Pum peth rydym ni wedi'u dysgu o Gyllideb Ddrafft 2024-25

Cyhoeddwyd 02/02/2024   |   Amser darllen munudau

Dywed Llywodraeth Cymru mai’r penderfyniadau a wnaed yng Nghyllideb Ddrafft 2024-25 yw’r “rhai mwyaf cyfyng a phoenus ers datganoli”. Cyn i'r Pwyllgorau gyhoeddi eu hadroddiadau, mae'r erthygl hon yn nodi pum peth yr ydym wedi'u dysgu yn ystod y sesiynau craffu.

Trosolwg o’r Gyllideb Ddrafft

Mae cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn fwy na £26.4 biliwn (gweler Ffigur 1 isod). O hyn, dyrennir £20.9 biliwn i adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd.

Ffigur 1. Dyraniadau Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL): £20,860 miliwn (cynnydd o £776 miliwn neu 3.9 y cant). DEL Cyfalaf: £2,793m (gostyngiad o £92m neu 3.2%).  Cyfanswm DEL: £23,653 miliwn (i fyny £684 miliwn neu 3.0 y cant). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £2,777 miliwn (i fyny £717 miliwn neu 34.8 y cant). Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £26,429 miliwn (i fyny £1,401 miliwn neu 5.6 y cant).

Mae cyfanswm y cynnydd mwyaf ar gyfer 2024-25 o ran gwerth, o’i gymharu â’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2023-24, ar gyfer yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (£929 miliwn, gweler ffigur 2 isod), a fydd yn cael 49 y cant o’r cyfanswm a ddyrennir ar gyfer gwariant o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru yn 2024-25. Mae cyllid ym mhob adran arall yn gweld gostyngiad cymharol.

Ffigur 2. Gwariant y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25 fesul Adran

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £11,690 miliwn, sef cynnydd o £929 miliwn (8.6 y cant). Cyllid a Llywodraeth Leol £5,092 miliwn, sef gostyngiad o £33 miliwn (-0.6 y cant). Newid Hinsawdd £2,848 miliwn, sef gostyngiad o £84 miliwn (-2.9 y cant). Y Gymraeg ac Addysg £2,586 miliwn, sef gostyngiad o £56 miliwn (-2.1 y cant). Yr Economi £541 miliwn, sef gostyngiad o £4 miliwn (-0.8 y cant). Materion Gwledig £420 miliwn, sef gostyngiad o £29 miliwn (-6.4 y cant). Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu £333 miliwn, sef gostyngiad o £27 miliwn (-7.4 y cant).  Cyfiawnder Cymdeithasol £142 miliwn, sef gostyngiad o £12 miliwn (-7.6 y cant).

 

* Heb gynnwys tua £1.1 biliwn mewn incwm ardrethi annomestig.

** Yn cynnwys dyraniad o £514 miliwn mewn refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu. Cyfeiriwch at Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 i gael yr union ffigurau.

1. A yw hon yn gyllideb sydd wedi’i “hail-lunio mewn modd radical”?

Mae’r chwyddiant uwch na'r disgwyl dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi erydu gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Dywed Llywodraeth Cymru fod y gyllideb hon wedi cael ei “ail-lunio mewn modd radical” i ganolbwyntio ar fwy o fuddsoddiad yn y GIG a diogelu’r setliad llywodraeth leol craidd.

Bydd y GIG yn cael £450m o gyllid ychwanegol ar ben y £425m a ddarparwyd ym mis Hydref ar gyfer 2023-24. Bydd y setliad llywodraeth leol 3.1 y cant yn uwch na’r llynedd, gyda chyfanswm cyfraniad cyllid craidd o £5.7bn. Hefyd ceir cyllid ychwanegol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru o £111 miliwn yn ychwanegol at gynlluniau presennol ar gyfer 2024-25.

Cyllidebau cyfalaf sy'n gweld y gostyngiadau mwyaf mewn termau real. Nid yw'n glir sut y bydd hyn yn effeithio ar gyflawni'r cynlluniau presennol. Mae’r Gyllideb Ddrafft yn nodi y bydd y rhan fwyaf o ddyraniadau cyfalaf cyffredinol yn aros yr un fath a “darperir diweddariad llawn ar fapio cyfalaf adeg y Gyllideb Derfynol”.

2. Os oes “penderfyniadau anodd” wedi’u gwneud, beth yw’r canlyniadau?

Codwyd cwestiynau ynghylch a fydd mwy o gyllid yn gwella canlyniadau yn y GIG. Mae Dadansoddi Cyllid Cymru wedi nodi, er bod gwariant ar iechyd wedi cynyddu tua 13 y cant mewn termau real o 2019-20, nid yw’r cyfraddau gweithgarwch wedi cynyddu cymaint.

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi argymell yn flaenorol bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth am y canlyniadau yr oedd yn disgwyl i GIG Cymru eu cyflawni ar gyfer y cyllid ychwanegol sydd wedi’i ddyrannu. Darparodd Llywodraeth Cymru ystod o wybodaeth mewn ymateb, ond nid yw hyn yn cynnwys canlyniadau meintioledig.

Mae Dadansoddi Cyllid Cymru wedi nodi pedwar gweithredwr rheilffyrdd arall yn y DU sydd wedi cofnodi mwy o deithiau na chyn y pandemig erbyn mis Mawrth 2023 ac wedi cwestiynu a yw’rcyllid rheilffyrdd ychwanegol yn gynaliadwy yn y tymor canolig.

Yn yr un modd, codwyd pryderon ynghylch diffyg gwybodaeth i fesur yr effaith ar ddarparu gwasanaethau mewn meysydd lle na chafodd cyllid ei “ddiogelu”.

3. Efallai na fydd awdurdodau lleol yn gallu diogelu gwasanaethau allweddol

Amlygwyd y setliad llywodraeth leol fel maes blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru yng Nghyllideb Ddrafft 2024-25.

Mae arweinwyr awdurdodau lleol wedi codi pryderon am y cynnydd o 3.1 y cant yn y setliad llywodraeth leol, gan ddweud na fydd yn ddigon i ddiogelu gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau anstatudol. Mae cyflogau a chostau darparu gwasanaethau i awdurdodau lleol wedi codi’n sylweddol yn dilyn dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus a oedd yn llawer uwch nag a gyllidebwyd yn 2023-24, ac o ystyried y bydd cyflogau byw gwirioneddol yn codi eto bron i 10 y cant ym mis Ebrill 2024.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wrth y Pwyllgor Cyllid fod y cynnydd yn y cyllid ar gyfer 2024-25 dim ond tua thraean o'r pwysau sy'n wynebu gwasanaethau lleol, a allai arwain at ddewisiadau anodd, colli swyddi a thoriadau i wasanaethau.

Mae pryderon sylweddol hefyd i’r sector gofal cymdeithasol. Dywedodd CLlLC:

na fydd lefel yr amddiffyniad sydd wedi’i roi i wasanaethau cymdeithasol hyd yma yn bosibl am lawer hirach gan beryglu gallu’r cynghorau i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn llwyddiannus yn y dyfodol

4. Mae costau byw yn parhau i beri pryder mawr

Dywed adroddiad Prif Economegydd Cymru:

Mae chwyddiant uchel a pharhaus wedi erydu safonau byw, gyda phrisiau ynni a bwyd uchel yn effeithio’n anghymesur ar bobl ar incwm isel a grwpiau difreintiedig eraill

Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ni ragwelir y bydd chwyddiant yn dychwelyd i’w darged o 2 y cant tan hanner cyntaf 2025. Y rhagolwg yw y bydd safonau byw 3.5 y cant yn is yn 2024-25 na'u lefel cyn y pandemig.

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid, roedd Sefydliad Bevan yn croesawu cadw’r gronfa cymorth dewisol ar £38.5 miliwn yn y Gyllideb Ddrafft, ond mynegodd siomedigaeth ynghylch atal prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau a’r cynllun cymorth tanwydd gaeaf.

Dywedodd Grŵp Cyllideb Menywod Cymru/Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru:

[…] we're not seeing an easing of these pressures. Women in Wales continue to be hit harder by the impacts of the cost-of-living crisis, and this is to do with their unequal position in the labour market.

Dywedodd Sefydliad Bevan ei bod yn anodd gweld yr effaith y mae Grŵp Arbenigol Cymru ar yr argyfwng costau byw (y mae’n aelod ohono) wedi’i chael ar sut mae Llywodraeth Cymru wedi pennu ei blaenoriaethau gwariant ar gyfer y Gyllideb Ddrafft hon.

Er bod gan Lywodraeth Cymru y pŵer i amrywio’r dreth incwm 10c ym mhob £1 o incwm ar gyfer pob band, mae wedi penderfynu peidio â chynyddu’r gyfradd oherwydd y costau byw y mae pobl yn eu hwynebu o hyd. Mae ein hofferyn treth incwm yn dangos faint o dreth yr ydych yn ei thalu, neu y byddech yn ei thalu, i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

5. Mae ‘angen dybryd am ofal plant fforddiadwy’

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud, ar sail y rhagolwg diweddaraf o ran galw, ei bod yn ailflaenoriaethu £11.2 miliwn o'i chynnig gofal plant a £7 miliwn o'r Grant Plant a Chymunedau, sy’n cefnogi ymyrraeth gynnar a gweithgareddau atal ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Dywedodd Grŵp Cyllideb Menywod Cymru/Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod fod ‘angen dybryd am ofal plant fforddiadwy’ a thynnodd sylw at y cyfyngiadau o ran bod yn gymwys, gan awgrymu ‘nad yw pobl yn gallu cael gofal plant ar yr adegau a’r lleoedd lle maent ei angen yn fwyaf effeithiol’.

Roedd Dadansoddi Cyllid Cymru yn cytuno y gallai hyn fod yn effeithio ar y galw yn hytrach na bod ‘diffyg gwirioneddol‘.

Beth sydd nesaf?

Dydd Llun (5 Chwefror 2024) yw’r dyddiad cau i’r pwyllgorau gyhoeddi eu hadroddiadau cyllideb, a fydd ar gael ar wefan y Senedd. Yna cynhelir dadl ar y Gyllideb Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Chwefror, a fydd ar gael i’w gwylio’n fyw ar Senedd TV.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Derfynol ar gyfer 2023-24 ar 27 Chwefror 2024. Am ragor o wybodaeth parthed yr erthygl hon, gweler yr offeryn rhyngweithiol sydd gennym ar Gyllideb Ddrafft 2024-25.


Erthygl gan Božo Lugonja a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru