Llun o berson yn defnyddio cyfrifiannell a gliniadur

Llun o berson yn defnyddio cyfrifiannell a gliniadur

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario ei chyllideb yn 2024-25?

Cyhoeddwyd 01/03/2024   |   Amser darllen munudau

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn nodi sut y bydd yn defnyddio tua £27 biliwn i ariannu iechyd, llywodraeth leol ac ystod eang o wasanaethau eraill.

Cafodd y Gyllideb Ddrafft ei chyhoeddi yn ôl ym mis Rhagfyr, ac mae’r ddadl ar y Gyllideb Derfynol ar 5 Mawrth yn cau pen y mwdwl ar y broses o bennu cyllideb Llywodraeth Cymru. Wrth drafod y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25, nododd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (“y Gweinidog”) fod y broses gyllidebol hon wedi golygu y bu’n rhaid gwneud y penderfyniadau mwyaf “cyfyng a phoenus” ers datganoli.

Yn yr erthygl hon, rydym yn archwilio’r newidiadau rhwng y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Derfynol. Gallwch ddarllen mwy am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn ein herthygl sy’n trafod y pum peth a ddysgwyd gennym yn ystod gwaith craffu’r Senedd eleni.

Cyllideb Derfynol 2024-25

Yn dilyn gwaith craffu a dadl ar y Gyllideb Ddrafft, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Gyllideb Derfynol ar 27 Chwefror 2024.

Yn ei datganiad ysgrifenedig, nododd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

Mae Cyllideb Derfynol 2024-25 yn adeiladu ar y cynlluniau gwario yr ydym eisoes wedi'u nodi yn y Gyllideb Ddrafft drwy gyhoeddi dyraniadau adnoddau a chyfalaf ychwanegol a nifer o newidiadau gweinyddol.

Pa gyllid ychwaengol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael?

Cafodd Llywodraeth Cymru ddyraniadau ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth y DU ar ffurf cyllid canlyniadol Barnett fel rhan o broses Amcangyfrifon Atodol y DU. Nododd y Gweinidog bod y cyllid canlyniadol hwn wedi’i gadarnhau yn hwyr yn ystod y flwyddyn ariannol:

Mae'r wybodaeth hon [am y cyllid canlyniadol] wedi dod i law yn hwyr iawn yn y flwyddyn. Mae'r refeniw ychwanegol yn swm o £231 miliwn, sef tua dwy ran o dair o'n capasiti wrth gefn.

Mae’r dyraniadau cyllid yn cynnwys £231 miliwn yn ychwanegol mewn cyllid adnoddau ac £8 miliwn yn ychwanegol mewn cyllid cyfalaf cyffredinol, gyda gostyngiad o £38 miliwnt mewn cyfalaf Trafodion Ariannol.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cael cadarnhad gan Drysorlys Ei Fawrhydi o £107 miliwn o gyfalaf Trafodion Ariannol ychwanegol ar gyfer 2024-25, gan roi cyfanswm o £133.2 miliwn. Cafodd £31.8 miliwn o’r cyfalaf Trafodion Ariannol hwn ei ddyrannu yn y Gyllideb Ddrafft, a £66.5 miliwn yn y Gyllideb Derfynol.

Hefyd cafodd Llywodraeth Cymru gyllid adnoddau canlyniadol gwerth £25 miliwn yn sgil cyhoeddiad yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ynghylch cyllid ychwanegol ar gyfer y setliad llywodraeth leol yn Lloegr. Roedd hyn yn gysylltiedig â phwysau ym maes gofal cymdeithasol. Ar 7 Chwefror, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Ddatganiad Ysgrifenedig yn nodi y byddai’r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi llywodraeth leol yng Nghymru hefyd.

Bydd £10.6 miliwn yn cael ei ddefnyddio i wyrdroi'r penderfyniad i leihau grant y gweithlu cymdeithasol a wnaed yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25. Caiff y £14.4 miliwn sy'n weddill ei ddyrannu i'r Grant Cynnal Refeniw fel rhan o'r setliad i ymateb i’r pwysau ym meysydd gofal cymdeithasol ac addysg, gan gynnwys cyflogau athrawon.

Mae dyraniadau eraill a wnaed yn y Gyllideb Derfynol yn cynnwys:

  • £10 miliwn ar gyfer rhaglenni prentisiaeth a chyflogadwyedd mewn ymateb i ddiswyddiadau posibl yng ngweithfeydd dur Tata;
  • £40 miliwn o gyllid cyfalaf newydd i gefnogi'r GIG;
  • £30 miliwn ar gyfer Morglawdd Caergybi; ac
  • £20 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig i ddiogelu eu busnesau at y dyfodol.

Mae'r dyraniadau allweddol yn ôl adran y Llywodraeth a sut y mae'r rhain wedi newid ers Cyllideb Ddrafft 2024-25 wedi’u crynhoi isod.

Dyraniadau Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL): £20,910m (i fyny £50m neu 0.2 y cant). DEL Cyfalaf: £2,945m (i fyny £152m neu 5.4 y cant). Cyfanswm DEL: £23,854m (i fyny £202m neu 0.9 y cant). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £2,777m (dim newid). Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £26,631m (i fyny £202m neu 0.8 y cant).

Newidiadau rhwng y Terfynau Gwariant Adrannol yn y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024-25 a’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25

Cyllideb Derfynol refeniw a chyfalaf yn ôl portffolio a newidiadau o Gyllideb Ddrafft. Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £11,738m, cynnydd o £47m (0.4%). Cyllid a Llywodraeth Leol £5,123m, cynnydd o £30m (0.6%). Newid Hinsawdd £2,873m, cynnydd o £25m (0.9%). Y Gymraeg ac Addysg £2,586m, dim newid. Yr Economi £632m, cynnydd o £91m (16.8%). Materion Gwledig £420m, dim newid. Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu £334m, cynnydd o £1m (0.3%). Cyfiawnder Cymdeithasol £150m, cynnydd o £8m (5.3%).

 

* Heb gynnwys £1.1 biliwn o incwm o ardrethi annomestig.

** Yn cynnwys dyraniad o £514 miliwn o refeniw anghyllidol oherwydd benthyciadau myfyrwyr.

Mae ffigurau wedi’u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 i weld yr union ffigurau.

Cyfraddau Treth Incwm Cymru

Ochr yn ochr â’r ddadl ar y Gyllideb Derfynol ei hun, bydd dadl yn cael ei chynnal ar osod Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC). Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid CTIC ar gyfer 2024-25, a fydd yn golygu mai 10c fydd lefel CTIC o hyd ar gyfer y cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol

Mae hyn yn golygu y bydd trethdalwyr sy'n byw yng Nghymru a Lloegr yn parhau i dalu'r un faint o dreth incwm.

Cadarnhau cyllid ar gyfer llywodraeth leol

Wrth graffu ar y Gyllideb Ddrafft, awgrymodd arweinwyr awdurdodau lleol efallai na fydd y cyllid yn y Setliad Dros Dro ar gyfer 2024-25 yn ddigon i ddiogelu gwasanaethau. Ochr yn ochr â'r Gyllideb Derfynol, cawsom hefyd wybodaeth am y lefelau ariannu terfynol ar gyfer llywodraeth leol. Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad ar y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.

Mae’r £14.4 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y Grant Cynnal Refeniw yn golygu y bydd cyfanswm y cyllid refeniw craidd, wedi’i addasu ar gyfer trosglwyddiadau, yn cynyddu 3.3 y cant o gymharu â 2023-24, yn hytrach na’r 3.1 y cant a amlinellwyd yn y Setliad Dros Dro. Bydd y 22 awdurdod lleol, felly, yn cael cyfran o £5.72 biliwn drwy’r Grant Cynnal Refeniw ac ardrethi annomestig.

Mae’r newidiadau rhwng y Setliad Dros Dro a’r Setliad Terfynol hefyd yn golygu na fydd unrhyw awdurdod lleol yn cael llai na 2.3 y cant o gynnydd mewn cyllid refeniw craidd, sy’n fwy na’r 2.0 y cant a nodwyd yn y Setliad Dros Dro.

Mae'r Setliad Terfynol hefyd yn darparu gwybodaeth am gyllid cyfalaf cyffredinol, sydd heb newid. Mae hefyd yn cynnwys rhagor o fanylion am y grant refeniw gwerth dros £1.3 biliwn a’r grant cyfalaf gwerth dros £956 miliwn sydd ar gael i awdurdodau lleol.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad ar y cyllid canlyniadol ychwanegol, dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod awdurdodau lleol yn dal i wynebu bwlch ariannu o £432 miliwn. Awgrymodd “y bydd yn rhaid cymryd penderfyniadau anodd, gan gynnwys codi lefelau’r Dreth Gyngor ac o ran darparu gwasanaethau”.

Nid diwedd y gân ar gyllid ar gyfer 2024-25

Er mai fersiwn 'derfynol' cyllideb Llywodraeth Cymru yw hon, nid dyma'r tro olaf y byddwn yn clywed am gyllid a chyllidebau ar gyfer 2024-25. Yn wir, bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Cyllideb y Gwanwyn y diwrnod ar ôl i’r Senedd drafod Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru.

Gallai cyhoeddiadau yn San Steffan gael effaith ar y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn 2024-25. Mae'r Gweinidog yn bwriadu gwneud datganiad cyn gynted â phosibl ar ôl cyhoeddi Cyllideb y Gwanwyn, a fydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon a manylion am unrhyw gyllid canlyniadol i Gymru. Fodd bynnag, mae'n debygol na welwn fanylion unrhyw ddyraniadau dilynol tan y Gyllideb Atodol Gyntaf (sydd fel arfer yn cael ei chyhoeddi ym mis Mehefin).

Mae 5 Mawrth yn ddiwrnod arwyddocaol i gyllid Cymru, wrth i’r Senedd drafod y Gyllideb Derfynol, Cyfraddau Treth Incwm Cymru a’r Setliad Llywodraeth Leol. Gallwch wylio’r trafodaethau ar Senedd tv, darllen y trawsgrifiad ar ôl y cyfarfod neu ddilyn Ymchwil y Senedd ar ‘X’ (yr enw newydd am Twitter) i weld yr erthyglau diweddaraf sy’n trafod y gyllideb a mwy.


Erthygl gan Christian Tipples, Owen Holzinger, ac Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru