Pan oedd Brexit yn agosáu, cafodd dros 30 o fforymau newydd eu sefydlu er mwyn i'r DU a'r UE wneud penderfyniadau ar eu perthynas, gan gynnwys ar faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru a/neu sy'n effeithio arni. Sefydlwyd y fforymau o dan ddau gytuniad:
- Mae’r Cytundeb Ymadael yn pennu’r telerau ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE; ac
- Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) yn sefydlu’r telerau ar gyfer eu perthynas ar ôl Brexit.
Gan ganolbwyntio ar y 23 fforwm rhynglywodraethol a sefydlwyd o dan y TCA, mae'r erthygl hon yn cyflwyno dadansoddiad wedi'i ddiweddaru o bresenoldeb Llywodraeth Cymru yn y cyfarfodydd hyn, lle mae penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud. Mae'n canfod bod patrwm cryf o bresenoldeb Llywodraeth Cymru ar draws cyfarfodydd, gydag ychydig o eithriadau nodedig.
Gellir dod o hyd i esboniadau ar y trefniadau hyn a'u hanes mewn cyfres o ddewislenni ar ddiwedd yr erthygl hon.
Presenoldeb Llywodraeth Cymru
Mae presenoldeb Llywodraeth Cymru wedi'i gofnodi yng nghofnodion cyfarfodydd. Mae Ffigur 1 yn defnyddio cod lliw i ddynodi presenoldeb (gwyrdd), diffyg presenoldeb (coch), neu lle nad yw presenoldeb wedi'i nodi (melyn). Gan mai yn ôl disgresiwn Llywodraeth y DU y mae presenoldeb, efallai na chafodd Llywodraeth Cymru ei gwahodd i fynd i gyfarfod penodol. Ni chyhoeddir gwybodaeth ynghylch a gafodd llywodraeth ddatganoledig ei gwahodd ai peidio.
Ers mis Ionawr 2021, bu 113 o gyfarfodydd. Roedd Llywodraeth Cymru yn bresennol mewn 80 o'r rhain (70.8%) ond ni aeth i 22 (19.5%) ohonynt. Ar gyfer yr 11 cyfarfod sy'n weddill, nid oes cadarnhad o’u presenoldeb.
Ffigur 1: Presenoldeb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfodydd a gynhaliwyd o dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad y DU a'r UE (2021-2026)

Ffynhonnell: Cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth yr UE-DU a Phwyllgorau Arbenigol o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (y Comisiwn Ewropeaidd)
Er bod patrwm cryf o bresenoldeb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfodydd, mae eithriadau nodedig ar gyfer cyfarfodydd ar drafnidiaeth awyr, gorfodi'r gyfraith a chydweithrediad barnwrol, TAW ac eiddo deallusol.
Mae ymchwil academaidd gan Royles, Rowe a Minto hefyd yn dod i’r casgliad, er bod cyfranogiad llywodraethau datganoledig mewn cyfarfodydd TCA wedi gwella gyda threigl amser, bu mwy o gyfranogiad gan yr Alban a Gogledd Iwerddon na chan Gymru. Maent yn priodoli hyn i’w “cymhwyseddau datganoledig mwy estynedig”, gan gyfeirio at well presenoldeb yn y cyfarfodydd a restrir uchod ar drafnidiaeth awyr, gorfodi’r gyfraith a chydweithrediad barnwrol, TAW ac eiddo deallusol. Roedd eu gwaith ymchwil yn sail i dystiolaeth a gyflwynwyd i bwyllgorau'r Chweched Senedd yn 2024.
Er y gall Llywodraeth Cymru weithredu mewn capasiti rhyngwladol, ni all ymrwymo i ymrwymiadau sy'n rhwymo’n gyfreithiol. Dim ond Llywodraeth y DU all wneud hyn ar ran y DU, ac mae'n gwneud hynny ar ran y pedair gwlad.
Mae rôl Llywodraeth Cymru yn y broses hon yn bwysig oherwydd bod cytundebau'r DU a'r UE naill ai'n effeithio ar Gymru neu'n dod o dan gymhwysedd datganoledig. Mae Gweinidogion Cymru a’r Senedd yn gyfrifol am roi’r trefniadau hyn ar waith o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae'r rhannau o'r TCA sy'n dod o fewn meysydd datganoledig yn cynnwys pysgodfeydd, diogelwch iechyd, yr economi, yr amgylchedd a rhai agweddau ar fasnach. Mae materion a gedwir yn ôl, fel masnach neu orfodi'r gyfraith a chydweithrediad barnwrol, hefyd yn cael effaith sylweddol ar gydweithrediad trawsffiniol.
Mae 29 o fforymau ar y cyd newydd yn goruchwylio'r TCA a ddangosir yn Ffigur 2. Y prif fforwm yw'r Cyngor Partneriaeth, sy’n cael ei gefnogi gan bwyllgorau a gweithgorau. Darperir hefyd ar gyfer cyfranogiad cymdeithas sifil, yn ogystal ag ar gyfer cydweithredu seneddol rhwng Senedd y DU a Senedd Ewrop.
Ffigur 2: Fforymau y DU-yr UE o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu

Rhoddodd Llywodraeth y DU statws arsylwr i Lywodraeth Cymru yng nghyfarfodydd TCA yn 2021. Mae hyn yn golygu y gall cynrychiolwyr fynychu ond na allant siarad na phleidleisio. Mae rhag-gyfarfodydd rhynglywodraethol domestig yn cael eu cynnal i drafod eitemau posibl ar yr agenda a safbwyntiau i’w cymryd gan y DU.
Gwnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru feirniadu statws arsylwr yn hallt i ddechrau. Ysgrifennodd cyn-Weinidog yr Economi, Vaughan Gething AS at Lywodraeth y DU ym mis Mehefin 2021 i ddweud ei fod yn safbwynt na allai ei gefnogi’n gredadwy. Erbyn 2025, fodd bynnag, dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar y pryd:
Obviously, the observer status wasn’t our preference but I think that, so far, it does appear to be working, and I think that the way in which the UK Government has engaged with us through our officials has been really helpful in that regard.
So, we’re able to propose agenda items, for example, and we’re able to explore those debating lines, if you like, with the UK Government so that we have agreed positions that are being discussed. So, I think that’s all been very positive in terms of those opportunities to engage and influence.
Roedd maniffesto etholiadol Plaid Cymru yn nodi, pe byddai’n ffurfio llywodraethu, y byddai’n:
Mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cael cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau am faterion Ewropeaidd sy’n effeithio’n uniongyrchol ar Gymru.
Nid yw wedi nodi eto beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol. Gall gwneud hynny egluro a yw hyn yn cyfeirio at gyfarfodydd domestig neu ryngwladol (neu'r ddau). Os yw'n golygu cyfarfodydd rhyngwladol y DU, gallai hyn fod yn ehangach na'r UE yn unig.
Fel y nodir uchod, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn mynychu cyfarfodydd rhynglywodraethol domestig perthnasol a gall fynychu cyfarfodydd TCA, er bod ei chyfranogiad wedi'i gyfyngu gan ei statws fel arsylwr yn yr olaf.
Mae'r Llywodraeth newydd wedi ymrwymo i strategaeth Ewropeaidd newydd a dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth AS ym mis Mehefin bod gwaith ymgysylltu eisoes wedi dechrau er mwyn datblygu strategaeth o’r fath. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddai buddiannau gorau Cymru yn cael eu gwasanaethu orau drwy ailymuno â'r UE, gan ddechrau gydag aelodaeth o'r Farchnad Sengl a'r undeb tollau.
Fel Llywodraeth flaenorol Cymru, gwnaeth pwyllgorau'r Chweched Senedd hefyd feirniadu’r rôl a roddir i'r cenhedloedd datganoledig mewn cysylltiadau rhwng y DU a'r UE.
Yn 2025, clywodd ymchwiliad ar y cyd gan bedwar pwyllgor dystiolaeth a oedd o blaid Cymru yn cael mwy o lais. Galwodd academyddion Royles, Rowe, a Minto yn benodol am uwchraddio statws arsylwr y gwledydd datganoledig. Mae'r adroddiad yn cefnogi'r safbwynt hwn, ac mae’r pwyllgorau wedi gwneud argymhellion tebyg yn y blynyddoedd blaenorol.
Roedd adroddiad y pwyllgorau hefyd yn ailedrych ar eu canfyddiadau unigol blaenorol ar rôl y Senedd a'r angen am ragor o wybodaeth a thryloywder ar faterion y DU a'r UE, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac ar lefel y DU a'r UE.
Mae canfyddiadau'r pwyllgorau wedi’u crynhoi mewn erthygl arall, Adolygu'r cytundeb Brexit: Pedair blynedd gyntaf y Cytundeb Masnach a Chydweithredu o safbwynt Cymru.
Mae'r erthygl hon yn adeiladu ar ein diweddariadau blaenorol ar y berthynas rhwng y DU a'r UE.
Mae'r rhain yn cynnwys ein herthygl yn 2021, Sedd wrth y bwrdd: cynrychioli Cymru yn y berthynas newydd rhwng y DU a'r UE, a’r dilyniant yn 2022, Yr ystafell lle popeth yn digwydd: Cymru yn y cysylltiadau rhwng y DU a'r UE Gyda'i gilydd, maent yn egluro strwythurau llywodraethu'r TCA a rôl Llywodraeth Cymru ynddynt.
Mae ein canllawiau ar Gymru a'r TCA hefyd yn egluro rhannau allweddol o'r cytundeb a'r hyn y mae'n ei olygu i Gymru yn fanylach.
Cyhoeddir diweddariadau rheolaidd hefyd ar dudalen pwnc Brexit Ymchwil y Senedd.
Erthygl gan Maddy Phillips, Sara Moran, Nia Moss, a Sam Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru