llun brechu

llun brechu

Data brechu COVID-19

Cyhoeddwyd 15/10/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar y strategaeth frechu ar gyfer cyflwyno brechlynnau COVID-19 ym mis Mehefin. Mae gan y strategaeth dair garreg filltir ac amseriadau bras ar gyfer pryd y caiff dos cyntaf o’r brechlyn ei gynnig i boblogaeth oedolion Cymru.

Faint o bobl sydd wedi cael dos o’r brechlyn?

Erbyn 13 Hydref 2021, roedd Cymru wedi rhoi 2,404,237 o’r dos cyntaf o frechlyn COVID-19, sef 75.9 y cant o’r gyfanswm y boblogaeth, a 2,232,967 o’r ail ddos, sef 70.4 y cant o’r gyfanswm y boblogaeth.

Y nifer sydd wedi cael y dos cyntaf a’r ail ddos gyda chanran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael eu brechu

Map o'r DU yn dangos: dos cyntaf Cymru 2387746, 75.3%. ail ddos Cymru 2227522, 70.3%. dos cyntaf Lloegr 41131105, 72.7%. ail ddos Lloegr 37780849, 66.8%. dos cyntaf Yr Alban 4235075, 72.7%. ail ddos Yr Alban 3854847, 70.5%. dos cyntaf Gogledd Iwerddon 1314779, 69.4%. ail ddos Gogledd Iwerddon 1215311, 64.1%.

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU

Sylwer: Mae poblogaeth pob un o wleydydd yn y DU yn seiliedig ar ddata diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac felly mae'n cynnwys y rhai dan 16 oed na cynigir brechlyn COVID-19 iddynt.

Mae’n bosibl y gwelwch chi ganrannau gwahanol o'r boblogaeth yn cael eu defnyddio o ran dosbarthu’r brechlynnau. Mae ambell ffynhonnell yn cymharu dosau o’r brechlyn â chyfanswm y boblogaeth, tra bod rhai eraill yn cymharu dosau â'r boblogaeth sy’n 18 oed a hŷn. Rydym yn cyflwyno'r naill a’r llall i ddangos y gwahaniaeth. Erbyn hyn, dylai pob plentyn 16 ac 17 oed yng Nghymru fod wedi cael cynnig y brechlyn.

Mae'r map uchod yn dangos sut mae Cymru'n cymharu â gwledydd eraill y DU ar gyfer canran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael dos cyntaf ac ail ddos.

Mae’r graff isod yn dangos y ganran o’r boblogaeth 16 oed a hŷn sydd wedi cael eu dos cyntaf a’u hail ddos o frechlyn dros gyfnod o amser.

Canran y boblogaeth dros 16 oed sydd wedi cael dos cyntaf a’r ail ddos o’r brechiad

Ymhlith y boblogaeth sy’n hŷn na 16 oed, mae 92 y cant wedi cael  y dos cyntaf a 85 y cant wedi cael yr ail ddos ers mis Rhagfyr 2020.

Sut mae'r broses o gyflwyno’r brechlyn yng Nghymru yn mynd rhagddi?

Y garreg filltir gyntaf

Carreg filltir gyntaf y strategaeth frechu oedd cynnig dos cyntaf o frechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 erbyn canol mis Chwefror 2021. Ar 12 Chwefror, cyhoeddodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, fod y garreg filltir gyntaf wedi’i chyflawni

Yr ail garreg filltir

Ail garreg filltir y strategaeth frechu oedd cynnig dos cyntaf o frechlyn COVID-19 i grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 erbyn canol mis Ebrill 2021. Dywedodd Llywodraeth Cymru y cyflawnwyd yr ail garreg filltir ar 4 Ebrill.

Y drydedd garreg filltir

Trydedd garreg filltir y strategaeth frechu oedd ail gam y rhaglen frechu. Nod Llywodraeth Cymru yw cynnig dos cyntaf o frechlyn i'r rhai 18-49 oed erbyn diwedd Gorffennaf 2021 ac i 75 y cant ym mhob grŵp blaenoriaeth gael dos cyntaf.

Mae’r cynnydd cyffredinol tuag at y tair carreg filltir i’w weld yn ein siartiau isod ar gyfer y dos cyntaf a’r ail ddos.

Canran y bobl sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn fesul grŵp blaenoriaeth

Carreg Filltir 1: Gweithwyr cartrefi gofal 98.1%. Trigolion cartrefi gofal 94.2%. Gweithwyr gofal iechyd 97%. Gweithiwr gofal cymdeithasol 45114 wedi cael brechiad – nid yw maint y grŵp ar gael. 80 oed neu'n hŷn 96.2%. 75-79 oed 97%. 70-74 oed 96.3%. Eithriadol o agored i niwed yn glinigol 95%. Carreg Filltir 2: 65-69 oed 95.1%. Grwpiau risg glinigol 16-64 oed 90.6%. 60-64 oed 93.5%. 55-59 oed 91.8%. 50-54 oed 90%. Carreg Filltir 3: 40-49 oed 85.1%. 30-39 oed 78.3%. 18-29 oed 77.6%. 16-17 oed 71.9%.

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Canran y bobl sydd wedi cael ail ddos o frechlyn fesul grŵp blaenoriaeth

Carreg Filltir 1: Gweithwyr cartrefi gofal 96.2%. Trigolion cartrefi gofal 91.3%. Gweithwyr gofal iechyd 95.3%. Gweithiwr gofal cymdeithasol 44522 wedi cael brechiad – nid yw maint y grŵp ar gael. 80 oed neu'n hŷn 95.2%. 75-79 oed 96.2%. 70-74 oed 95.7%. Eithriadol o agored i niwed yn glinigol 93.3%. Carreg Filltir 2: 65-69 oed 94.2%. Grwpiau risg glinigol 16-64 oed 87.4%. 60-64 oed 92.3%. 55-59 oed 90.3%. 50-54 oed 88.1%. Carreg Filltir 3: 40-49 oed 82%. 30-39 oed 72.9%. 18-29 oed 69.6%. 16-17 oed 16.6%.

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Sut mae'r broses o gyflwyno’r brechlyn yn mynd rhagddi fesul bwrdd iechyd?

Bob wythnos, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gyfran ym mhob grŵp blaenoriaeth, ym mhob bwrdd iechyd ac awdurdod lleol, sydd wedi cael y dos cyntaf a’r ail ddos.

Mae’r tri graff isod yn dangos cynnydd fesul bwrdd iechyd lleol yn ôl y tair carreg filltir. Maent yn dangos y rhai sydd wedi cael y ddau ddos o’r brechlyn.

Canran y preswylwyr cartrefi gofal, pobl 70-74 oed, pobl 75-79 oed, pobl 80 oed a hŷn, a'r rhai sy'n eithriadol o agored i niwed (gwarchod gynt) sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol eu hardal breswyl.

Gweler data Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y manylion llawn.

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Canran y bobl 65-69 oed, 60-64 oed, 55-59 oed, 50-54 oed, ynghyd â'r bobl 16-64 oed mewn grwpiau risg clinigol, sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol eu hardal breswyl.

Gweler data Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y manylion llawn.

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Canran y bobl 18-29 oed, 30-39 oed a 40-49 oed sydd wedi derbyn y ddau dos o’r brechlyn, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol eu hardal breswyl.

Gweler data Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y manylion llawn.

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r map rhyngweithiol yn dangos canran yr oedolion 18 oed a hŷn sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn. Mae’r lliwiau goleuach yn dangos canran uwch sydd wedi’u brechu. Drwy hofran dros enw’r awdurdod lleol, gallwch weld faint o bobl 50+ oed, pobl 80+ oed, pobl mewn cartrefi gofal, a phobl rhwng 16 a 69 oed sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, sydd wedi cael y dos cyntaf a’r ail ddos yn yr ardal honno.

Canran yr oedolion 18 oed a hŷn sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn yn ôl awdurdod lleol.

 

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

*Preswylwyr cartrefi gofal i oedolyn hyn. **CEV = eithriaol o agored i niwed yn glinigol.

Beth nesaf?

Strategaeth frechu wedi'i diweddaru

Ar 12 Hydref cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth frechu COVID-19 ar gyfer yr hydref a'r gaeaf 2021. Mae’r strategaeth yn amcangyfrif:

  • Bod gan 77 y cant o bobl o bob oedran yng Nghymru ryw imiwnedd yn erbyn haint COVID-19;
  • Rhaid i hyd at 90 y cant o’r boblogaeth, wedi’u gwasgaru’n gyfartal ledled Cymru a’i holl oedrannau a grwpiau poblogaeth, fod ag imiwnedd i COVID-19 cyn y byddai effeithiau imiwnedd poblogaeth i’w gweld.

Mae'r Strategaeth yn canolbwyntio ar ddarparu pigiadau atgyfnerthu ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed, brechu plant a phobl ifanc a'r egwyddor o adael neb ar ôl, ac mae'n cadarnhau erbyn 1 Tachwedd, y bydd cynigion yn cael eu gwneud ar gyfer:

  • Un dos ar gyfer pob plentyn 12-15 oed;
  • Brechiad atgyfnerthu ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal a staff iechyd a gofal.

Ond mae'r Strategaeth yn nodi hefyd bod “achosion cyffredinol o COVID-19 yn parhau i fod yn uchel ledled Cymru”, gyda phwysau parhaus ar wasanaethau iechyd.

Yn wir, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhybuddio bod gaeaf a allai fod yn anodd o'n blaenau, ac mae'n amlwg na fydd y pandemig drosodd erbyn y Nadolig. Mewn datganiad i'r Cyfarfod Llawn ar 12 Hydref dywedodd y Gweinidog y “bydd bygythiadau eraill o heintiau anadlol eraill, fel RSV a’r ffliw tymhorol”, ac mae'r Strategaeth hefyd yn nodi'r risg uwch i'r rhai a heintir gyda’r ffliw a COVID-19.

Bydd angen cyflwyno'r rhaglen frechu hefyd ochr yn ochr â'r brechlyn ffliw tymhorol ac mae'r Strategaeth yn annog pobl i gael y brechlyn ffliw, ni waeth beth yw eu cymhwysedd ar gyfer pigiad atgyfnerthu COVID-19.

Ymgyrch brechiadau atgyfnerthu

Mae’r Gweinidog wedi adrodd y bydd mwyafrif y bobl sy'n gymwys yn cael cynnig eu brechiad atgyfnerthu erbyn 31 Rhagfyr 2021. Cynigir y brechiad atgyfnerthu o leiaf chwe mis ar ôl cwblhau'r cwrs brechu cyntaf

Bydd pobl sy'n ddifrifol imiwnoataliedig yn cael cynnig trydydd dos o'r brechlyn i roi cymaint o ddiogelwch â phosibl iddynt.  Byddant yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer apwyntiad brys ar adeg sy'n iawn iddynt ar sail eu triniaeth a chyngor eu clinigwr.

Cyngor brechlyn wedi'i ddiweddaru i fenywod beichiog

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori y dylid cynnig brechlynnau COVID-19 i fenywod beichiog ar yr un pryd â phobl o'r un oedran neu grŵp risg.

Yn dilyn hyn, mae'r Cyd-bwyllgor wedi diweddaru ei ganllawiau ar y brechlyn, beichiogrwydd a bwydo ar y fron. Mae'r canllawiau’n nodi mai’r brechlynnau Pfizer a Moderna yw'r brechlynnau a ffefrir ar gyfer menywod beichiog o unrhyw oedran sy'n derbyn eu dos brechlyn cyntaf.

Pàs COVID y GIG

Cyflwynwyd pasys COVID gorfodol mewn clybiau nos a digwyddiadau mawr yng Nghymru ar 11 Hydref, a chyhoeddwyd canllawiau ar sut i gael pàs COVID a’i ddefnyddio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu y bydd mesurau gorfodi a chydymffurfio i gyd-fynd â'r rheoliadau newydd hyn. Bydd angen i fusnesau a digwyddiadau ddangos sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â'r trefniadau o ran y pàs COVID newydd. Mae hefyd bellach yn drosedd i unigolyn ddarparu tystiolaeth ffug neu gamarweiniol o statws brechu neu brofi pan fydd angen y wybodaeth honno fel rhan o'r gofyniad i ddal pàs COVID.


Erthygl gan Paul Worthington, Joe Wilkes and Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru