Datganoli ac iechyd yng Nghymru - rhan 2: iechyd meddwl, rhoi organau a staff nyrsio

Cyhoeddwyd 06/07/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/07/2023   |   Amser darllen munudau

Dyma’r ail o’n herthyglau sy’n trafod effaith datganoli ar iechyd a gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

Edrychodd ein herthygl gyntaf, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, ar ddeddfwriaeth sy’n canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd.

Yn yr ail ran hon edrychwn ar: y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), y newid i system optio allan ar gyfer rhoi organau, a sut mae Cymru wedi ceisio ymgorffori lefelau diogel o staff nyrsio yn y gyfraith.

Gwella mynediad at ofal iechyd meddwl

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar Gymru. Nod y Mesur oedd gwella’r ddarpariaeth o asesiadau, triniaeth a chymorth iechyd meddwl ledled y wlad.

Mae gan y Mesur Iechyd Meddwl bedwar prif amcan

Ffeithlun sy’n manylu ar bedwar amcan y Mesur Iechyd Meddwl, sef: gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth ar gyfer iechyd meddwl mewn gofal sylfaenol, cyflwyno cynlluniau gofal arbenigol, cydgysylltiedig ar gyfer unigolion mewn gofal eilaidd, i alluogi pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn y gorffennol i atgyfeirio eu hunain at y rhain ac i ddarparu eiriolwyr annibynnol ar gyfer pobl sy'n cael gofal iechyd meddwl.

Ffynhonnell: Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: taflen. Llywodraeth Cymru, 2017.

Canfu Adroddiad y Ddyletswydd i Adolygu Llywodraeth Cymru yn 2015, fod y Mesur wedi gwella gwasanaethau a hefyd wedi gwneud sawl argymhelliad i barhau â gwelliannau. Roedd y rhain yn cynnwys ehangu nifer y staff sy’n gallu gwneud asesiadau iechyd meddwl a darparu gofal, a gwell adroddiadau ar gyflawni’r Mesur gan fyrddau iechyd.

Caiff ystadegau sy’n mesur cynnydd y Mesur eu rhyddhau’n chwarterol. Mae'r ffigurau diweddaraf, sy'n cwmpasu mis Ionawr i fis Mawrth 2023, yn dangos bod cynnydd yn erbyn yr amcanion yn amrywio. Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd 69 y cant o bobl driniaeth o fewn 28 diwrnod i'w hasesiad, gan fethu â chyrraedd y targed o 80 y cant. Fodd bynnag, roedd gan 84 y cant o gleifion mewn gofal eilaidd Gynllun Gofal a Thriniaeth sefydledig, gan ragori ar y targed o 80 y cant.

Mewn gwerthusiad o effaith y Mesur deng mlynedd ar ôl ei sefydlu, mae’r elusen iechyd meddwl Mind Cymru wedi dod i'r casgliad bod rhai amcanion wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae’r ddeddfwriaeth wedi gwella mynediad at asesiad a thriniaeth drwy ofal sylfaenol, gyda thua 40,000 o bobl yn cael eu hasesu bob blwyddyn yng Nghymru.

Ehangodd y Mesur hefyd nifer y bobl a oedd yn derbyn triniaeth fel cleifion mewnol a oedd yn gymwys i gael arbenigwr i eirioli drostynt hwy a’u gofal. Dywedodd 80 y cant o’r bobl sy’n derbyn y gwasanaeth eiriolaeth hwn ei fod yn dda neu’n rhagorol.

Eto i gyd, nododd yr adroddiad fod y system yn gweithio’n well i rai pobl nag eraill, gydag amseroedd aros ar gyfer asesu a thrin plant a phobl ifanc yn methu â chyrraedd y targedau. Dim ond 58 y cant o blant a phobl ifanc a gafodd eu hasesu o fewn 28 diwrnod i’w hatgyfeirio, ymhell islaw targed Llywodraeth Cymru o 80 y cant, o gymharu ag 83 y cant o oedolion.

Mynd i'r afael â phroblem cyflenwad a galw am organau

Mae trawsblaniadau organau yn achub bywydau cleifion sydd â methiant organau a chlefydau cronig. Fodd bynnag, mae'r galw am organau ar gyfer trawsblaniadau wedi bod yn fwy na'r cyflenwad ers amser maith.

Mewn cam a fwriadwyd i fynd i’r afael â’r broblem hon, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i symud i system optio allan ar gyfer rhoi organau yn 2015. Mae’r ddeddfwriaeth yn golygu y rhagdybir bod pawb wedi cydsynio i roi eu horganau oni bai eu bod wedi nodi fel arall.

Cyn y newid, yn 2013/14, roedd 211 o bobl yng Nghymru yn aros am drawsblaniad ond dim ond 159 gafodd organ. Y gobaith oedd y byddai’r dull newydd yn ehangu nifer yr organau sydd ar gael ar gyfer trawsblaniadau, gan gynyddu yn ei dro nifer y bobl sy’n elwa o’r driniaeth hon a all achub bywyd.

Dywedodd Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG fod nifer y trawsblaniadau yng Nghymru yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei phasio, o 135 yn 2016/17 i 171 yn 2018/19, sef cynnydd o 27 y cant. Yn ystod y pandemig, bu gostyngiad yn nifer y trawsblaniadau, er bod cynnydd yn y ffigurau yn 2021/22 yn awgrymu bod y sefyllfa'n gwella.

Un o’r pryderon ynghylch y newid i system optio allan oedd y byddai’n gyrru niferoedd mawr o bobl i optio allan o’r gofrestr rhoddwyr, gan gael yr effaith groes i’r hyn a fwriadwyd. Ond nid yw'n ymddangos bod hyn wedi dwyn ffrwyth. Tra bod nifer y bobl sy'n optio allan o'r gofrestr wedi cynyddu ers y newid yn 2015 mae hyn wedi bod yn raddol iawn ac mae'r nifer cyffredinol ar y gofrestr wedi cynyddu.

Mabwysiadwyd y strategaeth optio allan yn ddiweddarach gan Lloegr a’r Alban, ond nid tan 2020 a 2021, yn y drefn honno. Mae Deddf gysylltiedig hefyd wedi cael Cydsyniad Brenhinol yng Ngogledd Iwerddon.

Sicrhau lefelau diogel o staff nyrsio

Pasiodd y Senedd y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) yn 2016, gan ei gwneud y wlad gyntaf yn Ewrop i gydnabod, mewn deddfwriaeth, y cysylltiad rhwng niferoedd a chymysgedd sgiliau staff nyrsio a chanlyniadau cleifion. Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth gan Aelod o’r Senedd yn hytrach na Llywodraeth Cymru, ac roedd yn un o ddim ond dau ddarn o ddeddfwriaeth Aelod sydd wedi pasio’n gyfraith.

Fe’i cyflwynwyd i ymateb i bryderon ynghylch materion gofal nyrsio ledled y DU. Gwnaeth yr Alban yr un peth yn 2019 gyda deddfwriaeth debyg.

Rhoddodd y Ddeddf ddyletswydd ar fyrddau iechyd yng Nghymru i gyfrifo a chynnal lefelau priodol o staff nyrsio ar wardiau acíwt i oedolion mewn ysbytai i ddechrau, gyda’r nod o wneud hyn mewn lleoliadau eraill yn y pen draw. Yn dilyn hynny, mae wedi bod yn digwydd mewn wardiau pediatrig ers mis Hydref 2021.

Fel sy’n ofynnol gan y Ddeddf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hadroddiad cryno cyntaf ar gydymffurfiaeth byrddau iechyd yn 2021. Amlygodd hyn y cyfyngiadau o ran casglu data i hwyluso gwaith monitro cynnydd yn effeithiol.

Rhyddhaodd y Coleg Nyrsio Brenhinol ddau adroddiad, yn 2019 ac yn 2022, i asesu cynnydd gweithredu'r Ddeddf. Roedd y rhain yn canmol y Ddeddf, a chanfu adroddiad 2022 fod y Ddeddf wedi:

arwain at adrodd llai o gwympau a briwiau pwyso a gafwyd yn yr ysbyty ymhlith cleifion o ganlyniad i fethiant i gynnal lefelau staff nyrsio.

Roedd adroddiadau’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn argymell ymestyn y Ddeddf i fwy o leoliadau gofal iechyd, gan gynnwys wardiau iechyd meddwl cleifion mewnol a chartrefi gofal.

Pan oedd y Bil yn cael ei ystyried, tynnodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd sylw at faterion yn ymwneud â chapasiti’r gweithlu fel rhwystr posibl i weithrediad y ddeddf. Mae'r mater hwn yn dal yn berthnasol wyth mlynedd yn ddiweddarach. Yng ngwerthusiad y Coleg Nyrsio Brenhinol o'r Ddeddf, mae’n tynnu sylw at yr angen am ymdrechion penodol i wella prosesau recriwtio a chadw’r gweithlu er mwyn cefnogi gweithrediad y Ddeddf.

Mewn adroddiad ar wahân ar lefelau staff nyrsio yng Nghymru, dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol “[…] nid oes digon o nyrsys cofrestredig na staff nyrsio yn cael eu cyflogi gan GIG Cymru ac mae hyn yn cael effaith ddinistriol ar forâl nyrsio.” Mae rhagor o wybodaeth am y pwnc hwn ar gael yn ein herthygl 'A yw nyrsio yn weithlu mewn argyfwng?'.

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrthi’n cynnal gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio.


Erthygl gan Ailish McCafferty, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru  

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Ailish McCafferty gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a alluogodd i'r erthygl ymchwil hon gael ei chwblhau.