Gorffennaf Di-blastig: tair ffordd y mae Cymru'n mynd i'r afael â llygredd plastig

Cyhoeddwyd 10/07/2023   |   Amser darllen munudau

Mae gwastraff plastig ym mhobman. Plastig yw’r math mwyaf cyffredin o falurion morol, nid yw'r rhan fwyaf o blastigion yn bioddiraddio, mae’n para canrifoedd mewn safleoedd tirlenwi neu'r amgylchedd naturiol, ac yn y pen draw mae’n troi’n ficroblastigion. Ac mae’n ymddangos bod llawer ohono'n ddiangen.

Dywed Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig fod angen newid systemig i sicrhau nad yr amgylchedd yw pen y daith i’r llif gwastraff plastig. Yn ei adroddiad, Turning off the Tap, a gyhoeddwyd i hysbysu datblygiad cytundeb cyfreithiol rwymol ar blastigion erbyn 2024, amlygir ffyrdd o leihau’r defnydd problemus a diangen o blastig. Mae'r ffyrdd hyn yn cynnwys ailgynllunio'r system i newid o 'ddiwylliant gwastraffus', symud y farchnad tuag at ddewisiadau amgen cynaliadwy, a phwysigrwydd dylunio plastig i fod yn ailgylchadwy.

I nodi Gorffennaf Di-blastig, sy’n fudiad byd-eang o bobl sy’n ymwrthod â phlastigion untro am fis, rydym yn edrych ar dair ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â llygredd plastig, a sut y mae’n cyflawni ymrwymiadau a wnaed yn ei strategaeth economi gylchol, Mwy nag Ailgylchu, yn 2021.

Cynllun Dychwelyd Ernes

O dan Gynllun Dychwelyd Ernes, codir swm o arian ar ddefnyddwyr fel blaendal wrth iddynt brynu, er enghraifft, diod mewn cynhwysydd untro. Caiff yr ernes ei dalu yn ôl pan fydd y cynhwysydd gwag yn cael ei ddychwelyd, fel arfer trwy beiriant pwrpasol, neu drwy law manwerthwr. Nod y Cynllun yw cynyddu nifer y cynwysyddion sy'n mynd i'w hailgylchu, a lleihau sbwriela yn sylweddol — h.y. ailgynllunio'r system i newid oddi wrth 'ddiwylliant gwastraffus'.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cyd ar gynigion am Gynllun Dychwelyd Ernes (gan Lywodraeth Cymru, gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, a chan Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon) am yr eildro yn 2021. Cyhoeddodd y Llywodraethau ymateb ar y cyd ym mis Ionawr 2023. Er nad yw’r wybodaeth fanwl am sut y caiff Cynllun o’r fath ei ddarparu yng Nghymru yn hysbys eto, mae’r pwyntiau allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Deunyddiau o fewn cwmpas Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru megis poteli Polyethylen tereffthalad (PET), caniau dur a chaniau alwminiwm, a photeli gwydr, yn unol â'r dull gweithredu a gynigir hefyd yn yr Alban. Ni fydd poteli gwydr yn rhan o Gynllun o’r fath yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r gwahaniaeth hwn rhwng y cynlluniau wedi arwain at rywfaint o ddadlau, fel y’i trafodwyd yn ein herthygl ddiweddar;
  • Rheoliadau (a wneir o dan bwerau yn Neddf yr Amgylchedd 2021) a gaiff eu defnyddio i sefydlu Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru (gwneir rheoliadau ar wahân ar gyfer Lloegr/Gogledd Iwerddon) a fydd yn gosod y fframwaith ar gyfer y cynlluniau a’r rhwymedigaethau o dan y cynlluniau hynny. Mae’r rheoliadau hyn wrthi’n cael eu drafftio, gyda’r nod y byddant mewn grym erbyn diwedd 2023;
  • Sefydliad (neu Sefydliadau) Rheoli Ernes (drwy broses ymgeisio a nodir yn y rheoliadau) a benodir i redeg y Cynllun Dychwelyd Ernes. Bydd yn gyfrifol am reoli gweithrediad cyffredinol y Cynllun, yn ogystal â chyrraedd y targedau casglu a bennir yn y rheoliadau. Y nod yw i Sefydliad Rheoli Ernes gael ei benodi erbyn haf 2024; a
  • Chynnig gan Lywodraethau i’r rheoliadau gynnwys 1 Hydref 2025 fel dyddiad cychwyn ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes, ond dywedir bod hwn yn ddyddiad targed ymestynnol.

Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR)

Mae cynlluniau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig ar gyfer pecynnu yn rhoi costau gwaredu deunydd pacio ar ysgwyddau’r cynhyrchydd. Mae system cyfrifoldeb cynhyrchwyr ar gyfer pecynwaith yn y DU ar hyn o bryd, ond nid yw'n talu holl gostau gwaredu.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cyd ar gynigion ar gyfer cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer y DU gyfan (gan bedair gwlad y DU), gyda ffocws ar broses a fyddai’n codi’r gost o ymdrin â phecynwaith gwastraff oddi ar ysgwyddau cartrefi, trethdalwyr lleol a chynghorau a’i rhoi ar gynhyrchwyr pecynwaith. Mae hyn yn unol ag egwyddor 'y llygrwr sy'n talu', sef mai’r rhai sy'n gwneud cynhyrchion sy'n achosi llygredd sy’n talu'r costau llawn pan dry’r cynhyrchion hynny’n wastraff, a thrwy hynny cynigid:

… cymhelliant ariannol i gynhyrchwyr leihau faint o becynwaith y maent yn ei roi ar y farchnad ac i wella'r graddau y gellir ailgylchu pecynwaith..

Caiff Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ei weithredu fesul cam o 2024 (2023 gynt), a bydd yn canolbwyntio ar sut mae cynhyrchwyr yn talu am becynwaith gwastraff o gartref, a phecynwaith mewn biniau stryd a reolir gan awdurdodau lleol. Bydd hefyd yn cyflwyno labelu gorfodol ar ailgylchadwyedd deunydd pacio, a thargedau ailgylchu gwastraff pecynwaith blynyddol hyd at 2030.

Gosodwyd Rheoliadau Gwastraff Pecynnu (Casglu Data ac Adrodd) (Cymru) 2023; bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol casglu ar ddata pecynwaith cynhyrchwyr, a chyflwyno adroddiadau arnynt, rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2023. Defnyddir y data hyn i gyfrifo'r ffioedd y bydd angen i'r cynhyrchydd eu talu. Bwriedir i’r rheoliadau hyn fod ar waith am gyfnod byr; wedi hynny byddant yn cael eu dirymu a'u disodli gan reoliadau i sefydlu'r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pecynnu, a byddant hefyd yn cynnwys darpariaethau ar gyfer casglu data a chyflwyno adroddiad.

Plastig untro

Mae Mwy nag ailgylchu yn cynnwys cam gweithredu pennawd i roi’r “gorau’n raddol i ddefnyddio eitemau untro diangen, ynenwedig plastig”. Ymdrinnir â hyn drwy Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 ddiweddar, sy’n ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys yn rhad ac am ddim) i ddefnyddiwr yng Nghymru gynhyrchion plastig untro diangen sydd yn aml yn cael eu taflu fel sbwriel. Mae ein Crynodeb diweddar o'r Bil yn amlinellu effaith arfaethedig y Bil, ac yn rhoi crynodeb o'i brif ddarpariaethau.

Mae Cyfnod 1 y gwaharddiad i fod i ddod i rym yn hydref 2023 a bydd yn gwahardd:

  • Platiau – mae’r rhain yn cynnwys platiau papur sydd ag araen blastig wedi’i lamineiddio;
  • Cytleri – er enghraifft ffyrc, llwyau a chyllyll;
  • Troellwyr diodydd – y rheini sydd wedi’u dylunio ar gyfer troi diodydd neu fwydydd hylifol;
  • Cwpanau sydd wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog;
  • Cynwysyddion bwyd tecawê sydd wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog;
  • Ffyn balwnau
  • Ffyn cotwm plastig; a
  • Gwellt yfed – gydag esemptiadau er mwyn sicrhau bod yr unigolion hynny sy’n dibynnu arnynt i fwyta ac yfed yn gallu parhau i’w cael.

Bydd Cyfnod 2 yn dod i rym “o 2024 ymlaen” a bydd yn gwahardd:

  • Bagiau siopa plastig untro;
  • Caeadau cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê wedi’u gwneud o bolystyren;
  • Cynhyrchion plastig ocso-ddiraddiadwy.

Dyma'r eitemau a waherddir o dan y Ddeddf, ond nid ydynt ar restr o eithriadau y cytunwyd arnynt i 'egwyddorion mynediad i'r farchnad' o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020. Mae’r ffaith bod yr eitemau hyn yn cael eu caniatáu mewn rhannau eraill o'r DU yn golygu eu bod yn gallu parhau i gael eu cyflenwi yng Nghymru cyhyd â'u bod yn cael eu cynhyrchu mewn rhannau eraill o’r DU neu eu mewnforio i rannau eraill o’r DU.

Beth sydd nesaf?

Dywedodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wrth y Senedd yn ddiweddar ei bod am weld a allai’r Ddeddf cynhyrchion plastig untro gael ei defnyddio i wahardd glaswellt artiffisial, ond newidiodd ei meddwl ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Fodd bynnag, gall Gweinidogion ddiwygio’r rhestr o eitemau sy’n cael eu gwahardd o dan y Ddeddf, sy’n golygu bod ganddynt y gallu i ymateb yn gyflym i faterion sy’n dod i’r amlwg. Mewn egwyddor, gellid defnyddio’r gallu hwn i fynd i'r afael ag e-sigaréts untro, sy’n cynnwys plastig, sy’n anodd eu hailgylchu, ac sy’n ymddangos fwyfwy fel sbwriel ledled Cymru. Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud y bydd yn cymryd camau ynghylch e-sigaréts untro yn yr hydref.

Roedd rhywfaint o siom ymysg cyrff anllywodraethol amgylcheddol a Dŵr Cymru na chafodd weips gwlyb sy’n cynnwys plastigion eu cynnwys yn y Ddeddf plastig untro. Dywedodd y Gweinidog wrth Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith mai'r mater mawr gyda weips gwlyb yw’r labelu, gan nad yw’n faes sydd wedi'i ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, mae Cynllun Dŵr diweddar Llywodraeth y DU yn cynnwys ymrwymiad i ymgynghori ar wahardd y defnydd o blastig mewn weips gwlyb. Mewn cyfarfod rhynglywodraethol diweddar, tynnodd Gweinidogion Cymru sylw at yr uchelgais a rennir i fynd i’r afael â mater weips gwlyb, ac at fanteision gweithio ar y cyd ar y mater hwn.

Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru