canolfan frechu

canolfan frechu

“Byw gyda COVID-19”: Sut y bydd rhaglen frechu Cymru yn datblygu yn 2022 a thu hwnt?

Cyhoeddwyd 07/04/2022   |   Amser darllen munudau

Fe wnaeth ein herthygl ymchwil, ''Byw gyda COVID-19': ydyn ni wedi cyrraedd pen draw’r daith?, dynnu sylw at bum mater allweddol y mae arbenigwyr yng Nghymru yn dweud bod angen i ni gadw llygad arnynt wrth i gyfnod argyfwng y pandemig ddod i ben. Y materion hyn yw iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc; gofalwyr di-dâl; brechu a brechiadau atgyfnerthu; y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol; a COVID hir. Dyma'r ail erthygl mewn cyfres a fydd yn edrych ar y materion allweddol hyn. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar frechu a brechiadau atgyfnerthu.

Mae mwy na 6.8 miliwn o ddosau o frechlynnau COVID-19 wedi’u rhoi yng Nghymru

Ar 8 Rhagfyr 2020, y DU oedd y wlad gyntaf yn y byd i roi brechlyn COVID-19 cymeradwy; dyma oedd dechrau’r rhaglen frechu fwyaf a chyflymaf a welwyd erioed. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod mwy na 91 y cant o boblogaeth Cymru dros 12 oed wedi cael eu brechu ag o leiaf un dos o frechlyn COVID-19, 86 y cant ag o leiaf dau ddos, a 70 y cant wedi cael trydydd dos a/neu frechlyn atgyfnerthu - llwyddiant aruthrol.

Mae brechu yn parhau i fod yn rhan hollbwysig o ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19. Yn ei chynllun byw ochr yn ochr â COVID, dywed Llywodraeth Cymru mai brechu yw’r “peth pwysicaf y gall unigolyn ei wneud i ddiogelu ei hun ac eraill”.

Ar 24 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Frechu COVID-19 ddiweddaraf. Mae'n nodi sut y bydd y rhaglen frechu yng Nghymru yn datblygu yn 2022 a thu hwnt.

Plant rhwng pump ac 11 oed

Yn ystod misoedd cyntaf 2022, mae'r sylw wedi bod ar gynnig brechiad i blant a phobl ifanc.

Mae brechlyn atgyfnerthu bellach yn cael ei gynnig i bobl ifanc 12 i 17 oed a’r rhai sydd fwyaf mewn perygl oherwydd cyflyrau iechyd sylfaenol.

Ar hyn o bryd, mae brechlyn COVID dos isel yn cael ei gynnig i blant iau rhwng 5 ac 11 oed (cwrs dau ddos, gydag o leiaf 12 wythnos rhwng y pigiadau) mewn canolfannau brechu (nid oes bwriad brechu mewn ysgolion).

Brechlyn atgyfnethu yn y gwanwyn i'r bobl hynaf a mwyaf agored i niwed

Bydd llawer o’r bobl hynaf a mwyaf agored i niwed wedi cael eu dos brechlyn diweddaraf ym mis Medi neu fis Hydref 2021. Mae'r unigolion hyn mewn mwy o berygl o gael COVID-19 difrifol, a chyda threigl amser, gallai eu himiwnedd sy'n deillio o frechu leihau'n sylweddol cyn yr hydref.

Fel mesur rhagofalus i hybu amddiffyniad, mae brechiad atgyfnerthu y gwanwyn (pedwerydd dos) yn cael ei gynnig i oedolion 75 oed a throsodd, preswylwyr mewn cartref gofal ar gyfer oedolion hŷn ac unigolion 12 oed a hŷn sydd â gwrthimiwnedd.

Rhaglen atgyfnerthu'r hydref

Er gwaethaf yr ansicrwydd yn y flwyddyn i ddod, mae'n debygol y bydd bygythiad COVID-19 ar ei fwyaf yn y gaeaf. Mae’r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn cynghori y bydd angen amddiffyniad pellach ar y bobl hynaf a mwyaf agored i niwed, ac y bydd angen rhaglen frechu yn hydref 2022 i’r rhai sydd fwyaf mewn perygl.

Bellach mae disgwyl y bydd y brechiad COVID-19, fel gyda’r pigiad ffliw, yn dod yn rhaglen flynyddol reolaidd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud ei bod yn cadw’r angen i “gynyddu capasiti ymchwydd” (h.y. i gyflymu'r broses gyflwyno'n yn sydyn) os oes angen ymateb i don newydd o’r pandemig, neu achos o amrywiolyn newydd. Dyma sut yr ymatebodd y llywodraeth i'r amrywiolyn Omicron ddiwedd 2021.

Materion allweddol ar gyfer y rhaglen frechu yn 2022

Mae COVID-19 fel arfer yn ysgafn yn y mwyafrif o blant, sy’n gwneud i rai rhieni gwestiynu a ddylai eu plentyn gael y brechlyn

Yn gyffredinol, nid yw’r rhan fwyaf o blant mewn perygl mawr o fynd yn ddifrifol wael yn sgil haint COVID-19, felly mae’r buddion iechyd o’u brechu yn llai nag mewn grwpiau oedran eraill. Mae hyn wedi gwneud y lawer o rieni deimlo’n ansicr a ddylai eu plant gael eu brechu ai peidio.

Nid yw’r broses ar gyfer dechrau brechu plant 5 i 11 oed yn frys, ac mae’r pwyslais ar ddewis y rhieni. Mae’r JCVI wedi dweud y bydd bwrw ymlaen â'r brechlyn yn cynyddu amddiffyniad y grŵp oedran hwn rhag salwch difrifol cyn ton bosibl o COVID-19 yn y dyfodol.

Disgwylir y bydd gan rieni rai pryderon am effeithiau hirdymor y brechlynnau COVID-19 gan eu bod yn newydd. Ond dywed yr arbenigwyr gwyddonol fod yr holl dystiolaeth yn dangos eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol i blant. Mae Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi dweud:

Byddem yn annog pawb sy’n gymwys i gael y brechlyn i ystyried gwneud hynny.

Mae’r brechlynnau sy’n cael eu cynnig wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio gan Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau Gofal Iechyd y DU (MHRA), sy’n golygu eu bod wedi gorfod bodloni safonau llym o ran diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd. Mae'r brechlyn eisoes wedi cael ei ddefnyddio'n eang mewn gwledydd eraill.

Mae brechlynnau'n gweithio – mae nifer y derbyniadau i'r ysbyty yn gostwng yn gyflymach na nifer yr achosion newydd, ond mae'r amddiffyniad yn lleihau dros amser

Bydd imiwnedd naturiol sy'n deillio o haint blaenorol, ynghyd ag imiwnedd yn sgil brechlyn, yn cyfrannu at amddiffyniad rhag tonnau o haint COVID-19 a salwch difrifol yn y dyfodol. Mae tystiolaeth gref bod y brechlynnau COVID-19 yn ysgogi ymateb imiwn cryf, ond bod effeithiolrwydd yn lleihau dros amser.

Yn ôl amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gan tua un o bob 14 o bobl yng Nghymru COVID-19 ar hyn o bryd, neu 7 y cant o’r boblogaeth. Amcangyfrifir, erbyn diwedd Ionawr 2022, y bydd dros 85 y cant o blant (5 i 11 oed) yn unig wedi cael COVID-19, gyda thua hanner yr heintiau hyn oherwydd yr amrywiolyn Omicron.

Pan fyddwch wedi cael COVID-19, nid yw'n sicr am ba hyd y bydd eich imiwnedd yn para. Felly, er bod lefelau imiwnedd presennol yn sgil brechu a haint yn uchel, mae’n debygol y bydd brechiadau COVID-19 yn dod yn beth blynyddol i gynnal lefelau uchel o imiwnedd a helpu i’n hamddiffyn rhag amrywiolion yn y dyfodol.

Bydd ton arall o COVID-19

Dywed yr arbenigwyr y bydd ton arall o COVID-19, ond nid oes sicrwydd ynghylch amseriad a difrifoldeb tonnau yn y dyfodol.

Mae'n anodd dweud pa mor effeithiol fydd y brechlynnau presennol yn erbyn unrhyw amrywiolion yn y dyfodol, ac efallai y gwelwn ni frechlynnau newydd yn cael eu trwyddedu ac ar gael yn 2022.

Yn sicr, ni ragwelir y bydd COVID-19 yn diflannu o'r boblogaeth. Felly, bydd angen cael sgwrs am gydbwyso amlder y brechu a phwy sy’n cael eu brechu er mwyn parhau i gadw’r mur o imiwnedd.

Am y tro, mae'n ymddangos bod y pwyslais ar fonitro amrywiolion newydd ac ymateb yn unol â hynny, fel diweddaru brechlynnau. Ond ar ryw adeg, mae'n siŵr y bydd yn rhaid canolbwyntio ar leihau heintiau ar lefel fyd-eang.

Mae’n bwysig bod pobl yn gwneud dewisiadau gwybodus am y brechlyn COVID-19 ar sail gwybodaeth gywir y gellir ymddiried ynddi. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wybodaeth i gleifion a chwestiynau cyffredin defnyddiol am y brechlyn a diogelwch.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru