Mae gwastraff plastig yn parhau i fod yn un o'r materion amgylcheddol mwyaf enbyd yn y DU ac ar draws y byd. Mae plastig yn hynod o wydn ac nid yw’n fioddiraddadwy, sy'n golygu ar ôl ei gyflwyno i'r amgylchedd y gall aros yno am gannoedd o flynyddoedd, gydag effeithiau dinistriol ar fywyd gwyllt.
O'r pum miliwn tunnell o blastig yr amcangyfrifir sy’n cael ei ddefnyddio bob blwyddyn, mae tri chwarter ohono’n troi yn wastraff. Mae dwy filiwn o dunelli o hyn yn ddeunydd pacio plastig, gan gynnwys bron i wyth biliwn o boteli plastig untro .
Eitemau plastig untro yw'r brif ffynhonnell sbwriel yn ein cefnforoedd, ac mae’n anafu a lladd pysgod, adar y môr a mamaliaid morol.
Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl yn derbyn yr her o wrthod plastig untro ar gyfer Gorffennaf Di-blastig. Yn dilyn erthygl y llynedd, dyma fwrw golwg ar y cynnydd yng Nghymru wrth fynd i’r afael â llygredd plastig, a’r modd y mae ymdrechion i reoli plastigion untro yn amrywio ar draws gwledydd y DU.
Camau i wahardd plastig untro
Mae amryw o eitemau plastig untro yn cael eu targedu ledled y DU, ac maent naill ai wedi’u gwahardd yn barod, neu bwriedir eu gwahardd, gan gynnwys:
- Ffyn cotwm;
- cyllyll a ffyrc;
- platiau;
- gwellt yfed;
- trowyr;
- ffyn ar gyfer balwnau;
- cynwysyddion bwyd wedi'u gwneud o bolystyren estynedig;
- cwpanau ar gyfer diodydd wedi'u gwneud o bolystyren estynedig; a
- chynnyrch oxo-ddiraddadwy, h.y. deunydd sy'n dirywio’n ddarnau llai neu’n ficroplastig.
Mae'r eitemau hyn wedi cael eu gwahardd ar draws yr UE ers mis Gorffennaf 2021. Er nad oes angen i'r DU (ar y cyfan) gydymffurfio, mwyach, â Chyfarwyddeb yr UE, mae pwysau cynyddol ar lywodraethau’r DU i ymrwymo i gael gwared yn raddol ar rai eitemau plastig.
Mae gwastraff yn faes sydd wedi’i ddatganoli i raddau helaeth, felly mater i bob gwlad yw penderfynu sut y bydd yn gwneud hyn.
Cymru
Mae ymgynghoriad o’r flwyddyn 2020 gan Lywodraeth flaenorol Cymru yn nodi cynigion ar gyfer gwahardd y naw eitem plastig untro a restrir yng Nghyfarwyddeb yr UE. Gofynnwyd am farn hefyd ar gynigion yn y dyfodol, gan gynnwys ymestyn y gwaharddiad i gadachau gwlyb.
Yn ei ddatganiad deddfwriaethol diweddar, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, y bydd Llywodraeth Cymru, fel mater o “flaenoriaeth gynnar” yn:
…cyflwyno Bil i wahardd neu gyfyngu ar werthiant rhai o'r plastigau untro mwyaf cyffredin yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, nid yw’n hysbys beth fydd yn cael ei gynnwys yn y Bil. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio “cynnwys pŵer rheoleiddio i Weinidogion ar gyfer gallu ychwanegu rhagor o blastigau untro” i’r ddeddfwriaeth “wrth i'r dystiolaeth yn eu cylch nhw gynyddu”.
Eglurodd y Prif Weinidog y bydd dull Cymru yn debyg i’r un yn Lloegr, lle bydd yn pennu rhestr o eitemau plastig untro penodol, “na fydd modd eu defnyddio nhw yng Nghymru eto”.
Lloegr
Daeth y Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwellt Yfed Plastig, Ffyn Cotwm a Throwyr) (Lloegr) 2020 i rym yn Lloegr ym mis Gorffennaf 2021. Maen nhw'n cyfyngu ar y cyflenwad (nid gweithgynhyrchu) gwellt yfed plastig untro, ffyn cotwm a throwyr diodydd.
Nid yw’r rheoliadau’n cynnwys cyfyngiadau ar blatiau plastig untro, cyllyll a ffyrc, ffyn balŵn neu gynwysyddion bwyd a diod polystyren estynedig. Fodd bynnag, cynhaliwyd ymgynghoriad pellach (disgwylir y canlyniad) ar gynlluniau i wahardd cyflenwi'r eitemau hyn.
Yr Alban
Yn ôl Llywodraeth yr Alban ei nod yw cyfateb y safonau a bennwyd gan yr UE, neu ragori arnynt. Fel y cyfryw, cyflwynodd Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Yr Alban) 2021, sydd i raddau helaeth yn unol â Chyfarwyddeb yr UE ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2022. Heb eu cynnwys mae ffyn cotwm â choesau plastig, gan eu bod eisoes wedi'u wahardd yn yr Alban, a phlastigau oxo-ddiraddadwy am y rheswm a ganlyn:
This is a complex and rapidly changing area and as such the Scottish Government is currently collecting further information before taking a final decision.
Yn wahanol i Loegr, mae rheoliadau'r Alban yn gwahardd gweithgynhyrchu a chyflenwi o eitemau penodol fel ei gilydd.
Mae gan bob cyfyngiad sydd mewn grym (ar draws yr UE, Lloegr a’r Alban) eithriadau penodol, er enghraifft, i ddarparu ar gyfer anghenion meddygol.
Gogledd Iwerddon
Er nad yw’n ofynnol i’r DU gydymffurfio â Chyfarwyddeb yr UE erbyn hyn, mae’n ofynnol i Ogledd Iwerddon fabwysiadu erthyglau penodol o dan y darpariaethau y cytunwyd arnynt fel rhan o’r Protocol ar Ogledd Iwerddon yn y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a’r UE (fel y’i diwygiwyd). Roedd gan Ogledd Iwerddon ddyddiad cau estynedig o fis Ionawr 2022 i roi’r mesurau hyn ar waith, ond nid oes gwaharddiad ar waith ar hyn o bryd.
Fe wnaeth Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon gynnal ymgynghoriad ar opsiynau polisi ar gyfer lleihau rhai eitemau plastig untro. Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon yn datgan mai Llywodraeth y DU sydd i gyflawni’r rhwymedigaeth i fabwysiadu Cyfarwyddeb yr UE.
Nid yw'n hysbys pa effaith y gallai Mesur Gogledd Iwerddon ei gael ar y rhwymedigaeth hon.
Ffigur 1. Sut mae gwaharddiadau plastig untro yn wahanol ar draws y DU?
Eitem blastig | Cymru | Lloegr | Yr Alban | Gogledd Iwerddon |
Trowyr diod | Gwaharddiad arfaethedig | Gwaharddiad ar gyflenwi | Gwaharddiad ar weithgynhyrchu a chyflenwi | Dim cynigion |
Ffyn cotwm | Gwaharddiad arfaethedig | Gwaharddiad ar gyflenwi | Gwaharddiad ar weithgynhyrchu a chyflenwi | Dim cynigion |
Gwellt yfed | Gwaharddiad arfaethedig | Gwaharddiad ar gyflenwi | Gwaharddiad ar gyflenwi | Dim cynigion |
Platiau untro | Gwaharddiad arfaethedig | Gwaharddiad arfaethedig ar gyflenwi | Gwaharddiad ar weithgynhyrchu a chyflenwi | Dim cynigion |
Cyllyll a ffyrc untro | Gwaharddiad arfaethedig | Gwaharddiad arfaethedig ar gyflenwi | Gwaharddiad ar weithgynhyrchu a chyflenwi | Dim cynigion |
Ffyn balŵn | Gwaharddiad arfaethedig | Gwaharddiad arfaethedig ar gyflenwi | Gwaharddiad ar gyflenwi | Dim cynigion |
Cynwysyddion polystyren estynedig e.e. cynwysyddion bwyd a diod prydiau parod (takeaway) | Gwaharddiad arfaethedig | Gwaharddiad arfaethedig ar gyflenwi | Gwaharddiad ar weithgynhyrchu a chyflenwi | Dim cynigion |
Cynhyrchion ocso-ddiraddadwy | Gwaharddiad arfaethedig | Dim cynigion | Gwaharddiad arfaethedig | Dim cynigion |
Ffynonellau: Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon
*sylwer, mae 'gwaharddiad arfaethedig' yn cyfeirio at gynigion yr ymgynghorwyd arnynt ac y disgwylir iddynt ddod i rym. Nid oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer unrhyw 'waharddiad arfaethedig' a restrir.
Sut mae gwledydd y DU yn cydweithio?
Mae'r Rheoliadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, sydd ar ddod, yn manylu ar y modd mae’n rhaid i sefydliadau sy’n gyfrifol am becynnu gyflawni eu cyfrifoldebau ailgylchu ac maent cael eu cyflwyno ar y cyd gan bob un o’r pedair gwlad.
Mae cynigion ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes – y bu disgwyl mawr amdanynt – yn cael eu datblygu ar y cyd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.
Nid yw'r Alban wedi'i chynnwys gan mai dyma'r wlad gyntaf i ddwyn y Cynllun Dychwelyd Ernes yn ei flaen yn y DU. Mae rheoliadau presennol y Cynllun Dychwelyd Ernes yn ei gwneud yn ofynnol i bobl dalu blaendal y gellir ei ddychwelyd wrth brynu diod mewn cynwysyddion diodydd untro penodol. Mae’r broses o roi rheoliadau'r Alban ar waith wedi’i gohirio tan fis Awst 2023 oherwydd y pandemig.
Rhagwelir y bydd Cynllun Dychwelyd Ernes yn cael ei gyflwyno yng ngweddill y DU ddiwedd 2024, ar y cynharaf, sef chwe blynedd ar ôl iddo gael ei gyhoeddi. Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd, Cymru, Julie James AS y byddai’n well cael cynllun ar gyfer y DU gyfan, fodd bynnag:
…if the UK Government stopped talking about a deposit-return scheme or looked like they're not going to do it, we will absolutely consider doing one in Wales only, but it would clearly be better if we can just do it in a seamless way across the border.
Goblygiadau Deddf y Farchnad Fewnol
Mae'r Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 yn cyflwyno ansicrwydd ynghylch a yw gweinyddiaethau datganoledig yn gallu cyflwyno gwaharddiadau ar gynhyrchion y caniateir iddynt gael eu gwerthu mewn rhannau eraill o’r DU.
Yn gryno, mae’r Ddeddf yn gosod ‘egwyddorion newydd at ddibenion mynediad at y farchnad’ sy’n cymryd yn ganiataol y dylai (yn gyffredinol) nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol y gellir eu gwerthu neu eu cydnabod mewn un rhan o’r DU allu cael eu gwerthu neu eu cydnabod mewn unrhyw ran arall. Waeth beth mae'r gyfraith yn y rhan arall honno o'r DU yn ei ddweud.
Mae ein herthygl ddiweddar, 'Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020: pa wahaniaeth y mae’n ei wneud?' yn edrych yn fanylach ar yr egwyddorion mynediad i'r farchnad.
Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ddod i gytundeb ynghylch ble y bydd effeithiau Deddf y Farchnad Fewnol yn cael eu heithrio o reoliadau cyfredol yr Alban. Erbyn hyn, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU gyflwyno offeryn statudol i'r perwyl hwn.
Yn ôl y Prif Weinidog bydd deddfwriaeth plastig untro sydd ar ddod yng Nghymru yn darparu “enghraifft ymarferol” i gefnogi her gyfreithiol barhaus Llywodraeth Cymru i Ddeddf y Farchnad Fewnol, oherwydd:
Yn yr ymgyfreitha presennol, a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, mae'r llys wedi nodi y byddai hi'n ddefnyddiol ystyried enghraifft ymarferol, ar ffurf darn o ddeddfwriaeth yn y Senedd, y gellir ei defnyddio i roi prawf ar y materion dan sylw.
Dyfodol plastig?
Mae i blastig untro ei fanteision. Mae'n cyfrannu at ddiogelwch a hylendid bwyd, ac yn lleihau pwysau pecynnu wrth gludo (gan leihau ynni ac allyriadau). Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu fod ein dibyniaeth ar blastig – yn ei ffurf bresennol – yn anghynaladwy.
Mae’r modd yr ydym yn torri oes o arferion wrth ddefnyddio cynnyrch sydd ym mhobman, yn parhau i fod yn her.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru