Dylunio polisïau amaethyddol: ystyriaethau cyd-destunol (Briff Ymchwil Gwadd)

Cyhoeddwyd 30/08/2022   |   Amser darllen munudau

Yn y briff ymchwil gwadd hwn, mae Dr Mary Dobbs a Dr Ludivine Petetin yn amlinellu sail ar gyfer deall, gwerthuso a datblygu polisïau amaethyddol i Gymru – yn enwedig cymorth ariannol – mewn cyd-destun sy’n esblygu. Cafodd ei gynhyrchu fel rhan o raglen cyfnewid gwybodaeth y Senedd.

Mae’r awduron yn ystyried agweddau unigryw ar amaethyddiaeth Cymru a’i rolau amlochrog yn y gymdeithas – yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. Maent hefyd yn tynnu sylw at rai o'r paramedrau cyfreithiol a gwleidyddol sy’n berthnasol i bolisi amaethyddol. Mae’r ystyriaethau domestig yn cynnwys dibyniaeth ar Drysorlys y DU am gyllid amaethyddol, effeithiau Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 a fframweithiau cyffredin sy'n esblygu. Yn rhyngwladol, mae llu o gyfreithiau rhwymol, gan gynnwys cyfreithiau Sefydliad Masnach y Byd (WTO), cyfreithiau amgylcheddol a chytundebau masnach unigol. Mae darpariaethau Deddf Amaethyddiaeth 2020 y DU ar gymorth amaethyddol, ynghyd â Chytundeb Amaethyddiaeth Sefydliad Masnach y Byd, hefyd yn allweddol. Mae'r papur briffio hwn yn ystyried y berthynas sy’n datblygu gyda’r UE, gan ganolbwyntio ar y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE. Mae’n ymdrin â materion sy’n ymwneud â llinellau sylfaen rheoleiddio, bregusrwydd ac aflonyddwch yn y maes polisi hwn, a'r angen am wytnwch, cyn gorffen gyda rhai ystyriaethau y bydd angen eu monitro’n ofalus yn y dyfodol.


Briff ymchwil gwadd gan Dr Mary Dobbs (Prifysgol Maynooth) a Dr Ludivine Petetin (Prifysgol Caerdydd)