Fframwaith cyffredin dros dro: Diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid

Cyhoeddwyd 01/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/10/2021   |   Amser darllen munudau

Papur briffio - Fframwaith cyffredin dros dro: Diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid

Mae Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig wedi cytuno i sefydlu fframweithiau cyffredin i reoli ymwahanu rhwng gwahanol rannau o'r DU mewn rhai meysydd polisi a oedd yn arfer cael eu llywodraethu ar lefel yr UE. Mae'r briff hwn yn edrych ar sut gallai’r fframwaith dros dro ar ddiogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid lywio cyfraith a pholisi yng Nghymru yn y maes hwn.

Cyhoeddwyd y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid ar 27 Tachwedd 2020, wedi i Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig gytuno arno dros dro. Rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021, fe wnaeth Pwyllgor Materion Allanol y Senedd gynnal gwaith craffu cychwynnol ar y fframwaith.

Mae'r fframwaith yn nodi sut y bydd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn gweithio gyda'i gilydd i benderfynu ble i alinio a ble i ymwahanu ym maes rheoleiddio diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid ar ôl Brexit. Dyma yw un o'r fframweithiau mwy cymhleth ac eang, sy'n adlewyrchu ehangder y maes polisi hwn, ond mae'n rhannu nodweddion cyffredin â'r mwyafrif o fframweithiau eraill sydd wedi’u cyhoeddi.

Mae'r briff hwn yn ystyried y canlynol:

  • y cyd-destun polisi yng Nghymru ac ar draws y DU;
  • deddfwriaeth yr UE a ddargedwir yn y maes hwn a throsglwyddo swyddogaethau o'r UE i awdurdodau domestig;
  • sut mae'r fframwaith yn ceisio rheoli ymwahanu rheoliadol ac yn rhyngweithio â Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020;
  • sut mae'r fframwaith yn ceisio rheoli gweithrediad rhwymedigaethau rhyngwladol a chynrychiolaeth ddatganoledig ar lefel ryngwladol;
  • sut mae rhanddeiliaid wedi gallu ymgysylltu â'r fframwaith; a
  • sut caiff y fframwaith ei adolygu a'i ddiwygio yn y dyfodol.

Mae'r llywodraethau'n cydnabod bod y fframwaith yn rhywbeth y mae’n rhaid parhau i weithio arno. Mae negodiadau’n parhau ar sut y dylai'r fframweithiau cyffredin ryngweithio â’r canlynol:

Bydd disgwyl i’r Senedd chwarae rhan barhaus o ran craffu ar weithrediad y fframwaith.


Erthygl gan Lucy Valsamidis a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru