Cymru a Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP)

Cyhoeddwyd 05/10/2023   |   Amser darllen munudau

Mae’r DU wedi cytuno i ymuno â bloc masnach o 11 gwladwriaeth, o’r enw’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (“CPTPP”). 

Dywedodd Kemi Badenoch, yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach, y rhagwelir y bydd rhanbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel yn ffurfio'r mwyafrif o’r twf byd-eang yn y dyfodol.  

Gyda'r Deyrnas Unedig, bydd gan y bloc gynnyrch domestig gros cyfunol o £12 triliwn a bydd yn ffurfio 15 y cant o'r cynnyrch domestig gros byd-eang. Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif cynnydd o 0.08 y cant yng nghynnyrch gros domestig yn y DU. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu £1.8 biliwn y flwyddyn am ddeng mlynedd.  

Disgwylir i’r CPTPP ddod i rym yn ail hanner 2024 yn dilyn gwaith craffu seneddol a rhoi deddfwriaeth ar waith. 

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y gallai aelodaeth roi hwb i economi Cymru ond dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn hollbwysig nad yw ei pherthynas fasnachu â’r UE ac eraill yn cael ei niweidio.  

Wrth i ni aros am ragor o fanylion gan Lywodraeth Cymru, mae'r erthygl hon yn crynhoi'r hyn rydyn ni'n ei wybod hyd yn hyn.  

CPTPP: rhai pwyntiau sylfaenol 

Mae CPTPP yn grŵp o 11 o wladwriaethau yn rhanbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel - Awstralia, Brunei, Canada, Chile, Japan, Malaysia, Mecsico, Seland Newydd, Periw, Singapore a Fietnam.  

Dechreuodd CPTPP fel cytundeb dan arweiniad yr Unol Daleithiau o'r enw Partneriaeth y Môr Tawel ("TPP") ond, ym mis Ionawr 2017, gwnaeth Trump dynnu'r Unol Daleithiau yn ôl yn y camau olaf. Parhaodd y gwladwriaethau eraill heb yr Unol Daleithiau, cytunwyd ar enw newydd ac yn 2018, sefydlwyd CPTPP.  

Y DU yw'r aelod Ewropeaidd cyntaf ac mae wedi gorfod cytuno i amodau er mwyn bod yn aelod, yn hytrach na thrafod telerau newydd o'r dechrau. Mae gan y DU eisoes, neu bydd ganddi cyn bo hir, gytundebau masnach dwyochrog gyda 9 o 11 aelod CPTPP felly mae aelodaeth yn rhywbeth ychwanegol.  

Mae CPTPP yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan gynnwys masnach mewn nwyddau a gwasanaethau, caffael y llywodraeth, llafur a’r amgylchedd.  

Enillwyr a chollwyr 

Mae enillwyr a chollwyr ym mhob cytundeb masnach. Mae'r adran hon yn edrych yn fanylach ar yr hyn a ddywedwyd am CPTPP.  

Economaidd

Dywedodd Llywodraeth y DU y gallai dod yn aelod roi hwb o £53 miliwn i economi Cymru a gallai fod o fudd arbennig i wneuthurwyr peiriannau yng Nghymru. Mae'n dweud bod mwy na 450 o fusnesau yng Nghymru wedi allforio gwerth dros £900m o nwyddau i wledydd CPTPP yn 2021. Fe fyddan nhw nawr yn wynebu llai o fiwrocratiaeth a gwell cyfleoedd, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, a ychwanegodd:

Bydd y marchnadoedd hyn sy’n tyfu yn helpu busnesau yng Nghymru i wella cyfleoedd allforio ac yn rhoi hwb i’r awydd byd-eang am nwyddau a gwasanaethau o Gymru.

Mae Grŵp Polisi Tramor Prydain yn awgrymu y gallai gofynion rhannu data trawsffiniol CPTPP wrthdaro â phenderfyniad digonolrwydd data'r DU yn yr UE, sy’n fater y mae Llywodraeth Cymru yn pryderu yn ei gylch a ystyriwyd gan ddau o bwyllgorau’r Senedd.

Masnach mewn nwyddau

Mae Halen Môn yn dweud bod "potensial enfawr" ar gyfer masnachu. Mae'r cwmni eisoes yn allforio i Japan a Singapore ond mae’n dweud ei fod yn gallu gweld “cyfleoedd ar gael hefyd yn Awstralia”.

Mae’r telerau masnachu nwyddau eraill yn cynnwys:

  • Mae 99 y cant o allforion y DU yn gymwys ar gyfer masnach ddi-dariff; a
  • Gall gweithgynhyrchwyr yn y DU gyfrif cydrannau a wneir yng ngwladwriaethau CPTPP fel rhai a wnaed gartref er mwyn elwa o drefniadau masnachu ffafriol (rheolau tarddiad) ond gall hyn gael canlyniadau cymysg ar draws sectorau.
Yr amgylchedd

Ym mis Mawrth, arwyddodd Masnach Deg Cymru lythyr ar y cyd yn galw ar Lywodraeth y DU i beidio dod yn aelod am nifer o resymau, gan gynnwys effeithiau negyddol sylweddol ar yr amgylcheddol a’r hinsawdd.

Mae Llywodraeth y DU yn rhagweld cynnydd bach mewn allyriadau domestig a defnydd o danwydd ffosil, a briodolir yn bennaf i fwy o weithgarwch economaidd. Mae'n nodi bod yr effaith ar lygredd aer, bioamrywiaeth, tir a defnydd dŵr yn ansicr, yn ogystal â'r effeithiau amgylcheddol ar gyfer gwledydd partner.

Mae'n addo cynnal safonau bwyd, yr amgylchedd a lles anifeiliaid ar gyfer cynhyrchu domestig ond nid oes mesurau diogelu cyfatebol ar gyfer mewnforion. Mae hyn yn golygu y gallai cynhyrchion a wneir i safon is, er enghraifft, trwy ddefnyddio plaladdwyr neu gemegau sydd wedi'u gwahardd yn y DU, fynd i mewn i farchnad y DU.

Cytunodd y DU hefyd i gael gwared ar dariffau ar fewnforion olew palmwydd, ar gais Malaysia. O ganlyniad i hynny, mae grwpiau amgylcheddol, fel Cyfeillion y Ddaear, wedi codi pryderon am safbwynt y Deyrnas Unedig ar ddatgoedwigo a bioamrywiaeth. Mewn datganiad ar y cyd, mae'r DU a Malaysia yn disgrifio sut y byddant yn cydweithredu ar gadwraeth a chadwyni cyflenwi cynaliadwy.

Iechyd a llesiant

Yn yr asesiad o’r effaith ar iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru canfu, er y gallai buddion economaidd CPTPP arwain at welliannau o ran iechyd a llesiant i rai, mae'r rhai ar incwm isel yn fwy tebygol o brofi effeithiau negyddol posibl. Dyma’r ail asesiad yn unig o'r effaith ar iechyd a gynhaliwyd yn fyd-eang ar gytundeb masnach. 

Mae setliad anghydfod CPTPP yn cynnwys agwedd ddadleuol ar gytundebau masnach, a elwir yn setlo anghydfod buddsoddwr-i-wladwriaeth ("ISDS"). Mae ISDS yn caniatáu i gwmnïau gymryd camau cyfreithiol yn erbyn gwladwriaethau os yw eu polisïau'n lleihau elw cwmnïau neu'n effeithio'n negyddol arno. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud y gallai hyn arwain at oerfel rheoliadol” ar gyfreithiau iechyd y cyhoedd newydd.

Geowleidyddiaeth

Mae Chatham House yn dweud bod y gwerth gwirioneddol i'r Deyrnas Unedig yn strategol wrth iddi symud tuag at ranbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel. Fodd bynnag, fel yr eglura Grŵp Polisi Tramor Prydain, gall alinio gydag un bloc masnachu gyfyngu ar aliniad ag eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn pryderu y gallai aelodaeth â CPTPP niweidio masnach gyda'r UE a phartneriaid masnachu eraill. Mae 57 y cant o allforion nwyddau Cymru yn mynd i'r UE, gwerth tua £12 biliwn, o'i gymharu â 6.1 y cant i wladwriaethau CPTPP, gwerth tua £1.3 biliwn. 

Beth am fasnach rhwng y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau? Yn ôl Kemi Badenoch, yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach, mae’r siawns o gytundeb masnach rhwng y DU a'r Unol Daleithiau yn isel iawn. Mae allforion Cymru i'r Unol Daleithiau wedi ysgogi'r cynnydd mewn gwerthoedd allforio i wledydd tu allan i’r UE. Yn 2022, yr Unol Daleithiau oedd y farchnad allforio fwyaf yn ôl gwerth ar gyfer cynnyrch o Gymru, gan gyfrif am £3.4 biliwn (16.5 y cant) o allforion.

Beth am Tsieina? Mae’r arbenigwr ar fasnach Sam Lowe o’r farn y gallai'r DU ddarparu cymorth i aelodau CPTPP roi pleidlais feto o ran Tsieina’n dod yn aelod. Mae saith o aelodau CPTPP hefyd yn aelodau o'r cytundeb masnach rhanbarthol mwyaf yn y byd gyda Tsieina, sef y Bartneriaeth Economaidd Cynhwysfawr Rhanbarthol (RCEP). 

Beth yw barn Llywodraeth Cymru? 

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn deall pam fod Llywodraeth y DU “wedi rhoi pwysigrwydd o'r fath” i CPTPP ond bod y broses o ymuno â bloc presennol yn “wahanol” i gytundebau masnach dwyochrog eraill ar ôl Brexit y mae'r DU wedi'u trafod hyd yma. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: 

O’r dechrau rydym wedi bod â phryderon ynghylch rhai elfennau o'r cytundeb presennol, pryderon sydd wedi parhau, a hynny o ran lefel yr uchelgais o fewn rhai penodau’r CPTPP. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar fod ymgysylltiad Llywodraeth y DU ynghylch CPTPP wedi gwella yn 2022-23. Bydd ei hadroddiad llawn ar CPTPP yn cael ei gyhoeddi maes o law a dylai ddarparu mwy o ddealltwriaeth.  


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru