mae UNSAIN yn ymgyrchu yn erbyn newidiadau ôl-weithredol i reolau ymsefydlu ac o blaid cynllun fisa ar draws y sector. Mae hefyd yn annog cynghorau i fabwysiadu ei Siarter Gweithwyr Gofal Mudol. Cyngor Caerdydd oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i arwyddo’r siarter, a nododd UNSAIN fod gweithwyr mudol yn gyfran sylweddol o’r gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghaerdydd. Yn ôl UNSAIN, mae'r siarter yn ymrwymo'r cyngor i ragor o waith craffu ar ddarparwyr gofal, cefnogaeth ar gyfer cyflog teg, a gweithredu lle mae gweithwyr yn wynebu bygythiadau sy'n ymwneud â'u statws fisa neu alltudio posibl.

Beth i gadw golwg amdano

Daeth yr ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i'r cyfnod setlo i ben ym mis Chwefror 2026, ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei phenderfyniad terfynol eto.

Mae'r Prif Weinidog newydd, Andy Burnham, wedi ymrwymo i “drwsio gofal cymdeithasol”, a dywedodd ei fod am ganolbwyntio ar unwaith ar ddyrchafu’r gweithlu gofal cymdeithasol yn Lloegr. Mae wedi newid yr amserlen ar gyfer Comisiwn Casey, sef y comisiwn annibynnol ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion, i adrodd yn gynt ar argymhellion diwygio yn Lloegr. Lansiodd y Comisiwn y Big Conversation on Care ym mis Gorffennaf, ac mae bellach yn bwriadu cyhoeddi ei adroddiad erbyn haf 2027.

Ym mis Chwefror 2026, fe wnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru ariannu Academi Gofal Cymdeithasol Genedlaethol newydd er mwyn i weithwyr gofal allu datblygu eu sgiliau ac ennill cymwysterau. Yn ôl diweddariad gan Lywodraeth Cymru, bydd manylion canlyniad yr ymgynghoriad ynghylch sefydlu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol, yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd yr haf hwn (2026).

Nododd Delyth Jewell AS, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, fod ei blaenoriaethau'n cynnwys symud tuag at dâl ac amodau tecach, a chael cydraddoldeb o ran parch i weithwyr gofal cymdeithasol â staff y GIG. Dywedodd hefyd y bydd adolygiad o’r gweithlu yn cael ei gynnal “yn fuan iawn”.

Cwestiwn mawr i’r Seithfed Senedd yw a fydd Llywodraeth newydd Cymru yn gallu gwella cynaliadwyedd y gweithlu, wrth ddelio ag effaith rheolau mewnfudo tynnach.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru