cy

cy

Hormonaidd, emosiynol ac afresymol: A yw'n wir nad yw iechyd menywod yn cael ei ystyried yr un mor ddifrifol ag iechyd dynion?

Cyhoeddwyd 08/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yr wythnos hon (8 Mawrth), sef diwrnod pan mae menywod a'u llwyddiannau yn cael eu dathlu. Ond mae hefyd yn amser da i ystyried sut mae hawliau menywod yn cael eu cyflawni – gan gynnwys yr hawl i iechyd.

Mae astudiaethau'n dangos bod “bwlch iechyd rhwng y rhywiau" yn bodoli, a’i fod yn rhwystr i fenywod rhag cael mynediad i ofal iechyd.

Cyflwynodd degau o filoedd o fenywod enghreifftiau yn ddiweddar o sut nad oedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi gwrando arnynt i Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU. Rhoesant enghreifftiau o adegau pan na ystyriwyd eu symptomau o ddifrif, neu eu bod wedi'u diystyru yn y cysylltiad cyntaf â meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall. Roedd enghreifftiau eraill yn dangos sut yr oedd yn rhaid i fenywod eiriol drostynt eu hunain yn barhaus i gael diagnosis, yn aml drwy ymweliadau lluosog, a thros gyfnodau o fisoedd a blynyddoedd.

Parheir i gyfeirio at fenywod fel “bod yn or-emosiynol”, neu cânt eu gweld fel rhai sy’n gorliwio maint eu poen a'u dioddefaint.

Mae menywod yn byw'n hwy na dynion ond mewn iechyd gwaeth

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru mai 83.5 mlynedd yw disgwyliad oes dynion yng Nghymru ac 86.6 mlynedd yw disgwyliad oes menywod. Ond er bod gan fenywod yng Nghymru (a ledled y DU) ddisgwyliad oes hwy na dynion, maen nhw’n treulio llai o'u bywyd mewn iechyd da.

Canfu astudiaeth a gynhaliwyd yn 2020, a oedd yn edrych ar iechyd y boblogaeth mewn 156 o wledydd bod gan y DU y bwlch iechyd menywod mwyaf ymhlith gwledydd y G20 (sef y gwledydd â’r economïau mwyaf), lle mae menywod ar eu colled. Mae gwahaniaeth o 38 o leoedd rhwng lle mae dynion y DU (87/156) a menywod (125/156) o ran safle ymhlith eu cyfoedion yn fyd-eang ar draws gwahanol gategorïau iechyd a llesiant. Mae hyn yn cynnwys disgwyliad oes, cyfradd afiechydon fel diabetes, canser a gordewdra, ac anhwylderau iechyd meddwl a chyfraddau hunanladdiad, ymhlith eraill.

Mae corff o waith ymchwil sy'n dod i'r amlwg yn dangos bod menywod yn profi gofal iechyd gwaeth na dynion. Er enghraifft, mae menywod yn llai tebygol o gael diagnosis yng nghyfnod cynnar Alzheimer am eu bod yn tueddu i fod â gwell cofau geiriol na dynion. Felly mae menywod yn perfformio'n well mewn profion cof.

Canfu gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan Brifysgol Rhydychen yn 2019, bod menywod 13 y cant yn llai tebygol na dynion o'r un oedran o gael cyffuriau sy'n achub bywydau fel statinau ar ôl trawiad ar y galon. Gall hyn fod yn un rheswm pam mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol na dynion o farw yn y 30 diwrnod ar ôl cael trawiad ar y galon.

Mae astudiaethau mor amrywiol ag astudiaethau o ran canser, poen cronig a dementia sy’n dangos bod menywod yn fwy tebygol o brofi oedi o ran diagnosis a gofal. Gyda'i gilydd, maent yn cyflwyno darlun nad yw pryderon iechyd menywod yn cael eu hystyried yr un mor ddifrifol â phryderon iechyd dynion.

Dywed rhai arbenigwyr iechyd menywod:

Whether it’s heart disease labeled as anxiety, an autoimmune disorder attributed to depression, or ovarian cysts chalked up to “normal period pain,” many women’s health issues are likely to be misdiagnosed or dismissed by doctors as something less critical. […]
There’s still this pervasive belief in the medical community that anytime a woman complains about her health, it’s either related to her hormones or all in her head.

Pam mae bwlch iechyd rhwng y rhywiau

Nid oes digon o ymchwil o ran cyrff menywod, a'r cyflyrau sy'n effeithio arnynt, ac yn sgil hynny ni wyddys digon am eu hachosion na’r triniaethau ar eu cyfer.

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Llyfrgell Tŷ'r Arglwyddi 'Women’s health outcomes: Is there a gender gap?’. Mae'r erthygl yn awgrymu mai un esboniad am y bwlch iechyd rhwng y rhywiau yw tangynrychiolaeth menywod mewn treialon clinigol. Dywedwyd bod:

There has been five times the amount of research into male erectile dysfunction, which afflicts 19% of men, than there has been into premenstrual syndrome, which effects 90% of women.

Gwyddys llai am gyflyrau sy'n effeithio ar fenywod yn unig gan gynnwys cyflyrau gynaecolegol cyffredin, fel endometriosis, syndrom ofari polycystig, a’r anhwylder dysfforig cyn-mislif a all gael effeithiau difrifol ar iechyd a llesiant. Er enghraifft, canfu Grŵp Seneddol Hollbleidiol y DU ar Endometriosis ei bod yn cymryd 9 mlynedd ar gyfartaledd i fenywod gael diagnosis o endometriosis (sy’n hwy nag yn unrhyw ran arall o’r DU), ac mae 40 y cant o fenywod angen 10 neu ragor o apwyntiadau meddyg teulu cyn cael eu cyfeirio at arbenigwr.

Mae diffyg ymchwil feddygol hefyd yn golygu nad yw ymchwilwyr yn cael y cyfle i nodi ac astudio gwahaniaethau o ran rhywedd ar gyfer clefydau; mae'n creu rhagdybiaethau y bydd triniaethau meddygol tebyg yn gweithio i wrywod a benywod. Mae diabetes, trawiad ar y galon ac awtistiaeth i gyd yn gyflyrau a all daro gwrywod a benywod yn wahanol. Esbonia’r arbenigwr academaidd Perez:

What are known as the classic symptoms for heart attacks are ‘classic’ for men. Women are actually more likely to experience breathlessness, fatigue, nausea and what feels like indigestion than pain in the chest and down their left arm.

Mae Clymblaid Iechyd Menywod Cymru yn egluro ei bod yn eithaf anodd canfod faint o amser y mae hyfforddeion yn ei dreulio yn dysgu am 'iechyd menywod' yn ystod eu hyfforddiant meddygol, eu hyfforddiant nyrsio, eu hyfforddiant bydwreigiaeth a hyfforddiant gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, yn bennaf oherwydd amrywiadau yn y meysydd llafur ledled Cymru a'r DU.  Mae’r Glymblaid yn awgrymu y gall fod cyn lleied â chyfnod o 6 wythnos neu lai o hyfforddiant dros gyfnod o dair blynedd.

Nid oes gan Gymru gynllun iechyd menywod

Cyhoeddodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) yr adroddiad 'Better for Women' ym mis Rhagfyr 2019. Roedd yr adroddiad yn argymell y dylai pedair gwlad y DU gyhoeddi cynllun iechyd menywod i fynd i'r afael â meysydd o angen nas diwallwyd ar gyfer iechyd menywod.

Yr Alban yw'r wlad gyntaf yn y DU i gael Cynllun Iechyd Menywod.. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun drafft 'Ein Gweledigaeth ar gyfer Strategaeth Iechyd Menywod Lloegr' ym mis Rhagfyr 2021. Dylai ei strategaeth derfynol gael ei chyhoeddi yn y gwanwyn eleni.

Nid oes gan Gymru gynllun iechyd menywod. Mae ganddi Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod (WHIG), a sefydlwyd ym mis Mai 2018 i fynd i’r afael â meysydd penodol iechyd menywod a oedd angen sylw a gwelliant brys, gan gynnwys y mater rhwyll y wain. gofal endometriosis ac anymataliaeth ysgarthion.

Dywed y Gweinidog Iechyd ei bod wedi ymrwymo i wella iechyd menywod, a bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn datblygu “cynnig iechyd menywod”. Ond dywed yr elusen Fair Treatment for Women in Wales - O ran iechyd menywod yn gyffredinol, rydym ar ei hôl hi ym mhob maes.

Mae'r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ei chynllun iechyd menywod yn dangos nad oes amheuaeth bod llawer o fenywod yn teimlo nad yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt. Maent hefyd yn dangos nad yw menywod yn cael eu cefnogi'n dda wrth ymdrin â’u cyflyrau iechyd. Mae profiad menywod yng Nghymru yn debygol o fod yn debyg iawn.

Mae Clymblaid Iechyd Menywod Cymru yn dweud bod angen i gynllun iechyd menywod yng Nghymru fynd i’r afael yn rhagweithiol â’r anghydraddoldebau iechyd a brofir gan fenywod. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn siarad â’r Glymblaid i ddarganfod rhagor am eu safbwyntiau ar sut beth y dylai “cynnig iechyd menywod” fod ar gyfer Cymru. Gallwch wylio’r sesiwn yn fyw ddydd Iau (10 Mawrth) ar Senedd TV.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru