Sut ydym ni'n ymdrin â COVID hir?

Cyhoeddwyd 20/04/2022   |   Amser darllen munudau

Mae ein herthygl, Byw gyda COVID-19': ydyn ni wedi cyrraedd pen draw’r daith?’, yn tynnu sylw at y materion allweddol y mae arbenigwyr yn dweud bod angen i ni gadw llygad arnynt wrth i gyfnod argyfwng y pandemig ddod i ben. Dyma'r drydedd erthygl mewn cyfres yn edrych ar y materion hyn. Mae erthyglau blaenorol wedi canolbwyntio ar ofalwyr di-dâl a brechiadau.

Mae dros ddwy flynedd ers dechrau’r pandemig. Mae dros 868,000 o achosion o COVID-19 wedi’u hadrodd yng Nghymru. Ond i rai pobl, mae effeithiau'r pandemig yn parhau. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar COVID hir, ei effaith a'r hyn sy'n cael ei wneud i gefnogi'r rhai sy'n dioddef ohono.

Beth yw COVID hir?

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella o COVID-19 ar ôl salwch byr. Ond COVID hir neu syndrom ôl-COVID yw pan fydd symptomau'n parhau, neu pan fydd symptomau newydd yn datblygu, fwy na 12 wythnos yn dilyn yr haint. Ni chredir bod y tebygolrwydd y bydd hyn yn datblygu yn gysylltiedig â difrifoldeb y salwch cychwynnol, gan gynnwys a oedd rhywun yn yr ysbyty.

Common symptoms include fatigue, shortness of breath, cognitive dysfunction but also others and generally have an impact on everyday functioning. […] Symptoms may also fluctuate or relapse over time.

Faint o bobl sydd â COVID hir?

Nid yw hyn yn glir o hyd, ac nid oes prawf diffiniol i wneud diagnosis ohono. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), mae COVID hir yn effeithio ar tua 10 y cant o bobl sydd wedi cael COVID-19. Ar 7 Ebrill 2022, amcangyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 1.7 miliwn o bobl sy’n byw mewn aelwydydd preifat yn y DU yn dioddef o COVID hir. Ond, mae'r amcangyfrif hwn yn dibynnu ar hunangofnodi gan gyfranogwyr mewn arolwg, yn hytrach na phobl sydd wedi cael diagnosis clinigol o COVID hir.

Gan edrych ar achosion sydd wedi cael diagnosis clinigol yng Nghymru, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, ar 8 Chwefror 2022:

...ychydig dros 2,400 o bobl, erbyn mis Ionawr, [oedd] wedi cael diagnosis o COVID hir gan eu meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, a bod 2,226 o bobl wedi cael eu cyfeirio at ein gwasanaethau adsefydlu COVID hir yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Nid ydym yn gwybod eto beth y gallai effaith Omicron – yr amrywiolyn COVID-19 mwyaf cyffredin ar hyn o bryd – fod ar y ffigurau hyn.

Ym mis Hydref 2021, fe wnaeth panel academaidd yn trafod adferiad COVID-19 â Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd dynnu sylw at y bwlch data o ran cofnodi achosion o COVID-19 hir, ac awgrymodd fod angen i feddygon teulu gofnodi nifer y cleifion y maent yn eu gweld â’r cyflwr.

Beth yw effaith COVID hir?

Mae profiad pobl o COVID hir yn gallu amrywio'n sylweddol. Canfu astudiaeth ymchwil o dros 270,000 o oroeswyr COVID-19 yn UDA fod yr effeithiau hirdymor yn gymysgedd o rai cyffredin ac amrywiol. Ond adroddodd llawer o bobl nam ar berfformiad gwybyddol – 'meddwl pŵl' fel y’i gelwir – a llawer o achosion o boen a blinder. Fe wnaeth un adolygiad yn y British Medical Journal (BMJ) hefyd dynnu sylw at y canlyniadau emosiynol sylweddol, gan gynnwys yr effaith ar hunaniaeth a pherthnasoedd pobl, a’r effaith ddifrifol bosibl ar allu pobl i weithio.

Gall COVID hir gael effaith amrywiol, sylweddol a gwanychol, ac mae clinigwyr yn dal i gael trafferth deall y cyflwr yn llawn.

Beth y mae cleifion yn ei ddweud?

Mae pryderon parhaus o ran cleifion yn cael trafferth i gael eu profiadau wedi’u cymryd o ddifrif. Mae un darn o waith ymchwil yn y DU “How and why patients made Long Covid” yn datgan yn uniongyrchol:

Long COVID has a strong claim to be the first illness created through patients finding one another on Twitter: it moved from patients, through various media, to formal clinical and policy channels in just a few months.

Mae'r gwaith ymchwil yn nodi sut y cafodd adroddiadau cleifion o symptomau COVID-19 hir eu hesgeuluso a'u hanwybyddu i ddechrau. Ond drwy rannu profiadau mewn cymunedau ar-lein, llwyddwyd i ysgogi mwy o ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o COVID hir, gan arwain at dderbyniad o safbwynt gwyddonol, polisi a gwasanaeth.

Ceir tystiolaeth arall o ddioddefwyr yn dod ar draws dealltwriaeth gyfyngedig gan eraill o effaith y cyflwr. Canfu gwaith ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt yn 2022 ar broblemau cof ymhlith dioddefwyr COVID hir fod hanner y rhai yn yr astudiaeth yn adrodd anawsterau o ran cael gweithwyr meddygol proffesiynol i gymryd eu symptomau o ddifrif. Fe wnaeth gwaith ymchwil cynharach yn y DU bwysleisio, hefyd, fod angen i lawer o ddioddefwyr ddibynnu'n helaeth ar gefnogaeth a chyngor gan gymunedau ar-lein o bobl eraill sydd â'r cyflwr.

Mae gwaith sydd wedi’i gyhoeddi gan Brifysgol Rhydychen, y BMJ, Nature, a’r Lancet oll yn dadlau bod COVID hir wedi ailbwysleisio’r angen i wneud mwy o ddefnydd a defnydd gwell o naratifau a phrofiadau cleifion ym meysydd ymchwil a thriniaeth.

Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu gyhoeddi canllawiau i sefydliadau ar sut i gefnogi'r rhai sydd â COVID hir i ddychwelyd i’r byd gwaith, ac aros yn y byd gwaith.

Datblygu gwasanaethau ar gyfer COVID hir

Mae atal COVID-19 ei hun yn allweddol; mae gwaith ymchwil gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, y Lancet, a’r ONS yn nodi llai o achosion o COVID hir ymhlith y rhai sydd wedi cael eu brechu.

Fodd bynnag, nid oes consensws o ran y gwasanaethau sydd fwyaf addas i fynd i'r afael â COVID hir. Mae gan lawer o bobl symptomau ysgafn ac yn hunanreoli gyda chefnogaeth ac arweiniad – gan gynnwys apiau adfer COVID – ond mae gan rai symptomau cymhleth sy'n gofyn am ddull amlddisgyblaethol.

Yng Nghymru, fe wnaeth y rhaglen Adferiad ddyrannu gwerth £5 miliwn o gyllid COVID hir ar gyfer 2021-22 a 2022-23 i Fyrddau Iechyd Lleol ar gyfer llwybrau cleifion newydd, gwasanaethau adsefydlu sylfaenol a chymunedol gwell, a mynediad at ofal mwy arbenigol.

Wrth gyhoeddi’r cyllid ar gyfer 2022-23, dywedodd y Gweinidog y canlynol:

Ymddengys bod y model o wasanaethau adfer sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn diwallu anghenion y rhai hynny sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau ac anghenion clinigwyr fel modd effeithiol o gefnogi pobl.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu ac asesu effaith y rhaglen bob chwe mis. Canfu gwerthusiad cychwynnol ym mis Ionawr 2022 fod cleifion yn cael profiad cadarnhaol ar y cyfan, gyda’r gwasanaeth yn helpu i drin a rheoli eu cyflwr. Disgwylir ail adroddiad yn y gwanwyn.

Mae COVID Hir Cymru a rhai Aelodau o'r Senedd wedi cyflwyno'r achos dros glinigau ‘un stop' arbenigol i gyfuno arbenigedd a darparu un mynediad i gleifion.

Mae modelau gwasanaeth gwahanol wedi’u sefydlu mewn rhannau eraill o’r DU:

Beth nesaf?

Mae llawer i'w ddysgu o hyd am COVID hir. Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith pymtheg o gyrff yn y DU sydd wedi cael rhywfaint o'r £20 miliwn o gyllid gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd i helpu i fynd i’r afael â COVID hir. Bydd Caerdydd yn edrych ar fodelau gofal newydd, gan gynnwys rhaglenni hunanreoli a datblygu profion a thriniaethau. Yng Nghymru, mae rhai cleifion hefyd wedi troi at opera i gynorthwyo eu hadferiad. Nid yw profiadau dau glaf yn union yr un fath, ac mae’r ymatebion i COVID hir yn debygol o fod yr un mor amrywiol.

Mae cyngor ar COVID hir ar gael drwy yn GIG111, Asthma and Lung UK, a British Heart Foundation.


Erthygl gan Paul Worthington, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru