Mae'r setliad datganoli presennol “mewn perygl o gael ei erydu’n raddol” heb gamau gweithredu ar frys i'w sicrhau, yn ôl y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Mae'r Comisiwn wedi cynnig argymhellion i gryfhau democratiaeth Cymru a diogelu datganoli, yn ogystal â gwerthuso opsiynau ar gyfer llywodraethu Cymru yn y dyfodol.
Mae’r erthygl hon yn crynhoi prif ganfyddiadau’r adroddiad.
Cafodd y Comisiwn ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru. Roedd ganddo ddau amcan cyffredinol:
- Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni.
- Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.
Yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams oedd cyd-gadeiryddion y Comisiwn, ac roedd yn cynnwys grŵp o gomisiynwyr.
Sut y gwnaeth y Comisiwn ymgysylltu â’r cyhoedd?
Nod y Comisiwn oedd “cynnal ‘sgwrs genedlaethol’ gyda dinasyddion Cymru” gan gynnwys drwy sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid allweddol ac ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae'r adroddiad yn nodi mai un o'r negeseuon cryfaf a gododd o'i waith ymgysylltu oedd bod “llawer o ddinasyddion yn teimlo nad oes ganddynt ddylanwad ar waith y llywodraeth”, ac “nid yw dinasyddion yn ymddiried yn llwyr mewn datganoli eto”. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’n argymell:
- Bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dulliau arloesol ar gyfer cynnwys cymunedau yn y broses ddemocrataidd, gan gynnwys drwy ddatblygu strategaethau newydd ar gyfer addysg ddinesig.
- Bod Llywodraeth Cymru yn arwain prosiect i “ymgysylltu dinasyddion â’r gwaith o ddrafftio datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethiant i Gymru.”
- Dylai’r adolygiadau o ddiwygio'r Senedd fod yn gadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a chynnwys ystyriaeth o'r effeithiau ar atebolrwydd democrataidd.
Y setliad presennol
Mae’r Comisiwn yn dadlau bod Senedd y DU a Llywodraeth y DU, ers y refferendwm ar aelodaeth o'r UE yn 2016, wedi “diystyru’r confensiynau sydd i fod i ddiogelu datganoli droeon”. Mae camau o'r fath, mae'n awgrymu, yn cyfrannu at risg i’r setliad datganoli “gael ei erydu’n raddol”. Mae’n dweud, er y dylai "dim newid" fod yn opsiwn i ddinasyddion, heb weithredu ar frys, ni fydd "setliad hyfyw i'w ddiogelu".
Mae’r adroddiad yn nodi ymhellach, oherwydd ei fod yn agored i gael ei erydu’n barhaus, nad yw'r setliad presennol yn gallu “cyflawni’r un lefel o reolaeth gyson yng Nghymru dros faterion datganoledig” sydd, meddai, yn hanfodol i Lywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiadau maniffesto.
Er mwyn diogelu'r setliad datganoli, mae'r Comisiwn yn argymell:
- Dylai Llywodraeth Cymru gynnig bod Senedd y DU yn deddfu ar gyfer mecanweithiau rhynglywodraethol er mwyn sicrhau “dyletswydd o gydweithredu a pharch cydradd rhwng llywodraethau’r DU.”
- Dylid gwneud Confensiwn Sewel yn gyfreithiol rwymol ac eithrio mewn amgylchiadau penodol a bennwyd ymlaen llaw gan y llywodraethau.
- Dylai Llywodraeth y DU ddileu’r cyfyngiadau ar reoli cyllideb Llywodraeth Cymru, ac eithrio lle ceir goblygiadau macroeconomaidd, er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i reoli ei chyllideb yn well a chynllunio ar gyfer y tymor hir.
Datganoli rhagor o bwerau
Yn yr adroddiad, maent yn dadlau nad yw pobl Cymru yn cael eu gwasanaethu'n dda ar hyn o bryd mewn perthynas â chyfiawnder, plismona a gwasanaethau rheilffyrdd, ac y dylid datganoli'r pwerau hyn.
Mae hefyd yn awgrymu bod darlledu, ynni, hawliau cyflogaeth a budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn “faterion sy’n bwysig iawn” i Gymru, a bod angen ystyriaeth i sicrhau bod sefydliadau datganoledig yn gallu darparu "llais effeithiol" yn y meysydd hyn.
Felly, mae’n argymell:
- Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ym maes darlledu, gan edrych ar lwybrau posibl at ddatganoli yn y dyfodol.
- Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ystyried diwygiadau cyfansoddiadol i baratoi ar gyfer arloesi ym maes cynhyrchu a dosbarthu ynni.
- Dylai rheolaeth dros Ystâd y Goron gael ei ddatganoli i Gymru hefyd.
- Dylid datganoli'r cyfrifoldeb dros gyfiawnder a phlismona, gan ddechrau gyda phlismona, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid.
- Dylid datganoli’r cyfrifoldeb am rheilffyrdd a seilwaith.
Opsiynau ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru
Yn adroddiad interim y Comisiwn, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022, dadleuwyd mai tri opsiwn cyfansoddiadol hyfyw sydd ar gael i Gymru: atgyfnerthu datganoli, strwythurau ffederal ac annibyniaeth.
Nid yw'r adroddiad terfynol yn nodi opsiwn a ffefrir, yn hytrach mae'n ailadrodd bod pob un yn hyfyw, ond yn cynnig gwahanol risgiau a chyfleoedd:
- Atgyfnerthu datganoli: mae'r adroddiad yn dweud bod hyn yn cynnig manteision mewn meysydd fel capasiti a chost, sefydlogrwydd economaidd, a chyllid cyhoeddus, ac y byddai'n osgoi risgiau (a chyfleoedd) newid mwy radical. Fodd bynnag, mae'r opsiwn hwn yn dod â'r risg “y byddai perfformiad economaidd gwael, incymau isel a thlodi yn parhau”.
- Ffederal: mae'r adroddiad yn canfod bod hyn yn cynnig man canol rhwng annibyniaeth a pharhau yn y DU, a gallai fod yn gryf ar feysydd fel atebolrwydd, ffiniau a masnach. Fodd bynnag, mae hyn yn gofyn am newid cyfansoddiadol ledled y DU, gyda chyfansoddiad ysgrifenedig.
- Annibyniaeth: yn ôl yr adroddiad, dyma'r “opsiwn mwyaf ansicr o bell ffordd”, ond y gallai gynnig “potensial am newid cadarnhaol hirdymor”. Mae manteision posibl o ran galluogedd, atebolrwydd a sybsidiaredd, ond gallai hyn adael Cymru “ar ei cholled yn sylweddol yn y tymor byr i ganolig” yn economaidd.
Cyd-destun ehangach newid cyfansoddiadol
Gwaith y Comisiwn yw'r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau sy'n ystyried diwygiadau i gyfansoddiad y DU.
Ym mis Rhagfyr 2022, cyflwynwyd argymhellion gan gomisiwn Plaid Lafur y DU dan arweiniad y cyn-Brif Weinidog, Gordon Brown, fel sefydlu siambr ddemocrataidd i gynrychioli cenhedloedd a rhanbarthau'r DU yn lle Tŷ'r Arglwyddi. Roedd yn beirniadu y ffordd anniwygiedig o lywodraethu yn y DU sydd wedi’i ganoli’n ormodol.
Ym mis Medi 2023, gwnaeth y Sefydliad Llywodraeth a Sefydliad Bennett ar gyfer Polisi Cyhoeddus rybuddio bod angen diwygio cyfansoddiad y DU ar frys. Mae'r argymhellion yn cynnwys sefydlu Pwyllgor Seneddol y DU newydd ar y Cyfansoddiad a chreu categori newydd o ddeddfau cyfansoddiadol i gydnabod pwysigrwydd darnau allweddol o ddeddfwriaeth.
Mae'r Senedd hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer diwygio ar hyn o bryd. Yn ei adroddiad ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, mae'r Comisiwn yn ystyried y cynigion hyn i ddiwygio y Senedd yn y cyd-destun cyfansoddiadol ehangach. Mae'n croesawu mesurau “i gynyddu cymesuredd a chapasiti”, ac yn cefnogi cynlluniau i adolygu'r system newydd ar ôl etholiad 2026. Fodd bynnag, mae'n awgrymu bod "achos da" dros fabwysiadu dewis arall yn lle'r system bleidleisio Rhestr Gaeedig a gynigiwyd yn y Bil. Cyhoeddodd Pwyllgorau’r Senedd eu hadroddiadau ar y cynigion i ddiwygio ar 19 Ionawr 2023.
Parhau â'r sgwrs genedlaethol
Mae'r Comisiwn yn gobeithio y bydd dinasyddion yn parhau i gymryd rhan mewn trafodaeth adeiladol am ddyfodol cyfansoddiadol y genedl. Mae’n nodi nad yw pob cymuned yng Nghymru wedi cael ei chlywed, ac mae'n awgrymu bod "angen i sgwrs genedlaethol fod yn un barhaus a thymor hir" i adeiladu ar y dechrau y mae wedi'i wneud.
Bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno datganiad llafar ar yr adroddiad i'r Senedd ar 30 Ionawr 2024.
Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru