Mae'r Cytundeb Ymadael yn pennu'r telerau ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE. Daeth i rym ar 1 Chwefror 2020 ond nid yw wedi'i weithredu'n llawn.
Nid yw rhai trefniadau erioed wedi cael eu cyflwyno. Mae llawer o resymau am hyn, gan gynnwys y ffaith bod y DU a’r UE yn anghytuno arnynt. Lle mae trefniadau ar waith, mae pryderon bod y cynnydd yn anfoddhaol. Mae rhannau eraill wedi dod i ben, naill ai am fod y dyletswyddau wedi'u cyflawni neu nad oes eu hangen mwyach.
Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg o'r Cytundeb Ymadael ac yn olrhain ei weithrediad hyd yma.
Beth mae'r Cytundeb Ymadael yn ei wneud?
Mae’r Cytundeb Ymadael yn ymdrin yn unig â gwahanu’r DU oddi wrth yr UE ac Euratom.
Ymhlith pethau eraill, cyflwynodd trefniadau newydd ar gyfer y ffin a'r tollau ar gyfer masnach rhwng y DU a’r UE, a rheolau newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'n amddiffyn hawliau dinasyddion y DU a'r UE sy'n byw yng ngwledydd ei gilydd. Sefydlodd trefniadau llywodraethu hefyd, gan gynnwys sut i ddatrys anghydfodau a gorfodi ei delerau.
Yn bwysig, mae Erthygl 5 wedi'i chynllunio i sicrhau bod y DU a'r UE yn cyflawni eu dyletswyddau. Rhaid iddynt gynorthwyo ei gilydd wrth gyflawni tasgau gyda pharch at y naill a’r llall ac yn ddidwyll, ac ymatal rhag gwneud unrhyw beth a allai beryglu amcanion y cytundeb.
Gogledd Iwerddon
Mae Protocol Gogledd Iwerddon yn rhan o'r Cytundeb Ymadael ond nid yw ei holl drefniadau ar waith oherwydd bod y DU a'r UE yn anghytuno ynghylch sut y dylent weithio.
Er enghraifft, mae cyflwyno gwiriadau ar y ffiniau wedi'i ohirio dro ar ôl tro oherwydd nad yw materion fel seilwaith yn barod. Mae hyn yn wir o ran Safleoedd Rheoli Ffiniau newydd Cymru na fyddant yn weithredol tan 2023.
Er gwaethaf eu gwahaniaethau, mae'r DU a'r UE yn cytuno bod y Protocol wedi arwain at broblemau yng Ngogledd Iwerddon a'u bod am ddatrys y sefyllfa. Drwy gydol 2021, buont yn cyfnewid cynigion ar sut i symud ymlaen, a ddisgrifir mewn adroddiadau rheolaidd a roddwyd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd.
Mae’r DU wedi dweud dro ar ôl tro y gallai danio Erthygl 16 o’r Protocol, sy’n caniatáu cymryd mesurau diogelu os yw'r Protocol yn arwain at rai anawsterau, neu at ddargyfeiriadau masnach. Mae Prif Weinidog Cymru yn rhybuddio y byddai hyn yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth yn hytrach na’n well, ac y dylid ei osgoi.
Mae ein herthygl flaenorol yn esbonio sut y bydd datrys anghytundebau mewn perthynas â'r Protocol yn cael effaith sylweddol ar Gymru, gan gynnwys ei masnachwyr, allforwyr, porthladdoedd a phobl.
Sefyllfa ddiddatrys
Ar 11 Mai, adroddodd y BBC fod y DU wedi gwrthod cynigion yr UE yn ffurfiol. Y diwrnod cynt, ailadroddodd yr UE ei safbwynt nad yw ail-negodi yn opsiwn.
Roedd hyn i gyd yn dilyn datgelu cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Bil Rhyddid Brexit, a gafodd ei gynnwys yn Araith y Frenhines ar 10 Mai, ac etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon, pan ddaeth Sinn Féin i fod y blaid fwyaf.
Nid yw'r Bil wedi'i gyhoeddi ond mae adroddiadau'n nodi y bydd yn caniatáu i Weinidogion ddatgymhwyso'r Protocol yn unochrog, hyd yn oed i ddiystyru canlyniad y bleidlais 'cydsyniad democrataidd' a roddwyd i Gynulliad Gogledd Iwerddon am ei weithrediad parhaus. Ar 12 Mai, adroddodd y BBC fod Llywodraeth y DU wedi cael cyngor cyfreithiol y byddai'n gyfreithlon diystyru'r Protocol.
Hawliau dinasyddion
Mae'r DU a'r UE yn parhau i gyfnewid pryderon am eu dinasyddion sy’n byw yng ngwledydd ei gilydd.
Mae’r UE yn pryderu ynghylch hawliau ei dinasyddion yn y DU sy’n cael eu gwarantu gan y Cytundeb Ymadael neu gan gyfraith fewnfudo’r DU, ac ynghylch colli statws preswylio yn awtomatig o dan rai amgylchiadau. Ym mis Ionawr, dywedodd yr UE y byddai'n ystyried camau nesaf priodol.
Mae pryderon y DU yn ymwneud â gwahanol ddulliau Aelod-wladwriaethau'r UE, gan gynnwys canllawiau aneglur, ceisiadau hwyr a gofynion ar gyfer profi statws. Mae am i’r UE fod yn fwy rhagweithiol gyda gwledydd sy’n camgymhwyso’r cytundeb.
Mae hawliau dinasyddion Ewrop yng Nghymru yn cael eu monitro gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ac mae Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi dadansoddiad rheolaidd.
Bydd mis Mehefin yn un i'w wylio
Fel y mae, gallai’r hyn sy’n digwydd ym mis Mehefin fod yr un mor arwyddocaol â digwyddiadau hanesyddol eraill Brexit. Mae cyfarfodydd allweddol rhwng y DU a’r UE wedi’u trefnu i drafod y Cytundeb Ymadael a’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar ôl Brexit.
Yn dilyn Araith y Frenhines, a oedd yn cynnwys 38 o Filiau, gall deddfwrfeydd y DU ddisgwyl cyfnod eithriadol o brysur. Mae cyhoeddi’r Bil Rhyddid Brexit hir ddisgwyliedig yn argoeli i fod yn bennod bwysig arall eto yn Brexit, un a gaiff ei gwylio’n ofalus gartref ac yn yr UE.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru