Ceir, gwartheg a glo: Allyriadau Cymru rhwng 1990 a 2024

Cyhoeddwyd 30/06/2026   |   Amser darllen munudau

Dyma ddiweddariad o erthygl a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025, sef ‘Ceir, gwartheg, a glo: Allyriadau Cymru rhwng 1990 a 2023’. Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data newydd ar gyfer 2024.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr yw achos pennaf newid hinsawdd. Mae'r nwyon hyn yn cael eu rhyddhau drwy amryw o weithgareddau sy'n rhan annatod o fywyd modern – o yrru cerbydau ag injan betrol neu ddisel, i gynhyrchu trydan a ffermio.

Mae'r erthygl hon yn defnyddio’r ystadegau diweddaraf ar allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru i archwilio’r prif ffynonellau a thueddiadau o ran allyriadau rhwng 1990 a 2024.

Prif bwyntiau:

  • Y ffigurau ar gyfer allyriadau Cymru yn 2024 oedd y rhai isaf erioed, gan ddangos gostyngiad o 8.6% ers 2023, a gostyngiad o 44.2% ers 1990.
  • Am y tro cyntaf, roedd yr allyriadau a ddeilliodd o sectorau datganoledig yn uwch na’r allyriadau a ddeilliodd o sectorau sydd wedi’u cadw yn ôl.
  • Cafwyd cynnydd bach yn yr allyriadau a ddeilliodd o sectorau datganoledig, a gostyngiad sydyn yn yr allyriadau a ddeilliodd o sectorau sydd wedi’u cadw yn ôl, yn bennaf oherwydd y penderfyniad i gau’r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot.
  • Rhaid i Lywodraeth newydd Cymru gyhoeddi cynllun pum mlynedd newydd ar gyfer lleihau allyriadau cyn diwedd 2026.

Y cefndir

Ymrwymodd Cymru yn gyfreithiol i allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050 drwy wneud diwygiad yn 2021 i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau'n raddol mewn dwy ffordd: targedau interim i leihau allyriadau ar gyfer 2020, 2030, a 2040; a chyllidebau carbon pum mlynedd cronnol.

Ffynonellau data a manylion technegol

Cyhoeddir data blynyddol ar allyriadau tiriogaethol ar gyfer gwledydd y DU gan Restr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol y DU (NAEI). Mae angen amser i gasglu a gwirio'r data, felly mae datganiad data mis Mehefin 2026 yn ymwneud ag allyriadau tiriogaethol hyd at 2024. Mae allyriadau tiriogaethol yn cynnwys yr holl allyriadau o fewn Cymru, ond nid ydynt yn cynnwys allyriadau sydd wedi'u gwreiddio mewn cynhyrchion a gwasanaethau sydd wedi’u mewnforio i'r wlad o weddill y DU ac o dramor. Trafodir dull arall o fesur allyriadau yn seiliedig ar amcangyfrif o 'ddefnydd' ar ddiwedd yr erthygl hon.

Mae gostyngiadau mewn allyriadau yn cael eu mesur o gymharu â blwyddyn 'waelodlin' – sef 1990 ar gyfer y nwyon tŷ gwydr mwyaf cyffredin, fel carbon deuocsid, a 1995 ar gyfer rhai nwyon tŷ gwydr anghyffredin ond mwy pwerus. Drwy gydol yr erthygl hon, defnyddir '1990' i gyfeirio at y flwyddyn waelodlin. Mesurir allyriadau mewn cilotunelli o gyfwerthyddion carbon deuocsid (kTCO2e), er mwyn caniatáu'r broses o gymharu nwyon sydd â photensial cynhesu gwahanol yn uniongyrchol.

Cyfanswm yr allyriadau yn 2024

Mae allyriadau absoliwt Cymru yn fach mewn cyd-destun byd-eang. Ei hallyriadau yn 2024 oedd 30,130 ktCO2e, sy’n llai na 0.1% o'r cyfanswm byd-eang. Fodd bynnag, gan addasu’r ffigurau ar gyfer ei phoblogaeth, mae allyriadau Cymru yn 9.5 TCO2e fesul person, sydd 65% yn uwch na'r cyfartaledd byd-eang, ac yn ail o’r brig ymhlith gwledydd y DU (ar ôl Gogledd Iwerddon).

Allyriadau nwyon tŷ gwydr y pen cenedlaethol a rhyngwladol

Siart bar o allyriadau fesul y pen yn ôl tiriogaeth, sy’n dangos bod allyriadau Cymru yn uwch na rhai Lloegr a’r Alban, a chyfartaledd y byd.

 

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd, yn seiliedig ar ddata gan NAEI, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y Cenhedloedd Unedig, a’r Comisiwn Ewropeaidd.

O fewn y DU, mae gan Gymru nifer anghymesur o ffynonellau sydd ag allyriadau uchel, gan gynnwys y gorsafoedd pŵer nwy ym Mhenfro a Chei Connah, y burfa olew ym Mhenfro, a’r ffatrïoedd sment ym Mhadeswood ac Aberddawan.

A hithau’n un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddiwydianeiddio, mae cyfraniad hanesyddol Cymru at newid hinsawdd hefyd yn uwch na'r rhan fwyaf o wledydd sydd tua’r un maint â hi.

Mae allyriadau'n gostwng dros amser

Hyd at 2024, mae cyfanswm allyriadau Cymru wedi gostwng 44.2% o gymharu â 1990. Cyflawnodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb garbon gyntaf (2016-2020) a’r targed dros dro ar gyfer 2020.

Cyfanswm allyriadau 2023 oedd yr isaf ar gofnod, 8.6% yn llai nag yn 2023.

Allyriadau, targedau a chyllidebau carbon tiriogaethol Cymru, rhwng 1990 a 2050

Graff llinell o allyriadau Cymru rhwng 1990 a 2023, sy’n dangos tuedd hirdymor o allyriadau'n gostwng. Mae hefyd yn dangos cyllidebau carbon a thargedau statudol yn y gorffennol a’r dyfodol.

 

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd, yn seiliedig ar ddata gan NAEI a Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r ail gyllideb garbon (2021-25), oni bai bod allyriadau wedi codi'n sylweddol yn 2025. Bydd angen gostyngiad pellach o 34% o gymharu ag allyriadau 2024 i gyrraedd targed interim 2030.

Ym mis Rhagfyr 2025, cytunodd y Senedd i bennu lefel cyllideb garbon 4 (2031-2035) 73% yn is na’r lefel a welwyd yn 1990, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol (CCC).

O ble mae allyriadau Cymru yn dod?

Daw nwyon tŷ gwydr o ffynonellau amrywiol. Fesul sector, diwydiant oedd ffynhonnell fwyaf allyriadau yng Nghymru yn 2024, ac yna trafnidiaeth ddomestig, amaethyddiaeth, a chyflenwi trydan.

Allyriadau 2024 yn ôl sector

Siart cylch o allyriadau Cymru yn 2024 yn ôl sector. Diwydiant yw'r sector mwyaf, sef 22%. Mae amaethyddiaeth, adeiladau, trafnidiaeth ddomestig, a chyflenwi trydan, a chyflenwi tanwydd tua’r un faint, sef 11% i 19%. Y sectorau lleiaf yw hedfan a morgludiant rhyngwladol ar 1%, a gwastraff ar 3%.

 

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd, yn seiliedig ar ddata gan NAEI

Dim ond cyfrifoldeb rhannol sydd gan Lywodraeth Cymru am leihau allyriadau. Mae rhai sectorau wedi'u cadw yn ôl yn rhannol neu'n llwyr gan Lywodraeth y DU. Mae'r dadansoddiad hwn yn rhannu sectorau yn rhai sydd 'wedi'u cadw'n ôl yn bennaf' neu 'wedi'u datganoli'n bennaf', yn seiliedig ar ble mae’r pwerau o ran polisi, yn unol â diffiniadau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Cyfanswm allyriadau 2024 mewn sectorau sydd wedi’u cadw yn ôl a sectorau datganoledig

Dwy golofn wedi’u pentyrru sy’n dangos cyfanswm yr allyriadau o sectorau wedi’u cadw yn ôl a’r allyriadau o sectorau datganoledig, a’r cyfraniadau o bob sector. Mae cyfanswm yr allyriadau o sectorau sydd wedi’u cadw yn ôl ychydig yn is na’r allyriadau o sectorau datganoledig. Mae’r golofn ddatganoledig yn dangos cyfraniad negyddol bach o ddefnydd tir.

 

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd, yn seiliedig ar ddata gan NAEI 

*Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ystyried bod 'trafnidiaeth wyneb' ac 'adeiladau' wedi’u datganoli'n rhannol. 

†Mae newid defnydd tir, gan gynnwys coedwigaeth a mawndiroedd, yn sinc net o nwyon tŷ gwydr. Felly, mae 'allyriadau' y sector hwn yn negyddol.

2024 oedd y flwyddyn gyntaf i’r rhan fwyaf (50.1%) o allyriadau net Cymru ddeillio o sectorau datganoledig.

Mae’r broses o ddatgarboneiddio mewn sectorau datganoledig wedi bod yn arafach

Mae allyriadau ym mhob sector wedi gostwng ers 1990, ond mae maint y gostyngiadau hyn yn amrywio’n sylweddol. Mae allyriadau o sectorau sydd wedi’u cadw yn ôl wedi gostwng 55%, tra bod allyriadau o sectorau datganoledig wedi gostwng 28% yn unig.

Y newid mewn allyriadau o sectorau sydd wedi'u cadw yn ôl ac allyriadau o sectorau datganoledig, rhwng 1990 a 2023

Siart llinell sy’n dangos newidiadau mewn allyriadau o sectorau datganoledig ac allyriadau o sectorau sydd wedi’u cadw yn ôl rhwng 1999 a 2024. Mae'r ddau wedi gostwng yn sylweddol, er bod y gostyngiad mewn allyriadau o sectorau sydd wedi’u cadw yn ôl wedi bod yn llai, ac yn llai newidiol. Mae’r ddau label yn nodi’r cam o gyflwyno targedau statudol y DU yn 2008, a’r cam o gyflwyno targedau statudol Cymru yn 2016.

 

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd, yn seiliedig ar ddata gan NAEI, Deddf Newid Hinsawdd 2008, a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Diwydiant a chyflenwi trydan sydd i gyfrif, i raddau helaeth, am y gostyngiad mawr mewn allyriadau o sectorau sydd wedi’u cadw yn ôl. Gyda'i gilydd, maent yn cyfrif am fwy na 60% o’r datgarboneiddio a welwyd yng Nghymru ers 1990. Mae’r penderfyniad i gau gorsaf bŵer glo olaf Cymru, a thwf mawr mewn ynni adnewyddadwy, fel gwynt a solar, yn cyfrif am ostyngiad o 72% yn yr allyriadau sy’n gysylltiedig â chyflenwi trydan ers 2016.

Allyriadau blynyddol Cymru mewn sectorau sydd wedi’u cadw yn ôl, rhwng 1998 a 2024.

Graff llinell sy’n dangos allyriadau blynyddol mewn pedwar sector sydd wedi’u cadw yn ôl rhwng 1998 a 2024. Cyflenwi trydan a diwydiant oedd y sectorau mwyaf o ran allyriadau o bell ffordd rhwng 1998 a’r 2010au hwyr. Cafwyd gostyngiad sylweddol mewn allyriadau cyflenwi trydan ar ôl 2016. Cafwyd gostyngiad sydyn mewn allyriadau diwydiannol yn 2002 a 2024, ond y sector hwn yw’r un mwyaf o hyd ers 2018.

 

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd, yn seiliedig ar ddata gan NAEI

Ers 1990, mae allyriadau wedi mwy na haneru yn y sectorau gwastraff, cyflenwi trydan, diwydiant a chyflenwi tanwydd. Bu gostyngiadau cymharol gymedrol yn y sectorau trafnidiaeth ddomestig (7%) ac amaethyddiaeth (14%).

Allyriadau blynyddol Cymru mewn sectorau datganoledig, rhwng 1998 a 2024

Graff llinell sy’n dangos allyriadau blynyddol mewn pum sector datganoledig rhwng 1998 a 2024. Gwelwyd gostyngiad mewn allyriadau ym mhob sector, ond roedd y gostyngiadau hyn yn llawer mwy cymedrol na'r hyn a welwyd yn y sectorau mwyaf sydd wedi’u cadw yn ôl. Roedd amaethyddiaeth a thrafnidiaeth ddomestig yn weddol wastad drwyddi draw, tra bod adeiladau a gwastraff wedi gostwng yn raddol.

 

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd, yn seiliedig ar ddata gan NAEI 

*Mae newid defnydd tir, gan gynnwys coedwigaeth a mawndiroedd, yn sinc net o nwyon tŷ gwydr. Felly, mae 'allyriadau' y sector hwn yn negyddol.

Allyriadau yn gostwng yn 2024 yn sgil cau gwaith dur Port Talbot

Cafwyd gostyngiad o 8.6% yng nghyfanswm allyriadau Cymru yn 2024 – sefyllfa a achoswyd, i raddau helaeth, gan y penderfyniad i gau ffwrneisi chwyth glo Port Talbot. Arweiniodd y penderfyniad hwn at ostyngiad o 25% mewn allyriadau diwydiannol. Gwelwyd gostyngiadau mawr hefyd mewn allyriadau cyflenwi trydan a thanwydd, gan arwain at ostyngiad cyffredinol o 16% mewn allyriadau o sectorau datganoledig.

Mewn cyferbyniad, cafwyd cynnydd o 0.5% mewn allyriadau o sectorau datganoledig, gyda braidd dim newid yn y sector amaethyddol a’r sector trafnidiaeth, a chynnydd bach mewn allyriadau o’r sector adeiladu.

Allyriadau blynyddol yn ôl sector, 2023-24

Siart bar yn dangos y newid cyfrannol mewn allyriadau o bob sector rhwng 1990 a 2024. Cafwyd y gostyngiad mwyaf, o bell ffordd, yn y sector diwydiant, ac ar ôl hynny y sectorau cyflenwi trydan, gwastraff, a chyflenwi tanwydd. Prin iawn oedd y newidiadau a welwyd mewn sectorau eraill, ac eithrio’r cynnydd bach a welwyd mewn allyriadau adeiladu.

 

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd, yn seiliedig ar ddata gan NAEI

Allyriadau defnydd

Mae’n gymharol hawdd mesur allyriadau tiriogaethol, y mae’r erthygl hon yn eu dadansoddi, ac maent hefyd yn sylfaen i dargedau lleihau allyriadau statudol Cymru.

Fodd bynnag, nid yw allyriadau tiriogaethol yn cynnwys allyriadau sydd wedi'u 'gwreiddio' mewn cynhyrchion a gwasanaethau sydd wedi’u mewnforio. Er enghraifft, pe bai car yn cael ei adeiladu yn yr Almaen a'i fewnforio i Gymru, byddai'r allyriadau sy'n gysylltiedig â'i gynhyrchu yn cyfrif tuag at allyriadau tiriogaethol yr Almaen. Pe byddem yn mesur cynnydd dim ond drwy edrych ar allyriadau tiriogaethol, mae perygl y byddem yn gwobrwyo’r broses o symud diwydiannau sy’n llygru dramor, os yw'r un cynhyrchion a gwasanaethau'n dal i gael eu defnyddio ond yn cael eu cynhyrchu yn rhywle arall.

Mae mesur allyriadau 'defnydd' yn ceisio unioni hyn – gan ystyried allyriadau wedi’u mewnforio, a'r rhai a gynhyrchir yng Nghymru. Fodd bynnag, mae llawer mwy o ansicrwydd yn perthyn i’r broses o amcangyfrif allyriadau defnydd o'i gymharu ag amcangyfrif allyriadau tiriogaethol.

Yn 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcangyfrif o’r allyriadau defnydd rhwng 2001 a 2020.

Amcangyfrifwyd bod allyriadau defnydd Cymru ychydig yn is na’i hallyriadau tiriogaethol drwy gydol y cyfnod rhwng 2001 a 2020. Priodolodd Llywodraeth Cymru hyn i’r gyfran uchel yng Nghymru o waith gweithgynhyrchu sy'n ddwys o ran allyriadau, y mae llawer ohono'n cael ei allforio. Cafwyd gostyngiadau tebyg mewn allyriadau defnydd ac allyriadau tiriogaethol dros y cyfnod hwn, sy'n awgrymu nad symud allyriadau dramor (‘offshoring’) oedd prif achos y gostyngiad mewn allyriadau.

Allyriadau defnydd ac allyriadau tiriogaethol Cymru, 2001 i 2020

Graff llinell yn cymharu allyriadau tiriogaethol ac allyriadau defnydd Cymru rhwng 2000 a 2020. Roedd allyriadau defnydd ychydig yn is nag allyriadau tiriogaethol drwy gydol y cyfnod hwn. Mae'r ddau fesur yn dangos gostyngiadau hirdymor tebyg, a gostyngiad mawr yn 2020.

 

Ffynhonnell: NAEI, Llywodraeth Cymru

Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi amcangyfrif wedi'i ddiweddaru o allyriadau defnydd erbyn diwedd 2027.

Beth nesaf?

Mae Cynllun Sero Net Llywodraeth flaenorol Cymru yn nodi ei pholisïau i gyflawni cyllideb garbon 2 (2021-2025). Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru gyhoeddi cynllun cyfatebol ar gyfer cyllideb garbon 3 (2026-2030) cyn diwedd 2026. Bydd Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur Llywodraeth Cymru, sydd yn yr arfaeth, yn canolbwyntio ar fapio “llwybr ymarferol at sero net erbyn 2040", sydd 10 mlynedd yn gynharach na'r targed cyfreithiol presennol.

Cafodd ffwrnais chwyth olaf Port Talbot ei chau ym mis Medi 2024, sy'n golygu mai dim ond yn nata 2025 y bydd yr effaith lawn ar allyriadau Cymru yn dod i’r amlwg. Mae’n debygol y bydd cynlluniau ledled y DU i gyflymu’r broses o gynhyrchu ynni adnewyddadwy a phŵer niwclear newydd, yn lleihau allyriadau yn y sector cyflenwi trydan sydd wedi’i gadw yn ôl.

Mewn sectorau datganoledig, mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn cynnwys cymhellion i ffermwyr leihau allyriadau a chynyddu faint o garbon sy’n cael ei storio ar eu ffermydd. Mae Llywodraeth Cymru yn annog datgarboneiddio yn y sector adeiladau drwy gynlluniau amrywiol, gan gynnwys cynllun Cartrefi Clyd Nyth, cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru, a'r Gwasanaeth Ynni. Mae hefyd yn datblygu ei phrosiectau ynni adnewyddadwy ei hun drwy'r cwmni Trydan Gwyrdd Cymru

Dywed cyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn 2025 y bydd datgarboneiddio yn y dyfodol yn dod yn fwyfwy dibynnol ar gamau polisi mewn sectorau datganoledig, fel amaethyddiaeth, defnydd tir, a thrafnidiaeth. Felly, mae'n debygol y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol am gyfyngu ar gyfraniad Cymru at newid hinsawdd.

Disgwylir i'r data ar allyriadau tiriogaethol ar gyfer 2025 gael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2027.


Erthygl gan Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru