Mae pryderon yn parhau ar gyfer dinasyddion Ewrop sy'n ceisio aros yng Nghymru ar ôl Brexit

Cyhoeddwyd 24/08/2022   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn Brexit, rhaid i ddinasyddion Ewrop a oedd yn byw yn y Deyrnas Unedig cyn 31 Rhagfyr 2020 fod wedi gwneud cais i aros erbyn 30 Mehefin 2021. Mae Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE gan Lywodraeth y DU ar agor o hyd ar gyfer ceisiadau hwyr ac ar gyfer ail geisiadau gan bobl sy'n ceisio trosi statws preswylydd dros dro yn statws parhaol.

Gwnaed bron i 7 miliwn o geisiadau i'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE erbyn diwedd mis Mehefin 2022, flwyddyn ar ôl y dyddiad cau.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (“y Pwyllgor CChC”) wedi dewis mynd ati i fonitro’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru ac mae’n adrodd yn ôl i’r Senedd yn rheolaidd ar ei ganfyddiadau. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad blynyddol cyntaf yn nodi ei bryderon ynghylch dinasyddion Ewrop, gan gynnwys pobl sy’n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin.

Mae'r erthygl hon yn crynhoi canfyddiadau’r Pwyllgor CChC drwy ddefnyddio’r ystadegau diweddaraf hyd at 31 Mawrth 2022. Mae gwybodaeth gefndirol ar gael yn ein herthygl flaenorol ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Dros 106,000 o ddinasyddion Ewrop yn gwneud cais i aros yng Nghymru

Hyd at 31 Mawrth 2022, gwnaed 106,020 o geisiadau o Gymru, sy’n fwy na’r amcangyfrif o 95,000 o ddinasyddion cymwys yr oedd angen iddynt wneud cais.

Mae 102,500 o'r ceisiadau hyn wedi bod yn destun penderfyniad. Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cael statws naill ai fel 'preswylydd sefydlog' neu 'breswylydd cyn-sefydlog'.

Statws preswylydd sefydlog: Rhoddir statws preswylydd sefydlog i ddinasyddion Ewrop sydd wedi byw yn y DU ers mwy na phum mlynedd, a chânt aros yng Nghymru am gyfnod amhenodol, gyda rhai eithriadau.

Statws preswylydd cyn-sefydlog: Rhoddir y statws hwn i ddinasyddion Ewrop sydd wedi byw yn y DU ers llai na phum mlynedd, ond a gyrhaeddodd y DU cyn 31 Rhagfyr 2020. Daw statws preswylydd cyn-sefydlog i ben ar ôl pum mlynedd, ac mae’n rhaid ei drosi’n statws preswylydd sefydlog drwy wneud ail gais. Mae methu ag ailymgeisio yn arwain at golli’n awtomatig yr hawl i weithio ac i gael mynediad at dai, addysg a budd-daliadau, a gall yr unigolyn dan sylw fod yn agored i gael ei symud o’r DU.

Mae’r broses hon wedi’i herio gan yr UE ac mae hefyd yn cael ei herio yn ddomestig gan y corff sy'n gyfrifol am fonitro hawliau dinasyddion Ewrop yn y DU, sef yr Awdurdod Monitro Annibynnol.

Mae’n bosibl y gall ymgeiswyr aflwyddiannus wneud cais eto, gofyn am adolygu'r penderfyniad neu apelio.

Mae ein ffeithlun isod yn dangos canran a nifer y ceisiadau o Gymru. Mae'n dangos a wnaed y ceisiadau hyn cyn neu ar ôl y dyddiad cau, a wnaed penderfyniadau yn eu cylch a chanlyniad y penderfyniadau hyn.

Ceisiadau o Gymru i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn ôl dyddiad, ceisiadau a gwblhawyd a chanlyniadau yn ôl canran a nifer

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU, Ystadegau chwarterol ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Mawrth 2022

Gall 37,650 o bobl aros dros dro

Mae statws preswylydd cyn-sefydlog yn dod i ben ar ôl pum mlynedd. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i’r 37,650 o ddinasyddion yng Nghymru sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog wneud ail gais os ydynt am aros yn hwy.

Mae'r map rhyngweithiol isod yn dangos nifer y dinasyddion sydd â statws cyn-sefydlog ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru:

 

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU, Ystadegau chwarterol ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Mawrth 2022

Mae ystadegau ar gyfer y DU gyfan yn dangos bod 328,350 o ddinasyddion sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog eisoes wedi symud i statws preswylydd sefydlog ond ni ddarperir gwybodaeth fesul cenedl. Mae hyn yn golygu na wyddom faint o geisiadau a wnaed gan ddinasyddion yng Nghymru sy’n ceisio trosi eu statws.

Mae’r Pwyllgor CChC wedi rhannu ei bryderon â Llywodraeth Cymru ynghylch y bylchau ystadegol hyn yn y data ar gyfer y DU gyfan, ac wedi gofyn am eglurder ynghylch a fyddai modd i Lywodraeth Cymru nodi dinasyddion sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog i roi cymorth ychwanegol iddynt, fel nodiadau atgoffa ychwanegol ar gyfer ail geisiadau, pe bai’n dewis gwneud hynny.

Gostyngodd nifer y ceisiadau hwyr a gafwyd yn 2021 cyn cynyddu eto yn 2022

Caniateir ceisiadau hwyr os oes sail resymol dros golli'r dyddiad cau, fel rhiant yn methu â gwneud cais ar ran plentyn neu pan fo gan berson gyflwr meddygol difrifol. Mae Llywodraeth y DU wedi addo diogelu hawliau ymgeiswyr hwyr hyd nes y penderfynir ar eu cais ac unrhyw apêl.

Cynyddodd cyfanswm y ceisiadau hwyr o Gymru i 6,180 ar 31 Mawrth 2022 o 4,240 ar 31 Rhagfyr 2021. Cafwyd 510 o geisiadau hwyr ym mis Rhagfyr, sef y nifer isaf o geisiadau misol a gofnodwyd. Fodd bynnag, mae nifer y ceisiadau hwyr wedi cynyddu bob mis yn 2022, gyda 580 o geisiadau hwyr ym mis Ionawr, 630 ym mis Chwefror a 730 ym mis Mawrth.

Ceisiadau bob mis fel rhan o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU, Ystadegau chwarterol ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Mawrth 2022

Cytunodd y Pwyllgor CChC i ofyn i Lywodraeth Cymru a yw’n ymwybodol o’r rheswm dros y cynnydd hwn o fis i fis.

Mae pobl nad ydynt yn gwneud cais yn colli eu hawliau

Os nad yw person wedi gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a’i fod yn dod i gysylltiad â’r awdurdodau, bydd yn cael hysbysiad 28 diwrnod i wneud cais.

Yn ôl Llywodraeth y DU, ni fydd pobl nad ydynt wedi gwneud cais ar ôl y cyfnod rhybudd o 28 diwrnod yn gymwys i gael gwaith, budd-daliadau na gwasanaethau ac ni fyddant yn pasio gwiriadau tenantiaeth. Hefyd, efallai y bydd dinasyddion Ewrop sydd heb wneud cais yn destun camau gorfodi, er bod Llywodraeth y DU yn pwysleisio na fydd allgludo yn digwydd yn awtomatig.

Cytunodd y Pwyllgor CChC i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o broblemau sy’n gysylltiedig â dinasyddion sydd heb wneud unrhyw gais.

Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn cau ar gyfer aelodau o'r teulu o Wcráin

Fel rhan o'r camau a gymerwyd mewn ymateb i ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar 24 Chwefror, gofynnodd y Prif Weinidog i Brif Weinidog y DU ymestyn y dyddiad cau ar gyfer trwyddedau teulu o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng nghyd-destun pobl o Wcráin sy’n ffoi o’r rhyfel y tu hwnt i 29 Mawrth 2022.

Ni chaniatawyd estyniad i'r dyddiad cau ac mae'r llwybr hwn bellach wedi'i gau i aelodau o'r teulu o Wcráin oni bai eu bod yn bodloni'r meini prawf 'sail resymol' ar gyfer cais hwyr. Nododd y Prif Weinidog mewn llythyr at y Pwyllgor CChC ei fod yn deall, o’r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU, y byddai aelodau o'r teulu o Wcráin yn bodloni'r meini prawf hyn.

Yn ei adroddiad, mynegodd y Pwyllgor CChC siom nad oedd y dyddiad cau wedi'i ymestyn ar gyfer aelodau o’r teulu o Wcráin. Gofynnodd i Lywodraeth Cymru:

  • a yw'n gwybod faint o geisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a wnaed gan bobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru;
  • am y wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

Mae adroddiad y Pwyllgor CChC ar gael ar wefan y Senedd ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Bydd y Pwyllgor yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru ac yn cytuno ar y camau nesaf pan fydd y Senedd yn ailymgynnull ar ôl toriad yr haf.


Erthygl gan Sara Moran, Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru