Stryd Fawr Llanberis sydd ag adeiladau lliwgar a thrawiadol, sy’n gynnwys cymysgedd o dai a busnesau, a cheir wedi'u parcio ar un ochr a beiciwr ar y ffordd

Stryd Fawr Llanberis sydd ag adeiladau lliwgar a thrawiadol, sy’n gynnwys cymysgedd o dai a busnesau, a cheir wedi'u parcio ar un ochr a beiciwr ar y ffordd

Beth mae Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 yn ei olygu i wasanaethau lleol?

Cyhoeddwyd 05/02/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 20 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25 yn rhoi manylion ei chyllid ar gyfer y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Yn yr erthygl hon rydym yn ystyried y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro, y pwysau sy’n wynebu awdurdodau lleol, a goblygiadau hyn i’w cyllidebau’r flwyddyn nesaf. Byddwn hefyd yn edrych ar y cyllid ar gyfer yr heddlu yn 2024-25.

Bydd cynnydd o 3.1% yn y cyllid craidd ar gyfer awdurdodau lleol yn gyffredinol

Mae cyllid refeniw craidd cyffredinol (sef y Cyllid Allanol Cyfun neu’r 'AEF') ar gyfer y 22 awdurdod lleol yn debygol o godi 3.1%. I roi hyn yn ei gyd-destun, y cynnydd cyffredinol ar gyfer 2023-24 oedd 7.9%. Mae'r dyraniadau i awdurdodau lleol yn cael eu pennu drwy ddefnyddio fformiwla y cytunir arno â llywodraeth leol.

Y cynnydd canrannol mwyaf ar gyfer 2024-25 yw dyraniad Casnewydd (4.7%) a'r isaf yw hwnnw ar gyfer Gwynedd a Chonwy (2% i’r ddau).

Cadarnhaodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol fod cyllid ychwanegol o £1.3 miliwn yn cael ei ddarparu i sicrhau na fyddai unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai na 2%.

Ffigur 1: Newid dros dro yn y Cyllid Allanol Cyfun yn ôl awdurdod lleol (2023-24 i 2024-25)

Gwynedd  2.0%, Conwy  2.0%, Sir y Fflint  2.2%, Sir Fynwy  2.3%, Caerffili  2.3%, Ynys Môn  2.5%, Sir Benfro  2.5%, Blaenau Gwent  2.6%, Ceredigion  2.6%, Rhondda Cynon Taf  2.8%, Castell-nedd Port Talbot  2.8%, Powys  2.8%, Pen-y-bont ar Ogwr  3.0%, Bro Morgannwg  3.1%, POB AWDURDOD LLEOL 3.1%, Wrecsam  3.2%, Sir Gaerfyrddin  3.3%, Tor-faen  3.3%, Merthyr Tudful  3.4%, Sir Ddinbych  3.7%, Abertawe  3.8%, Caerdydd  4.1%, Casnewydd  4.7%.

Ffynonellau cyllid eraill sydd ar gael i awdurdodau lleol

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd hefyd yn darparu £1.3 biliwn ar gyfer grantiau refeniw a dros £960 miliwn ar gyfer grantiau cyfalaf yn ychwanegol at y cyllid craidd ar gyfer 2024-25.

Mae’r cyllid cyfalaf craidd, sef £180 miliwn, yn cael ei gynnal, a dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol fod hyn i’w briodoli i’r ffaith nad yw cyllid cyfalaf wedi cynyddu prin ddim yn gyffredinol a bod cyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru 6% yn is mewn termau real nag ydyw yn y flwyddyn bresennol.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn mynd drwy’r broses o bennu eu cyllidebau eu hunain ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae hyn yn cynnwys pennu lefelau’r dreth gyngor, a fydd yn codi, yn ôl bob tebyg .

Tra bod y cynghorau wedi croesawu’r setliad o 3.1% maent yn pryderu na fydd yn ddigon o ystyried y pwysau ariannol sy’n wynebu awdurdodau lleol ac y bydd yn amhosibl diogelu gwasanaethau rheng flaen.

Yn ei hymateb i Ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25, amcangyfrifodd CLlLC y gallai awdurdodau lleol fod yn wynebu bwlch ariannu cronnol o £1.294 biliwn erbyn 2026-27.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fod angen £800 miliwn o gyllid ychwanegol ar y 22 awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn iddynt fod yn gynaliadwy, yn hytrach na’r £170 miliwn y mae'r setliad o 3.1% yn cyfateb iddo. Aeth rhagddo i ddweud:

[…] I’ve never know a time like it. It’s tragic, and if you add up all the redundancies and job losses across Wales, for all of us, across the 22, it will be in its thousands.

Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn fod posibilrwydd y byddai’n rhaid cyflwyno toriadau i wasanaethau:

Felly, er bod yna gynnydd wedi bod, mae'n bwysig nodi nad ydy'r cynnydd yn medru amddiffyn y gwasanaethau, ac rydyn ni i gyd yn edrych ar doriadau i'r gwasanaethau yna.

Mae pryderon ynghylch cyllid hefyd yn ymestyn i wasanaethau cymdeithasol. Cyfeiriodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru at y gorwariant yn y gwasanaethau cymdeithasol ac roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu pwysau ariannol o £260 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol yn unig.

Setliad terfynol yr Heddlu

Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei helfen hi o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd Cymru yn 2024-25,, a bennwyd drwy broses debyg i honno ar gyfer awdurdodau lleol. Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli a chaiff y cyllid hwn ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy’n golygu bod rhywfaint o gyllid yn dod gan Lywodraeth Cymru, rhywfaint gan Swyddfa Gartref y DU a rhywfaint drwy’r dreth gyngor.

Y flwyddyn nesaf, bydd yr heddluoedd yn cael cyllid craidd o £434 miliwn, sef cynnydd o 2.1% o’i gymharu â 2022-23. O'r £459.8 miliwn, cyfraniad dros dro Llywodraeth Cymru, fydd £113.47 miliwn.. Mae'r ffigurau’r un fath â’r rhai a nodir yn Setliad Dros Dro’r Heddlu a gyhoeddwyd ar 14 Rhagfyr 2023.

Mae pwysau chwyddiant yn effeithio ar setliad yr heddlu hefyd. Wrth gyhoeddi setliad dros dro’r heddlu dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

Rwy'n cydnabod, yn erbyn yr hanes diweddar o gyfraddau chwyddiant uchel, y bydd yn ofynnol i'r pedwar heddlu yng Nghymru wneud penderfyniadau anodd ynghylch gwasanaethau, arbedion effeithlonrwydd a phraeseptau'r dreth gyngor

Yn ogystal â chyllid Llywodraeth y DU a Chymru, mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am bennu cyllideb a phenderfynu faint rhagor o gyllid y bydd angen ei godi drwy’r tâl ychwanegol ar y dreth gyngor, sef praesept yr heddlu. Yn 2024-25, mae’r cynnydd yn y praesept hwnnw yn amrywio o 4.97% (Gogledd Cymru) i 7.7% (Gwent). Nid yw’r cynnydd ym mhraesept De Cymru wedi'i gadarnhau eto. Fel yn achos awdurdodau lleol, mae’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu wrthi'n pennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd ar ddod.

Ble mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y setliadau i’w chael?

Bydd y Senedd yn trafod y Gyllideb Ddrafft yfory (6 Chwefror). Disgwylir i'r Gyllideb Derfynol gael ei chyhoeddi ar 27 Chwefror, a'i thrafod ar 5 Mawrth. Yn y cyfamser, bydd y Senedd yn trafod Setliad Terfynol yr Heddlu ar 20 Chwefror. Gallwch wylio pob dadl yn fyw ar SeneddTV.

Mae'n debygol y bydd y setliad Llywodraeth Leol Terfynol yn cael ei gyhoeddi a'i drafod yn ôl yr un amserlenni â Chyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru.


Erthygl gan Božo Lugonja ac Ahmed Ahmed, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru