Araith y Frenhines 2022: beth mae'n ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 13/05/2022   |   Amser darllen munudau

Amlinellodd Llywodraeth y DU ei chynlluniau deddfwriaethol ar gyfer y sesiwn seneddol nesaf yn Araith y Frenhines ddydd Mawrth 10 Mai.

O dan y confensiwn cydsyniad deddfwriaethol, nid yw Senedd y DU fel rheol yn deddfu ar faterion datganoledig heb gydsyniad y Senedd. Gellid gofyn i'r Senedd am ei chydsyniad i nifer o'r biliau a gynllunnir, gan gynnwys biliau ar gaffael cyhoeddus, diogelwch ar-lein a rhai agweddau ar ddeddfwriaeth newydd ar iechyd meddwl.

Hefyd, bydd deddfwriaeth newydd sy'n gymwys yng Nghymru ond sydd y tu allan i gymhwysedd datganoledig, gan gynnwys Bil Trefn Gyhoeddus i greu troseddau newydd yn ymwneud â phrotestio cyhoeddus, a bil i ddiwygio’r system reilffyrdd.

Deddfwriaeth ar ôl Brexit

Bydd Bil Caffael yn disodli rheolau sy'n deillio o'r UE ar gaffael yn y sector cyhoeddus. Cyhoeddwyd y bil hwn gyntaf yn Araith y Frenhines 2021, ond ni chafodd ei gyflwyno yn ystod sesiwn 2021-22.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud er y bydd yn defnyddio deddfwriaeth y DU i “ddiwygio'r prosesau sylfaenol sy'n sail i gaffael”, mae’n bwriadu cyflwyno ei Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus ei hun i lywio dyfodol caffael yng Nghymru. Bydd gwahaniaethau rhwng pedair gwlad y DU yn cael eu rheoli gan y fframwaith cyffredin ar gaffael cyhoeddus.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU adolygiad o gyfraith yr UE a ddargedwir        ym mis Medi 2021. Bydd Bil Rhyddid Brexit newydd yn ei gwneud hi’n haws i Lywodraeth y DU newid neu ddiddymu cyfraith yr UE a ddargedwir.

Nid yw'n glir sut y bydd hyn yn effeithio ar Gymru. Bydd biliau eraill a gafodd eu cynnwys yn yr araith yn dirymu cyfraith yr UE a ddargedwir mewn meysydd penodol, gan gynnwys Bil Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd a Bil Diwygio Data, a fydd yn disodli’r drefn GDPR bresennol.

Yr amgylchedd a thrafnidiaeth

Bydd Bil Diogelwch Ynni yn sefydlu corff Gweithredwr Systemau’r Dyfodol newydd a fydd yn gyfrifol am gynllunio seilwaith trydan a nwy y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei strategaeth ei hun ynghylch cryfhau amddiffyniadau amgylcheddol.

Bydd Bil Trafnidiaeth yn rhoi pwerau statudol i’r corff cyhoeddus newydd, Great British Railways (GBR), i gymryd lle Network Rail. Nid oes sicrwydd ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar Gymru.

Mae’r system rheilffyrdd yn faes a ddargedwir ond mae gan Lywodraeth Cymru bwerau gweithredol ar gyfer caffael a rheoli masnachfraint rheilffordd Cymru. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd “cytundeb cydweithio” rhwng GBR a Trafnidiaeth Cymru, ond nid oes unrhyw arwydd o ddatganoli pwerau pellach i Gymru.

Mae'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) wedi'i drosglwyddo o'r sesiwn seneddol flaenorol. Nod y bil yw diogelu lles rhai anifeiliaid a gedwir, ac mae hefyd yn mynd i'r afael â smyglo cŵn bach a phoeni da byw. Mae Llywodraeth Cymru wedi argymell rhoi cydsyniad i’r Bil, yn ddarostyngedig i drafodaethau terfynol â Llywodraeth y DU.

Gwasanaethau cyhoeddus a thai

Er y disgwyliwyd deddfwriaeth newydd ar y farchnad dai lesddaliadol, nid oes unrhyw fil newydd wedi'i gynnwys yn yr araith. Disgwyliwyd bil i ddeddfu argymhellion Comisiwn y Gyfraith        ar ryddfreinio lesddeiliad a chyfunddaliad fel dewis arall yn lle lesddaliad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni mesurau i ddiwygio lesddaliadau. Mae cynigion sydd wedi’u cynnwys yn yr araith ynghylch rhentu a diwygio tai cymdeithasol yn debygol o fod yn berthnasol i Loegr yn unig, gyda Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i mesurau ei hun. 

Bydd Bil Iechyd Meddwl yn disodli Deddf Iechyd Meddwl 1983. Mae polisi iechyd wedi’i ddatganoli, ac mae llawer o’r newidiadau ym mil newydd y DU eisoes mewn grym yng Nghymru o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Fodd bynnag, gallai’r adrannau o ddeddfwriaeth iechyd meddwl sy’n gorgyffwrdd â’r system cyfiawnder troseddol fod yn berthnasol yng Nghymru, gan fod cyfiawnder yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU.

Materion cartref, digidol a’r cyfryngau

Bydd Bil Trefn Gyhoeddus yn cyflwyno troseddau newydd i brotestwyr, gan gynnwys pobl yn cloi eu hunain i wrthrychau ac adeiladau, ac ‘ymyrryd’ â seilwaith cenedlaethol allweddol. Bydd y troseddau newydd hyn yn golygu dedfrydau o hyd at 12 mis yn y carchar, yn ogystal â dirwyon diderfyn.

Cafodd y mesurau hyn eu cynnwys yn wreiddiol ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, a basiodd ei gyfnodau yn Senedd y DU ar 28 Ebrill 2022. Cafodd Llywodraeth y DU ei threchu ar y mesurau yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac ni wnaethant ddychwelyd i'r bil hwnnw.

Er bod y system cyfiawnder troseddol yn fater a gedwir yn ôl, pleidleisiodd y Senedd i wrthod rhoi caniatâd i fesurau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd sy’n ymwneud â gosod amodau ar brotestiadau cyhoeddus.

Bydd y Bil Diogelwch Ar-lein yn cael ei drosglwyddo o sesiwn 2021-22 Senedd y DU. Mae’r bil yn cyflwyno trefn reoleiddiol newydd ar gyfer darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a pheiriannau chwilio. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell rhoi caniatâd i nifer fach o ddarpariaethau'r bil ynghylch darparwyr addysg a gofal plant a fydd yn cael eu heithrio rhag rheoleiddio.

Bydd Bil Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr yn cryfhau’r Uned Marchnadoedd Digidol o fewn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Bydd yn cyflwyno amddiffyniad i ddefnyddwyr ynghylch gwasanaethau tanysgrifio ac adolygiadau ar-lein, yn ogystal â mesurau i fynd i'r afael â monopolïau yn y sector digidol. 

Bydd Bil Cyfryngau yn diweddaru cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein. Bydd yn cael gwared ar y cyfyngiadau darlledu daearyddol cyfredol er mwyn caniatáu S4C i gynnig cynnwys ar ystod eang o lwyfannau newydd. Bydd y bil hefyd yn cynnwys mesurau i breifateiddio Channel 4. Er nad yw darlledu wedi'i ddatganoli, mae'n bosibl y bydd y broses cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei defnyddio ar gyfer rhai cymalau yn y Bil hwn. 

Y llysoedd, hawliau dynol a chyfiawnder

Bydd Deddf Hawliau newydd yn disodli Deddf Hawliau Dynol 1998, sef deddfwriaeth y DU sy’n ymgorffori’r hawliau sydd wedi’u cynnwys yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith y DU.

Er bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn berthnasol i Gymru a Lloegr, caiff hawliau’r Confensiwn eu hymgorffori hefyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Nid yw’n glir sut y bydd y Bil Hawliau newydd yn rhyngweithio â deddfwriaeth bresennol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei phryderon am y Bil ac wedi dweud bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn sylfaenol i’r setliad datganoli. Mewn gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, argymhellwyd cyflwyno ei deddfwriaeth sylfaenol ei hun i wneud hawliau dynol rhyngwladol yn rhan o gyfraith Cymru.

Bydd Bil Therapi Trosi yn gwahardd therapi trosi ar gyfer rhai o dan 18 oed, ac ar gyfer y rhai dros 18 oed nad ydynt yn cydsynio ac sy’n cael eu gorfodi i gael therapi trosi. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ei mesurau ei hun yn erbyn therapi trosi, gan gynnwys llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda'r Glymblaid yn Erbyn Therapi Trosi. Nid yw’n glir sut y bydd Bil y DU yn rhyngweithio â chamau gweithredu Llywodraeth Cymru.

Cynigion eraill

Amlinellodd yr araith hefyd gynigion eraill ar gyfer cyfreithiau newydd a fydd yn gymwys yng Nghymru sy'n debygol o fod y tu allan i gymhwysedd datganoledig ar y cyfan, gan gynnwys:

  • Deddfwriaeth gwasanaethau ariannol a fydd yn cyflwyno diwygiadau yn y diwydiant yswiriant, ynghyd â mesurau eraill gan gynnwys diogelu mynediad defnyddwyr at arian parod a sefydlu Banc Seilwaith y DU ar sail statudol;
  • Bydd Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol yn dilyn ymlaen o’r Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi), a gafodd ei rhoi ar y trywydd cyflym drwy Senedd y DU ym mis Mawrth 2022 fel ymateb i ymosodiad Rwsia ar Wcráin; a
  • Bil Diogelwch Cenedlaethol a fydd yn diwygio deddfwriaeth y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol.

Cyflwynwyd nifer o filiau ar 11 Mai 2022. Mae’r amserlen ar gyfer y biliau eraill yn parhau i fod yn aneglur. Bydd cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer biliau perthnasol yn cael eu gosod ar ôl i’r goblygiadau ar gyfer meysydd datganoledig ddod yn gliriach. Yna bydd y rhain yn cael eu hystyried gan y Senedd.

Erthygl gan Philip Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru