Athro yn helpu disgybl gyda'i waith

Athro yn helpu disgybl gyda'i waith

Y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd: y dasg anodd o'i rhoi ar waith

Cyhoeddwyd 18/02/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/04/2022   |   Amser darllen munudau

"Dim ond 10% o'r dasg y mae polisi yn ei gynrychioli. Mae'r 90% sy'n weddill yn ymwneud â sut i wneud iddo ddigwydd." Dyna ddywed Syr Michael Barber, pennaeth Uned Gyflawni Llywodraeth y DU ddechrau'r 21ain ganrif, ac a ddatblygodd y cysyniad o 'Deliverology’, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y maes addysg.

Bydd y disgrifiad hwn o'r dasg o weithredu mewn perthynas â dylunio polisi yn atseinio â gweithlu addysg sy'n wynebu’r her o ddarparu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd, a ddaeth i rym ym mis Medi 2021 ac a ddechreuodd o ddifrif y mis diwethaf (Ionawr 2022). Bydd symud bron i 100,000 o ddisgyblion (tua 20% o bob disgybl), sy'n dal i deimlo effeithiau pandemig, i'r trefniadau statudol newydd, yn dipyn o gamp.

Disodli'r fframwaith AAA presennol gyda system ADY newydd

Rydym wedi ysgrifennu o'r blaen (ym mis Mai a mis Mawrth 2021) am y diwygiadau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Wrth i'r Senedd graffu ar y ddeddfwriaeth, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r system ADY newydd yn "ailwampio'n llwyr" system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) "nad yw bellach yn addas at y diben".

Yn ei hanfod, mae'r Ddeddf yn cadw'r un diffiniad ar gyfer ADY ag ar hyn o bryd ar gyfer AAA, ond gydag un newid allweddol, sef y bydd pob dysgwr ag ADY yn cael 'Cynllun Datblygu Unigol (CDU)' statudol. Ar hyn o bryd, dim ond y rhai sydd â'r anghenion mwyaf difrifol/cymhleth (tua 15%) sydd â chynllun statudol a elwir yn 'ddatganiad'.

Sut a phryd y caiff y system ADY newydd ei chyflwyno?

Mae'r system ADY 0-25 oed newydd yn cael ei chyflwyno rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2024.

Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Gorffennaf 2021, er y byddai'r system newydd yn dod i rym ym mis Medi 2021 ar gyfer dysgwyr sydd newydd gael eu cofnodi ag ADY, na fyddai dysgwyr sydd yn y system AAA ar hyn o bryd yn dechrau trosglwyddo tan fis Ionawr 2022.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tri chanllaw gweithredu ar gyfer 2021/22: sef canllaw technegol a fersiynau wedi'u hanelu at ymarferwyr a rhieni.

Nid yw dysgwyr sydd â datganiadau yn trosglwyddo i'r system newydd eto ond byddant yn dechrau gwneud hynny o fis Medi 2022 ymlaen. Mae'r rhai sydd ag AAA/ADY mwy ysgafn a chymedrol, a gaiff eu cefnogi ar hyn o bryd o dan gynlluniau Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, wedi'u rhannu'n bedwar grŵp at ddibenion amserlennu’r broses weithredu.

  • Grŵp 1: Mae dysgwyr sydd newydd gael eu nodi ag ADY (o'u geni hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 10) wedi dod o dan y system newydd ers mis Medi 2021.
  • Grŵp 2: Mae dysgwyr sy'n cael eu cadw o dan y system cyfiawnder troseddol (hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 11) wedi dod o dan y system newydd ers mis Medi 2021.
  • Grŵp 3: Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr – y rhai sy'n mynychu ysgol a gynhelir neu Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) – yn trosglwyddo naill ai rhwng mis Ionawr 2022 a mis Awst 2023, neu yn 2023/24, yn dibynnu ar ba grŵp blwyddyn y maent ynddo.

Amserlen ar gyfer trosglwyddo dysgwyr yng Ngrŵp 3 sy’n cael eu cefnogi ar hyn o bryd o dan gynlluniau Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy i'r system ADY (grwpiau blwyddyn gorfodol)

Bydd y Flwyddyn Feithrin 1 a’r Flwyddyn Feithrin 2 bresennol a Blynyddoedd 1, 3, 5, 7 a 10 presennol yn trosglwyddo rhwng mis Ionawr 2022 a mis Awst 2023. Bydd y Flwyddyn 9 bresennol yn trosglwyddo yn 2022/23 pan fyddant ym Mlwyddyn 10. Bydd y Flwyddyn Dderbyn bresennol a Blynyddoedd 2, 4, 6 ac 8 presennol yn trosglwyddo yn 2023/24, pan fyddant ym Mlynyddoedd 2, 4, 6, 8 a 10 yn y drefn honno. Ni fydd y Flwyddyn 11 bresennol yn trosglwyddo. Yn 2022/23 a 2023/24, bydd disgyblion Blwyddyn Feithrin 1 a Blwyddyn Feithrin 2 newydd yn dechrau ar y system newydd.

  • Grŵp 4: Dysgwyr sy'n mynychu ysgol a gynhelir neu UCD ac sy'n derbyn gofal neu wedi'u cofrestru gyda mwy nag un lleoliad. Yn gyffredinol, awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am symud y dysgwyr hyn i'r system newydd. Gall plentyn yng ngrŵp 4, neu eu rhieni, ofyn i awdurdod lleol eu symud i'r system newydd ar unrhyw adeg yn ystod tair blynedd y cyfnod gweithredu.

Ar 23 Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hamserlen ar gyfer trosglwyddo dysgwyr sydd â datganiadau AAA i’r system ADY newydd.

Amserlen ar gyfer trosglwyddo dysgwyr sydd â datganiadau AAA i'r system ADY (grwpiau blwyddyn gorfodol)

Bydd y Flwyddyn Feithrin 1 a’r Flwyddyn Feithrin 2 bresennol a Blynyddoedd 5, 9 a 10 presennol yn trosglwyddo yn 2022/23 pan fyddant ym Mlwyddyn Feithrin 2, y Flwyddyn Dderbyn a Blynyddoedd 6, 10 ac 11 yn y drefn honno. Bydd y Flwyddyn Dderbyn bresennol a Blynyddoedd 1,2, 3, 4, 6, 7 ac 8 presennol yn trosglwyddo  yn 2023.24 pan fyddant ym Mlynyddoedd 2, 3, 4, 5, 6, 8, 9 a 10 yn y drefn honno. Yn 2022/23 a 2023/24, bydd disgyblion Blwyddyn Feithrin 1 a Blwyddyn Feithrin 2 newydd yn dechrau ar y system newydd.

Ar 28 Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd gweithredu’r Ddeddf ar gyfer pobl ifanc ôl-16 yn galw am system ‘sianelu’, er mwyn sicrhau bod disgyblion sydd ym Mlwyddyn 10 ar hyn o bryd wedi cael eu trosglwyddo i’r system ADY newydd erbyn iddynt ddechrau mewn chweched dosbarth neu goleg yn 2023/24. Mae’n debygol felly na fydd disgyblion sydd ym Mlwyddyn 11 ar hyn o bryd sydd ag AAA byth yn symud i’r system newydd. Fodd bynnag, bydd unrhyw berson ifanc sydd ag AAA ac sy’n parhau mewn addysg ôl-16 y tu hwnt i 2024/25 yn symud i’r system ADY bryd hynny, oherwydd y bydd y fframwaith AAA wedi’i ddileu’n llwyr erbyn hynny.

Gall rhieni plant 0-5 oed nad ydynt yn mynychu meithrinfa neu ysgol ofyn i'r awdurdod lleol nawr asesu a oes gan y plentyn ADY a darparu CDU os oes angen.

Beth ddylai dysgwyr a theuluoedd ei ddisgwyl?

Os yw dysgwr newydd gael ei gofnodi fel un sydd ag ADY, mae bellach yn dod o dan y system newydd, a gyda’r hawl i gael CDU.

Ar gyfer dysgwyr sydd eisoes ag AAA, gan dybio bod ganddynt ADY o dan y system newydd, rhaid i ysgolion, UCD ac awdurdodau lleol eu trosglwyddo yn unol â’r grwpiau blwyddyn gorfodol (gweler y ffeithluniau uchod). Rhaid iddynt roi CDU iddynt. Ar gyfer grwpiau blwyddyn nad ydynt yn trosglwyddo eto, mae'r dyletswyddau statudol i asesu a chefnogi dysgwyr o dan y system AAA bresennol yn parhau.

Mynegwyd pryderon yn ystod gwaith craffu ar y Cod ADY Drafft ynghylch y posibilrwydd o 'godi'r bar' wrth nodi ADY, er bod y diffiniad yn aros yr un fath ag ar hyn o bryd ar gyfer AAA. Digwyddodd hyn o ganlyniad i'r gwaith ychwanegol canfyddedig o ddarparu CDU statudol ar gyfer pob dysgwr ag ADY, o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol o lunio datganiadau i tua 15% o'r 100,000 o ddysgwyr yr amcangyfrifir sydd ag AAA.

Ym mis Mawrth 2021, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg ar y pryd, wrth y Senedd nad oedd yn credu y bydd y diwygiadau'n codi'r bar o ran darparu CDU gan nad yw'r prawf i benderfynu pwy sydd ag ADY wedi newid. Mae’r canllaw i rieni o ran gweithredu yn nodi “Mae bod ag ADY yr un fath â bod ag AAA” ac mae'n "debygol" y bydd gan ddysgwyr ag AAA sy'n derbyn Darpariaeth Addysgol Arbennig (DAA) ar hyn o bryd ADY ac felly hawl i gael CDU.

Os yw ysgol neu UCD o'r farn nad oes gan ddysgwr sydd ag AAA ar hyn o bryd ADY ac felly na fydd yn derbyn CDU, mae’n rhaid iddi roi hysbysiad "dim CDU" i'r plentyn neu’r rhieni. Gall dysgwyr neu eu rhieni ofyn i'r awdurdod lleol ailystyried penderfyniad ysgol neu UCD ac, os ydynt yn anhapus â'r ymateb, gallant apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru. Mae penderfyniadau'r Tribiwnlys yn gyfreithiol rwymol a gellir eu gorfodi drwy'r llysoedd, Llywodraeth Cymru neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Os nad yw ysgol neu UCD yn rhoi hysbysiad dim CDU i ddysgwr sydd ag AAA mewn grŵp blwyddyn gorfodol ar hyn o bryd, bydd y dysgwr yn symud yn awtomatig i'r system ADY ar ddiwedd y flwyddyn ysgol ac yn gymwys i gael CDU.

Pa adnoddau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dyrannu?

Yn y Senedd flaenorol, dyrannodd Llywodraeth Cymru £20 miliwn ar gyfer ei Rhaglen Trawsnewid ADY. Wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth, daeth Llywodraeth Cymru i'r casgliad y byddai’r system ADY newydd, yn dilyn y gwaith trawsnewid hwn, yn gost-niwtral. Roedd hyn yn seiliedig ar dybiaeth y byddai unrhyw gynnydd yng nghostau'r ddarpariaeth yn cael ei wrthbwyso gan arbedion yn deillio o lai o anghytuno rhwng teuluoedd, ac ysgolion neu awdurdodau lleol.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £23 miliwn ychwanegol yn 2021-22 (gweler y datganiadau Gweinidogol a wnaed ar 6 Ionawr a 23 Mawrth) a £7 miliwn ychwanegol yn 2022-23 (gweler paragraff 2.8 o’r papur Gweinidogol a baratowyd ar gyfer gwaith craffu’r Pwyllgor ar y gyllideb). Diben y cyllid ychwanegol hwn yw lleddfu’r pwysau presennol a gweithredu'r diwygiadau.

Beth nesaf?

Os yw Syr Michael Barber yn gywir, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith o wella addysg tua un rhan o bump o ddysgwyr yn dal i fod o'n blaenau. Ar ôl blynyddoedd lawer yn canolbwyntio ar gynllunio'r system gywir, bydd diwygio ADY nawr yn effeithio ar ddysgwyr a'u teuluoedd yn ymarferol ac mae'n debygol o barhau'n uchel ar yr agenda addysg drwy gydol y Senedd hon.

Diweddarwyd yr erthygl hon ar 8 Ebrill i adlewyrchu’r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad ar 23 Mawrth.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru