Pa bwerau sydd gan y Senedd?

Cyhoeddwyd 02/02/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/06/2026

Mae gan y Senedd bwerau i wneud deddfau mewn amrywiaeth o feysydd. Mae hyn oherwydd bod cyfrifoldeb dros rai meysydd polisi wedi'i ddatganoli o Senedd y DU i'r Senedd. Cyfeirir yn aml at bŵer y Senedd i basio deddfau fel ei ‘chymhwysedd deddfwriaethol’.

Mae'r Senedd yn gweithredu o dan ‘fodel pwerau a gedwir yn ôl’. Mae hyn yn golygu bod ganddi bwerau i basio deddfau ym mhob maes ac eithrio y rheini a gedwir yn ôl i Senedd y DU. Er mwyn pennu beth sydd wedi'i ddatganoli i'r Senedd, felly, rhaid inni ystyried y canlynol:

Meysydd lle gall y Senedd ddeddfu

Gall y Senedd wneud deddfau mewn unrhyw faes lle y mae pŵer wedi'i ddatganoli iddi, gan gynnwys llawer o agweddau ar y canlynol:

Beth a gedwir yn ôl?

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhestru'r pwerau a gedwir yn ôl i Senedd y DU yn Atodlen 7A. Mae'r rhain yn cynnwys materion 'cyffredinol' a 'phenodol' a gedwir yn ôl, megis y canlynol:

Mae materion penodol a gedwir yn ôl yn nodi meysydd penodol a gedwir yn ôl i Senedd y DU. Er enghraifft, er bod diwylliant wedi'i ddatganoli i raddau helaeth, o dan y pennawd ‘media, culture and sport’, mae darlledu a chyfryngau eraill wedi’i restru fel mater a gedwir yn ôl.

Gall materion penodol a gedwir yn ôl fod yn eang; o dan y pennawd ‘home affairs’, rhestrir atal, canfod ac ymchwilio i droseddau, plismona, a chynnal trefn gyhoeddus, fel rhai a gedwir yn ôl.

Mae Atodlen 7A hefyd yn nodi ambell eithriad i faterion penodol a gedwir yn ôl, sy'n golygu nad yw'r meysydd hyn wedi'u cadw yn ôl, a’u bod, felly, wedi'u datganoli i'r Senedd. Er enghraifft, er bod awyrenneg wedi'i gadw yn ôl, mae cymorth ariannol i ddarparwyr gwasanaethau trafnidiaeth awyr wedi'i eithrio, felly mae gan y Senedd y pŵer i basio deddfau yn y maes hwn.

Cyfyngiadau eraill

Mae cyfyngiadau eraill ar allu'r Senedd i basio deddfau. Ni all deddfwriaeth y Senedd wneud y canlynol:

Mae Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi rhai cyfyngiadau ar ddeddfwriaeth y Senedd. Er enghraifft, ni all deddfwriaeth y Senedd addasu troseddau cyfreithiol penodol.

Er y gall cyfreithiau a basiwyd gan y Senedd ‘ymestyn’ i awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr, dim ond mewn perthynas â Chymru y gallant fod yn berthnasol, nid Lloegr nac unrhyw le arall.

Mae yna hefyd restr o Ddeddfau'r DU sy'n cael eu diogelu rhag cael eu haddasu gan y Senedd, megis Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020. Gelwir y rhain yn ‘ddeddfiadau gwarchodedig’.

Deall beth sydd wedi'i ddatganoli

Mae'r model pwerau a gedwir yn ôl yn un cymhleth; nid yw'n anghyffredin i lywodraethau Cymru a'r DU anghytuno ynghylch a yw meysydd penodol wedi'u datganoli neu’n rhai a gedwir yn ôl.

Ar ôl i'r Senedd basio Bil, gall y swyddogion cyfreithiol (y Cwnsler Cyffredinol yn Llywodraeth Cymru a'r Twrnai Cyffredinol yn Llywodraeth y DU) ei gyfeirio at y Goruchaf Lys i benderfynu a yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Rhaid iddyn nhw gyfeirio Bil cyn iddo gael ei gyflwyno ar gyfer Cydsyniad Brenhinol, sef cam olaf y broses ddeddfwriaethol. Y Goruchaf Lys sydd â'r gair olaf ynghylch a oes gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i basio'r darpariaethau dan sylw.

Pwerau Llywodraeth a Senedd y DU

Gall Llywodraeth y DU atal Biliau’r Senedd rhag dod yn gyfraith os yw o’r farn ganlynol:

Gellir herio’r defnydd o’r pwerau hyn i atal biliau rhag dod yn gyfraith yn y llysoedd.

Er i bwerau gael eu datganoli i Gymru, mae Senedd y DU yn dal i fod â’r gallu i ddeddfu yn y meysydd datganoledig hyn. Fodd bynnag, yn ôl Confensiwn Sewel, ni fydd fel arfer yn gwneud hynny heb gydsyniad y Senedd.

Noder: Mae’r erthygl hon yn crynhoi’r prif agweddau ar brofion cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac nid yw'n nodi holl fanylion y profion yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Nid yw ychwaith yn cwmpasu pwerau gweithredol Gweinidogion Cymru, sy'n wahanol i bwerau'r Senedd mewn rhai meysydd.