Datganoli ac iechyd yng Nghymru rhan 1: Deddfwriaeth iechyd y cyhoedd

Cyhoeddwyd 03/07/2023   |   Amser darllen munudau

Wrth i'r GIG nodi ei ben-blwydd yn 75 oed, mae'r gyfres hon – cyfres â dwy ran iddi – yn archwilio’r modd y mae datganoli wedi llunio polisi iechyd yng Nghymru, drwy edrych ar chwe darn allweddol o ddeddfwriaeth Cymru a'u heffaith ar iechyd pobl, ac ar y GIG.

Mae'r erthygl gyntaf hon yn ystyried deddfwriaeth sy'n canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd: Y gwaharddiad ar ysmygu dan do, isafbris uned ar gyfer alcohol, a Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Bydd ein hail erthygl – a fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Iau – yn archwilio deddfwriaeth sy'n effeithio ar y modd y mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu cynllunio a'u darparu.

Gwahardd ysmygu dan do

Pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth yn 2007 oedd yn gwahardd ysmygu dan do mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys gweithleoedd, tafarndai a bwytai. Diben hynny oedd cymryd camau yn erbyn y perygl a achosir gan ysmygu, nid yn unig i ysmygwyr eu hunain ond hefyd i bobl sy'n bresennol tra'u bod yn ysmygu (ysmygu goddefol).

Gwnaeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ddiweddaru’r ddeddfwriaeth hon gan ymestyn y gwaharddiad i rai mannau awyr agored, er enghraifft tir ysbytai ac ysgolion. Daeth hyn i rym yn 2021. Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2017 isod.

Mae nifer o ysmygwyr yng Nghymru wedi gostwng 8 pwynt canran yn ystod y degawd diwethaf, o 22% o'r boblogaeth yn 2011/12 i 14% yn 2021/22. Amlygodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles y cynnydd hwn:

Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo, a thrwy ein cydymdrechion yng Nghymru mae cyfraddau smygu ar eu hisaf ers iddynt ddechrau cael eu cofnodi – cyflawniad gwych ynddo’i hun. 

Mae'r cynnydd hwn wedi cael effaith ganlyniadol ar leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig ag ysmygu ers cyflwyno'r gwaharddiad, gyda gostyngiad o 8% yn nifer y bobl sy'n marw o gyflyrau sy'n gysylltiedig ag ysmygu rhwng 2008/10 a 2016/18. Er gwaethaf hyn, mae ysmygu yn parhau i fod yn un o brif achosion marwolaeth gynamserol yng Nghymru.

At hynny, mae gwahaniaeth mawr  mewn cyfraddau ysmygu ar hyd llinellau economaidd-gymdeithasol yng Nghymru, gyda 22% o bobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ysmygwyr o gymharu â dim ond 5% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2021/22.

Mae sawl menter arall wedi bod i leihau smygu yng Nghymru ers cyflwyno'r gwaharddiad. Gwnaeth GIG Cymru lansio Helpa fi i Stopio – sef gwasanaeth pwrpasol sy'n cynnig arweiniad a chefnogaeth i bobl sydd am roi'r gorau i ysmygu – yn 2017. Mae tystiolaeth yn awgrymu, gyda chefnogaeth gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, bod pobl bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi.

Y llynedd, cyflwynodd Llywodraeth Cymru strategaeth newydd i fynd i'r afael ag ysmygu a gosod targed i wneud Cymru'n ddi-fwg erbyn 2030.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dileu'r niwed a achosir gan ysmygu yng Nghymru erbyn 2030

Ffeithlun yn dangos nod polisi Cymru ddi-fwg Llywodraeth Cymru, i leihau nifer yr achosion o ysmygu i 5% erbyn 2030, wrth ymyl arwydd dim ysmygu.

Ffynhonnell: Cymru ddi-fwg: Strategaeth hirdymor Cymru ar gyfer rheoli tybaco. Llywodraeth Cymru.

Lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol

Pasiodd y Senedd deddfwriaeth yn 2018 i gyflwyno isafbris uned am alcohol. Daeth hyn i rym ym mis Mawrth 2020, yn dilyn cyflwyno deddfwriaeth debyg yn yr Alban. Yng Nghymru a'r Alban fel ei gilydd, pennwyd mai 50c fyddai’r isafbris uned am alcohol.

Roedd y symudiad hwn yn gwneud alcohol rhad â chryfder uchel yn ddrutach. Ei nod oedd lleihau yfed a niwed cysylltiedig, yn enwedig ymhlith pobl sy'n yfed ar lefelau peryglus a niweidiol.

Cyn cyflwyno isafbris uned am alcohol yng Nghymru, yn 2017/18 roedd tua 14,600 o dderbyniadau i'r ysbyty o ganlyniad uniongyrchol i gamddefnyddio alcohol. Rhagwelwyd y byddai isafbris uned am alcohol yn lleihau derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau y gellir eu priodoli gan alcohol, yn enwedig ymhlith yfwyr peryglus a niweidiol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi canmol polisïau isafbris uned gan roi’r sylw a ganlyn amdanynt:

among the most effective measures that policy-makers can use to address these harms

Fel rhan o ymdrechion i farnu effeithiolrwydd isafbris uned am alcohol, gwnaeth Llywodraeth Cymru ryddhau astudiaeth ym mis Mehefin 2023 yn cymharu agweddau pobl at alcohol cyn ac ar ôl y newid. Canfu hyn fod cyfran y cyfranogwyr sy'n yfed o leiaf 2-3 gwaith yr wythnos wedi cynyddu o 28% yn 2014 i 38% yn 2022. At hynny, canfu fod 45% o bobl bellach yn cael eu hystyried yn yfwyr risg cynyddol neu uwch, o'i gymharu â 38% yn 2014.

Fodd bynnag, mae'n anodd dadansoddi effaith y ddeddfwriaeth heb ystyried effaith pandemig COVID-19, gan i’r Ddeddf ddod i rym ychydig wythnosau cyn cyhoeddi'r cyfyngiadau symud cyntaf.

Yn ôl astudiaeth ar wahân, cynyddodd gwerthiant alcohol gan fanwerthwyr bach (ac eithrio archfarchnadoedd) rhwng mis Medi 2019 a mis Chwefror 2022 yng Nghymru a Lloegr, lle nad oes isafbris uned am alcohol.  Mae hyn yn awgrymu bod ffactorau eraill ar waith ac roedd y cynnydd yn fwy tebygol o fod yn ymwneud â lliniaru yn sgil COVID.

Gall gwerthusiadau o isafbris uned am alcohol yn yr Alban – lle cyflwynwyd y polisi cyn y pandemig – hefyd gynnig mewnwelediad i effeithiolrwydd y polisi.

Yn ôl Adroddiad Iechyd Cyhoeddus yr Alban, gostyngodd marwolaethau a derbyniadau i'r ysbyty o ganlyniad uniongyrchol i yfed alcohol 13% a 4% yn y drefn honno, yn y ddwy flynedd a hanner ar ôl i isafbris uned am alcohol gael ei gyflwyno yn 2018. Fodd bynnag adroddodd Iechyd Cyhoeddus yr Alban hefyd nad oedd yfed alcohol yn wedi lleihau'n sylweddol mewn pobl sy'n yfed i lefelau niweidiol.

Bydd isafbris uned yn cael ei adolygu yng Nghymru chwe blynedd ar ôl iddo ddod i rym ac ar yr adeg honno bydd y Senedd yn pleidleisio ynghylch a ddylid ei gadw.

Deddf Iechyd y Cyhoedd

Roedd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn mynd i'r afael â gwahanol feysydd sy'n peri pryder o ran iechyd:

  • Ymestynnodd y gwaharddiad ar ysmygu yn 2007 gan wahardd ysmygu mewn ardaloedd awyr agored penodol, fel y soniwyd yn gynharach.
  • Roedd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth i fynd i'r afael â gordewdra. Yn dilyn hynny, cyhoeddwyd strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach yn 2019. Mae hyn ar waith hyd at 2030, gyda chymorth cyllid o £13 miliwn drwy gydol oes y cynllun.
  • At hynny, mae’r ddeddf wedi tynhau’r rheolau ynghylch trwyddedu ar gyfer gweithdrefnau arbennig, gan gynnwys tatŵio a gwneud tyllau ar y corff. Cyflwynodd gynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr sy'n gwneud gweithdrefnau o'r fath, y cyntaf o'i fath yn y DU.
  • At hynny, roedd yn cyflwyno gofyniad i gyrff cyhoeddus gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd mewn amgylchiadau penodol. Cafodd y rhain eu disgrifio gan Lywodraeth Cymru fel “ffordd systematig o roi ystyriaeth i iechyd fel rhan o brosesau penderfynu a chynllunio.”

Nid dyma'r tro cyntaf i fersiwn o'r ddeddfwriaeth hon gael ei chyflwyno. Roedd Bil gwreiddiol, a gyflwynwyd yn 2015, yn cynnwys rheoliadau llym ychwanegol ar e-sigaréts. Pe bai'r Bil wedi pasio, byddai ysmygu e-sigaréts – y cyfeirir atynt yn aml fel fêpio – wedi cael eu trin yn yr un modd â sigaréts tybaco, gan wahardd eu defnydd mewn mannau caeedig a chyhoeddus. Fodd bynnag, cafodd y Bil hwn ei wrthod yng Ngham 4 yn 2016 ac nid oedd y fersiwn a ailgyflwynwyd yn cynnwys y darpariaethau ar ddefnyddio e-sigaréts.

Ers i'r bil gael ei basio, mae arbenigwyr wedi mynegi pryder am y defnydd cynyddol o e-sigaréts gan blant a phobl ifanc. Er ei bod yn anghyfreithlon gwerthu e-sigaréts i unrhyw un o dan 18 oed, canfu arolwg o 2021/22 fod un o bob pump o blant 11–16 oed wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio e-sigaréts.

Yn ddiweddar, gwnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford – oedd yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd – fyfyrio fel a ganlyn mewn cyfweliad am y methiant i basio'r gwaharddiad ar e-sigaréts:

Sometimes that's what I regret the most whilst I've been working in the Senedd – there are a number of things I regret – but that would be right at the top on a very short list.


Erthygl gan Ailish McCafferty, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Ailish McCafferty gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a alluogodd i'r erthygl ymchwil hon gael ei chwblhau.