Mae’r Cytundeb Ymadael yn pennu'r telerau ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE. Daeth i rym ar 1 Chwefror 2020 ond nid yw erioed wedi'i weithredu'n llawn.
Mae’r dudalen hon yn dod â’n holl gyhoeddiadau ar y Cytundeb Ymadael ynghyd. Caiff rhagor eu hychwanegu pan fyddent ar gael. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i'n hadran Brexit lle gallwch danysgrifio i gael erthyglau newydd drwy’r e-bost.
Mae’r Cytundeb Ymadael yn ymdrin dim ond ag ymadawiad y DU â’r UE ac Euratom.
Ymhlith pethau eraill, cyflwynodd drefniadau ffiniau a thollau newydd ar gyfer masnach rhwng y DU a’r UE, a rheolau newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'n amddiffyn hawliau dinasyddion y DU a'r UE sy'n byw yn nhiriogaeth y naill a’r llall. Sefydlodd drefniadau llywodraethu hefyd, gan gynnwys sut i ddatrys achosion o anghydfod a gorfodi ei delerau.
Nid yw rhai trefniadau wedi’u cyflwyno erioed. Mae llawer o resymau am hyn, gan gynnwys y ffaith bod y DU a’r UE yn anghytuno ar y modd y dylid eu rhoi ar waith. Pan fo trefniadau ar waith, mae pryderon bod y cynnydd a wnaed yn anfoddhaol. Mae rhannau eraill o’r trefniadau wedi dod i ben, naill ai am fod y dyletswyddau wedi'u cyflawni neu gan nad oed eu hangen mwyach.
Mae’n bwysig nodi bod Erthygl 5 wedi'i chynllunio i sicrhau bod y DU a'r UE yn cyflawni eu dyletswyddau. Rhaid iddynt gynorthwyo ei gilydd wrth gyflawni tasgau gan ddangos parch ac ewyllys da at ei gilydd, ac ymatal rhag gwneud unrhyw beth a allai beryglu amcanion y cytundeb.
Protocol Gogledd Iwerddon
Mae Protocol Gogledd Iwerddon yn cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer y ffin ar y tir rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, un o Aelod-wladwriaethau’r UE.
Mae Protocol Gogledd Iwerddon yn rhan o'r Cytundeb Ymadael ond nid yw ei holl drefniadau wedi’u rhoi ar waith oherwydd bod y DU a'r UE yn anghytuno ynghylch sut y dylent weithio. Er gwaethaf eu gwahaniaethau, mae'r DU a'r UE yn cytuno bod y Protocol wedi arwain at broblemau yng Ngogledd Iwerddon a'u bod am ddatrys y sefyllfa.
Deunydd darllen ychwanegol:
- Esboniad o Fil Protocol Gogledd Iwerddoned (papur briffio ac offeryn rhyngweithiol)
- A fydd Llywodraeth Cymru yn argymell cydsyniad i Fil Protocol Gogledd Iwerddon?
- Beth mae Bil Protocol Gogledd Iwerddon yn ei olygu i Gymru?
- Cymru, Erthygl 16 a Phrotocol Gogledd Iwerddon
- Erthygl 16 o Brotocol Gogledd Iwerddon: Hysbysiad Hwylus
Hawliau dinasyddion
Yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, roedd yn rhaid i ddinasyddion Ewrop a oedd yn byw yn y DU cyn 31 Rhagfyr 2020 wneud cais i aros erbyn 30 Mehefin 2021.
Roedd yn rhaid i ddinasyddion o aelod-wladwriaethau’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a'r Swistir wneud cais o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS). a gyflwynodd Llywodraeth y DU. Mae dinasyddion Iwerddon wedi'u heithrio o dan drefniadau ar wahân. Mae’n bosibl i bobl anfon cais hwyr neu ail gais i’r EUSS o hyd os ydynt am drosi statws dros dro, sy'n ddilys am bum mlynedd, yn statws parhaol.
Mae Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi dadansoddiad rheolaidd o ystadegau EUSS sy’n ymwneud â Chymru, ac o agweddau eraill ar hawliau dinasyddion o dan y Cytundeb, fel ceisio gofal iechyd dramor. Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd wedi dewis monitro’r EUSS ac mae’n cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn rheolaidd. Mae lincs i erthyglau diweddaraf Ymchwil y Senedd ac i waith y Pwyllgor i’w gweld isod.
Deunydd darllen ychwanegol:
- Faint o ddinasyddion Ewrop wnaeth gais i aros yng Nghymru ar ôl Brexit?
- Adroddiad monitro diweddaraf y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Tachwedd 2022)
- Mae pryderon yn parhau ar gyfer dinasyddion Ewrop sy'n ceisio aros yng Nghymru ar ôl Brexit
- Adroddiad blynyddol cyntaf y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Gorffennaf 2022)
- Tudalen Cynllun Setliad yr UE ar wefan y Senedd (sy’n cynnwys holl adroddiadau’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol)
- Ceisio gofal iechyd dramor
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru