Ffocws y Senedd ar iechyd meddwl

Cyhoeddwyd 23/05/2023   |   Amser darllen munudau

Mae iechyd meddwl wedi bod yn destun gwaith craffu sylweddol yn y Senedd dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn y Bumed Senedd er enghraifft, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y pryd ei adroddiad ‘dylanwadol', Cadernid Meddwl (2018) a pharhau i gynnal gwaith dilynol ynghylch hwn. At hynny, cynhyrchodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon amrywiaeth o adroddiadau, gan gynnwys adroddiadau ynghylch: Atal hunanladdiad; iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu; ac effaith pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl (2020). Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhai diweddariadau ynghylch cynnydd i'r Pwyllgor Iechyd presennol.

Mae iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth strategol i’r Pwyllgor Plant a’r Pwyllgor Iechyd fel ei gilydd yn y Chweched Senedd. At hynny, mae’n thema drawsbynciol a drafodir yng ngwaith ehangach y pwyllgor, er enghraifft ymchwiliadau’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol, a dyled ac effaith costau byw cynyddol.

Yn yr erthygl hon, rydym yn rhoi crynodeb o rai o’r darnau allweddol o waith sydd wedi’u cyflawni yn ystod y Senedd hon:

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gwnaeth yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ebrill 2022, sef ‘Aros yn iach?’ ystyried effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru. Trafododd yr oedi o ran triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl, ynghyd â’r cysylltiad rhwng cyflyrau iechyd corfforol hirdymor ac iechyd meddwl gwael (ac effaith arosiadau hir am driniaeth ar iechyd meddwl).

Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ym mis Rhagfyr 2022 alw am wasanaethau mwy hygyrch a chydgysylltiedig, a symud tuag at lawer mwy o ffocws ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac achosion ehangach afiechyd meddwl (gallwch ddarllen mwy am yr ymchwiliad hwn yn ein herthygl ddiweddar: Newid y sgwrs am iechyd meddwl.

Yn ystod yr ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl, gwnaeth rhanddeiliaid tynnu sylw at y stigma, yr anghydraddoldebau, a chanlyniadau iechyd gwaeth a brofir gan bobl â salwch meddwl difrifol a pharhaus. Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor yn ymgynghori ar gymorth i bobl â chyflyrau cronig, gan gynnwys y rhyngweithio rhwng cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol. Mewn dull dau gam i'r ymchwiliad, bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio i lunio meysydd ffocws yr ymchwiliad. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 25 Mai 2023, a disgwylir i sesiynau tystiolaeth lafar gael eu cynnal yn nhymor yr hydref.

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Gwnaeth ymholiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2022 am absenoldeb disgyblion edrych ar faterion iechyd meddwl fel achos a chanlyniad absenoldeb disgyblion o'r ysgol.

Mae ymholiad y Pwyllgor i gymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch (2022-2023) yn edrych ar effeithiolrwydd cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr. Gwnaeth dros 30 o argymhellion y cwmpasu ystod eang o faterion, megis effaith y pandemig, lliniaru effaith yr argyfwng costau byw, casglu data'n well, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth i staff a myfyrwyr a chyllid mwy cynaliadwy sy'n cyfateb i lefel yr angen. Mae disgwyl i ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad gael ei gyhoeddi’n fuan.

Ym mis Tachwedd 2022, cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan bobl ifanc a fu’n ymwneud ag ymgyrch 'Sortiwch y Switsh' Mind Cymru, yn galw am welliannau i bontio rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a gwasanaethau oedolion. Wedi hynny cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Yn ei adroddiad ar gymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch, galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i roi’r holl argymhellion yn adroddiad ‘Sortiwch y Switsh’ ar waith.

Senedd Ieuenctid Cymru

Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi blaenoriaethu tri materion, gan gynnwys 'ein iechyd meddwl a lles'. Cyhoeddodd ei adroddiad, Meddyliau Iau o Bwys ym mis Tachwedd 2022. Amlygodd hyn yr angen am well ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, mwy o gefnogaeth mewn mannau dysgu a lleoliadau cymunedol, yn ogystal ag ailwampio darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Roedd y gwaith hwn yn dilyn ymlaen o adroddiad cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru: Gadewch i ni siarad am iechyd meddwl (Hydref 2020).

Llywodraeth Cymru

Mae iechyd meddwl hefyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. mae ei Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiadau i gymryd y camau a ganlyn:

  • Blaenoriaethu buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl;
  • blaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau er mwyn gwella ataliaeth, mynd i'r afael â stigma, a hyrwyddo ymagwedd 'dim drws anghywir' o ran cael mynediad at gymorth iechyd meddwl;
  • cyflwyno cymorth 'o fewn cyrraedd' o ran gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc mewn ysgolion ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod yr olynydd i'w strategaeth bresennol, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn cael ei gyhoeddi at ddibenion ymgynghori erbyn diwedd 2023.

Llywodraeth y DU a diwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl

Yn dilyn adolygiad annibynnol yn 2018 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn yn 2021, a Bil Drafft Iechyd Meddwl ym mis Mehefin 2022. Mae nod y diwygiadau arfaethedig fel a ganlyn:

  • Sicrhau mwy o ddewis ac ymreolaeth i gleifion sy’n profi argyfwng iechyd meddwl;
  • mynd i'r afael â’r gwahaniaethau o ran hil mewn gwasanaethau iechyd meddwl;
  • diwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig yn well; a
  • sicrhau gofal priodol i bobl sydd â salwch meddwl difrifol yn y system cyfiawnder troseddol.

Cynhaliwyd gwaith craffu ar y Bil drafft gan gydbwyllgor yn Senedd y DU. Yn ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, nododd Llywodraeth Cymru ei bod yn debygol y bydd angen pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Senedd unwaith y bydd y Bil Iechyd Meddwl wedi’i gyflwyno.

Deunydd darllen pellach gan Ymchwil y Senedd

At hynny, rydym wedi cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth ategol ac erthyglau eraill ar iechyd meddwl, gan gynnwys y canlynol:


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru