Fframweithiau cyffredin

Cyhoeddwyd 21/09/2022   |   Amser darllen munudau

Mae fframweithiau cyffredin yn gytundebau rhwng y DU a llywodraethau datganoledig ar sut i reoli ymwahanu mewn rhai meysydd polisi a arferai gael eu llywodraethu ar lefel yr UE.

Mae gan Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig gynlluniau ar gyfer 26 o fframweithiau cyffredin mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, fel diogelwch bwyd, ansawdd aer a chaffael cyhoeddus. Daeth y rhan fwyaf o’r fframweithiau cyffredin i rym dros dro ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit ar 31 Rhagfyr 2020.

Mae fframweithiau cyffredin dros dro yn cael eu cyhoeddi er mwyn craffu arnynt. Mae pwyllgorau'r Senedd yn gwneud gwaith craffu ar fframweithiau cyffredin dros dro, ochr yn ochr â phwyllgorau yn seneddau eraill y DU.

Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd ddogfennau briffio Ymchwil y Senedd ar fframweithiau cyffredin dros dro.

Rhagor o wybodaeth

Erthygl gan Lucy Valsamidis a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru