Gofal Cymdeithasol: gweithlu mewn argyfwng?

Cyhoeddwyd 08/04/2022   |   Amser darllen munudau

Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi pwysau digynsail ar ein system gofal cymdeithasol ac mae wedi amlygu pwysigrwydd ei gweithlu.

Roedd ofnau bod prinder staff ym maes gofal cymdeithasol wedi cyrraedd pwynt argyfyngus yn un o'r materion allweddol a nodwyd gan arbenigwyr academaidd wrth i ni symud ymlaen tuag at 'fyw gyda COVID-19'. Mae prinder staff yn amlwg ym maes gofal cymdeithasol i oedolion a phlant, staff gofal cartref a staff gofal, ynghyd â nyrsys cofrestredig mewn cartrefi gofal.

Mae'r materion hyn sy'n ymwneud â'r gweithlu yn cael effaith sylweddol ar rannau eraill o'r system iechyd a gofal, gan arwain at oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty a phryderon na fydd yn bosibl darparu pecynnau gofal i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae poblogaeth sy'n heneiddio, pwysau o ran cyllid a chystadlu am staff ers i'r DU adael yr UE yn annhebygol o wneud pethau'n haws.

Mae'r erthygl hon yn trafod y sefyllfa bresennol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion, y rhesymau y tu ôl i'r 'argyfwng' hwn, a sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb.

‘Argyfwng’ y gweithlu gofal cymdeithasol

Codwyd materion sy’n wynebu’r gweithlu gofal cymdeithasol gyda Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn ystod ei ymchwiliadau diweddar ar strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai.

Tynnodd rhanddeiliaid sylw at broblemau mawr o ran recriwtio a chadw staff, a dywedodd Fforwm Gofal Cymru ‘ei bod yn anodd gorbwysleisio'r argyfwng presennol o ran y gweithlu ym maes gofal cymdeithasol'. Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd:

Erbyn hyn, mae heriau sylweddol o ran recriwtio a chadw staff ar draws y sector gofal cymdeithasol i awdurdodau lleol a darparwyr annibynnol, yn enwedig mewn perthynas â gofal cartref.

Mae prinder staff ac anawsterau wrth recriwtio yn y sector gofal cymdeithasol yn cael effaith fawr. Mae diffyg staff gofal yn y gymuned wedi arwain at oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty, a gall arwain at gleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty tra’u bod yn aros i ofal cartref gael ei drefnu. Gall hyn yn ei dro greu pwysau mewn mannau eraill yn y system iechyd megis adrannau achosion brys, oherwydd diffyg gwelyau i gleifion.

Mae'r galw wedi bod yn cynyddu, ac eto mae cynrychiolwyr Awdurdodau Lleol yn dweud bod pecynnau gofal cartref yn cael eu trosglwyddo'n ôl, a bod gwasanaethau mewnol a gwasanaethau wedi'u comisiynu o dan bwysau sylweddol. Ni all rhai asiantaethau recriwtio a chadw staff i ddarparu’r pecynnau gofal sydd wedi'u comisiynu. Gall hyn arwain at ofalwyr di-dâl yn gorfod ysgwyddo'r baich, ar adeg pan fo llawer eisoes yn ei chael hi'n anodd.

Mae cynrychiolwyr Awdurdodau Lleol hefyd yn dweud bod pwysau'r pandemig wedi cael 'effaith ddinistriol' ar lawer o staff sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a bod eu hiechyd meddwl a'u llesiant yn parhau i fod yn destun pryder.

Pam mae 'argyfwng'?

Mae problemau hirsefydlog o ran recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol. Mae hyn wedi’i waethygu’n sylweddol yn sgil y pandemig. Mae darparwyr yn dweud bod y pwysau y mae staff wedi'u hwynebu wedi arwain at rai yn gadael y sector, a mwy o anawsterau wrth geisio cael staff newydd yn eu lle.

Mae llawer o randdeiliaid yn dweud nad yw rhannau o'r gweithlu gofal cymdeithasol yn cael y wobr, y gydnabyddiaeth na'r statws cywir yn gyfnewid am y swydd anodd y maent yn ei gwneud. Mae pryderon mai prin yw’r cyfleoedd i staff ddatblygu ac felly mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn credu bod angen sicrhau tâl ac amodau priodol a ‘llwybr i gynnydd o fewn sector gofal proffesiynol’.

Mae rhai staff gofal cymdeithasol yn gadael y sector gofal cymdeithasol i weithio yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch er mwyn ennill yr un cyflogau neu gyflogau uwch, ac yn aml gyda llai o gyfrifoldeb. Mae eraill yn aros yn y sector iechyd a gofal ond yn symud i weithio i'r GIG.

Ystyrir bod cydraddoldeb rhwng y gweithlu gofal cymdeithasol a gweithlu'r GIG mewn perthynas â chyflog, telerau ac amodau a datblygiad gyrfa yn ffactor sy'n cyfrannu'n sylweddol ac y dylid mynd i'r afael ag ef.

Dywedodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

…to lose people who have committed years of service because they don't feel valued, they're tired, they're exhausted, they don't feel that they're paid enough, they can get more pay around the corner, that's a real travesty.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb?

Mae Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi dweud ei bod yn cydnabod y 'problemau hirsefydlog' o ran recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol, gan ddweud bod gweithwyr gofal cymdeithasol:

… are not rewarded in the way that they should be and they haven't got the terms and conditions that they should have, and they are not equal to people doing the same job in the NHS, for example. And so it is a huge problem.

Mae Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol wedi'i sefydlu, a fydd yn edrych ar sut i wella amodau gwaith yn y sector gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Fforwm edrych ar strwythurau cyflog cenedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £10 miliwn ychwanegol i Awdurdodau Lleol i helpu i 'wella gallu eu gwasanaethau cymorth cartref mewn ffyrdd arloesol’. Bydd hyn yn cynnwys talu am wersi gyrru a phrynu cerbydau fflyd trydan ar gyfer gweithwyr gofal cartref.

Ei hymateb i’r pandemig

Ym mis Mawrth 2021 a mis Mai 2020, derbyniodd staff gofal cymdeithasol daliadau bonws gan Lywodraeth Cymru i gydnabod eu cyfraniad yn ystod pandemig COVID-19.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith ar gyfer adferiad gofal cymdeithasol ym mis Gorffennaf 2021, a chyhoeddwyd cronfa adferiad o £40 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol yn 2021-22.

Cyflog Byw Gwirioneddol

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £43 miliwn i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Cymru weithredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol o fis Ebrill 2022, a bydd gweithwyr yn teimlo’r budd yn y misoedd dilynol oherwydd yr amser sydd ei angen i'w weithredu.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud taliad ychwanegol o fis Ebrill 2022 i'r rhai sy'n gymwys i gael y Cyflog Byw Gwirioneddol, gan gynnwys uwch staff gofal a rheolwyr mewn cartrefi gofal ac ym maes gofal cartref. Bydd gweithwyr gofal cymdeithasol ar y gyfradd dreth sylfaenol yn cael tua £1,000 ar ôl didyniadau.

Strategaeth y gweithlu

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu strategaeth hirdymor ar gyfer y gweithlu mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.

Gyda'r nod o ddenu unigolion i'r proffesiwn gofal cymdeithasol, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi arwain yr ymgyrch Gofalwn a phorth swyddi ar gyfer gofal cymdeithasol, ac mae wedi targedu proffesiynau penodol ym maes gofal cymdeithasol ar adegau penodol.

Mae gwybodaeth am y cyfleoedd gwaith sydd ar gael yn y sector iechyd a gofal ar gael i blant, pobl ifanc ac ysgolion, ac mae rhwydwaith gyrfaoedd ar y cyd wedi'i lansio.

A fydd y sefyllfa yn gwella?

Er bod rhanddeiliaid gan gynnwys Unsain, Fforwm Gofal Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn croesawu cyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal, maent yn dweud mewn difrif na fydd hyn ar ei ben ei hun yn datrys y problemau.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn amlwg yn cydnabod y problemau sy'n wynebu'r gweithlu gofal cymdeithasol. Er hynny, gallai'r cynlluniau a'r camau gweithredu y mae wedi'u rhoi ar waith gymryd amser i sicrhau newid.

Er mwyn mynd i'r afael â'r problemau, mae angen dull amlochrog ac ymrwymiad a chyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru. Bydd y sector gofal cymdeithasol a'r rhai sy'n dibynnu arno yn gobeithio gweld gwelliannau cyn gynted â phosibl.


Erthygl gan Rebekah James, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru