Mae mwy i fag o afalau nag y gwelwch chi ar yr olwg gyntaf: gall ei ddeunydd pacio plastig atal gwastraff, creu gwastraff, ac weithiau’r ddau ar yr un pryd.
Roedd maniffesto Plaid Cymru 2026 yn cynnwys ymrwymiad i “gael gwared ar blastigau un-tro diangen yn raddol, gan ddechrau gyda phecynnau ffrwythau a llysiau ffres sydd ddim yn ymestyn yr oes silff rhyw lawer”. Ond mae yna gwestiynau ynghylch sut y gallai hyn weithio'n ymarferol i siopwyr a manwerthwyr, ac o ran lleihau gwastraff.
Gall deunydd pacio warchod cynnyrch ffres a’i atal rhag difetha, ond gall hefyd gynhyrchu gwastraff plastig y gellir ei osgoi ac annog gor-brynu. Yr her yw nodi ble mae gwir angen deunydd pacio, a ble gallai cyfyngiadau leihau gwastraff heb arwain at fwy o ddifetha bwyd, costau na phwysau ar y gadwyn gyflenwi.
Yng Nghymru, mae gweithredu ynghylch gwastraff plastig eisoes wedi cynnwys gwahardd rhai eitemau untro. Mae Gweinidogion Cymru yn gallu diwygio'r rhestr o gynhyrchion sydd wedi’u gwahardd os oes angen cymryd camau pellach, ac mae sylw'n troi at lle gallai hyn ddigwydd. Gan ein bod yng nghanol Gorffennaf Di-blastig, rydym yn bwrw golwg ar y diddordeb cynyddol yn y silffoedd ffrwythau a llysiau, ac yn edrych ar yr hyn a allai fod ynghlwm â mynd i'r afael â deunydd pacio plastig ar gyfer cynnyrch ffres yng Nghymru.
Pam canolbwyntio ar y deunydd pacio ar gyfer cynnyrch ffres?
Caiff deunydd pacio plastig ei ddefnyddio’n helaeth ar gyfer ffrwythau a llysiau ffres mewn archfarchnadoedd yn y DU, yn aml ar ffurf ffilmiau, bagiau, lapiau, rhwydi a hambyrddau. Defnyddir tua 70,000 tunnell o blastig bob blwyddyn i becynnu ffrwythau a llysiau ffres cyfan yn y DU. Mae llawer o'r deunydd pacio hwn at ddefnydd untro, yn anodd ei ailgylchu, a gall gyfrannu at wastraff gweddilliol, sbwriel, llygredd plastig ac allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a gwaredu plastig.
Mae deunydd pacio cynnyrch ffres yn aml yn cael ei wneud o blastigau hyblyg. Yn dechnegol, mae modd ailgylchu'r deunyddiau hyn, ond maent yn anodd eu hailgylchu’n ymarferol oherwydd trefniadau casglu anghyson, seilwaith didoli ac ailbrosesu cyfyngedig, a phroblemau posibl oherwydd halogiad. Dywed Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin mai dim ond tua 4% o ffilm plastig sy'n cael ei ailgylchu yn y DU.
Mae deunydd pacio plastig hefyd yn cael effeithiau amgylcheddol ehangach. Yn fyd-eang, cynhyrchir a defnyddir 430 miliwn o dunelli o blastig bob blwyddyn, a defnyddir 36% ar gyfer pecynnu. Fe wnaeth plastigau gynhyrchu 1.8 biliwn o dunelli o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2019 - 3.4% o gyfanswm allyriadau'r byd, cyfran y rhagwelir fydd yn codi i ~19% erbyn 2040 os bydd y tueddiadau'n parhau.
Gallai defnyddio llai o ddeunydd pacio yn y lle cyntaf a gwerthu mwy o gynnyrch yn rhydd helpu i leihau llygredd a gwastraff plastig. Canfu gwaith ymchwil gan y corff anllywodraethol amgylcheddol WRAP y gallai gwerthu afalau, bananas a thatws yn rhydd yn hytrach na rhai wedi'u pecynnu ymlaen llaw leihau ~8,800 tunnell o ddeunydd pacio plastig y flwyddyn yn y DU ac arbed oddeutu 80,000 o dunelli o CO₂ cyfwerth y flwyddyn, gan adlewyrchu allyriadau a osgoir o gynhyrchu plastig a phrosesu gwastraff.
Cysylltiadau â gwastraff bwyd
Gall deunydd pacio hefyd ddylanwadu ar faint o fwyd y mae aelwydydd yn ei brynu a'i wastraffu. Mae cartrefi yn y DU yn taflu oddeutu 1.7 miliwn o dunelli o ffrwythau a llysiau ffres bwytadwy bob blwyddyn, sydd werth tua £4 biliwn. Yng Nghymru, roedd gwastraff bwyd cartref yn 2021/22 yn cynnwys 61,000 o dunelli o lysiau a saladau ffres bwytadwy a 17,000 o dunelli o ffrwythau ffres bwytadwy.
Gall cynnyrch wedi'i becynnu ymlaen llaw annog gor-brynu oherwydd efallai y bydd yn rhaid i siopwyr brynu symiau penodol, fel bag o afalau, yn hytrach na'r swm sydd ei angen arnynt. Mae WRAP yn amcangyfrif y gallai prynu cynnyrch sy'n cael ei wastraffu'n gyffredin fel afalau, bananas a thatws fel cynnyrch rhydd arbed tua 60,000 o dunelli o fwyd bwytadwy rhag cael eu gwastraffu bob blwyddyn yn y DU.
Fodd bynnag, nid yw'r berthynas rhwng deunydd pacio a gwastraff bwyd yn syml. Gall lapio cynnyrch mwy bregus mewn plastig ei warchod a lleihau difetha. Canfu un astudiaeth, yn achos ciwcymbrau sy’n cael eu hallforio, fod cost amgylcheddol lapio un ciwcymbr mewn plastig yn llawer llai na chost amgylcheddol gwastraffu'r ciwcymbr ei hun, a bod deunydd lapio wedi lleihau colledion manwerthu o 9.4% i 4.6%.
Beth mae gwledydd eraill yn ei wneud?
Mae sawl gwlad eisoes yn cyfyngu ar ddeunydd pacio plastig ar gyfer cynnyrch ffres. Mae Rheoliad newydd ynghylch Pecynnu a Gwastraff Deunydd Pacio yr UE yn cynnwys gwaharddiad ar ddeunydd pacio plastig untro ar gyfer ffrwythau a llysiau ffres heb eu prosesu o dan 1.5 cilogram, o fis Ionawr 2030 ymlaen, gydag eithriadau lle mae deunydd pacio yn parhau i fod yn angenrheidiol.
Mae Ffrainc wedi gwahardd deunydd pacio plastig yn raddol ar gyfer llawer o ffrwythau a llysiau ers mis Ionawr 2022 ac ymestynnodd y polisi drwy orchymyn yn 2023 i gwmpasu bron pob math o ffrwythau a llysiau ffres erbyn canol 2026. Fe wnaeth Sbaen gyflwyno mesur tebyg o 2023 ymlaen, gan wahardd deunydd pacio plastig ar gyfer cynnyrch ffres a werthir mewn dognau o lai nag 1.5 cilogram.
Yn y DU, nid oes gwaharddiad ar ddeunydd pacio ar gyfer cynnyrch ffres ar hyn o bryd, ond nod Cytundeb Bwyd a Diod y DU, sy’n wirfoddol, yw gwerthu 50% o ffrwythau a llysiau heb eu torri yn rhydd erbyn 2030. Mae archfarchnadoedd mawr hefyd wedi treialu adrannau cynnyrch di-blastig i brofi ymateb cwsmeriaid a’r effeithiau ar wastraff bwyd.
Pa bwerau ac opsiynau sydd gan Gymru?
Mae polisi amgylcheddol, gan gynnwys gwastraff, wedi'i ddatganoli i raddau helaeth. Mae Cymru eisoes wedi gwahardd rhai cynhyrchion plastig untro drwy Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023, ac mae'n rhan o’r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pecynnu y DU gyfan.
Mewn egwyddor, gallai Cymru gyflwyno mesurau sy'n targedu deunydd pacio plastig. Mae'r opsiynau'n cynnwys deddfwriaeth i gyfyngu neu wahardd deunydd pacio ar eitemau penodol, yn enwedig lle nad yw’n ymestyn yr oes silff rhyw lawer. Fodd bynnag, gallai Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 gymhlethu gwaharddiad i Gymru yn unig, oherwydd gallai fod modd i nwyddau sy’n cael eu gwerthu’n gyfreithlon mewn rhan arall o'r DU gael eu gwerthu yng Nghymru. Gallai hyn leihau gwneud mesur yng Nghymru yn llai effeithiol oni bai bod modd sicrhau cydweddiad ledled y DU neu eithriad i'r Ddeddf.
Mae opsiynau eraill yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU ar reolau cydlynol, codi taliadau neu ardollau i osgoi deunydd pacio diangen, cefnogi cynlluniau ail-lenwi ac ailddefnyddio, cryfhau cymhellion ar gyfer lleihau deunydd pacio, gwella gofynion ailgylchu a labelu, a defnyddio ‘modiwleiddio ffioedd' y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr i roi cymhellion i atal, ailddefnyddio a dylunio yn fwy ailgylchadwy.
Ystyriaethau ymarferol
Byddai angen i unrhyw newidiadau ystyried yr effeithiau ar y gadwyn gyflenwi, manwerthwyr a defnyddwyr. Mae systemau archfarchnadoedd ar hyn o bryd wedi'u cynllunio o amgylch cynnyrch wedi'i bacio, felly gallai symud i werthu rhydd ofyn am newidiadau i brosesau trin, cludo, arddangos, pwyso a thiliau. Gallai cyflwyno fesul cam helpu busnesau i addasu.
Bydd ymddygiad defnyddwyr hefyd yn bwysig. Canfu’r arolwg Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff gan WRAP yn 2025 fod 56% o oedolion y DU sy'n prynu ffrwythau a llysiau ffres yn ffafrio cynnyrch rhydd, tra bod 78% yn dweud y byddent yn debygol o brynu eu ffrwythau a llysiau arferol yn rhydd pe baent yn cael eu gwerthu fel hynny. Fodd bynnag, mae’n well gan rai siopwyr brynu cynnyrch wedi'i bacio oherwydd cyfleustra, pris neu hylendid, felly mae'n debyg y bydd prisio clir, arwyddion da ac arddangosfeydd rhydd deniadol yn bwysig.
Efallai y bydd hefyd angen ystyried fforddiadwyedd a hygyrchedd. Gall gwerthu llysiau a ffrwythau yn rhydd helpu aelwydydd i brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnyn nhw, ond efallai bod aelwydydd incwm is yn dibynnu ar becynnau rhad neu gynigion aml-bryniant. Hefyd, efallai bod cynnyrch wedi’i bacio ymlaen llaw yn fwy cyfleus i rai cwsmeriaid anabl.
Diddordeb diweddar yn y Senedd
Ym mis Tachwedd 2025, trafododd y Senedd gynnig deddfwriaethol gan Aelod i gyflwyno gwaharddiad ar ddeunydd pacio plastig untro ar gyfer ffrwythau a llysiau ffres lle nad yw’n ymestyn yr oes silff rhyw lawer neu ddim o gwbl. Derbyniwyd y cynnig, a dangosodd y ddadl ymgysylltiad trawsbleidiol, gan gydnabod hefyd gyfaddawdau posibl fel gwastraff bwyd a chostau.
Gallai lleihau deunydd pacio plastig diangen ar gyfer cynnyrch ffres gefnogi nodau Cymru o ran atal gwastraff, yr hinsawdd a llygredd. Yr her allweddol o ran polisi yw dylunio mesurau sy'n cael gwared ar ddeunydd pacio y gellir ei osgoi, tra’n diogelu ansawdd bwyd, fforddiadwyedd, hygyrchedd a chydnerthedd y gadwyn gyflenwi.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru