Iechyd menywod yng Nghymru: Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynllun iechyd menywod a merched ar waith eto

Cyhoeddwyd 08/03/2023   |   Amser darllen munudau

Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn digwydd mewn gwahanol ffyrdd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod y llynedd, fe wnaethom dynnu sylw at hawliau menywod i iechyd, gan ofyn 'A yw'n wir nad yw iechyd menywod yn cael ei ystyried yr un mor ddifrifol ag iechyd dynion?'

Ers hynny, mae Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd, wedi ymrwymo i drawsnewid gofal iechyd i fenywod a merched. Mae hyn yn cynnwys cyflyrau gynaecolegol (h.y. problemau mislif, endometriosis, a’r menopos) a gwasanaethau ar gyfer cyflyrau iechyd lle mae gwahaniaethau sy’n gysylltiedig â rhyw yn digwydd (h.y. clefyd cardiofasgwlaidd, asthma, anymataliaeth ac iechyd meddwl).

Yn yr erthygl hon, rydym yn edrych ar y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ran datblygu cynllun iechyd menywod a merched.

Cynnydd tuag at gynllun iechyd menywod a merched

Cyhoeddodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) yr adroddiad 'Better for Women' ym mis Rhagfyr 2019. Roedd yr adroddiad yn argymell y dylai pedair gwlad y DU gyhoeddi cynllun i fynd i'r afael â meysydd o angen sydd heb eu diwallu ar gyfer iechyd menywod. Mae cynlluniau cyflawni wedi'u cyhoeddi yn yr Alban ac yn Lloegr ond nid yng Nghymru eto.

Cafodd datganiad ansawdd y Gweinidog Iechyd ar iechyd menywod a merched, sy'n amlinellu materion iechyd corfforol a meddyliol sy'n effeithio ar fenywod a merched ar hyd eu hoes (h.y. gwneud y gorau o iechyd a lles menywod a merched ar bob oedran) ei gyhoeddi fis Gorffennaf diwethaf. Mae’n disgrifio’r hyn y disgwylir i fyrddau iechyd ei gyflawni i sicrhau gwasanaethau iechyd o ansawdd da i gefnogi menywod a merched.

Cydweithrediad GIG Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu’r cynllun iechyd menywod a merched (sy’n gorfod nodi sut y bydd GIG Cymru yn cyflawni uchelgeisiau’r datganiad ansawdd). Cyhoeddodd y Cydweithrediad ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2021. Yr adroddiad yw cam cyntaf y gwaith o ddatblygu cynllun deng mlynedd ar gyfer iechyd menywod a merched (2024-34). Mae’n cyfuno adolygiad tystiolaeth o iechyd menywod â lleisiau menywod a merched, gyda GIG Cymru wedi ymgynghori â dros 3,800 o fenywod rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 2022.

Mae'r Gweinidog yn disgrifio’r cam hwn fel y 'cam darganfod', gan ddweud ei fod yn “dechrau sgwrs a chyfamod â menywod dros y 10 mlynedd nesaf”. Dywed y Gweinidog hefyd: “Mae angen i’r GIG ymateb nawr i flaenoriaethau datganedig menywod”.

Dymuniadau menywod a chyfleoedd i wella

Mae'r datganiad ansawdd ar iechyd menywod a merched yn cynnwys rhestr o 29 o gyflyrau lle mae’r Gweinidog Iechyd yn dweud bod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r rhain yn amrywio o asthma i ddementia, clefyd y galon a strôc i anhwylderau gynaecolegol, ac osteoporosis i les meddwl, pryder ac iselder.

Amlinellodd y Gweinidog ei bod am weld Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau (sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd menywod a merched) yn gwella eu gwasanaethau gynaecolegol. Mae wedi ymrwymo iddynt ddarparu gofal amserol i fenywod a merched sydd angen gofal mislif a ffrwythlondeb, endometriosis a chymorth y menopos. Disgwylir hefyd i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ddarparu gwell cymorth ar gyfer dewisiadau atgenhedlu, megis erthyliad, IVF a chamesgor/colli beichiogrwydd. Mae mynd i'r afael â gwahaniaethau iechyd sy'n gysylltiedig â rhyw o ran clefyd y galon ac anymataliaeth hefyd yn flaenoriaeth.

Mae'r data arolwg gan GIG Cymru wedi'u dadansoddi i raddio meysydd blaenoriaeth, gyda chyflyrau iechyd gynaecolegol a phelfis (h.y. endometriosis, iechyd mislif, y menopos ac ati) yn faes sy'n peri'r pryder mwyaf i fenywod a merched. Wedi'i ddilyn yn agos gan iechyd meddwl a lles (h.y. gorbryder ac iselder, anhwylderau bwyta ac ati).

Mae adroddiad GIG Cymru yn nodi y dylai Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ganolbwyntio ar feysydd â blaenoriaeth penodol lle nodwyd bod angen gwella GIG Cymru. Mae'r Papur Gwyn hefyd yn pwysleisio y dylai’r:

…cynllun helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd, gwella tegwch gwasanaethau, gwella canlyniadau iechyd i fenywod yng Nghymru a sicrhau bod gwasanaethau’r GIG yn adlewyrchu anghenion menywod drwy gydol eu bywyd.

Mae'r cynllun yn un rhan o ddarlun ehangach o ran iechyd menywod a merched. Bydd angen i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ganolbwyntio ar yr heriau a’r anghydraddoldebau mwy hyn er mwyn gwireddu uchelgeisiau’r Gweinidog.

Y camau nesaf ac argymhellion

Mae chwe thema allweddol wedi’u nodi yn adroddiad Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru, lle mae’n nodi cyfleoedd i wella Gwasanaethau’r GIG:

  • Lleisiau menywod a merched (anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a diwylliant) – gwella’r ffordd y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando ar fenywod a merched am eu pryderon iechyd ac yn eu cymryd o ddifrif.
  • Mynediad at ofal iechyd a chanlyniadau iechyd – mynd i’r afael â’r rhwystrau y mae llawer o fenywod a merched yn eu hwynebu i gael mynediad at ofal iechyd, yn enwedig gofal nad yw’n ofal brys.
  • Llesiant – ailystyried y ffactorau sy’n effeithio ar les ac ansawdd bywyd, gan gynnwys gwell cymorth yn y gweithle ac iechyd meddwl. Gwell cefnogaeth i rieni a gofalwyr.
  • Gwybodaeth, addysg a chyfathrebu – gwella’r wybodaeth a’r addysg a ddarperir er mwyn i fenywod a merched allu gwneud dewisiadau gwybodus yn seiliedig ar eu hamgylchiadau eu hunain a’r dystiolaeth orau sydd ar gael.
  • Iechyd yn y gweithle – mwy o empathi, dealltwriaeth a hyblygrwydd yn y gweithle i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chefnogi cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. Dylai GIG Cymru anelu at ddod yn gyflogwr enghreifftiol.
  • Ymchwil – adeiladu sail dystiolaeth ddibynadwy a set o ddata i wella dealltwriaeth o faterion iechyd penodol i fenywod, a gwahaniaethau o ran rhyw mewn iechyd.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at bum cam byrdymor i’w cymryd yn y 6-12 mis nesaf:

  • Sefydlu Rhwydwaith Iechyd Menywod (a fydd yn gyfrifol am fonitro cynnydd a chanlyniadau yn erbyn y datganiad ansawdd).
  • Datblygu camau gweithredu o'r chwe maes cyfle gwella â blaenoriaeth (a nodir uchod).
  • Archwilio a chynnal gwaith modelu o ran y galw a chapasiti o'r prif gyflyrau iechyd mawr sy'n effeithio ar fenywod a merched, y tu allan i faes atgenhedlol a gynaecolegol.
  • Gweithredu'r argymhellion a wnaed gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymru Gyfan ar y Menopos.
  • Ystyried camau gweithredu o'r rhaglen gofal wedi'i gynllunio ar wasanaethau gynaecoleg.

Sut mae rhanddeiliaid wedi derbyn y cynllun?

Roedd Clymblaid Iechyd Menywod Cymru (sy'n cynnwys dros 80 o sefydliadau’r trydydd sector, Colegau a Chyfadrannau Brenhinol, cynrychiolwyr cleifion a chlinigwyr) yn croesawu’r datganiad ansawdd i ddechrau.

Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd y bydd GIG Cymru yn tynnu ar fersiwn y Glymblaid o gynllun iechyd menywod a merched (a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022). Yn fwy diweddar, dywedodd un o'r cyd-gadeiryddion y Glymblaid (Triniaeth Deg i Fenywod yng Nghymru):

…we remain concerned that co-production with patients and public is properly embedded in all work related to the Women’s Health Plan and that Coalition members’ expertise is utilised throughout.

Mae’r datganiad ansawdd yn cydnabod bod cydgynhyrchu yn allweddol i ailgynllunio gwasanaethau gofal iechyd i fenywod a merched. Heb amheuaeth, bydd y Glymblaid yn sicrhau bod y Gweinidog yn cadw at ei gair - y bydd Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd menywod yn cael eu cydgynhyrchu. Mae lleisiau menywod yn ganolog i lwyddiant y cynllun ac i sicrhau canlyniadau gwell i fenywod a merched.

Mae’r Gweinidog wedi addo trawsnewid gofal iechyd i fenywod a merched. Rhaid aros i weld a fydd blwyddyn arall yn mynd heibio cyn inni ddechrau gweld canlyniadau diriaethol.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

* Mae'r erthygl hon yn defnyddio'r term 'menywod a merched' ond yn cydnabod nad dim ond y rhai sy'n uniaethu fel menywod sydd angen mynediad at wasanaethau iechyd ac atgenhedlu menywod (h.y. gall rhai dynion trawsrywiol hefyd brofi cylchoedd mislif, beichiogrwydd, endometriosis a'r menopos).