Cymru a Chytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE: Pysgodfeydd

Cyhoeddwyd 25/01/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

Mae ein cyfres y DU a’r UE newydd yn crynhoi rhannau allweddol o’r cytundeb a’r hyn y maent yn ei olygu i Gymru.

Mae’r canllaw hwn yn egluro’r trefniadau pysgodfeydd newydd, a grynhoir isod.

Trafodaethau blynyddol

Mae’r Cytundeb yn symud trafodaethau pysgodfeydd rhwng y DU a’r UE i gylchred blynyddol ac yn sefydlu amserlen newydd o ddyddiadau pwysig drwy gydol y flwyddyn.

Trefniadau dros dro os na cheir cytundeb

Os na all y DU a’r UE gytuno ar drefniadau ar gyfer y flwyddyn ganlynol erbyn 20 Rhagfyr bob blwyddyn, bydd trefniadau dros dro yn gymwys o 1 Ionawr. Mae'r rhain yn wahanol i'r trefniadau y cytunwyd arnynt.

Cyfnodau amser

Mae’r Cytundeb yn rhannu trefniadau pysgodfeydd newydd y DU a’r UE yn ddau gyfnod amser: cyn ac ar ôl 30 Mehefin 2026. Sefydlir ‘cyfnod addasu’ o 1 Ionawr 2021 hyd at 30 Mehefin 2026, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd rhan o gyfran cwota’r UE yn cael ei throsglwyddo i’r DU. O 1 Gorffennaf 2026, rhaid negodi cyfleoedd pysgota rhwng y DU a’r UE a mynediad at ddyfroedd bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Meysydd cytundeb ychwanegol

Gwnaeth y DU a’r UE nifer o ymrwymiadau eraill yn y Cytundeb a oedd yn berthnasol i bysgodfeydd. Mae’r rhain yn agweddau amrywiol a phwysig ar drefniadau pysgodfeydd y DU a’r UE y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru eu dilyn.

Trefniadau llywodraethu a goruchwylio

Cytunwyd hefyd i sefydlu mecanweithiau llywodraethu ar y cyd newydd i oruchwylio eu trefniadau newydd. Bydd trefniadau pysgodfeydd yn cael eu goruchwylio gan Gydbwyllgor Arbenigol ar Bysgodfeydd. Bydd yn goruchwylio mecanweithiau ar gyfer anghydfodau pysgodfeydd rhwng y DU a’r UE, prosesau adolygu a’r opsiwn i derfynu’r trefniadau newydd.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru