Mae canlyniadau TGAU yn nodi carreg filltir bwysig i ddysgwyr ledled Cymru, ond dim ond un cam ydyn nhw mewn taith addysgol ehangach. Rydyn ni’n edrych ar sut y perfformiodd dysgwyr yn yr arholiadau eleni, sut mae'r canlyniadau yn cymharu â'r rhai yn y blynyddoedd blaenorol ac ar draws y DU, a beth allai ystyr hyn fod ar gyfer y llwybrau y mae dysgwyr yn eu dewis ar ôl addysg orfodol.
Sut olwg sydd ar y canlyniadau eleni?
|
Gyda'i gilydd, mae'r canlyniadau dros dro yn awgrymu bod cyrhaeddiad cyffredinol yng Nghymru yn parhau i fod yn sefydlog ar y cyfan yn 2026, er bod cyrhaeddiad yn parhau i amrywio ar draws pynciau a rhwng grwpiau o ddysgwyr.
- Data dros dro yw’r data ar ganlyniadau 2026 a gyflwynir yn yr erthygl hon. Mae’r data, a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cymwysterau, yn adlewyrchu'r sefyllfa ar adeg cyhoeddi’r canlyniadau ac efallai y cânt eu diwygio yn sgil gwiriadau pellach. Mae'r data'n cwmpasu cofrestriadau ar gyfer cymwysterau gan ddysgwyr o bob oed. At hynny, mae Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth ar y diwrnod am ganlyniadau yng Nghymru.
- Mae TGAU a reoleiddir gan Gymwysterau Cymru yn parhau i ddefnyddio graddfa A i G*, tra bod TGAU a ddyfernir gan gyrff yn Lloegr yn cael eu graddio gan ddefnyddio rhifau 9 i 1. Er mwyn cymharu ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae JCQ yn cyhoeddi prif fesurau cyrhaeddiad ar dri throthwy allweddol: A/7 ac uwch, C/4 ac uwch a G/1 ac uwch. Mae’r dangosyddion hyn yn cael eu defnyddio drwy gydol yr erthygl hon.
- Bydd ystadegau manylach, gan gynnwys canlyniadau ar lefel pwnc, nodweddion dysgwyr a mesurau penodol i Gymru fel sgoriau 9 pwynt wedi'u capio, yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn yr hydref ac yn rhoi darlun llawnach o gyrhaeddiad yng Nghymru.
Sut mae’r canlyniadau eleni yn cymharu â blynyddoedd blaenorol?
Ffigur 1. Canlyniadau TGAU yng Nghymru rhwng 2018 a 2026 (canran o’r holl raddau a ddyfarnwyd). Pob ymgeisydd.

Ffynhonnell: Cymwysterau Cymru.
Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau’n uniongyrchol â’r graddau wedi’u dyfarnu gan ganolfannau yn 2020, graddau wedi’u pennu gan ganolfannau yn 2021, a’r ‘blynyddoedd pontio’ yn 2022 a 2023.
Mae canlyniadau TGAU yn 2026 yn debyg yn fras i'r rhai a welwyd yn 2025, 2024 a chyn y pandemig. Cymerodd dysgwyr 16 oed 8 TGAU ar gyfartaledd yr haf hwn. Cyflawnodd cyfanswm o 170 o ddysgwyr 16 oed a gymerodd saith TGAU neu fwy y radd uchaf sydd ar gael (A* neu 9) ym mhob pwnc.
Dylid trin cymariaethau uniongyrchol â chanlyniadau rhwng 2020 a 2023 yn ofalus. Roedd cymwysterau a ddyfarnwyd yn ystod y blynyddoedd hyn yn destun trefniadau asesu gwahanol a throsiannol o ganlyniad i bandemig COVID-19. O’r herwydd, nid oes modd cymharu canlyniadau’r blynyddoedd hynny yn uniongyrchol â chanlyniadau a ddyfarnwyd o dan y trefniadau asesu presennol.
Mae'r ffeithlun isod yn crynhoi'r newidiadau i’r trefniadau asesu rhwng 2020 a 2024.
Sut mae'r ffigurau ar gyfer pynciau craidd yn cymharu ar lefel gradd C/4 ac uwch?
Tabl 1. Pynciau craidd: Canran a gyflawnodd C/4 neu uwch. Gwrywaidd a benywaidd, pob oedran.
Ffynhonnell: y Cyd-gyngor Cymwysterau.
Roedd perfformiad yn amrywio rhwng pynciau, gyda'r cyrhaeddiad yn gyffredinol ar ei uchaf yn y gwyddorau ar wahân, ac yn is mewn cymwysterau sy'n gysylltiedig â mathemateg. Roedd y newidiadau o 2025 yn gymedrol ar y cyfan, er bod rhai pynciau wedi gweld newidiadau mwy nag eraill.
Gostyngodd niferoedd y cofrestriadau yn sylweddol mewn cymwysterau Saesneg, Cymraeg a Mathemateg. Mae hyn yn debygol o adlewyrchu, i raddau helaeth, y ffaith i TGAU sydd wedi'u gwneud ar gyfer Cymru gael eu cyflwyno’n raddol, gyda llawer o ddysgwyr Blwyddyn 10 yn gwneud asesiadau sy'n gysylltiedig â'r cymwysterau newydd a fydd yn rhan o’r dyfarniadau llawn yn 2027 (gweler isod).
Beth mae’r data yn ei ddangos yn ôl rhyw?
Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn ôl rhyw yn ehangu wrth i'r trothwy cyrhaeddiad godi ac mae'n fwyaf amlwg yn y graddau uchaf a ddyfarnwyd. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, yn 2026 cyflawnodd dysgwyr benywaidd ganlyniadau uwch na dysgwyr gwrywaidd yn gyffredinol, gyda 65.5% o raddau wedi'u dyfarnu i fenywod ar C/4 ac uwch o'i gymharu â 59.0% i wrywod. Roedd cyrhaeddiad dysgwyr benywaidd yn parhau i fod yn arbennig o gryf mewn pynciau Cymraeg a Saesneg. Parhaodd dysgwyr gwrywaidd i berfformio'n well na rhai benywaidd mewn Mathemateg, Mathemateg-Rhifedd a Ffiseg, er bod y gwahaniaethau'n gyffredinol yn llai na'r rhai a welwyd mewn pynciau iaith. Roedd pynciau gwyddoniaeth fel arall yn gymharol gytbwys, tra bod cyrhaeddiad G/1 ac uwch yn 97.0% i ddysgwyr benywaidd a 96.7% i ddysgwyr gwrywaidd ar draws pob pwnc wedi’u cyfuno.
A oes modd cymharu canlyniadau eleni â chanlyniadau Lloegr a Gogledd Iwerddon?
Yn yr un modd â’r ddwy flynedd flaenorol, cofnododd Gogledd Iwerddon y cyrhaeddiad uchaf ym mhob un o'r tri throthwy yn 2026, tra bod Cymru wedi cofnodi'r isaf, gyda Lloegr rhwng y ddau. Cyflawnodd Gogledd Iwerddon 31.7% ar A/7 ac uwch ac 83.6% ar C/4 ac uwch, o'i gymharu â 19.6% a 62.3% yng Nghymru yn y drefn honno. Yn 2026, cyflawnodd 96.8% o gofrestriadau TGAU yng Nghymru raddau G/1 ac uwch, o'i gymharu â 98.0% yn Lloegr a 99.2% yng Ngogledd Iwerddon. Roedd hyn yn gosod Cymru 1.2 pwynt canran y tu ôl i Loegr a 2.4 pwynt canran y tu ôl i Ogledd Iwerddon ar y mesur hwn. Mae hyn yn cyferbynnu â chanlyniadau Safon Uwch diweddar, lle perfformiodd Cymru'n well na Lloegr ar draws y tri phrif fesur cyrhaeddiad, fel y trafodwyd yn ein herthygl ddiweddar.
Fodd bynnag, dylid dehongli'r cymariaethau hyn yn ofalus, gan fod y ffigurau'n ymwneud â chofrestriadau cymwysterau yn hytrach na dysgwyr unigol ac mae'r tair cenedl yn gweithredu systemau cymwysterau ac asesu gwahanol (fel yr eglurir mewn datganiad gan y rheoleiddwyr cymwysterau). Nid yw'r Alban wedi'i chynnwys gan nad oes modd gwneud cymhariaeth uniongyrchol â’r fframwaith cymwysterau yno.
Tabl 2. Canlyniadau TGAU dros dro yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, 2026 (ffigurau 2025 mewn cromfachau).
|
Canlyniadau TGAU |
A/7 ac uwch |
C/4 ac uwch |
G/1 ac uwch |
|
Cymru |
19.6 (19.5) |
62.3 (62.5) |
96.8 (96.6) |
|
Lloegr |
21.8 (21.8) |
67.0 (67.1) |
98.0 (97.9) |
|
Gogledd Iwerddon |
31.7 (31.6) |
83.5 (83.5) |
99.2 (99.1) |
Ffynhonnell: y Cyd-gyngor Cymwysterau.
Beth nesaf i ddysgwyr?
Yn dilyn eu hastudiaethau TGAU, mae gan ddysgwyr amrywiaeth o opsiynau. Mae'r rhain yn cynnwys mynd i'r coleg neu'r chweched dosbarth i astudio cyrsiau Safon Uwch, Lefel 3, neu Lefel 2; dechrau prentisiaeth; cael swydd; gwirfoddoli; neu ennill profiad drwy gynllun Twf Swyddi Cymru+. Mae gan Gyrfa Cymru wybodaeth am opsiynau yn 16 oed a chanllawiau ar sut i ddewis cwrs neu gymhwyster ar ôl gorffen ysgol. Mae UCAS hefyd yn cyhoeddi cymorth ar archwilio opsiynau ar ôl TGAU. Yn ein herthygl Beth yw'r opsiynau i fyfyrwyr sy’n ymadael â’r ysgol a'r coleg? mae rhagor o wybodaeth ar gael am y dewisiadau a'r llwybrau sydd ar gael i bobl ifanc.
Dylai dysgwyr sy'n meddwl efallai fod camgymeriad wedi’i wneud wrth farcio neu weinyddu eu canlyniadau TGAU siarad â'u hysgol neu goleg. Lle bo hynny’n briodol, gall ysgolion a cholegau ofyn am adolygiad o’r canlyniadau drwy'r corff dyfarnu.
Beth nesaf i lunwyr polisi?
Un dangosydd yw canlyniadau TGAU ar gyfer sut mae system addysg Cymru yn cefnogi cynnydd dysgwyr, ynghyd â materion fel presenoldeb, ymddygiad a llesiant. Mae llunwyr polisi hefyd yn debygol o ganolbwyntio ar fylchau cyrhaeddiad hirsefydlog rhwng gwahanol grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion, sydd wedi parhau i fod yn her barhaus i'r system addysg.
Yn ôl dadansoddiad diweddar gan Medr, roedd 85% o ddysgwyr Blwyddyn 11 wedi aros mewn rhyw fath o addysg yn 2025/26, er bod y gyfran sy'n symud ymlaen i astudiaeth Lefel 3 (cyfwerth â Safon Uwch) wedi parhau i ostwng. Yn 2025, gwnaeth Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Chweched Senedd amlygu pwysigrwydd sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at gyngor gyrfaoedd o ansawdd uchel a mynediad cyfartal i lwybrau academaidd a galwedigaethol wrth wneud dewisiadau ôl-16.
Daw'r canlyniadau eleni yn ystod y cyfnod pontio i gymwysterau TGAU sydd wedi'u gwneud i Gymru. Er bod rhai dysgwyr wedi sefyll unedau arholi sy'n gysylltiedig â'r cymwysterau newydd yn 2026, bydd y garfan lawn gyntaf sy'n astudio'r TGAU Cwricwlwm i Gymru newydd yn cael eu canlyniadau yn haf 2027.
Bydd sylw yn troi cyn bo hir at berfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), gyda chanlyniadau Cymru o 2025 yn cael eu cyhoeddi ar 8 Medi. Gosododd y cylch blaenorol Gymru yn is na chyfartaledd yr OECD a gwledydd eraill y DU mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth. Mae cyhoeddi'r canlyniadau diweddaraf yn debygol o ddarparu ffocws pellach ar gyfer y drafodaeth am safonau addysgol a diwygio addysg yng Nghymru.
Erthygl gan Dr Nyle Bevan-Clark, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru