Etholiad y Senedd: dadansoddiad cychwynnol o'r canlyniadau

Cyhoeddwyd 11/05/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/05/2026   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlyniadau wedi dod i law!

Rydym bellach yn gwybod pwy yw'r 96 Aelod a fydd yn gwasanaethu yn y Seithfed Senedd, yn dilyn yr etholiad ar 7 Mai 2026.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar sut y pleidleisiodd pobl Cymru.

Canlyniadau cyffredinol

Yn yr etholiad hwn, cynyddodd nifer yr Aelodau o 60 i 96. Mae’r siart a ganlyn yn dangos nifer y seddi a enillwyd gan bob plaid:

 

Lawrlwytho’r data

Mae'r map hwn yn dangos sut y pleidleisiodd pobl ym mhob un o'r 16 o etholaethau ledled Cymru:

 

Lawrlwytho’r data

Cyfran y bleidlais

Gan fod nifer yr Aelodau, y system bleidleisio a'r etholaethau wedi newid ers etholiad 2021, nid yw'n bosibl gwneud cymhariaeth uniongyrchol i ddangos y newidiadau yn nifer y seddi a chyfran y bleidlais a enillwyd.

Mae'r tabl a ganlyn yn dangos cyfanswm y pleidleisiau a chyfran y bleidlais a enillwyd gan y pleidiau yn yr etholiad hwn. Mae cyfran y bleidlais a nifer y seddi a enillwyd yn 2021 wedi'u cynnwys er gwybodaeth:

 

Lawrlwytho’r data

Y ganran a bleidleisiodd

Y ganran a bleidleisiodd yn yr etholiad hwn oedd 51.6%. Mae hyn yn cymharu â 46.6% yn etholiad 2021. Dyma oedd y lefelau pleidleisio uchaf yn unrhyw etholiad Senedd.

Mae'r graff a ganlyn yn cymharu canrannau’r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau'r Senedd ers 1999:

Mae'r graff hwn yn dangos canrannau’r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau'r Senedd, ochr yn ochr â chanrannau’r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU yng Nghymru ac etholiadau llywodraeth leol Cymru:

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Yn yr wythnosau i ddod, byddwn yn cyhoeddi erthygl ynghylch camau allweddol nesaf y Seithfed Senedd, a dadansoddiad mwy manwl o ganlyniadau'r etholiad. Bydd yr eitemau hyn ar gael ar dudalen adnoddau Etholiad 26.


Erthygl gan Josh Hayman, Adam Cooke a Josh Jenkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru