Ar 7 Tachwedd, cyhoeddodd y Brenin Charles raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer y sesiwn seneddol nesaf. Rhestrodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru 15 o’r 21 Bil sy’n rhychwantu Cymru ac yn gymwys iddi. O dan Gonfensiwn Sewel, nid yw Senedd y DU fel arfer yn deddfu ar faterion datganoledig heb gydsyniad y Senedd. Cyfeiriodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol, at y ffaith bod rhaglen Llywodraeth y DU wedi cael ei “[th]rafod ar lefel swyddogion”, ond tynnodd sylw at Ddeddfau a basiwyd heb gydsyniad yn y sesiwn seneddol ddiwethaf.
Mae chwe Bil wedi cael eu cario drosodd o’r sesiwn seneddol ddiwethaf; cafodd memoranda cydsyniad deddfwriaethol eu gosod yn y Senedd ar gyfer y canlynol:
- Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2);
- Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor);
- a’r Bil Dioddefwyr a Charcharorion.
Yn yr erthygl hon, edrychwn ar y Biliau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn i ddod, a’r hyn yr ydym yn ei wybod hyd yma.
Mae'r Bil Cyfiawnder Troseddol yn cyflwyno mesurau megis gorfodi troseddwyr i fod yn bresennol ar gyfer gwrandawiadau dedfrydu ac mae’n ehangu pwerau'r heddlu i fynd i'r afael â bygythiadau modern. Mae’n cyflwyno adrodd mandadol ar gyfer achosion o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant, sy’n fater sy’n croestorri â phwerau datganoledig ynghylch amddiffyn plant ac atal cam-drin rhywiol.
Mae'r Bil Dedfrydu‘n gorchymyn llysoedd i osod gorchmynion oes gyfan ar gyfer y troseddwyr mwyaf peryglus, a bydd dedfrydau gohiriedig yn cael eu ffafrio ar gyfer pobl sy’n cael eu dedfrydu i 12 mis neu lai. Mae'r Bil Dioddefwyr a Charcharorion yn cyflwyno Eiriolwr Cyhoeddus Annibynnol ar gyfer dioddefwyr digwyddiadau mawr. Hefyd, yn achos y troseddwyr mwyaf difrifol, mae’r Bil yn darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol adolygu penderfyniadau’r Bwrdd Parôl i ryddhau a rhoi feto ar y penderfyniadau hynny.
Nod y Bil Pwerau Ymchwilio (Diwygio) a’r Bil Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) yw mynd i'r afael â bygythiadau sy'n datblygu ac amddiffyn y cyhoedd. Bydd y cyntaf yn diwygio Deddf Pwerau Ymchwilio 2016 i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn addas i'r diben, a bydd yr ail yn gwella diogelwch amddiffynnol trwy ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy'n gyfrifol am fangreoedd penodol ystyried risgiau terfysgaeth.
Bydd y Bil Cyflafareddu yn moderneiddio'r gyfraith ar gyflafareddu fel yr argymhellir gan Gomisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr.
Dywed Llywodraeth y DU mai nod Bil Trwyddedu Petrolewm Alltraeth yw diogelu’r cyflenwad ynni domestig. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Pontio Môr y Gogledd gynnal proses flynyddol ar gyfer trwyddedau cynhyrchu newydd yn nyfroedd alltraeth y DU. Byddai trwyddedau’n cael eu dyroddi ar ôl i geisiadau fodloni dau brawf allweddol:
- A ragwelir y bydd y DU yn parhau i fod yn fewnforiwr net o ran olew a nwy; a
- Rhaid i’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â nwy a gynhyrchir gan y DU fod yn is na chyfartaledd yr allyriadau cyfatebol o nwy naturiol hylifedig a fewnforir.
Mae'r Bil Lles Anifeiliaid (Allforio Da Byw) yn gwahardd allforio gwartheg, defaid, geifr, moch a cheffylau byw. Bydd yn sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu lladd yn ddomestig i atal allforio byw.
Nod y Bil Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr yw gwella cystadleuaeth yn y farchnad a diogelu defnyddwyr ymhellach drwy ymestyn pwerau'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Mae'n cyflwyno trefn reoleiddio ar gyfer marchnadoedd digidol. Nod y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2) yw creu cyfundrefn hawliau data newydd i ddisodli system GDPR yr UE. Darparodd y Prif Weinidog un ymateb i ddau o Bwyllgorau'r Senedd a gyflwynodd adroddiadau ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil. Yn ei Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, argymhellodd Llywodraeth Cymru roi cydsyniad ar gyfer rhai cymalau ond nid ar gyfer eraill hyd nes i drafodaethau pellach gael eu cynnal gyda Llywodraeth y DU.
Mae'r Bil Cerbydau Awtomataidd yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer cerbydau hunan-yrru er mwyn sicrhau safonau uchel o ddiogelwch ac atebolrwydd cyfreithiol clir.
Mae'r Bil Rhentwyr (Diwygio) yn gwneud sawl newid i’r drefn ar gyfer rhentwyr preifat yn Lloegr, gan gynnwys rhoi terfyn ar achosion o droi allan heb fai, mynd i’r afael ag arferion ‘dim DSS’, a chreu cofrestr landlordiaid genedlaethol. Er nad yw’r Bil yn gymwys i Gymru ar hyn o bryd, nododd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, y caiff Llywodraeth Cymru gymhwyso mesurau gwrth-wahaniaethu’r Bil yng Nghymru. Byddai hyn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i landlordiaid preifat osod rhai gwaharddiadau cyffredinol ar ddarpar denantiaid sydd â phlant neu sy'n hawlio budd-daliadau.
O dan y Bil Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau, bydd yn haws i lesddeiliaid ymestyn eu les neu brynu eu rhydd-ddaliad. Mae’r Prif Weinidog wedi nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Bil yn gymwys ar sail Cymru a Lloegr.
Mae Bil y Cyfryngau yn rhoi diwygiadau ar waith ar gyfer rheoleiddio darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys diweddaru cylch gorchwyl gwasanaeth cyhoeddus S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein, yn dilyn argymhellion gan Adolygiad Euryn Ogwyn Williams yn 2018.
Bydd y Bil Llywodraethu Pêl-droed yn sefydlu rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer clybiau pêl-droed yn Lloegr, gan ei gwneud yn ofynnol i bob clwb yn y bum haen uchaf o byramid pêl-droed dynion Lloegr gael trwydded i weithredu fel clwb proffesiynol.
Mae'r Bil Coffa’r Holocost yn awdurdodi gwariant ar adeiladu, cynnal a chadw a gweithredu Canolfan Goffa ac Addysg yr Holocost. Bydd y cynlluniau presennol yn lleoli’r adeilad drws nesaf i Dŷ'r Senedd.
Yn wreiddiol, lluniodd Cynllun Williams-Shapps ar gyfer Rheilffyrdd gynlluniau ar gyfer Great British Railways, sef corff newydd a fyddai’n bwynt unigol ar gyfer atebolrwydd a oedd cyn hynny wedi’i rannu rhwng Network Rail a’r Ysgrifennydd Gwladol. Nodwyd yn y cynllun y byddai llywodraethau datganoledig yn parhau i arfer eu pwerau presennol, ac y byddai angen i awdurdodau rheilffyrdd datganoledig weithio gyda Great British Railways. Mae'r Bil Rheilffyrdd (Diwygio) Drafft yn cyflwyno mesurau i sefydlu'r corff newydd.
Gyda'r DU yn ymuno â bloc masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) bloc masnach yn ail hanner 2024, bydd y Bil Masnach (Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel) yn galluogi Llywodraeth y DU i gyflawni ei rhwymedigaethau erbyn iddi gytuno.
Bydd Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) yn atal cyrff cyhoeddus rhag cael eu dylanwadu gan anghymeradwyaeth wleidyddol neu foesol gwladwriaethau tramor wrth wneud penderfyniadau ynghylch caffael a buddsoddi. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth ac fe argymhellodd fod y Senedd yn gwrthod rhoi cydsyniad “tra bo cwestiynau ynghylch cydnawsedd y Bil hwn â hawliau confensiwn a chyfraith ryngwladol”.
Mae'r Bil Tybaco a Fepio yn gwahardd gwerthu sigaréts i unrhyw blant a aned ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae hefyd yn bwriadu lleihau argaeledd fêps i blant. Dywedodd Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, am y mesurau ei bod yn eu “cefnogi’n llwyr”, yn dilyn lansiad ymgynghoriad pedair gwlad ar greu cenhedlaeth ddi-fwg. Gallai’r dull pedair gwlad hwn liniaru effeithiau posibl Deddf Marchnad Fewnol y DU, fel y mae’r erthygl hon yn egluro.
Mae 21 Bil yn Araith y Brenin, gyda 14 ohonynt eisoes wedi’u cyflwyno. Bydd y rhain yn mynd drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn ystod y misoedd nesaf.
Erthygl gan Madelaine Phillips, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru