cy

cy

Dim seibiant i ofalwyr di-dâl wrth i'r pwysau barhau i gynyddu

Cyhoeddwyd 03/03/2022   |   Amser darllen munudau

Wrth i gyfyngiadau coronafeirws lacio yng Nghymru ac wrth i gymdeithas barhau i ailagor, mae llawer ohonom yn dechrau teimlo mwy o ymdeimlad o normalrwydd.

Ond nid yw hyn yn wir i lawer o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, wrth i alwadau diddiwedd, a waethygir gan y pandemig, barhau i gynyddu. Yr heriau parhaus i ofalwyr di-dâl oedd un o'r materion allweddol a ganfuwyd gan arbenigwyr academaidd wrth i ni symud ymlaen tuag at 'fyw gyda COVID-19'.

Dywedir bod gofalwyr di-dâl bellach yn teimlo "pwysau llethol"; ac y gofynnir iddynt ymgymryd â hyd yn oed mwy o ofal heb lawer o gymorth (neu ddim). Mae'r erthygl hon yn tynnu sylw at y sefyllfa ddiweddaraf y mae gofalwyr di-dâl yn ei hwynebu.

“Argyfwng gofal cenedlaethol”

Cyn y pandemig, amcangyfrifwyd bod tua 96 y cant o’r gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl. Chwe mis ar ôl dechrau’r pandemig, dywedodd 80 y cant o ofalwyr di-dâl eu bod yn gorfod darparu mwy o ofal, ac efallai bod hyn wedi cynyddu yn dilyn datblygiadau diweddar.

O haf 2021 tan y gaeaf, cyhoeddodd chwech o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru (pob un ac eithrio Powys) a'u partneriaid awdurdod lleol eu bod, oherwydd yr "argyfwng gofal cenedlaethol", wedi gorfod blaenoriaethu gofal i'r rhai â'r anghenion mwyaf. Eglurodd y byrddau iechyd ac awdurdodau lleol na fyddent yn gallu anrhydeddu'r holl becynnau gofal y cytunwyd arnynt yn flaenorol ac roeddent yn gofyn i deuluoedd a gofalwyr di-dâl gamu i’r bwlch a darparu mwy o ofal.

Caiff yr argyfwng gofal hwn ei briodoli i brinder difrifol yng ngweithlu’r sector, ynghyd â galw digynsail am wasanaethau. Dywedodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Chwefror fod ganddi nifer o ddarparwyr annibynnol yn rhoi pecynnau gofal yn ôl erbyn diwedd y llynedd o ganlyniad uniongyrchol i brinder staff. Dywedodd y Gymdeithas bod y gwasanaethau cymdeithasol yn gorfod canolbwyntio ar ymdrin ag unigolion sydd mewn perygl mawr, a'u bod yn "dibynnu'n drwm iawn, iawn ar deulu a ffrindiau - y gofalwyr anffurfiol hynny".

Galwadau cynyddol ar ofalwyr di-dâl

Dywedodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Chwefror bod gofalwyr di-dâl o dan bwysau ar hyn o bryd i ddarparu lefelau hir ac anghynaliadwy o ofal yn y cartref, heb gymorth gan wasanaethau statudol. Dywedodd:

We have heard of delays of upwards of three months and carers faced with the choice of leaving their loved one in hospital to wait for the care package, visibly deteriorating in hospital, or to shoulder the care burden themselves at home.

Mae rhanddeiliaid sy’n cynnwys Cymdeithas Alzheimer Cymru yn pryderu'n fawr bod byrddau iechyd yn gofyn i ofalwyr di-dâl wneud mwy fyth ar hyn o bryd. Mae elusennau hefyd wedi nodi nad oedd y datganiadau cyhoeddus hyn yn rhoi unrhyw amser na sicrwydd ynghylch pryd y byddai pecynnau gofal yn cael eu hadfer, "mae'n teimlo fel sefyllfa benagored".

Dywed Gofalwyr Cymru bod rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu tanseilio. Pwysleisiodd yr elusen fod y gyfraith yn canolbwyntio’n gryf iawn ar y bwriad y dylai gofalwyr ond bod yn gofalu os ydyn nhw'n "fodlon ac yn gallu" gwneud hynny, ond mae'r pwysau'n ymwneud â rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn gorfodi gofalwyr i fynd y tu hwnt i hyn. Mae'n credu y dylai awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru chwilio am atebion creadigol i leihau'r baich ychwanegol ar ofalwyr, megis system daliadau uniongyrchol cyflym ar gyfer gofalwyr i geisio trefnu cymorth arall.

Pan ofynnwyd am y cynnig hwn o daliadau uniongyrchol cyflym y llynedd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

[…] we are prepared to discuss any proposals that come forward because we recognise the huge strain that there has been on carers, unpaid carers, and what a huge contribution they've made.

Diffyg gwasanaethau cymorth i ofalwyr

Cafodd gwasanaethau gofal seibiant (a oedd eisoes yn brin) eu tarfu'n ddifrifol gan y pandemig. Yr haf diwethaf, dywedodd 72 y cant o ofalwyr nad oeddent wedi gallu cymryd unrhyw egwyl o gwbl ers dechrau'r pandemig.

Daeth adolygiad diweddar gan ADSS Cymru i'r casgliad bod y pandemig wedi dangos bod cymorth seibiant yn wasanaeth hanfodol. Fodd bynnag, bu'n rhaid i lawer o'r gwasanaethau hyn gau neu leihau capasiti i’r eithaf. Mae'r adolygiad yn nodi y bydd y pandemig wedi ymestyn llawer o wasanaethau yn ariannol, ac i rai darparwyr, "gall wneud parhad busnes yn amhosibl". Dywed ADSS fod angen i gomisiynwyr bwyso a mesur effaith y pandemig ar wasanaethau seibiant, gan fyfyrio ar eu pwysigrwydd fel rhan o'r adferiad strategol o'r pandemig fel "system gyfan".

Mae gofalwyr yn dweud bod tarfu eang o hyd ar y gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt i ddarparu gofal; dim ond 8 y cant o ofalwyr a ddywedodd bod canolfannau dydd sy'n darparu seibiant wedi ailagor yn llawn a dim ond 40 y cant a ddywedodd fod cymorth gan weithwyr gofal cyflogedig wedi ailddechrau'n llawn.

Er bod agweddau eraill ar gymdeithas wedi dechrau ailagor, mae Gofalwyr Cymru wedi dweud nad ydynt wedi gweld hynny gyda gofalwyr di-dâl. Pwysleisiodd yr elusen fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i weithio gydag awdurdodau lleol i ailsefydlu gwasanaethau gofalwyr yn llawn ledled Cymru wedi iddynt gael eu tarfu arnynt.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb?

Ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer pecyn cymorth i ofalwyr di-dâl. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cyllid yn dangos faint mae’r "fyddin" o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn cael eu gwerthfawrogi ac:

Rydym yn rhannu’r pryderon bod rhai wedi cyrraedd pen eu tennyn oherwydd y pwysau ychwanegol arnynt o ganlyniad i’r pandemig

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi diweddaru cynllun cyflawni ei Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl ym mis Ionawr 2022. Un o flaenoriaethau'r cynllun cyflawni yw "gwella mynediad i wyliau byr … ac ehangu’r ystod o opsiynau seibiant sydd ar gael". Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn blaenoriaethu'r galw cynyddol am ganolfannau dydd a gwasanaethau eistedd gyda rhywun a gofal amgen mwy traddodiadol, a modelau arloesol o ddarparu seibiannau dros y flwyddyn i ddod.

Ym mis Ionawr 2022, dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ymrwymiad ei rhaglen lywodraethu i ariannu cynllun seibiant gwyliau byr. Dywedodd "Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu trawsnewid darpariaeth seibiant yng Nghymru".

Beth nesaf?

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad rhyddhau o'r ysbyty ar 24 Mawrth. Mae'r pwysau ar ofalwyr di-dâl yn thema allweddol yn y dystiolaeth a gafwyd, ac mae'n debygol o fod yn nodwedd gref yn y drafodaeth.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru